Helo helo!
Gobeithio’ch bod chi gyd yn cadw’n iawn, ac ymddiheuriadau am y tawelwch dros yr ychydig fisoedd diwethaf.
A hithau’n wythnos yr Eisteddfod, mae’n bryd rhoi geiriau ar dalen a deffro’r Ddwy Olwyn o’u trwmgwsg (o’i thrwmgwsg? o’i drwmgwsg? Trafoder).
Mae’n bleser gen i rannu manylion y sesiwn sydd gennym ni ar y maes ddydd Iau (8fed o Awst) am 16.30.
Yn debyg i’r llynedd, sesiwn banel ym mhabell y Cymdeithasau sydd ar y gweill. Mae’n braf iawn cael croesawu Lusa Glyn a Steff Rees yn ôl ar y panel am yr ail waith, a chael Daniel Williams, cyflwynydd podlediad Pen y Pass, yn gwmni i ni am y tro cyntaf.
Yn wahanol i’r llynedd, yn anffodus, ni fydd modd cynnal reid gymdeithasol dan faner Y Ddwy Olwyn eleni am resymau ymarferol (fydd gen i ddim beic) a rhesymau Eisteddfodol (dw i’n cystadlu ar ôl y sesiwn)!
P’run bynnag, dwi’n mawr obeithio y gwelwn ni rai ohonoch chi ym mhabell y Cymdeithasau ar y maes brynhawn dydd Iau - bydd y sgwrs yn ddifyr a’r croeso’n gynnes.
Os na fydd hynny’n bosib i chwi, na phoener yn ormodol; y gobaith ydy y bydd modd trosi o leiaf peth o’r sgwrs yn gynnwys ysgrifenedig i’w rannu dros y misoedd nesaf. Mae disgwyl y bydd modd gwylio’r sgwrs ar sianel YouTube yr Eisteddfod Genedlaethol yn y pen draw hefyd.
Digon am hynny; trown ein golygon at uchafbwyntiau bro’r Eisteddfod ar ddwy olwyn. A hwythau’n llawer iawn mwy cyfarwydd â’r ardal na fi, mi wnes i ofyn i’r triawd sydd ar y panel am eu hargymhellion nhw - y rhan fwyaf o fewn i ffiniau bwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, ac eraill y tu hwnt, yn anochel o ystyried ei daearyddiaeth, ond yn parhau o fewn cyrraedd y maes.
Felly os ydych chi am ddod â beic i’r Steddfod eleni, neu’n bwriadu dychwelyd yn y dyfodol, dyma gyngor y panelwyr.
Lusa Glyn
Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i mi allu gofyn am argymhellion Lusa, a hithau’n wreiddiol o fro’r Eisteddfod llynedd, a bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Mae’n hen law ar lwybrau’r ardal, felly.
“Mae RCT yn ddaearyddol eitha od gan fod rhywun yn mynd mewn ac allan o’r lle wrth fynd ar daith- dyw Caerffili a Merthyr ddim yn rhan ohono na Phenybont!
Dringfeydd
“Y ddwy ddringfa enwog ydi Rhigos a Bwlch ond mae Penrhys yn profi’r coesa ac yn wahanol gan ei fod yn gorffen mewn sdad dai (nid anenwog).”
Mae’r Rhigos a’r Bwlch yn gyfarwydd iawn i ddarllenwyr Y Ddwy Olwyn, a hwythau wedi eu crybwyll lawer tro wrth drafod dringfeydd gorau Cymru. Gweler un erthygl o’i bath: https://www.bbc.co.uk › cymrufywAr dy feic: 10 dringfa orau Cymru
Yn anffodus, fodd bynnag, mae ffordd y Rhigos ar gau am y tro wrth i waith atgyfnerthu fynd rhagddo. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/erthyglau/cgxqe1z9330o
Mae’r Bwlch yn dal i fod ar agor, ac felly mae cyfle eto i Steddfotwyr brofi’r un graddiannau ag y gwnaeth rhai o’n seiclwyr uchaf eu bri wrth fwrw’u prentisiaeth.
Mae’r ffordd fyrraf i gopa’r Bwlch (Bwlch y Clawdd i roi’r teitl llawn) o Bontypridd ryw 13 milltir, a hynny gan ddringo o gyfeiriad Treorci.
Mae allt Penrhys yn ymddangos yn llyfr Simon Warren, ‘Cycling Climbs of Wales’. O Ystrad, mae’n ddringfa 1.4km ar tua 10%, ac o Tylorstown, mae’n serthach, ond yn fyrrach. Mae’n rhyw 8 milltir o’r maes.
Llwybrau
“Mae’r hen draciau rheilffordd wedi eu troi’n lwybrau seiclo da (y rhai mwya poblogaidd efo wyneb llyfn ond rhai yn llawer mwy garw - Sustrans ddim yn gwahaniaethu).”
Gellir gweld y cyfan o’r hyn sydd gan rwydwaith genedlaethol Sustrans i’w gynnig ar eu gwefan: https://www.sustrans.org.uk/find-a-route-on-the-national-cycle-network/?location=South+East+Wales&routetype=null&distance=null&p=1. Pytiog braidd ydi’r wybodaeth; mae’n haws dilyn o edrych yn uniongyrchol ar y map ar eu gwefan nhw, neu feddalwedd cyffelyb megis Komoot.
Mae Lusa wedi rhannu dolen arall hynod ddefnyddiol am y teithiau hyn, a’r wybodaeth wedi’i darparu gan y cyngor sir: https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/SportsandLeisure/SportRCT/Whatsinmyarea/Cyclingroutes.aspx
Caffis
“O ran caffis mae’r Bracchis yn lleihau yn y cymoedd. Os dwi’n cofio mae erthygl gan Nation Cymru am hanes y caffis i’w gael.”
