Ers bron i dair blynedd bellach, mae Dafydd Llewelyn, Siân Northey, Manon Steffan Ros, Aled Jones a Bethan Gwanas wedi diddanu gwrandawyr Cymru â’u podlediad, Colli’r Plot, lle maen nhw’n dod ynghyd i drafod llyfrau.
Erbyn hyn, mae’n un o’r podlediadau mwyaf poblogaidd yn y Gymraeg.
Ond wrth drafod llyfrau, maen nhw’n aml yn mynd ar gyfeiliorn, neu’n dilyn trywydd pwrpasol, fel y gwnaethon nhw ym mhennod mis Hydref, ‘Hunan ofal wrth sgwennu’.
O wneud hynny, mi gawson ni gip yn y bennod honno ar apêl byd y beic i ddau o’r podledwyr, sef Aled a Bethan, a’r dihangdod y mae’n ei gynnig iddynt.
Mae Aled yn gweithio ym maes y cyfryngau digidol, a fo ydy sylfaenydd Y Pod, y gwasanaeth sy’n hel yr holl bodlediadau Cymraeg at ei gilydd a’u dosbarthu i’r holl blatfformau. Mae Bethan yn un o’n hawduron mwyaf toreithiog a mwyaf llwyddiannus, a hithau wedi ennill gwobr Tir na nÓg ddwywaith, ac wedi cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn.
Yn naturiol felly, mi wnes i neidio ar y cyfle i gael sgwrs efo nhw ychydig ddyddiau cyn y Nadolig.
Mewn sgwrs sy’n cwmpasu sefyllfa podlediadau a llyfrau yn y Gymraeg, llwyddiant Colli’r Plot, a rhoi ail fywyd i’r plentyn ynom ni ar feic, dwi’n gobeithio y gwnewch chi rannu’r mwynhad ges i o ddod i’w ’nabod nhw ychydig yn well.
Hefyd o ddiddordeb
Os ga’i gychwyn efo chi Aled; dwi isio gwybod am hanes sefydlu Y Pod - o le ddaeth o, a beth oedd y syniad tu ôl iddo fo?
ALED: O’n i’n gweithio i’r BBC a Radio Cymru’n bennaf ar y pryd, ac o’n i’n gwneud lot o waith gyda BBC Sounds. Nes i jyst meddwl bod pobl methu ffindio podlediadau Cymraeg, ac o ganlyniad i hynny, wnes i fynd at Betsan Powys, oedd yn gynhyrchydd ar y pryd, a gofyn os oedd hi’n meindio fi’n gwneud prosiect bach i weld pa bodlediadau oedd mas ’na, a’u rhoi nhw i gyd mewn un lle. Nes i ddarganfod bod ryw 28 neu 29 podlediad Cymraeg yn bodoli, felly nes i greu Y Pod fel prosiect personol i weld beth oedd mas ’na a’u tynnu nhw at ei gilydd, achos os ti’n mynd i Spotify neu Apple, ’ti methu dweud ‘dangos i fi bopeth sy’n bodoli’n Gymraeg’. Nes i adael Radio Cymru ar ddechrau’r pandemig a wedyn nes i fynd ati i ddatblygu Y Pod.
Erbyn hyn mae dros 200 o bodlediadau Cymraeg. Wrth i fi ddechrau datblygu nes i weld bod pobl jyst yn gwybod am y stwff hyn nawr ac wrth i bobl wybod amdanyn nhw, o’dd fwy o gynulleidfa, o’dd pobl efo mwy o hyder i ddechrau’u creu nhw, a ma’r ffigyrau wedi tyfu. O fewn chwe mis o’dd e ’di cynyddu i ryw 60 yn syth achos odd pobl fel, ‘o, ma pobl yn gallu ffindio ni’, a wedyn ’nath y pandemig fwrw a lot o bobl adre gydag amser yn gweld podlediadau’n tyfu.
Oes ’na unrhyw slump wedi bod ar ôl y pandemig?
ALED: Ma’r niferoedd sy’n cael eu cynhyrchu’n gyson yn llai dwi’n meddwl, ond o ran gwrandawyr, gyda ni ma’ ffigyrau Colli’r Plot jyst yn tyfu a thyfu gyda pob un pennod, sy’n dangos bod ’na gynulleidfa allan ’na a bod y gynulleidfa’n deyrngar ac yn gwrando ar bob un eiliad o’r podlediad sy’n grêt i weld.
