Yn y gofnod hon, byddaf yn bwrw golwg dros y reidwyr i'w gwylio yn ystod y tymor newydd, gan osgoi efallai'r enwau sy'n fwy cadarn eu lle.
Heb oedi dim, dyma'r rhestr yn nhrefn y wyddor.
Kasper Asgreen
Fe saethodd y reidiwr 25 oed o Ddenmarc, Kasper Asgreen, i'r amlwg yn ystod tymor 2019 lle ychwanegodd nifer o ganlyniadau candarnhaol a nodweddiadol at ei balmares. Ei ganlyniad mwyaf nodedig oedd 2il yn Paris-Roubaix mewn grwp dethol o ser y clasuron ac mae'n amlwg mai dyma'i gryfder. Atgyfnerthodd hynny yn y gwanwyn eleni gan gipio'r fuddugoliaeth yn Kuurne-Brussels-Kuurne. Mae hefyd yn hynod gryf yn erbyn y cloc gan orffen yn y deg uchaf yn REC unigol yn y Tour de France yn ogystal ag 2il ym mhencampwriaethau Ewrop. Diddorol fydd gweld canlyniadau Asgreen yn datblygu yn ystod tymor 2020.
Sam Bennett
Tarodd y Gwyddel Sam Bennett y pennawdau am ddau brif reswm yn 2019. Rhif un oedd ei ganlyniadau - gan gipio buddugoliaethau niferus yn y wib yn La Vuelta a Espana, Vuelta a San Juan, UAE Tour, Paris Nice, Tour of Turkey, Criterium du Dauphine a'r Binck Bank Tour. Rhif dau oedd y ffrae rhyngddo fo a'i dim ar y pryd, Bora-Hansgrohe, ynghylch os oedd am fynd i'r Tour de France ai peidio. Arweiniodd hynny at arwyddo i dim newydd ar gyfer 2020, sef carfan Deceuninck Quickstep. Tybed os allai gipio mwy o fuddugoliaethau tebyg eleni ac os y bydd yn gallu camu i'r llwyfan mwyaf un sef Le Tour.
Emanuel Buchmann
Camodd yr Almaenwr Emanuel Buchmann i'r haen uchaf o ffefrynnau yn ystod Le Tour de France gan frwydro'n gyson i orffen ar y podiwm. 4ydd oedd ei ganlyniad yn y pen draw wedi perfformiadau cryfion iawn ar y Tourmalet a mwy. Daeth hynny i atgyfnerthu'r cryfder ddangosodd yn y Criterium du Dauphine a theithiau UAE a'r Itzulia Gwlad y Basg. Er gwaethaf hyn oll, mae Buchmann wedi cadw allan o'r pennawdau ar y cyfan, felly bydd tymor 2020 yn gyfle i weld os ydy hynny'n fanteisiol iddo cyn cael ei gydnabod yn un o oreuon y Grand Tours.
Giulio Ciccone
Treuliodd yr Eidalwr Giulio Ciccone, 25, ddeuddydd yn gwisgo maillot jaune y Tour de France yn 2019 wedi gorffen yn ail ar y cymal i La Planche des Belles Filles. Ond roedd Ciccone eisoes yn enw adnabyddus wedi perfformiad ardderchog yn y Giro d'Italia lle cipiodd grys glas dosbarthiad y mynyddoedd. Daeth hynny wedi nifer o ddiwrnodau yn y dihangiad arweiniodd at fuddugoliaeth ar cymal 16 i Ponte de Legno. Mae hefyd yn gallu perfformio'n dda yn y clasuron, felly bydd hi'n ddiddorol iawn gweld beth fydd ei ffocws eleni - mwy o fuddugoliaethau cymal, targedu dosbarthiad mynyddoedd neu ddatblygu ei allu ar y dosbarthiad cyffredinol.
Jack Haig
Ddechrau eleni, dangosodd yr Awstraliad Jack Haig ei gryfder yn y mynyddoedd drwy orffen yn ail ar y dosbarthiad cyffredinol yn y Vuelta a la Comunitat Valenciana a'r Vuelta a Andalucia (Ruta del Sol), gan gynnwys buddugoliaeth cymal yn Andalucia hefyd. Daeth hyn i atgyfnerthu'r hyn ddangosodd o yn ystod 2019 gan gynnwys 4ydd yn nosbarthiad cyffredinol Paris-Nice ac fel super domestique i arweinwyr Mitchelton-Scott. Mae'r tim wedi dweud eu bod yn targedu'r DC yn y Giro gyda Simon Yates a chymalau yn y Tour gydag Adam Yates. Ai super domestique fydd o iddynt eleni, neu a gaiff o ychydig o ryddid i fynd am La Vuelta? Cawn weld.