A dyma’r erthygl dan sylw: https://nation.cymru/culture/the-story-of-the-bracchi-when-the-italians-arrived-in-wales/
“Yn wahanol i sawl lle does dim caffis trendi wedi codi yn eu lle!”
Steff Rees
Mae’n deg dweud fod Steff yn ‘nabod ei ffordd yn dda iawn rownd Cymru erbyn hyn, ac yntau’n weithgar iawn ar Instagram â gwahanol brosiectau, gan gynnwys Y Bachan Graean, ac yn fwy diweddar, @westwaleswanderer.
Llwybrau
“Mae RhCT a’r Cymoedd yn gyffredinol yn gartref i rwydwaith o hen rheilffyrdd sydd bellach yn lwybrau beic di-draffig ac mae ymgyrch i ehangu hwn ymhellach trwy ailagor twnel Blaenrhondda.”
Gweler ragor am y cynllun hwnnw yma: https://www.rhonddatunnelsociety.co.uk
“Diddorol nodi fod seiclo yn ymddangos mewn prosiectau i adfer ac adfywio’r hen gymunedau glofaol yn yr ardal yma. Dydyn nhw ddim wastad wedi bod yn llefydd i feicio ond yn llefydd llygredig, tywyll, dansherus ac ati.“
Un o’r prosiectau hynny yw’r canlynol: https://www.cyclinguk.org/talesofthetrails
Graean
“O ran graean mae llawer o goedwigoedd o gwmpas felly mae tipyn o opsiynau. Un route dwi am neud pan gai amser yw dilyn y darn o daith Sustrans 47 sy’n mynd o Ynysybwl i’r gogledd o Bontypridd trwyddo Coedwig Llanwonno (ble mae bedd/cofeb Guto Nyth Brân).
“Mae hwn yn mynd ar hyd ochr Cwm Rhondda Fach ac yn mynd i ben ucha’r Rhondda gan edrych lawr ar ffordd y Rhigos.”
Am ragor o fanylion am hanes Coedwig Llanwonno: https://www.cyclinguk.org/route/tales-trails-llanwonno-forest-short-route
Caffis
Dyma dri chaffi lleol sydd wedi codi blys ar Steff:
1. COCOS Aberdâr
2. Ground Control Coffee, Llanharan
3. Clwb Coffi, Tonypandy
Daniel Williams
Mae Dan hefyd yn frodor o’r gogledd, dyffryn Nantlle yn benodol, ond bellach yn byw yn y brifddinas ac yn aelod o glwb Ajax.
Dringfeydd
Tra’n sôn hefyd am y Bwlch a’r Rhigos, mae Dan hefyd yn pwyntio at ddringfa lai adnabyddus y gellid ei thaclo. Dringfa ydy hi o Aberdâr, tref fwyaf Rhondda Cynon Taf, gan esgyn hyd Ferndale. Mae hon hefyd wedi’i chynnwys ymysg dringfeydd Cymreig Simon Warren, dan yr enw Bryn Du. Mae’n ddringfa o tua 5.5km ar raddiant cyfartalog o 5%.
Mae Aberdâr tua 11 milltir o Bontypridd, a gellid defnyddio rhannau o Lwybr Cynon i bontio rhwng y ddau le ar ddwy olwyn.
Llwybrau
Mae’n anorfod sôn am Lwybr y Taf, sy’n pontio rhwng Caerdydd ac Aberhonddu, a hynny’n hwy na 50 milltir. Gwylier pa rannau ohoni fyddwch chi’n mentro arni, gan nad ydy’r arwyneb yn gyson. O gyfeiriad y de, ar ôl Pontypridd, mae’r llwybr yn ymuno a llwybrau eraill gan basio heibio Parc Treftadaeth Cwm Rhondda. Rhagor o fanylion yma: https://www.sustrans.org.uk/find-a-route-on-the-national-cycle-network/taff-trail-cardiff-to-brecon
“Mae coedwig Cwmcarn yn grêt; bach mwy ochrau Caerphilly. Mae lwp o 10km sydd wedi cael tarmac newydd felly ma posib mynd yno hefo beic lôn. Lot o ddringo.” Rhagor o fanylion yma: https://www.cwmcarnforest.co.uk/en/activities/CWMCARN-FOREST-DRIVE/. Mae’r goedwig hefyd yn fangre boblogaidd ymysg beicwyr mynydd. Mae Cwmcarn ryw 15 milltir o Bontypridd.
Caffis
“Os dwi’n mynd tuag at y Bontfaen dyma ydi fy cafe stop i: https://hareandhoundsbakery.com/ “
Mae’r Bontfaen ryw 12 milltir o Bontypridd.
“Os wyt ti’n mynd mwy ochrau Bwlch a Rhigos mae Scoops and Smiles yn grêt am hufen iâ ar ôl lot o ddringo.” Rhagor yma: https://www.instagram.com/scoopsndsmiles/
*
Gwibdaith drwy fro’r Eisteddfod a thu hwnt ar ddwy olwyn ar ben, gan obeithio y cewch chi fudd ohono ryw ben.
Diolch i’r panelwyr am eu hargymellion, a’u parodrwydd i roi o’u hamser i ymuno â mi bnawn dydd Iau.
Dewch i ddweud helo os fyddwch chi o gwmpas!
Y cyfan sydd ar ôl i’w ddweud felly yw mwynhewch yr ŵyl, pob hwyl ar y cystadlu, cymerwch ofal ym Maes B, etc etc…
Comentarios