Oedd gwneud yn siŵr bod y Gymraeg up to date yng nghyd-destun podlediadau ganddoch chi mewn golwg wrth gychwyn yr holl beth?
ALED: Rhwystredigaeth oedd e bo' fi methu jyst gweld popeth yn Gymraeg, a ’chi dal methu ’neud hwnna ar BBC Sounds. O’dd e’n rhywbeth o’n i’n rili brwydro amdano, trïo cael categori Cymraeg. Hwnna i fi yw’r peth; ’fi jyst isie gweld beth sydd ar gael yn fy iaith fy hun.
Roedd ganddoch chi ran yn rhoi’r wobr neu’r categori Cymraeg yn y British Podcast Awards, ac o’dd hwne’n beth mawr.
ALED: Ar ôl sefydlu’r Pod, nes i weld bod gwobrau Prydeinig, a nes i ddanfon tweet a gofyn, pam ddim yr iaith Gymraeg?, a ’naethon nhw ddod ’nôl yn dweud ‘o, ie, ok’, a nes i feddwl mai dyna fe. Ond wedyn nes i bwmpo mewn i’r ddau berson sy’n rhedeg e mewn cynhadledd podlediadau, ac oedden nhw’n dweud bo’ nhw rili lan amdano fe. Mae e’n briliant, mae e jyst yn rhoi platfform, a ma’ pobol y Deyrnas Unedig yn gallu gweld bod ’na iaith arall yn bodoli. I fi, dyle bod ’na ieithoedd er’ill, ond dydw i ddim yn mynd i frwydro am yr Alban ac Iwerddon, ma’ hwnna lan iddyn nhw!
Eleni, oedden nhw wedi gadael y categori Cymraeg i fynd, a wedyn o’dd bach o ffẁs amdano fe, a ’nath lot o fudiadau ddod fewn a dweud bod e’n warthus, ac o’dden nhw fel, ‘o, do’n i ddim yn gwybod pa mor bwysig oedd hwn’, ac ymddiheuro a rhoi e ’nôl mewn.
Tri uchaf y categori Cymraeg, British Podcast Awards 2023
Bethan, os gai droi atoch chi, mae ganddoch chi ddau lyfr newydd ma’ bobl yn gallu ga’l dros y ’Dolig ’ma, sef ‘Gladiatrix’ a’r gyfrol straeon byrion aml-gyfrannog, ‘Gwreiddio’.
BETHAN: Dwi ’di ’sgwennu un o’r straeon yn [Gwreiddio] a wedyn ddaeth Gladiatrix allan ar ôl Steddfod. Achos bo’ gen ti gymaint o lyfra’n dod allan ar gyfer Steddfod, weithie’ ma’n nhw’n gallu cael eu anghofio a’u boddi gan bethe’ er’ill. Ond wrth ddod â llyfr allan ar ôl Steddfod, ma bobol yn dal i drïo dal i fyny efo llyfra’ Steddfod, ’lly dwi’m yn gw’bod. ’Se’n well tase fo ’di dod allan yn Hydref ar gyfer y farchnad ’Dolig, ond y broblem ’di, ma’ siopa’ llyfra’ isio llyfra’ newydd allan yn gyson, dy’n nhw’m isio nhw i gyd mewn un peil. Ond dwi’n ca’l adolygiada’ go lew.
Ond y broblem ydi, be dwi ’di ffeindio allan ydi dydi bobl ifanc ddim yn darllen fel oedden nhw. Dwi’n meddwl rŵan, go iawn ’de ’den nhw ddim yn darllen o ran pleser. Yr ysgol ddwytha’ fues i iddi, yn sir Fôn, a fel dwi’n ’neud efo bob ysgol dwi’n mynd iddi dwi’n gofyn faint ohonach chi sy’n mwynhau darllen. Ti wastad yn ca’l o leia ryw hanner dwsin sydd, ti’n ca’l o leia ryw hanner dwsin sy’n casàu darllen a dwi’n ca’l hwyl yn trïo newid eu meddylia’ nhw. Ond tro’ma, dim llaw i fyny o gwbl i dd’eud bo’ nhw’n mwynhau darllen. Dwi’m yn gw’bod os o’dd rhai ohonan nhw ofn rhoi llaw i fyny i dd’eud bo’ nhw’n mwynhau darllen oherwydd bod o ddim yn cŵl, ond ges i sioc ’de.
