Hawddamor, gyfeillion!
Do, dw i wedi chwythu peth llwch oddi ar yr hen Ddwy Olwyn! Mae'n sbel go lew ers i mi 'sgwennu yma ddwytha, ond mae rheswm go dda i roi geiriau ar ddalen heddiw 'ma.
Dw i'n atgyfodi traddodiad sydd gen i ers ambell flwyddyn, sef creu rhestr Siôn Corn o lyfrau seiclo a gyhoeddwyd yn y flwyddyn a fu.
Mae'r adeg yma o'r flwyddyn yn cael ei gysylltu â darllen a chyfnewid llyfrau mewn amryw lefydd dros y byd; hawdd gweld pam, wrth gwrs - mae'n gwmnïaeth yn ystod un o'r cyfnodau prin hynny yn y flwyddyn lle mae nifer ohonom yn cael ymlacio'n llwyr.
Yn 2021, mi wnes i argymell 21 o lyfrau; yn 2022, mi wnes i argymell 22 o lyfrau, ac yn 2023, mi wnes i argymell 23 o lyfrau. Yn naturiol, felly, â ninnau'n carlamu tuag at derfyn 2024, dyma argymell 24 o lyfrau i chi bori drwyddyn nhw neu ymgolli ynddyn nhw. Dw i wedi eu categoreiddio nhw'n fras er cyfleustra. Mae'r dolenni'n eich cyfeirio chi at Bookshop.org, lle bo modd, lle gallwch chi ddewis siop lyfrau annibynnol i'w chefnogi.
O lunio'r rhestr hon yn y gorffennol, dw i wedi dod o hyd i ambell i gyfrol na ŵyr llawer amdani, ac felly y gallwch chithau ddod o hyd i berl gudd neu ddwy yn eu mysg.
Mae'n debyg mai dyma fydd y cyfle olaf i wneud cyn y Nadolig - felly dyma ddymuno Nadolig Llawen iawn i chi gyd, a Blwyddyn Newydd ddedwydd ar ei ôl, gyda diolch am eich cefnogaeth a'ch cwmnïaeth eto eleni.
Llyfrau taith a myfyrdodau
Categori poblogaidd a phrysur unwaith eto eleni, a dyma ni'n cychwyn gyda 'Crossing Bridgers' gan Lisa A. Watts, sy'n olrhain ei thaith ar feic ar hyd arfordir dwyreiniol yr Unol Daleithiau. O hynny, fe geir myfyrdodau am yr hyn y mae hi wedi'i ddysgu am fywyd ar ôl cyrraedd ei 60 oed. Ei gobaith yw annog eraill i fentro i wneud yr hyn y maen nhw wastad wedi bod eisiau ei wneud. RRP £16
Mae Peter Flax yn newyddiadurwr adnabyddus sydd wedi rhoi 'llyfr anrheg' perffaith ynghyd. Mae'n ceisio cloriannu hyd a lled apêl y beic i gynifer ohonom, a dod o hyd i'r hyn sy'n ein huno - antur, cyflymder, cyfleustra, natur, cystadleuaeth, hunan-fynegiant - drwy ffotograffiaeth, teithiau awgrymedig, mapiau, a chyfweliadau gyda reidwyr cyfoes ac o'r oes a fu. RRP £25 (clawr caled)
Mae yna 204 o fapiau Ordnance Survey Landranger ar gyfer Prydain. Yn 2022, aeth Mark Wedgwood ati i groesi pob un ohonyn nhw oddi ar ei restr, gan seiclo cyfanswm o dros 7,000 o filltiroedd ym mhob twll a chornel o Brydain mewn cyfnod o chwe mis. Drwy ei brofiadau, ei chwilfrydedd, ei nostalja, cawn bortread unigryw o'r casgliad unigryw yma o ynysoedd. RRP £15.99 (clawr meddal)
https://uk.bookshop.org/p/books/the-man-who-cycled-every-map-mark-wedgwood/7682275?ean=9781835740767
