Amdanaf i About me
Gruffudd ab Owain ydw i; sylfaenydd ac awdur blog Y Ddwy Olwyn ers mis Mehefin 2018.
Deunaw oed ydw i, ac ar hyn o bryd yn astudio tuag at Lefelau A mewn Cymraeg, Mathemateg, Ffrangeg a Sbaeneg. Mae seiclo ar y cyfandir - heb anghofio 'mod i wedi meithrin y brwdfrydedd yma yn fy milltir sgwâr - wedi f'annog i ddysgu'r ddwy iaith, a dw i'n dymuno parhau i'w hastudio nhw hyd rhuglder. Mae 'niddordebau fi'n eang, fy ngolygwedd yn rhyngwladol, a'm gwreiddiau'n ddwfn yng Nghymru, a dw i'n dyheu am fedru adlewyrchu hynny ar lwybrau'r dyfodol.
Dw i wedi cael blas ar ysgrifennu erioed, yn ffeithiol ac yn ffuglen, ac yn parhau i geisio datblygu'r grefft o ysgrifennu yn y ddwy ffurf. Do'n i ddim ond yn 13 oed pan gychwynnais i'r blog, ac mi fydda' i'n fythol ddiolchgar i'r holl ddarllennwyr am roi gymaint o ffydd ynof i bryd hynny â minnau mor ifanc, gan fod bod yn gyfrifol am y blog wedi arwain at gymaint o gyfleon eraill i mi. Dw i wedi cael ysgrifennu i wefan BBC Cymru Fyw ac i Gylchgrawn Golwg am y byd seiclo dros y ddwy flynedd diwethaf, ac yn ddiweddar wedi cael y cyfle i ehangu fy mhortffolio i ysgrifennu am gerddoriaeth Gymreig gyfoes i gylchgrawn Y Selar.
Diben y dudalen hon yw rhoi blas i chi ar y darnau yr ydw i wedi eu hysgrifennu i gyhoeddiadau eraill.
My name is Gruffudd ab Owain; founder and editor of Y Ddwy Olwyn since June 2018.
I'm eighteen years old, and currently studying towards A Levels in Welsh, Mathematics, French and Spanish. Cycling on the continent - without forgetting that my passion for cycling has been nurtured in my square mile - has encouraged me to learn both languages, and I intend to continue to study towards fluency. My interests are wide-ranging, my outlook international, my roots deep in Wales, and I hope to reflect this on the paths of the future.
I've always enjoyed writing both fiction and non-fiction, and I continue to develop the skill of writing in both moods. I was only 13 when I started this blog, and I'll be forever grateful to those who put their faith in my writing then despite my age, given that the blog has since led to many valuable opportunities. I've written for BBC Cymru Fyw and Golwg magazine about cycling over the past two years, and recently have been able to expand my portfolio to write about modern Welsh music for Y Selar.
The aim of this page is to give you a taste of my writing for other publications.
PORTFFOLIO
Y CYMRO SYDD
MEWN CWMNI DETHOL
Ymysg yr enwau mawr sy’n britho’r rhestr o ychydig dros 400 o redwyr sydd wedi cwblhau’r Six Majors,
Gruffudd ab Owain sydd wedi bod yn sgwrsio gydag Edd Land am yr her.
Cysylltwch / Contact me
Ebost / E-mail