Ond nid dim ond i bobl ifanc ’dech chi’n ’sgwennu; dwi’n ca’l y teimlad bod unrhyw un o unrhyw oed yn gallu darllen eich gwaith chi, achos ma ganddoch chi lot fawr iawn o lyfrau...
BETHAN: Oes ma gena’i ryw hanner cant rŵan, a ma hynna’n cynnwys addasiada’ hefyd, ond dwi’m ’di g’neud lot o addasiada’.
Nofel ddiweddaraf Bethan, 'Gladiatrix'. Gallwch ddarllen adolygiad Myfanwy Alexander ohoni ar wefan Nation Cymru drwy glicio yma. Gallwch brynu copi yn eich siop lyfrau leol neu ar gwales.com.
Ydi o’n beth bwriadol trïo ’sgwennu i bob oed neu ydi o’n rhywbeth sy’n dod yn naturiol efo’ch arddull ’sgwennu chi ’dech chi’n meddwl?
BETHAN: Y nofel gyntaf i mi ’sgwennu oedd ‘Amdani’ sef nofel am griw o ferched yn chwara’ rygbi ag o’dd hwnna’n benodol ar gyfer bobol ’yn oed i oedd ddim yn darllen llyfrau Cymraeg – o’n i 'yn ’nhridegau ar y pryd, ac o’n i’n darllen llyfrau Cymraeg a doedden nhw ddim, er bo’ nhw’n darllen llyfrau Saesneg, oherwydd yr iaith, yr arddull, y cynnwys, be’ bynnag. Felly nes i ddod a rhegi, rhyw, bob dim i fewn iddo fo, a mi weithiodd.
Mi ’nath rei o’r pwysigion sylwi bod pobl ifanc yn hoffi fy arddull i, oherwydd ’mod i’n ’sgwennu’n reit syml, a wedyn ges i gomisiwn i ’sgwennu ‘Llinyn Trôns’ ar gyfer yr arddegau, sydd ar y cwricwlwm... ker-ching diolch yn fawr! Pan sgwenn’is i o gynta’ mi gafodd o’i wrthod gan y panel oedd wedi’i gomisiynu fo oherwydd bo’ ’na ormod o regi, oeddan nhw wedi disgwyl rhywbeth mwy ‘safonol’, hynny yw, llenyddol. Holl bwynt y llyfr oedd denu bechgyn yn benodol oedd ddim yn set 1 i ddarllen llyfr... alli di ddim bod rhy llenyddol wedyn. Felly mi ’nath yr athrawon gwyno a d’eud ma’ hwn ’di’r union beth ’den ni isio felly aeth o ar y cwricwlwm. Dwi’n meddwl ’mod i ’di ennill gwobr Tir na nÓg yn 2001 a wedyn oedd o ar y cwricwlwm ryw flwyddyn neu ddwy wedyn... ma hwnna’n sbel dydi? Dwi’n ca’l pres bach neis bob blwyddyn gan Llinyn Trôns, achos ma’ plant yn malu’r llyfra’ a ma’r ysgolion angen set newydd... daliwch ati i falu’r llyfra’!
Ma’i’n anodd os ’ti jyst isio ’sgwennu llyfra’, a llyfra’ dwi’n fwynhau, ti’n gor’od ehangu, ti’n gor’od ’sgwennu i ’chydig bach o bawb. Ma’n well gena’i yr arddegau ac oedolion; ma’ plant bach yn anodd, dwi’n ffeindio.
Hefyd o ddiddordeb
Ma’ bobol yn dueddol o wneud y camgymeriad o feddwl bod ’sgwennu’n mynd yn haws wrth i’r gynulleidfa fynd yn hŷn, hynny yw bod ’sgwennu i oedolion yn gam i fyny o ’sgwennu i blant.
