Mae Ned Boulting yn un o enwau a lleisiau mwyaf adnabyddus y cylchoedd seiclo ym Mhrydain; yn brif sylwebydd ITV, yn awdur sawl cyfrol yn y gorffennol (On the Road Bike, How I Won the Yellow Jersey etc), ac yn fwy diweddar yn rhannol gyfrifol am bodlediad poblogaidd Never Strays Far.
Dwi’n ffàn o’i waith sylwebu a phodledio ac wedi mwynhau rhai o’i lyfrau yn y gorffennol. Ond, rhaid i mi ddweud nad oedd ei gyfrol ddiweddaraf, ‘1923: The Mystery of Lot 212 and a Tour de France obsession’ yn apelio felly; heb saethu i frig fy rhestr ddarllen.
Ond pan es i fewn i’r siop lyfrau cyn mynd ar wyliau, yn chwilio am un gyfrol o ffaith ac un o ffuglen i’w rhoi yn fy mag, mi wnes i benderfynu chwilio amdano beth bynnag. Byseddu’r meingefnau ar y silff o lyfrau ffeithiol clawr caled - codi ael ar destun ambell un - cyn dod o hyd iddo ar y silff waelod.
Ro’n i o leiaf eisiau cael rhagflas cyn penderfynu naill ffordd neu’r llall. Wrth lwc - nid ym mhob siop lyfrau ydw i mor lwcus - mae ‘na gadair i eistedd i gael pori rhyw fymryn.
A dwi ddim yn cofio cael cystal blas ar dudalennau agoriadol unrhyw gyfrol ers sbel hir. Mae wastad yn braf gallu rhoi llais i eiriau ysgrifenedig rhywun, sy’n brawf yn fy marn i, o’u gallu i ysgrifennu’n huawdl a naturiol.
O’r ddwy gyfrol es i hefo fi ar fy ngwyliau, at hon, nid y nofel, oeddwn i’n troi ati gyntaf. Hon oedd yn gafael.
Nid yn unig oherwydd natur y cynnwys - sy’n teimlo weithiau fel stori ddirgelwch am mai dyna sydd yma yn ei hanfod - ond hefyd yr arddull ysgrifenedig. Mae awen storïwr a saer geiriau da iawn yn llifo drwy’r cyfan.
Darn byr iawn o ffilm o Tour de France 1923 - yn ddau funud a hanner o hyd - ydy testun y 279 o dudalennau. Tipyn o gamp ymestyn y ddau funud a hanner i gyfrol swmpus fel
hon, ond anaml y mae’r darllen yn teimlo’n llafurus. Mae Boulting wir wedi datod pob edefyn o’r plethwaith lliwgar oedd yn llechu tu ôl i’r lens du a gwyn.
Cawn gofnod hanesyddol, nid yn unig o’r ras hon ond o’i brofiad yntau’n teithio ar draws Ewrop, gan straffaglu drwy rwystrau’r pandemig.
Drwy daflu goleuni ar y gorffennol, cawn oleuni newydd ar ein presennol ninnau. Yn naturiol mae thema rhyfel yn amlygu’i hun yn hynny o beth.
Yn eironig ddigon, yr hyn sy’n sefyll allan i mi yw’r modd y mae Boulting wir yn anrhydeddu anian y newyddiadurwr, ac yn rhoi bri ‘anfarwol’ i’r rhai aeth yn angof. Yn dilyn traddodiad sydd yn y Gymraeg beth bynnag yn dyddio’n ôl i gerddi Aneirin o faes y gad y Gododdin yn y chweched ganrif.
Mae’n gwestiwn sy’n codi yn y gwaith, i’r awdur ei hun a ninnau - am beth ydyn ni’n chwilio yn y darn yma o ffilm? Wna i ddim datgelu gormod, ond mae golau newydd wedi’i daflu ar stori Théophile Beeckman yma.
“I realise that his voice has lodged itself within the story. It’s simply a question of getting him to use it, allowing him to talk.”
Mae’r effaith y mae ei waith ymchwil trwyadl yn amlwg wedi’i gael ar gymuned yn Brest ac ar y teuluoedd wir yn profi hyn. Ac yn ddathliad chwerw felys o lwyddiant Beeckman, lawer iawn rhy hwyr.
Caiff hyn ei grisialu yn y llinell o farddoniaeth yn arbennig ar gyfer y llyfr gan Willie Verhegghe, wedi’i gyfieithu gan Boulting fel a ganlyn;
“honoured by my guilty pen”.
Comments