Mae'r amser yna o'r flwyddyn wedi cyrraedd. Yr amser i ddechrau meddwl am anrhegion Nadolig, a bron â bod yr amser i edrych yn ôl ar y flwyddyn sydd wedi pasio.
Er mai dyma'r ail flwyddyn yn unig i mi ysgrifennu'r cofnod hwn yn creu rhestr swmpus o gyfrolau seiclo'r flwyddyn, mi alla'i ddweud yn glir ei fod o'n un o fy hoff rai i 'sgwennu. Mae'n cyfuno fy hoffter o sgwennu, darllen a seiclo.
Dyma ffrwyth llafur oriau yn ei ogoniant o ddwy fil a mwy o eiriau; oriau o fwynhad y darganfod, y crynhoi a'r perlau cudd yr ydw i am eu datgelu isod.
Un nodyn pellach ar y ddwy gyfrol sydd gen i mewn ieithoedd tramor. Dw i wedi gwneud ymdrech benodol i ddod o hyd i gyfrolau mewn ieithoedd nad ydw i'n eu siarad (yn benodol Almaeneg ac Iseldireg gan 'mod i'n gwybod fod rhai ohonoch yn medru'r ieithoedd hynny). Yn anffodus roedd hynny'n ofer, ond mi nes i drio! Mae un llyfr Ffrangeg ac un Sbaeneg yma; yn syml iawn roedd hi'n haws gen i ddod o hyd i'r rheiny am 'mod i'n gwybod lle i chwilio'n un peth, a mod i'n medru chwilio yn yr ieithoedd hynny'n beth arall.
Ta waeth am hynny. Dwi'n gobeithio bod digon yma, a digon o amrywiaeth, fel bod rhywbeth i blesio pob un ohonoch, ac efallai rywun arall 'dech chi am brynu ar eu cyfer eleni.
Lle bo modd, dwi wedi cynnwys dolenni i Bookshop.org, gwefan sy'n gwneud mwy na rhai eraill i gefnogi siopau llyfrau annibynnol. Mae modd ichi ddewis siop i gefnogi hefyd, ac mae nifer helaeth o rai Cymraeg i'w cael. Yn sgil defnyddio'r lluniau ar eu gwefan nhw, yn anffodus dydy'r ansawdd ddim yn wych felly ymddiheuriadau am hynny! Dydyn nhw ddim yn fy nhalu i i ddweud hyn ond dwi'n ceisio bod yn gyson drwy ddewis un gwefan, tra'n osgoi'r bwgan mawr lle bo modd hefyd.
Hefyd, am eu bod nhw'n llyfrau mor newydd, mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n glawr caled ac felly'n ddrytach. Pris manwerthu argymelledig sy'n cael ei nodi (RRP).
Digon o draethu - gormod o draethu â dweud y gwir - ymlaen â'r darllen!
Neidier:
Teithio
‘Britain’s Best Bike Ride’, Hannah Reynolds & John Walsh £20
Mae pawb wedi clywed am Land’s End to John O’Groats - rhai ohonoch dwi’n siŵr wedi’i gwblhau, ac eraill ohonom wedi darllen tipyn amdano. Mae ‘na obsesiwn gan rai am ba mor sydyn y gallan nhw fynd o un pen ynys Prydani i un arall, ond yn y gyfrol hon, mae’r pwyslais yn hytrach ar y diffyg brys. Yn ymestyn i 1,000 o filltiroedd dros 30 cymal y gellir eu haddasu, mae Reynolds a Walsh yn cynnig route amgen rhwng y ddau ben, gan gynnwys rhannau ar hyd yr afon Gwy yng Nghymru.
‘Steep Hills and Learning Curves’, Dawn Rhodes £12.99
Llyfr arall am Land’s End to John O’Groats, ond mae’r un yma’n un am daith bersonol yr awdures ar hyd y ffordd rhwng dau begwn yr ynys, a hithau’n gwneud taith o’r fath am y tro cyntaf.