BETHAN: Ges i dwi’n cofio, pan o’n i ’di ’sgwennu dwy neu dair o nofela’, mi ’nath ’na ryw fardd, gaiff aros yn ddi-enw, ofyn i mi, “Pryd wyt ti’n mynd i ’sgwennu rhywbeth go iawn, Bethan?” Fuodd jyst iddo fo ga’l slap ’de!
Dwi’n licio ’sgwennu i ddysgwyr. Ma dysgwyr yn dueddol o fod yn bobl uffernol o glyfar, ’ti jyst isio dod â’r eirfa i lawr a’r patryma’ iaith a ballu. Ma’ hwnna’r un math o beth.
Ma’ isio i rywun ’neud ymchwil i weld os ydi dysgwyr yn prynu mwy o lyfrau na Cymry Cymraeg, a dwi’n siŵr bod ’na ganran uchel iawn o ddysgwyr yn gwrando ar bodlediadau.
Sôn am bodlediadau, o le daeth Colli’r Plot, sut mae o wedi llwyddo cystal a sut mae adeiladu cynulleidfa o gwmpas peth felly?
ALED: Dafydd Llewelyn sy’n gyfrifol am yr holl beth dwi’n meddwl. Ddaeth e lan ’da’r syniad. Daeth y pump ohonom ni at ein gilydd a recordio peilot, a pitch-o fe i’r BBC a gaethon ni’n gwrthod!
Fi’n rili falch achos mae e ’di golygu bo’ ni ’di cael rhyddid. Ni’n ca’l bach o arian gan y Cyngor Llyfrau i’w noddi fe, ond dyden nhw ddim yn dweud unrhyw beth wrthom ni’n olygyddol, a bydde’r BBC wedi. Mae e’n neis, ’ni jyst yn dod at ein gilydd a ca’l hwyl a siarad am lyfrau.
BETHAN: Ddar’u Dafydd ddewis ei fêts mewn ffordd. Y tro cynta’ i mi gyfarfod Dafydd oedd ym mhriodas ei chwaer o, ac mi wnaeth o’r araith briodas mwya’ hilairious dwi ’rioed ’di’i chlywed. Do’n i’m ’di dallt bod o’n ffrindia’ efo Siân a Manon, achos dwi’n ffrindia’ hefo nhw hefyd, ac o’dd o’n dy ’nabod di hefyd ’doedd Aled?
ALED: Ro’n i’n ei ’nabod e drwy gwaith, ond ie, ’naethon ni glicio’n syth.
BETHAN: Ar y dechra’ doeddan ni’m yn clywed llais Aled, achos ti oedd y person technegol ’de?
ALED: O’n i jyst yna’n gwasgu record!
BETHAN: Yn ara’ bach, ar’u ni ddechra’ gofyn dy farn di, do?
ALED: Do’n i’m yn darllen llyfrau Cymraeg chwaith [ar y pryd]. Wrth i fi glywed am y llyfrau, a dechrau’u darllen nhw, o’n i’n cael ymwneud fwy â’r podlediad.
’Ni’n gweld ffigyrau ni jyst yn tyfu, a nawr ’wi’n teimlo bod pobol yn deall be’ mae e amdano achos amser ma’n nhw’n rhoi llyfr ar Twitter neu Instagram neu r’wbeth ma’n nhw’n tagio Colli’r Plot, a dyna’r holl beth, rhoi platfform i lyfrau. Ma’r pedwar awdur isie hyrwyddo llyfrau pobol arall hefyd, a dyna’r nod, cael pobol i fynd i brynu llyfrau Cymraeg, er bo’ ni’n trafod llyfrau Saesneg hefyd.
BETHAN: Dwi’n gweld rôl Aled yn un ofnadwy o bwysig – ar wahân i bwyso record! – a golygu ambell beth gwirion allan, ond ’di hynny ddim yn digwydd yn aml, nac’di Aled?! Ti’m yn golygu lot nag wyt?
ALED: Na, ar ôl i fi wasgu stop ma’n nhw’n dweud pethe’ fi isie recordio, a cyn dechre’ ’fyd!
