Teyrnged gyfiawn i’r clwb wnaeth dorri tir newydd a meithrin talent cenedl
Scroll down for English version, or click here for glossary of terms.
Hoffwn ddiolch i Ashley Drake a St David's Press am fod mor barod i anfon copi adolygu o'r gyfrol i mi rai wythnosau nol - a braf iawn oedd cael y cyfle i ddarllen ac ysgrifennu wedi cyfnod prysur iawn.
Gall y gorfoledd o wylio Cymro’n ennill nid yn unig ennill ar gopa dau fynydd (un ohonynt y mwyaf eiconig yn y gamp) ond cyrraedd Paris yn maillot jaune byd-enwog gael ei ddisgrifio orau fel annisgrifiadwy.
Yn bersonol, dwi’n diffinio pencampwr go iawn fel person cyffredin sy’n goresgyn heriau a rhwystrau i gyflawni’r hyn sy’n ymddangos yn amhosib. I mi, mae Geraint Thomas yn ymgorffori hyn.
Dyma destun y bennod gyntaf, sydd a’r teitl ‘Maindy Flyer to Maillot Jaune’. Mae’r anghrediniaeth o sut esgynodd y llanc o’r Maendy i’r brig yn amlwg, gyda phrofiadau Debbie Wharton gyrrhaeddodd ryw lefel o enwogrwydd.
Do, mae pobl wedi bod yn ymwybodol o ddylanwad y Maindy Flyers ar lwyddiannau Geraint. Ei fuddugoliaeth ar y Tour yw cyflawniad mwyaf y clwb, neu’r un ddenodd y mwyaf o sylw, ond mae rhestr hirfaith o lwyddiannau graddedigion eraill.
Mae Elinor Barker, sydd wedi ysgrifennu’r rhagair, yn enghraifft bennaf. Yn ennillydd teitlau rhyngwladol yn unigol ac fel rhan o dim, yn ogystal a buddugoliaethau cenedlaethol a chyfandirol, hi yw athletwraig fwyaf llwyddiannus y clwb, ond nid yw’n cael y sylw haeddiannol yn gyffredinol ac yn y gyfrol.
Fodd bynnag, dydy canolbwynt Dickinson ddim ar y llwyddiannau cenedlaethol, cyfandirol, rhyngwladol ac Olympaidd niferus, ond yn hytrach ar sut y daeth y clwb i fod mor llwyddiannus. Y thema amlycaf yn y gyfrol yw’r ffaith mai ffrwyth llafur y Flyers yw llwyddiant ei hathletwyr.
Ymdrech unigiolion gweithgar megis Jo Phillips, Debbie Wharton ac Alan Davis sydd wedi tanio a meithrin talentau’r ifainc. Mae’n gwbl glir fod y bobl yma nid yn unig yn angerddol am seiclo, ond hefyd datblygiad yr ieuenctid. Dyma thema sy’n treiddio drwyddi draw ond yn cael ei chrynhoi orau yn yr ail bennod sydd a’r teitl ‘The Power behind the Podium’.
Gallech ddadlau fod stori’r Maindy Flyers yn cyfochri gyda stori’i hathletwyr. Mae’r ddau wedi gorfod goresgyn heriau. Mae yna wedi bod amheuwyr o’r clwb a’r reidwyr. Drwy orchfygu’r rhwystrau hyn, rhywbeth na fyddai eraill yn gallu’i wneud, maen nhw wedi dod i fod y gorau yn yr hyn maent yn ei wneud.
Mi soniais yn y teitl fod yr hyn maent wedi’i wneud yn ‘torri tir newydd’. Maent wedi bod yn hollbwysig yn natblygiad seiclo yng Nghymru gyda nifer o glybiau ebryn hyn yn blaenoriaethu’r ieuenctid, rhywbeth gafodd ei feirniadu pan sefydliwyd y Flyers. Ambell enghraifft o hyn yw Towy Riders a chlwb y Rhyl.
Daeth hyn nid yn unig drwy ddatblygu seiclwyr byd-enwog megis Thomas, Barker, Rowe, Doull etc ddaeth yn arwyr i ieuenctid Cymru. Daeth yn amlwg fod y Flyers wedi chwarae rhan enfawr yn natblygiad sefydliad Beicio Cymru, ac hebddynt hwy ni fyddai’r graddau o ddigwyddiadau a chefnogaeth sy’n bodoli heddiw yn bosibl.