‘Breathtaking’, Paula Holmes-Eber & Lorenz Eber £18.99
Stori am wireddu breuddwyd yw ‘Breathtaking’. Pan yn ferch ifanc, yn gaeth i’w gwely ag asthma oedd yn peryglu’i bywyd, roedd Paula Eber yn breuddwydio am anturio o gwmpas y byd. Dri degawd yn ddiweddarach, bellach yn Athro mewn anthropoleg, mi aeth Paula gyda’i gŵr Lorenz a’i dwy o ferched ar daith feic deuluol o gwmpas y glôb i ddarganfod rhyfeddodau daearyddol, hanesyddol a diwylliannol. Ar ben hynny, byddai pob cylchdro o’r pedal yn codi arian at elusennau asthma, tra hefyd yn dewis ffordd o deithio sy’n gwella ansawdd yr aer.
‘Red Sauce Brown Sauce’, Felicity Cloake £16.99
Flwyddyn diwethaf dwi’n eithaf sicr y gwnes i gynnwys cyfrol flaenorol Felicity Cloake yn nghofnod cyfrolau 2021, sef ‘One More Croissant for the Road’. Bryd hynny, teithio drwy Ffrainc oedd hi wrth reswm, ond y tro hwn, mae’n dod â’i steil unigryw o gyfuno teithio ar feic a bod yn gritig bwyd i Brydain. Cyfrol ydy o am “obsesiwn pobl Prydain o Aberdeen i Aberystwyth, o St Ives i St Pancras efo brecwast”, gan archwilio mewn modd ysgafn wahanol amrywiadau ar y brecwast llawn yn ogystal ag arbenigeddau lleol.
‘Le Loop’, Ceri Stone £12.99
Llyfr gan Gymro o’r enw Ceri Stone yw ‘Le Loop’ - cyfrol sy’n cario’r isdeitl ‘How to Ride the Tour de France’. Dwi’n dychmygu’ch bod chi’n meddwl sut ar wyneb y Ddaear fyddai hwn yn gwybod yr ateb i’r cwestiwn hwnnw. Mae Le Loop yn ddigwyddiad elusennol lle mae reidwyr arferol, reidwyr amatur yn medru dilyn route y Tour de France wythnos cyn i’r rhai proffesiynol wneud yr un peth. Hanes Stone yn y digwyddiad hwnnw ydy’r gyfrol hon, yn llawn antur a dyhead i fyw bywyd llai cyffredin.
‘Riding Out’, Simon Parker £16.99
Yn 2020, chwalwyd bywyd Simon Parker - ei yrfa fel newyddiadurwr teithio yn diflannu, a ffrind agos yn marw, a dychwelyd wnaeth anhwylder gorbryder hir-dymor. Troi felly wnaeth at y dulliau y gwyddai amdanynt i oresgyn hwnnw - sef teithio ac ymarfer corff. Mewn cyfrol sy’n cael ei disgrifio fel “taith hynod ysbrydoledig sy’n dathlu pŵer antur i wella”, mae Parker yn ysgrifennu am y daith o 3,427 milltir wnaeth pan adawodd ei gartref yn Shetland â dim ond sach gysgu a stôf wersylla. Ceir paralel hefyd rhwng ei brofiad o a’r modd yr oedd y wlad yn araf wella o grisis Covid ar yr un pryd.
‘The Slow Road to Tehran’, Rebecca Lowe £18.99
Dynes ar feic bellach yn enw newydd talentog yn y byd sgwennu teithio. Taith am ddarganfod a newid persbectif yw cynnwys y gyfrol hon, sy’n olrhain ei thaith ei hun ar feic ar draws y Dwyrain Canol yn 2015 wrth i’r rhyfel yn Syria rygnu ‘mlaen a’r argyfwng ymfudwyr gyrraedd pínacl. Mewn ymgais i ddysgu mwy am y rhanbarth cythryblus hwn a’i berthynas â’r Gorllewin, aeth ar daith 11,000 o gilometrau i Dwrci, Lebanon, Jordan, yr Aifft, Sudan y Gwlff ac Iran - ac o hynny, mae’n peintio portread byw o’r Dwyrain Canol gyfoes.
