*Dim nawdd, hysbyseb nag affiliate links yn rhan o'r gofnod.
** PRISIAU'N GYWIR 6ED O HYDREF, 2019
Rydym ni 'gyd fel seiclwyr yn llwyr ymwybodol nad yw'r gwario ar seiclo'n dod i ben wedi ichi brynu'ch beic.
A bod yn hollol onest, mae seiclo'n gamp drud ac mae'n gallu bod yn anodd gwybod faint sydd angen ei wario er mwyn cael y safon disgwyliedig.
Ond peidiwch a phoeni rhagor, dyma restr o bedwar brand y dylech chi eu hystyried wrth geisio chwilio am y gwerth-am-arian gorau posib, heb fod mewn unrhyw drefn benodol.
‘PBK’ gan ProBikeKit
Chwith: Crys PBK Montagna (ddim yn cael ei werthu erbyn hyn)
Dde: Crys llewys hir PBK Vello ar y Cambrian Coast 2018
Mae'n siwr fod 'in-house brand' ProBikeKit yn anghyfarwydd i nifer, ond mae safon eu cynnyrch yn wych a hynny am brisiau rhesymol iawn.
Dwi'n berchen a chrys llewys-byr, crys llewys-hir a gilet (siaced wynt di-lewys) ar hyn o bryd ac mae safon y tri eitem yn ganmoliadwy iawn, ond nid ydw i wedi cael cystal hwyl gyda'u bib-shorts.
Mae'r crys llewys-hir yn enwedig yn ardderchog ar y cyfan (uchder y pocedi yn angen peth hyblygrwydd) - mi fum yn ei wisgo gyda base layer cynnes yn unig am y rhan fwyaf o'r gaeaf diwethaf gyda thymhereddau ymhell i mewn i'r ffigyrau sengl, yn ogystal a chyda base layer tenau 'mesh' hyd at ryw bymtheg gradd.
Mae’r maint XS bellach ychydig yn fach i mi, ond dwi’n awyddus i’w brynu eto mewn maint mwy. Roedd y crys yma'n rhan o fy nghofnod blaenorol ar ddillad gaeaf ar gyllideb.
Mae eu casgliad bron drwy'r amser ar gael ar bris gostyngedig - ar hyn o bryd mae eu gilets ar gael am lai na £15, crysau’n amrywio o £15 i £43, siorts rhwng £30 a £60 a manion eraill fel sanau a menyg am lai na £10.
Opsiynau cyfartal i’r dynion ac i’r menywod.
Galibier
Brand ddarganfyddais drwy sianel YouTube ‘doyleyburger‘ sydd yn cynnig dillad o ansawdd uchel am brisiau rhesymol iawn.
Drwy’r hydref a’r gaeaf, dwi’n defnyddio’u ’headband’ i gadw ‘nghlustiau’n gynnes heb fod angen am falaclafa, tra ‘mod i’n defnyddio’u cap glaw drwy’r flwyddyn.
Ar bocedi eu crysau mae ganddynt batrwm unigryw... bu imi anfon eu crys ‘Ardennes’ yn ol am nad oedd, yn syml, at fy nant. Fodd bynnag, roedd safon a ‘fit‘ y crys yn ardderchog.
Yn sicr, maent yn arbenigo mewn dillad ar gyfer y gaeaf. Eu siacedi ‘Mistral‘ sydd wedi taro tant nifer enfawr o bobl, boed hwnnw’n y ‘Pro’ neu’r ‘Foul Weather’.
Mae’r ‘Foul Weather’ yn costio £72 - dim yn fargen o bell ffordd - ond mae safon y crys, yn ol road.cc, yn gymaradwy i rai deirgwaith y pris gan Sportful neu Castelli.
Opsiynau’n agos at fod yn gyfartal i ddynion a menywod.
‘Triban’ a ‘Van Rysel’ gan Decathlon
Siop sy’n cynnig nwyddau a dillad i bob camp sydd gan Decathlon, ac mae eu hystod i seiclwyr - fel popeth arall yn y siop - yn cynnig gwerth am arian gwych.
Mae eu beiciau ffordd yn cychwyn o £200 ac yn ymestyn hyd at £3500 a’u dillad ddim yn mynd heibio ryw £55 - felly rhywbeth i bawb.
Flwyddyn diwethaf, holltodd Decathlon eu hystod ‘B’Twin’ yn ddau, ‘Triban’ wedi’i anelu at ddechreuwyr a ‘Van Rysel’ at y reidwyr mwy profiadol.
Dwi’n cyfaddef nad ydw i wedi prynu unrhywbeth seiclo o Decathlon, ond dwi’n berchen a phar o esgidiau pel-droed Kipsta - ac os ydy safon rheiny ‘anything to go by’ mi ddylai eu hystod seiclo fod yn dda hefyd.
Mae Van Rysel yn darparu dillad i dim dan 23 AG2R La Mondiale ac mae adolygiadau yn gadarnhaol yn gyson mewn cylchgronnau fel CyclingPlus ac ar wefanau fel road.cc.
Opsiynau cyfartal i ddynion a menywod.
’DHB’ gan Wiggle/Chain Reaction
Chwith: Y ddau ohonon ni’n gwisgo crysau dhb yn Andalucia.
Dde: dhb Blok llewys hir
Y ddau lun wedi’u cymryd pan o’n i dipyn yn iau!
Ar gael o Wiggle neu Chain Reaction Cycles (da i ddim os nad ydech chi’n siopa ar-lein...) mae dhb yn frand poblogaidd iawn yn ein ty ni.
Mae gan bob un o’r pedwar ohonom ni un ai ‘bib-shorts’, ’bib-tights’ neu ‘bib-3/4’ gan dhb, ac mi rydw i a Mam yn berchen a chrysau hefyd.
Dwi wrth fy modd gyda fy bib-shorts, maen nhw’n gyfforddus a dwi wedi’u defnyddio nhw droeon a thro, tra bo fy nghrys llewys-byr a chrys llewys-hir hefyd yn plesio’n arw.
Mae eu hystod wedi‘u rhannu i gategoriau gwahanol o ran ‘fit’ - ‘Active’, ‘Performance’ a ‘Professional’.
Mae‘r prisiau’n codi yn y drefn hwnnw’n amlwg, gyda’r ystod ‘Professional’ yn darparu ar gyfer tim Prydeinig Canyon-dhb p/b Bloorhomes.
Credaf fod rhywbeth i bawb gan dhb, a‘r rheiny i gyd yn cynnig safon ardderchog am brisiau rhesymol.
Opsiynau cyfartal i ddynion a menywod.
Comments