Taith arall ar draws rhan o Brydain sydd gennym ni nesaf, ond un sydd â naratif benodol yn gwau drwyddi. Ar drywydd pleserau syml bywyd yr â Ed Peppitt ar ei daith ar hyd yr arfordir, gan ailgynnau chwilfrydedd ei blentyndod am oleudai, tra'n rhoi bywyd newydd iddo fo'i hun ar ôl diagnosis o MS. RRP £20 (clawr caled)
...ac un arall i'r rhai ohonoch sydd â'ch bryd ar deithio Prydain rhwng y cloriau. Cyfrol sy'n ennyn canmoliaeth gan Jeremy Vine a Chris Boardman, sy'n rhannol yn ddyddiadur taith, ac yn rhannol yn llythyr caru at y rhwydwaith o lwybrau seiclo. Mae'r newyddiadurwraig Laura Laker ar drywydd cyfochredd cyflwr anwadal y rhwydwaith, a chyflwr anwadal seiclo ym Mhrydain. RRP £16.99 (clawr meddal)
Dyma fy hoff glawr o'r rhestr i gyd, dwi'n credu. Mae Julian Sayarer wedi ymddangos ar y rhestr hon yn y gorffennol, ac yntau'n awdur taith arobryn, ac wedi torri record y byd am seiclo rownd y glôb. Yn y gyfrol hon, mae'n dychwelyd i Israel ac i Balesteina dan oresgyniad (occupied) i roi mewnwelediad amserol i'r rhan yma o'r byd; mae'n bortread o'i thirwedd ac o'i phobl. RRP £9.99 (clawr meddal)
Yn ôl i'r Unol Daleithiau â ni ar gyfer y gyfrol nesaf yma, sydd eto'n ceisio mynd i'r afael â rhai o faterion mwyaf cyfredol ein hoes. Mae'n seiclo dros 4,000 o filltiroedd ar draws y wlad ar drothwy etholiad hanesyddol 2024 i ddarganfod y 'gwir America' - y tu hwnt i freuddwydion ei blentyndod a 'gor-symleiddiad' ei phortreadau heddiw. RRP £19.99
Os cofia i'n iawn, mi'r oedd y gyfrol yma yn rhestr llynedd hefyd, ond gan ei bod hi bellach wedi'i rhyddhau ar ffurf clawr meddal, mae'n werth ail-ymweld. Taith sy'n bortread o ddirywiad bioamrywiaeth a geir yma, wrth i'r anturiaethwraig Kate Rawles seiclo hyd yr Andes ar feic y gwnaeth hi ei hadeiladu ei hun. RRP £11.99
Gwerth ail-ymweld â'r gyfrol hon hefyd, a hithau ar gael yn y clawr meddal hygyrch bellach. Mae Jenny Graham yn enw adnabyddus am ei theithiau rhyfeddol, a hanes un o'r rheiny a geir rhwng dau glawr y llyfr hwn. Yn 2018, aeth hi ar drywydd record y byd y menywod am seiclo rownd y glôb, a chawn fewnwelediad diguro i'r daith honno yma. https://uk.bookshop.org/p/books/coffee-first-then-the-world-one-woman-s-record-breaking-pedal-around-the-planet-graham-jenny-graham/7516211?ean=9781399401043
Cofiannau a hunangofiannau
Cofiant o bencampwr go iawn geir yma. Cododd Maurice Burton uwchlaw hiliaeth i goncro seiclo Prydeinig yn y 70au, cyn symud i Ewrop i rasio, oherwydd ymateb anffafriol y cyhoedd. Mae'r cofiant yn olrhain ei daith, fel mab i un o genhedlaeth y Windrush, o'i fagwraeth yn Llundain, ar hyd ei yrfa fel rasiwr, a'i ddychweliad i Loegr lle daeth yn ffigwr amlwg yn y gymuned. RRP £20 (clawr caled)