Ond efallai neges bwysicaf y gyfrol yw nad yw llwyddiant, ar y cyfan, yn dod o orfodi’r gamp ar yr ifainc o bosib ar draul mwynhad. Drwy flaenoriaethu mwynhad y reidwyr ac efallai dull mwy ymlaciedig, mae’n cadw lefelau cymhelliant y reidwyr yn uchel, a’n cynyddu’r gobeithion o lwyddo.
Mae dylanwad y clwb ar y reidwyr yn amlwg pan ystyriwch eu parodrwydd i gynnig diolch, ymweld a chyfrannu tuag at gyfrolau. Mae Dickinson yn llwyddo i gydnabod a chlodfori yr adeiladwaith sy’n gwneud y clwb mor arbennig.
Mynnwch gopi o’r gyfrol, os yn hoffi seiclo neu ddim, er mwyn cydnabod dylanwad anferthol sefydliadau tebyg ar lawr gwlad a’r pwysigrwydd, yn enwedig mewn cyfnod anodd, i’w cefnogi.
Mae ‘The Maindy Flyers: The World’s Most Successful Cycling Club’ yn cael ei gyhoeddi gan St David’s Press ac ar gael yma.
A fitting tribute to the ground-breaking, talent-building cycling club
The joy of seeing a fellow cycling-loving Welshman not only winning atop two mountains (one of which is the most iconic in our sport) but going on to reach Paris in the world-famous maillot jaune would be best described as indescribable.
Personally, I define a true champion as an average joe, like you and I, who overcomes obstacles and challenges to achieve the seemingly unachievable. To me, Geraint Thomas epitomises this.
This is the topic of the first chapter, titled ‘Maindy Flyer to Maillot Jaune’. The incredulity of how the youngster at Maindy rose to complete the ultimate feat in cycling is obvious, with accounts of how former coach Debbie Wharton rose to a certain level of fame.
Yes, people have been aware of the huge impact of the Maindy Flyers on Geraint’s success. His victory at the Tour is undoubtedly the club’s biggest success, or best documented at least, but there have been countless other achievements for the Flyers’ alumni.
Elinor Barker, who has written the foreword for this book, is a prime example. A winner of multiple World titles both individually and part of a team, as well as domestic and continental victories, she is the club’s most successful female athlete although not perhaps not receiving justified attention.
However, Dickinson’s focus isn’t primarily on the numerous Olympic, international, national and continental successes, but rather on how the club came so successful. The dominant part of the book is that the individuals’ rise to success is the fruit of the Flyers’ labour.
It is the collective effort of hard-working people such as Jo Phillips, Debbie Wharton and Alan Davis which fuelled and nurtured the talent of youngsters. It’s clear that these people are extremely passionate for not only cycling, but the development and the future of youngsters. This is a theme that runs continuously throughout the book though is summarised best in the second chapter titled ‘The Power behind the Podium’.
You could argue that the tale of the Maindy Flyers could be paralleled with the tale of the athletes’ rises. Both have had to overcome challenges. There have been doubters of both the club and the riders. By ploughing through these obstacles, something others do not have the willpower to do, they have become the best at what they do.
I mentioned in the title of this review the word ‘ground-breaking’. The Maindy Flyers have been pivotal in the development of cycling throughout Wales with many clubs across the country prioritising youth, something which was criticised upon the establishment of the club. A few examples include Towy Riders and Rhyl CC.
This not only came through developing the talent of future stars such as Thomas, Barker, Rowe, Doull etc which became role models for young cyclists in Wales. It becomes obvious in the book that the Flyers played an important role in the growth of the Welsh Cycling / Beicio Cymru organisation, without which the support and events seen today wouldn’t be possible.
But perhaps the most important message in this book is that success, mostly, doesn’t come from forcing youngsters into events and rides potentially at the expense of enjoyment. By prioritising enjoyment and happiness and maybe a more relaxed approach, this keeps the youngsters’ motivation levels high and gives them an even better chance of success.
Their impact is clear when you hear how much it means to these athletes in their readiness to offer thanks, visit and write forewords or contribute to books. Dickinson successfully acknowledges and praises all the building blocks which makes the Maindy Flyers so special.
Pick up this book, whether you are a cycling fan or not, in order to celebrate the profound impact of grassroots and why it is so important, especially in these challenging times, to support them.
‘The Maindy Flyers: The World’s Most Successful Cycling Club’ is published by St David’s Press and is available here.
Comments