‘The Dot’, Lachlan Morton £20
Ym mis Gorffennaf 2021, pan oedd gweddill y peloton yn cystadlu’n frwd yn y Tour de France, roedd Lachlan Morton yn ymgymryd â her wahanol, sef ‘Alt Tour’, fersiwn amgen o’r route. Yn yr ymgais i godi arian i World Bicycle Relief, llwyddodd yr Awstraliad i glocio dros 5,000 cilomedr - pob cymal o’r Tour a rhwng pob diwedd a dechrau - gan orffen y cyfan yn gynt na’r peloton. Stori arall o ultra-endurance yw hwn, lle mae ffans yn dilyn dotyn ar fap - dyma’r hanes y tu ôl i’r dotyn hwnnw.
Seiclo Proffesiynol
‘Pain and Privilege’, Sophie Smith £9.99
Awdures hybarch arall ar y rhestr, er mai dyma’i chyfrol gyntaf, wrth i’r Awstraliad fynd ‘Inside Le Tour’ yn ‘Pain and Privilege’, gan geisio taflu golau newydd ar y ras. Mae’n mynd o dan groen creulondeb y ras, tra’n disgrifio’r hyn sy’n gwneud i’r ras uno pobl ar draws y byd - o’r chwerthin i’r dagrau, o’r gwleidyddol i’r personol, o’r llwyddiant ysbrydoledig i’r methiant enbyd. Mae’n llawn o gyfraniadau gan bob math o bobl o fewn y ras - gwyddonwyr, darlledwyr, seicolegwyr - yn ogystal â thri cyn-enillydd, i geisio creu portread sy’n deilwng o gymhlethdod y Tour.
‘Le Fric’, Alex Duff £22
Llyfr arall am y Tour de France sydd gennym ni nesaf, ond y tro hwn un sy’n mynd ar ôl ochr economeg a busnes y ras anferth. Dyma ongl brin o’r Tour de France nad oedd llyfr amdano o’r blaen, ac mae Duff yn treiddio i heolydd cefn y digwyddiad fel petai. Mae’n llyfr sy’n olrhain hanes y teulu a’r busnes sy’n berchen ar y ras, a’r holl gyfrinachau sydd ynghlwm â hynny.
‘The Economics of Professional Cycling’, Daam van Reeth £109.99
Fersiwn wedi’i diweddaru ydy’r gyfrol academaidd - nid cyfrol erchwyn gwely! - hon o gasgliad cynhwysfawr sy’n dod ag ymchwil a gwybodaeth ynghyd am faterion yn ymwneud â marchnata, cyllid, y cyfryngau, llafur ac ymddygiad strategaethol er enghraifft. Mae pwyslais arbennig ar yr hyn sy’n gwneud elfen economaidd seiclo’n wahanol i gampau eraill - y model noddi, darlledu ac yn y blaen - ac mae’r fersiwn yma’n cynnwys penodau newydd ar seiclo menywod ac effaith rasys beics ar economïau.
‘The Medal Factory’, Kenny Pryde £10.99
Beth sydd tu ôl i lwyddiant ysgubol seiclo Prydain a thîm Sky/Ineos dros y degawd neu ddau diwethaf, gan gynnwys 55 medal Olympaidd a chwe buddugoliaeth yn y Tour de France? Dyna y mae Kenny Pryde yn ei archwilio yn ei gyfrol ‘The Medal Factory’, sydd wedi ennyn tipyn o ganmoliaeth. Gan gyfuno dadansoddi a chyfweliadau gyda’r bobl ar y tu fewn, mae’n cwestiynu ai fformiwläig a mecanig oedd y llwyddiant, neu’n ddibynnol ar berthnasau rhwng pobl? Ac ar draul beth oedd y llwyddiant didostur hwn?