BETHAN: Ta waeth, ma’ dy rôl di fel rhywun oedd ddim yn darllen llyfrau Cymraeg ond drwy wrando arnom ni ’di dechrau gwneud a mwynhau, a’r ffaith bo’ ti’n dod o gefndir gwahanol mewn ffordd, nid jyst dy acen di, ’chos erbyn meddwl ma’ Dafydd, Manon, Siân a fi yn eitha’ dosbarth canol Cymreig, Gog, a ’den ni gyd efo cysylltiad efo sir Feirionnydd. A wedyn ma’ Aled yn dod â gogwydd arall i betha’ sy’n chwa o awyr iach.
Clawr y bennod ddiweddaraf o Colli'r Plot, 'Llyfrau'r Flwyddyn'
A mwydro ’dech chi mewn gwirionedd ynde – mae ’na gyfweliadau nawr ac yn y man, ond sgwrs naturiol ydy hi. Dwi’n ffeindio’i bod hi lot gwell gan bobol hynny, bo’ nhw’n cael mwy o gysur o hynny.
BETHAN: Mwydro ’den ni, a ma’ tynnu coes yn bwysig. Jyst efo llyfra’n rhyw fath o gefndir.
ALED: Ni’n trio ’neud thema hefyd, mi ’newn ni drïo ymateb i be’ ma’ bobol yn ddweud ar y cyfryngau cymdeithasol neu os oes rhywbeth yn digwydd yn y newyddion neu os oes rhywun wedi ennill gwobr neu rywbeth. Fel yr un hunan ofal wrth ’sgwennu – ni ddim yn dweud ‘dyma beth yw’r thema’, ni’n plethu fe mewn i’r sgwrs.
BETHAN: Hefyd dwi’n meddwl fod pobol yn licio clywed gonestrwydd, ac Aled, ti wnaeth ysbrydoli fi i fod yn onest iawn yn y fersiwn ddwytha’ [pennod Llyfrau’r Flwyddyn] achos wnest ti ddweud dy farn yn onest am lyfrau’r Steddfod... dewr! Ma Cymru’n wlad mor fach a ti’m isio pechu neb ond pan ma’ ’na le i wella... ma’ pawb yn canmol hwn a hwn ond nes i’m licio fo, a ma’n bwysig bod yn onest achos falle bo’ ’na bobol allan ’na’n cytuno efo fi. Ma’n uffernol o bwysig rhoi’r da a’r drwg, y cadarnhaol a’r negyddol, achos fel ’den ni ’di brofi’n enwedig yn y bennod ddwytha ’ma, ma’ ’na wahaniaeth barn anferthol.
Dwi’n cofio o’n i’n mynd yn rhwystredig weithia’ achos oedd ’na adolygiadau ar wefan Gwales.com, ac oeddan nhw’n dueddol o fod yn gadarnhaol yn unig, wedyn oeddet ti’n gorfod darllen rhwng y llinellau i weld os oedden nhw heb ei fwynhau o.
ALED: Ma’ rhaid deall hefyd fod rhai llyfrau’n gweithio mewn sefyllfa benodol, dibynnu ar ba hwyliau chi ynddo hefyd. Os dwi heb hoffi llyfr, falle bod e achos bo’ fi yn y lle anghywir yn darllen e, yn feddyliol ac yn gorfforol.
Ma’ adolygiadau a beirniadaeth yn beth diddorol, ac yn bwysig. Ond dwi wastad ofn rhoi tair seren i lyfr yn gyhoeddus ar Goodreads neu rywbeth, jyst achos fod fy enw i yno.
BETHAN: Dwi’n gw’bod am rywun sy’n gw’bod bod rhywun ma'i’n ’nabod yn dda iawn wedi rhoi un seren iddi ar Goodreads. Pawb at y peth y bo, ond neith hi’m anghofio!
Ges inna’ adolygiadau eitha... ers talwm, Gwrach y Gwyllt dwi’n cofio. Wnai’m enwi neb, ond... ydw i ’di maddau?! Ma’ Haf Llewelyn yn d’eud weithia’ am Roddy Doyle; o’dd o ’di ca’l beirniadaeth wael gan rywun oedd o ddim yn ’nabod, ond ryw ddiwrnod mi ’nath o’i gyfarfod o. ’Nath o’m d’eud dim byd, “but, one day, I will kill him”!
Dwi’m yn gw’bod os ydi pob awdur fath’a fi, ond os oes ’na rywun wedi rhoi un seren i mi, dwi’n mynd drwy’u hanes nhw! Os ’den nhw wedi rhoi pump i fi o’r blaen, digon teg, dio’m byd personol!