Hunangofiant sydd wedi ennyn cryn glod ers ei chyhoeddi, yn enillydd cofiant gorau'r flwyddyn y Sunday Times, gan un o ffigyrau addfwynaf, mwyaf positif y byd seiclo. Yn arwr i nifer am ei gampau ar gefn beic, a bellach yn arwr i nifer fwy am ei ymateb i ddiagnosis o gancr cymal 4. Mae'n cymryd golygwedd bositif ar yr heriau y mae'n ei hwynebu, gan ddangos sut i ganfod yr hyn sy'n wirioneddol bwysig. RRP £22 (clawr caled)
Hanes un arall sy'n goresgyn adfyd geir yn y gyfrol hon, wrth i Martyn Ashton, sy'n llwyr-barlysedig ar ôl damwain wnaeth newid ei fywyd, ganfod pŵer yn wyneb heriau corfforol a meddyliol sylweddol. RRP £25 (clawr caled) https://uk.bookshop.org/p/books/joyride-lauren-davies/7642413?ean=9781801509114
Cyfrol arall sydd newydd ei chyhoeddi ar ffurf clawr meddal, sy'n olrhain gyrfa Alex Dowsett yn y peloton proffesiynol tra'n delio â haemophilia A. Ceir hanes seiclwr unigryw yn y peloton, ac yntau'n gorfod ymdopi â'r ffaith y gallai unrhyw ddamwain droi'n angheuol iddo, a'i daith i frig y gamp. RRP £12.99 (clawr meddal)
Cyhoeddiad clawr meddal yw'r rheswm dros gynnwys y nesa' 'ma hefyd. Dyma un o'r llyfrau i mi eu mwynhau fwyaf yn ystod 2024, a gallwch chi ddarllen mwy am fy argraffiadau ohono yn y cofnod canlynol: https://www.yddwyolwyn.cymru/post-ey1ei/salzburg-ljubljana-brwsel. Cawn fewnwelediad i rai o hoff deithiau un o'n hoff seiclwyr, ac mae ei ffraethineb nodweddiadol yn amlwg iawn unwaith eto. RRP £12.99 (clawr meddal)
Cofiant o seiclwr unigryw a chymhleth, Charly Gaul, yw 'Angel of the Mountains'. Enillodd y Tour de France ym 1958, a'r Giro ddwywaith, ond wedi iddo ymddeol, fe ymbellhaodd o gymdeithas. Drwy hynny, mae'r awdur yn dymuno portreadu effeithiau llwyddiant y byd chwaraeon ar unigolyn, yn ogystal ag ailddarganfod arwr annhebygol oedd megis 'Mozart ar olwynion'. RRP £22 (clawr caled)
I'r rhai ohonoch sydd â gafael ar y Ffrangeg, dyma gofiant 'swyddogol.' Thibaut Pinot. Yn cynnwys darluniau o'i yrfa lewyrchus, dorcalonnus fel gobaith prin i'r Ffrancwyr, mae'n bortread o un o gymeriadau mwyaf hoff a chymhleth y byd seiclo proffesiynol cyfoes. RRP 29,90 €
Coginio
Dim ond un llyfr yn y categori yma eleni, sy'n ychwanegiad arall i gasgliad The Cycling Chef, Alan Murchison. Yn y gyfrol hon, syniadau am ryseitiau ar gyfer y diwrnodau hir hynny ar y beic a geir, boed hynny i lenwi'r tanc cyn y reid, yn ystod y reid, neu i ddiwallu'r stôr ar ei ddiwedd. RRP £22 (clawr caled)
Cyffredinol