‘Climbers’, Peter Cossins £20
Dw i eisoes wedi ysgrifennu cofnod eithaf swmpus ar y gyfrol hon y gallwch ei darllen yma - https://www.yddwyolwyn.cymru/post-ey1ei/climbers-gan-peter-cossins - felly dydw i ddim am fanylu yma! Ond yn gryno, cyfrol am le’r dringwyr o fewn y byd seiclo.
‘Metiendo Codos’, Laura Meseguer €17,90
Mae’r berthynas rhwng Sbaen a seiclo proffesiynol yn un hirhoedlog a llwyddiannus - gyda reidwyr megis Bahamontes, Ocaña ac Induráin ymysg cewri’r gamp. Yn y gyfrol hon, mae’r newyddiadurwraig sy’n hybarch yn genedlaethol, Laura Meseguer, yn archwilio’r ugain mlynedd diwethaf o Sbaenwyr; cenhedlaeth aur lle daeth Contador, Freire, Valverde a mwy i hawlio buddugoliaethau arwrol drwy goncro’r dringfeydd anoddaf a’r rasys mwyaf beichus.
Cofiannau a Hunangofiannau
‘Chased by Pandas’, Dan Martin £20
Cyfrol hunangofiant Dan Martin yw ‘Chased by Pandas’, ac fel y byddai un yn ei ddisgwyl o fod yn gyfarwydd ag o yn ogystal ag edrych ar deitl y llyfr, mae digon o hiwmor ac ysgafnder rhwng y ddau glawr. Ceir yma onestrwydd hefyd am heriau seiclwr proffesiynol, ond yn anad dim, mae’r gyfrol wedi ennyn cryn sylw am y modd y mae Martin yn ymdrin â rasio rhamantaidd yr câi ei adnabod amdano, a’r modd y mae’n beirniadu dulliau technolegol a’u heffaith ar arddull rasio cyfoes.
‘The Power of Belief’, Beth Shriever £25
Dyma gyfrol sy’n sicr yn berchen ar deitl cwbl addas a phriodol i’w chynnwys. Mae nifer fawr iawn o rwystrau wedi cael eu hwynebu gan y seiclwraig BMX, Beth Shriever - UK Sport yn ymatal rhag ariannu’r gamp i fenywod, torri’i choes yn ddrwg pan yn blentyn a thorri’i braich wythnosau’n unig cyn y Gemau Olympaidd yn Tokyo. Ond dyma hunangofiant sy’n profi fod parhau i gredu yn hollbwysig i allu goresgyn pob rhwystr, a bod modd cyflawni’r wobr fwyaf un am hynny.
‘Beryl’, Jeremy Whittle £20
Y diweddaraf o’r cyfrolau i gael eu hysgrifennu am arwres seiclo yn Lloegr a Phrydain, Beryl Burton, yw hon gan yr awdur hybarch Jeremy Whittle. Cyfrol sydd wedi ennill ei lle ar restr fer y wobr mawr ei bri gan William Hill am lyfr chwaraeon gorau’r flwyddyn eleni. Â mynediad i luniau a gohebiaeth nas gwelwyd o’r blaen, yn ogystal â chyfweliadau gyda’r bobl oedd yn ei hadnabod yn dda, mae Whittle yn palu’n ddyfnach i ddatgelu un o gymeriadau mwyaf cymhleth, enigmatig a difyr yn hanes y gamp. Cymeriad sydd o’r diwedd yn cael sylw haeddiannol.