I droi at fyd y beic, ydech chi wastad wedi seiclo Aled?
ALED: Fi jyst yn caru beics dwi’n meddwl, erioed. Dwi wastad wedi seiclo, ges i gyfnod heb seiclo, ryw chwe mlynedd ar ddiwedd fy ugeiniau. Dwi ddim yn meddwl am y peth, dwi jyst yn seiclo. O’n i’n ’neud lot o feicio mynydd; o’n i’n byw ym Mhontypridd, ac o’n i’n gallu mynd lan y mynydd tu ôl i’r tŷ bob nos ar ôl gwaith. Wedyn nes i symud i le dwi’n byw nawr yn y Fro, a ’sdim mynyddoedd, a nes i brynu beic heol.
O’dd ’na blymer yma ac o’dd e’n dweud faint o wattage oedd e’n ’neud, a gofyn i fi faint o’n i’n ’neud. Fi ddim yn ’neud e o ran stats, ’dyw hwnna ddim yn apelio i fi, fi ’di tynnu’r speedo a popeth oddi ar y beic achos fi jyst isie mynd. Fi yn recordio fe i roi ar Strava os dwi ’di mynd i rywle gwahanol, i gofio lle ’fi di bod, ond dwi ddim yn mynd allan a ’neud interval training, dwi jyst yn hoffi mynd mor bell â fi isie mynd. Ma ’ngwraig i’n gofyn lle ’fi’n mynd ar y beic, a dwi’n dweud “’fi ddim yn gw’bod.” Ma ’nhrwyn i’n arwain y ffordd.
’Fi ’di ’neud lot o heriau beicio, sportives a pethe’. Fi’n dwlu ’neud yr un Tour of Pembrokeshire, ma hwnna’n daith arbennig. ’Nes i’r Carten [Cardiff-Tenby] amser oedd 300 o bobol yn ’neud e, blynydde’ a blynydde’ yn ôl, ’fi ’di ’neud rhai yn Gwent, y Velothon, Dragon Ride...
Mae e ’di dod i bwynt nawr lle ma’ ’da fi griw o ffrindiau, yn gofyn, ‘beth am fynd bant un noson?’, neu falle bo’ ni jyst yn seiclo i r’wle, cael noson mas a dod ’nôl. Be ni’n trïo ’neud bob blwyddyn yw ca’l y trên i ogledd Cymru, a wedyn ma’ dou neu dri o’ ni jyst yn seiclo’n ôl, dros ddau neu dri diwrnod fel arfer. Ni ’di mynd o Gaergybi i Bontypridd, o Gonwy, Wrecsam... a mynd ar heolydd byddet ti ddim yn mynd yn y car, ’da gatiau ac ati.
Be’ amdanoch chi Bethan?
BETHAN: Ers yn blentyn, dwi wrth fy modd yn beicio, ond ches i’m beic am flynyddoedd. Dwi’n cofio cael beic tair olwyn am ’chydig, ond o’n i jyst â marw isio Chopper achos hwnnw oedd yn cŵl. Ond “beics bechgyn ’den nhw Bethan, ti’m yn ca’l Chopper”, felly be o’n i’n ga’l o’dd beic ail law o’r mart gan Siôn Corn. Dwi’n cofio ca’l Raleigh 20 tri gêr efo basged yn y cefn, ac olwynion bach, ac mi gafodd y beic yna’i hamro. Mynd i Dolgellau ma’ ’na goblyn o allt, os ti’n trïo mynd fyny fanno efo beic tri gêr a basged ar y cefn...! Ond o’n i dal wrth ’y modd.
O’n i’n licio beicio, ond do’dd 'yn ffrindiau fi ddim, felly peth jyst fi o’dd o am flynyddoedd. Pan o’n i’n gweithio yng Nghaerdydd a mynd i’r gwaith ar y racer ’ma o’dd gena’i, do’dd ’na neb arall yn beicio. Swn i ’di gwneud lot mwy o feicio taswn i ’di ffeindio rywun arall oedd yn beicio, ond o’dd o jyst yn rhywbeth unig braidd. Dwi’n diawlio hynny braidd achos dwi’n ffeindio allan rŵan bod bobl eraill yn beicio ar y pryd, ond doeddan ni methu ffeindio’n gilydd. Doedd na’m cyfryngau cymdeithasol nag oedd.