Mi allech chi ddadlau nad ydy hwn yn llyfr seiclo fel y cyfryw, ond serch hynny, profiad seiclwr a'i ysbrydolodd. Ryw fore hydrefol, disgynnodd yr awdur, Olivier Haralambon, cyn-rasiwr, oddi ar ei feic tra'n seiclo gyda phencampwr ifanc. Mae'r gyfrol wedyn yn olrhain yr ymbellhau rhyngddo fo a'i gorff, ac yntau ddim yn hen, ond ddim yn ifanc chwaith. Mae'n cyfuno'i fyfyrdodau ei hun, gyda phrofiadau sgwennwyr, cerddorion, ac arlunwyr. RRP 17 €
Wrth i'r lenyddiaeth am seiclwyr du'r gorffennol gyfoethogi, a hwyr glas hynny, cawn hanes gyfraniad seiclwyr du'r Unol Daleithiau yn ystod cyfnod cynnar y gamp gan Robert J. Turpin o Brifysgol Illinois. Mae'n agor y llen ar bennod anghofiedig yn hanes seiclo, gan gynnig sylwadaeth ar botensial y beic fel modd o ddringo ysgol cymdeithas yn y cyfnod hwnnw. RRP £21.99
Edrych ar sgil effeithiau'r pandemig ar agweddau tuag at seiclo a'r beic yn fwy cyffredinol wna Dan Piatkowski yn 'Bicycle City'. Mae'n trafod sut mae 'cyfle na ellir ei wastraffu' wedi codi ar gynffon y pandemig, gan gynnig gweledigaeth am le cynyddol i'r beic wrth geisio gwella'n dinasoedd a'n byd. RRP £26 (clawr meddal)
Un arall o'r cyfrolau hynny sydd wedi eu cyhoeddi ar ffurf clawr meddal yn y flwyddyn a fu. Dyma un o'r llyfrau i mi fwynhau fwyaf yn ystod 2023 - gydag adolygiad i'w gael yn fa'ma: https://www.yddwyolwyn.cymru/post-ey1ei/1923-ned-boulting - ac os nad ydych chi wedi cael cyfle i'w ddarllen eto, yna dwi'n argymell eich bod chi'n gwneud yn fawr. Mae'n cyfuno taith, hanes, a stori ddirgelwch wrth ail-ymweld ag ennyd o Tour de France 1923. RRP £10.99 (clawr meddal)
Mewn â ni i fyd y seiclwyr proffesiynol yng nghyfrol Luke Williams, sy'n olrhain hanes y gŵyr cyflymaf yn y gamp, sef y gwibwyr. Beth sy'n gwneud gwibwyr yn wibwyr? Beth yw hanes rhai o'r gwibwyr amlycaf yn hanes y byd seiclo? Pryd a sut y datblygwyd tactegau arbennig ar gyfer y gwibwyr? RRP £12.99
Cyfoethogi'r lenyddiaeth ar seiclwyr du ymhellach wna Marlon Lee Moncireffe gyda'i gyfrol ddiweddaraf 'New Black Cyclones'. Mae ei gyfraniad i'r maes eisoes yn helaeth, fwyaf nodedig gyda'i gyfrol gyda Rapha gyhoeddwyd ambell flwyddyn yn ôl, 'Black Champions in Cycling' - mwy yma https://www.yddwyolwyn.cymru/post-ey1ei/dwy-gyfrol-i-ysbrydoli. Yn y gyfrol newydd yma, mae'n agor y llen ar sut y mae agweddau'r byd seiclo yn newid yn sgil y mudiad Black Lives Matter, a'r potensial ar gyfer y dyfodol. RRP £20 (clawr caled)
Os mai pori drwy luniau sydd am fynd â'ch bryd chi'r Nadolig hwn, yna mae'n werth cael cip ar y gyfrol hon o luniau o'r byd seiclo proffesiynol gan y ffotograffydd nodedig, Kristof Ramon. Drwy'r darluniau, mae'n cynnig portread o'r dioddef, yr aberth sydd ynghlwm â chyrraedd brig y gamp. Tipyn o fuddsoddiad, fodd bynnag. RRP £45
https://uk.bookshop.org/p/books/full-gas-inside-road-cycling-kristof-ramon/7073543?ean=9781399606905
DIWEDD
Comments