‘Jan Ullrich’, Daniel Friebe £25
‘The Best There Never Was’ yw is-deitl y gyfrol hon gan yr awdur seiclo hybarch Daniel Friebe. Cyfrol cofiannol i’r seiclwr o’r Almaen, Jan Ullrich, ystyrid yn un o reidwyr mwyaf talentog ei genhedlaeth fyddai’n meddiannu’r gamp am flynyddoedd ac un o enillwyr mwyaf dadleuol y Tour de France. Mae hwn yn ddisgrifiad a hanner, a dwi’m am ei gyfieithu rhag colli’i ystyr: “This is a gripping account of how unbearable expectation, mental and physical fragility, the effects of a complicated childhood, a morally corrupt sport and one individual can conspire to reroute destiny.”
‘The Break’, Steve Cummings £20
Seiclwr dyfeisgar a siarp oedd bob amser yn byw ar yr ymylon; am bron i ddau ddegawd mi dorrodd Steve Cummings ei gwys ei hyn ym myd seiclo rhyngwladol, gan lwyddo sawl gwaith. Rebel o reidiwr esgynnodd i fuddugoliaethau annisgwyl yn wyneb tîmau mawr, meddiannol - ac un reidiodd ochr yn ochr â mawrion y gamp ym Mhrydain - Cavendish, Wiggins, Froome, Thomas ac eraill - ac mi gawn ei farn a’i straeon heb-eu-hadrodd amdanynt mewn hunangofiant gonest.
‘God is Dead’, Andy McGrath £20
Awdur hybarch arall, a llyfr arall sydd wedi’i gynnwys ar restr fer William Hill am gyfrol chwaraeon orau 2022. Mae’n bur debyg na fyddech chi’n gyfarwydd ag enw Frank Vandenbroucke - ond fe’i ystyrid yn ryfeddod yn y byd seiclo. Dyma ddisgrifiad byw ohono: “Enillodd y Belgiad y rhan fwyaf o rasys mwyaf eu bri’r byd seiclo gan gynnwys Liege-Bastogne-Liege a Paris-Nice, gan ennyn poblogrwydd gan genhedlaeth o ffans seiclo. Oddi ar y beic, ei unig elyn oedd fo’i hun.” Cofiant am stori bywyd drist gyrfa dalentog a ddinistriwyd gan gyffuriau.
‘Hinault’, Prolongation €19,90
Mae’r gyfres o lyfrau Prolongation yn dathlu gyrfaoedd rhai o’r mwyaf llwyddiannau o wŷr byd y campau o ranbarthau gorllewin Ffrainc. Yn yr un yma, hanes seiclwr mwyaf llwyddiannus Ffrainc ers y Rhyfel sydd i’w gael, sef Bernard Hinault, ac yntau’n un o’r clwb dethol o bedwar seiclwr gwrywaidd sydd wedi ennill y Tour de France bum gwaith. Drwy hynny, ceir cyfrol sy’n amlinellu’r cyfnod o fewn y byd seiclo, yn ogystal â dathliad o un o bencampwyr mwyaf y gamp.
Hanes
‘Two Wheels Good’, Jody Rosen £25
'Dyma hanes cymdeithasol fel y dylai gael ei ysgrifennu: doniol, manwl, annisgwyl a dim ofn dilyn stori'. Dyna ddisgrifiad Adam Gopnik o’r llyfr yma gan Jody Rosen sydd wedi’i ganmol yn fawr. Mae’r awdur a’r critig yn dyheu i ail-wampio’n dealltwriaeth ni o greadigaeth y beic, gan fynd â’r darllennydd ar daith o wreiddiau’r beic ym 1817 drwy’i bresenoldeb bythol yn ein bywydau hyd at ei ail-eni heddiw fel modd gwyrdd o deithio yng nghanol pandemig ac argyfwng hinsawdd. Hynny oll drwy blethu’r dair elfen anghyfieithiadwy hyn: reportage, travelogue a memoir.
Dyna ni, 22 o lyfrau newydd seiclo 2022, a gobeithio y cewch chi flas ar rai ohonyn nhw dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.
Hwwwyl.
Comments