Ers hynny, dwi ’di ffeindio ffrindia’ sy’n licio beicio, ac mi gaethon nhw e-feics, ac o’n i’n gwrthod cael un. Ond dwi ’di cal un wan a ma’r peth gora’ erioed, ’chos ti’n gallu mynd gymaint pellach. Ti’n gorfod cadw golwg ar dy fatris, ond o, ’den ni’n cael hwyl ’de; o Ben Llŷn ma’r ddwy arall felly un ai dwi’n mynd atyn nhw neu ma’n nhw’n dod ata i. Ond hefyd ma’ ’na rywbeth o’r enw Breeze Ladies. Peth Prydeinig ydi o; am bo’ ’na gymaint fwy o ddynion yn beicio na merched, o’ddan nhw isio mwy o ferched ar feics. O’dd ’na griw ohonyn nhw yn Coed y Brenin, ac o’n i ’di bod ar ben ’yn hun, ond o’r diwedd oedd gena’i rywun yr un lefel. Wel, o’n i yn fy elfen! Am bo’ fi ’di bod yn tomboy erioed a bo’ fi’n adrenaline freak, a’r ffaith bo’ fi efo criw oedd yn gw’bod lle o’dden ni’n mynd a be o’dden nhw’n ’neud, haleliwia! Dyma’r bywyd i mi!
Hefyd o ddiddordeb
Dwi ’di darganfod y criw ’ma; fues i’n beicio yn Mynydd Llandegai yn y gwynt a’r glaw. Aethon ni ddim mor bell ag oedden ni fod i fynd achos o’dden ni fod i fynd i Deiniolen a Dinorwig a ballu, ond aethon ni jyst rownd Mynydd Llandegai a ca’l mins peis yn nhŷ un o’r merched. Ma’n ffordd ffantastig o gyfarfod bobol a cymdeithasu a mwynhau bod ar feic... e-feic yn fy achos i bellach!
ALED: O’n i’n licio be oeddet ti’n ddweud am fod yn adrenaline freak... dwi’n meddwl bo’ ti’n gallu d’eud pwy oedd heb seiclo pan oedden nhw’n blentyn achos ma’ lot o bobol yn mynd heibio i fi ar y fflat neu lan y tyle, ond unwaith ’fi’n mynd lawr y tyle, ma’ rhywbeth meddyliol... ma’ bobol yn mynd “mam bach, ma rhywbeth yn bod ’da ti!” Ti jyst yn gallu mynd on’d dwyt ti, achos amser o’t ti’n blentyn, doeddet ti’m yn becso o gwbl, a ma’ hwnna yn y meddwl wedyn. Fi’n credu bod pobol sy’ ’di dod at seiclo’n hŷn yn lot mwy gofalus.
BETHAN: ’Ti ’di rhoi dy fys arno fo. Dwi newydd fod ar wyliau beicio yn Albania – criw amrywiol, ffantastig. Odd ’na foi’n gweithio i BT, a fo a fi oedd yn licio’r downhills, ac oedden ni’n mynd yr un sbîd. Fyse rhywun heb feicio’n blentyn yn meddwl bo’ ni’n boncyrs, ond o, yr hwyl!
Yn ddiddorol, pan ma’ rywun yn rhoi gwersi i ti ar sut i fynd lawr allt, rhoi dy ben-glin i fyny a ballu... ’nath na neb ddysgu ni i ’neud hynna pan yn blant, o’ddan ni jyst yn ’neud o’n naturiol.
Elfen arall i fi, o’ddwn i’n chwara’ rygbi ar un cyfnod a malu rhanna’ o ’nghorff ac erbyn hyn ma gena’i broblemau cymalau a dwi’n cerdded fel ’chwadan ond yn beicio fel alarch... yn fy meddwl bach i!
Bethan ar ei beic yn Albania.
Mi wna’i gloi gan ofyn i chi lle ydi’ch hoff le chi i fynd ar feic, ac oes ganddoch chi unrhyw gynlluniau i fynd i seiclo yn y flwyddyn i ddod?