Enric Mas
Wedi tymor llwyddiannus yn 2018, gan gynnwys 2il ar ddosbarthiad cyffredinol La Vuelta a Espana, roedd 2019 yn teimlo rywfaint yn siomedig o safbwynt y Sbaenwr. Hwn oedd ei dymor olaf yn lifrai Deceuninck-Quickstep ac mae'i symudiad i dim Movistar yn teimlo fel y cam nesaf yn ei yrfa. Wedi'r ecsodys mawr ddiwedd llynnedd oddi wrth y tim Sbaeneg, bydd gan Mas y cymorth sydd ei angen arno wrth iddo dargedu'r Tour a'r Vuelta eleni ynghyd ag Alejandro Valverde. Mae gan Mas broffil cyflawn; yn serennu ar y dringfeydd ac yn y mynyddoedd ond hefyd yn alluog yn erbyn y cloc.
Thibaut Pinot
Roedd Thibaut Pinot yn ffefryn cadarn yn ystod Le Tour yn 2019, nid yn unig yn Ffrainc ond ar draws y byd. Dydy Ffrainc heb gael ennillydd ers 1985 pan oedd Bernard Hinault yn fuddugol, ac mae Pinot yn ymddangos fel y gobaith gorau ers blynyddoedd. Torcalon gafwyd y llynnedd wrth iddo orfod gadael y ras ar cymal 19, ac yntau'n 4ydd ar y dosbarthiad cyffredinol bryd hynny ac wedi ennill y cymal i'r Col du Tourmalet. Mae'r gallu corfforol ganddo'n sicr i ennill y Tour, ond mae amheuon am ei wydnwch meddyliol a'i hyder, ac nid oes ganddo restr hir o ganlyniadau nodweddiadol fel ffefrynnau eraill.
Nairo Quintana
Prif reidiwr Arkea-Samsic heb os yw'r Colombiad Nairo Quintana. Wedi ennill La Vuelta yn 2016, daeth cyfnod ansicr a rhwystredig iddo yn lifrai Movistar gydag anlwc ddim yn help iddo chwaith. Fodd bynnag, ddechrau eleni wedi arwyddo cytundeb dair blynedd gydag Arkea-Samsic, roedd pethau'n edrych yn llawer mwy addawol iddo. Ymddangosodd calendr yn wedi'i chanoli yn Ffrainc i'w siwtio'n dda ddechrau eleni, gan gymryd buddugoliaethau yn y DC yn y Tour de la Provence a'r Tour des Alpes Maritimes et du Var, yn ogystal a chymal y frenhines yn Paris-Nice. Gyda chefnogaeth gref gan y tim, mae'n ymddangos fod yr arfau ganddo i ennill y Tour eleni. Ond a'i hyder yn uchel, daeth ergyd iddo wrth gael ei daro gan gar tra'n hyfforddi gyda'i frawd yn ddiweddar. Sut effaith gaiff hynny arno eleni?
Pavel Sivakov
Un o ser ifanc tim Ineos yw Pavel Sivakov, anwyd yn Rwsia ond wedi'i fagu ymysg y Pyreneau yn Ffrainc. Cafodd flwyddyn lwyddiannus yn 2019, gan gipio'r fuddugoliaethau yn nhaith yr Alpau, a pherfformiodd yn gadarnhaol iawn yn ystod y Giro d'Italia yn arwain at 9fed ar y DC, ac 2il ar y dosbarthiad ieuenctid. Profiad sydd ei angen ar y reidwyr ifanc yma, ac felly mae'i obeithion ar gael ei ddewis ar gyfer y Tour ac hefyd canlyniadau cadarnhaol mewn rasys wythnos efallai i atgyfnerthu'r fuddugoliaeth Alpaidd. Mae'i gytundeb yn dod i ben ddiwedd eleni, felly cawn weld beth ddigwyddith iddo eleni.
Wout van Aert
Gyda chefndir cryf iawn mewn seiclo traws (cyclocross), mae trosglwyddiad y sgiliau rheiny i rasio ar y ffordd wedi helpu'r Belgiad i lwyddo mewn amryw o sefyllfaoedd. Ras sy'n ei siwtio i'r dim ydy Strade Bianche, sy'n agor tymor y WorldTour ar y 1af o Awst, lle gorffennodd yn 3ydd yn 2019 a 2018. Mae'n serennu yn y clasuron ac yn gobeithio llwyddo mewn amrywiaeth ehangach o'r rasys yma ar draws y tymor. Ennillodd gymal o'r Tour y llynnedd yn ei ymddangosiad cyntaf yn y ras sy'n dangos ei allu yn y wib, ac mae hefyd yn gryf iawn yn erbyn y cloc ac yntau'n bencampwr Gwlad Belg. Fel arfer, mae van Aert yn cychwyn y tymor ar ol tymor o seiclo traws ond wrth gwrs bydd y tymor hwn yn wahanol i'r arfer. Cawn weld pa effaith gaiff hynny arno.
Comentarios