ALED: Ma’ lot o reids dwi’n hoff iawn o wneud. Ma’ o ’nhŷ i i dop y bwlch yn awr a’r rhan fwya’ o hwnna ar cycle trails felly ma hwnna’n reit neis, pan ma’ dau neu dri o’ chi ar llwybr chi’n gallu siarad. Dwi’n ffodus hefyd yn byw’n agos at Aberogwr, a ma’ llwyth o bobol yn dod yma i seiclo bob penwythnos. ’Fi o Rydaman yn wreiddiol felly ’fi’n ’nabod y mynyddoedd rownd ffor’na. Jyst llefydd bach randym rili o gwmpas de Cymru.
Yn 2024 ’ni’n mynd i Fflandyrs i wylio’r rasio yn fan’na, gan obeithio dal y cyclocross mas ’na hefyd. Ma’ ffrind i fi’n seiclo dros y cyfandir i gyd, ma’ ’da fe dŷ yng Ngwlad Pwyl yn Gdánsk. Nath e seiclo o Croatia drwy pump neu chwech gwlad, wyth neu naw can milltir. Mae e wastad yn gofyn i mi fynd gyda fe, a dwi’n credu bod e’n mynd i ymddeol felly fi’n credu bo’ ni am wneud wythnos rhywle ar y cyfandir, mynyddoedd mawr yn yr Alpau neu rywbeth, a gorffen yng Ngwlad Pwyl.
BETHAN: Dwi wrth fy modd yng Nghoed y Brenin, ti’n gallu mynd yno yn bob tywydd dwyt bron; allith hi fod yn uffernol ar lwybr Mawddach ond ti’n iawn yn Ganllwyd achos ma’r holl goed ’na’n dy guddio di. Mae o’n ffefryn a dwi’n hoffi cyflwyno’r lle i feicwyr newydd yn ’y mywyd i neu blant. Dwi yn licio cyflwyno sir Feirionnydd i ffrindia’, fyny am Gregennan wrth fy modd, topia’ Llanfachreth. Os oes gena’i ryw awran a’i fyny am Llanfachreth rownd y bloc; mae o fath’a gwe pry cop, ti’n gallu mynd unrhyw ffordd fyny neu lawr, ac am bod gena’i deiars beic mynydd dwi’n gallu mynd drwy’r coed, afonydd, be’ bynnag, sy’n dod â’r plentyn allan ohona’i eto.
*
Mae’n sgwrs ni’n mynd ar gyfeiliorn wrth drafod cynlluniau Bethan i fynd i dde Affrica i seiclo yn 2024, a sôn am ei thaith yn Thailand rai blynyddoedd yn ôl.
Felly, yng ngwir ysbryd Colli’r Plot, mi wnaethon ni rannu ambell argymhelliad â’n gilydd am gyfrolau seiclo sy’n olrhain gwahanol deithiau.
Hefyd o ddiddordeb
Aled
Hanes taith un athro i’r India i godi arian at elusen, wedi iddo ddod o dan bwysau gan ei ddisgyblion.
Cadw’r môr ar ei ochr dde oedd bwriad Mike Carter wrth adael ei swyddfa’n llwythog i gyd, a chychwyn ar daith pum mis o amgylch Prydain.
Bethan
Cyfrol ar sail dyddiaduron dyddiol ysgrifennodd yr awdur ar ei thaith ym 1963 ar draws Persia, Afghanistan a thros yr Himalayas i India a Pakistan, gyda rifolfer ym mhoced ei throwsus.
Gruffudd
Cyfrol yn olrhain taith yr awdures ar draws y dwyrain canol i geisio dysgu mwy am y rhanbarth a’i pherthynas â gweddill y byd, wrth i ryfel Syria rygnu ’mlaen.
Gan awdur toreithiog a elwir yn Bill Bryson ar olwynion, dyma daith Tim Moore yn mynd yn ôl mewn amser i brofi Vuelta a España 1941.
*
Cofiwch fod modd mynd drwy gatalog podlediadau Cymraeg, a gweithio’ch ffordd drwy holl benodau Colli’r Plot, drwy fynd i wefan ypod.cymru.
Diolch o galon i Aled a Bethan am roi o’u hamser ac am sgwrs hynod ddifyr, ac i chithau am ddarllen.
Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd!
Comments