Pennod sydd rhywfaint yn wahanol yr wythnos yma i'r ddau ddiwethaf; rhagolwg o benwythnos agoriadol y clasuron sydd gen i ichi heddiw.
Beth yw'r Penwythnos Agoriadol?
Mae'r penwythnos agoriadol ('Openingsweekend') yn cynnwys y ddwy ras sy'n cychwyn tymor y clasuron undydd yn y byd seiclo proffesiynol. Ddydd Sadwrn, mae Omloop Het Nieuwsblad ac i ddilyn ddydd Sul mae Kuurne-Brussels-Kuurne.
Dyma bopeth sydd angen ichi'i wybod.
* ME = Men Elite / WE = Women Elite
Y PARCOURS
OMLOOP HET NIEUWSBLAD
Proffiliau OHN2021: ME ar y top a WE oddi tano
Dydy'r parcours heb cael ei ryddhau'n swyddogol eto gan y trefnwyr Flanders Classics, ond wedi peth chwilota mi ddois i o hyd i'r routes a'r proffiliau ar wefan tim Movistar.
Mae'r rhan fwyaf allweddol o'r rasys - wedi'i huwcholeuo mewn coch ar y proffiliau - yn unfath ar gyfer y dynion a'r menywod.
Mae'r dihangiadau llwyddiannus fel arfer yn cael eu ffurfio'n ddigon pell i ffwrdd o'r llinell derfyn (70km ar ol llynnedd yn ras y dynion, er enghraifft), ond mae'r broses o ddethol yr ennillydd yn digwydd ar y dringfeydd coblog byrion (hellingen).
Yn eu plith mae'r Wolvberg gyda 52km i fynd, Molenberg gyda 42km i fynd, Berendries gyda 31km i fynd, Elverenberg-Vossenbol gyda 28km i fynd, y Muur gydag 17km i fynd a'r Bosberg gydag 13km i fynd.
Tywydd
Mae'r tywydd yn argoeli'n ffafriol - yn sych a braf.
Gwynt
Gan ddefnyddio gwasanaeth MyWindsock, rydw i wedi darganfod fod penwynt/blaenwynt (headwind) - wedi'i gynrychioli gan y lliw coch/piws -ar gyfer y rhan helaeth o'r 30km olaf sydd ar y map. Mae'n bur annhebygol o fod yn ddigon cryf i gael ddylanwad sylweddol - bydd disgwyl bod y grwp terfynol wedi'i sefydlu eisoes.
KUURNE-BRUSSELS-KUURNE
Ras i'r dynion yn unig yn anffodus, ac eto nid oes proffil wedi'i ryddhau'n unlle. Fodd bynnag, mae disgwyl i'r 50km olaf ddilyn y blynyddoedd diwethaf sef gwastad.
Er fod hwn yn cael ei alw'n glasur i'r gwibwyr gan rai, yn y ddwy flynedd ddiwethaf mae tactegau Deceuninck-Quickstep wedi darparu buddugoliaethau unigol i Bob Jungels yn 2019 (bellach wedi symud i AG2R Citroen) a Kasper Asgreen. Mae'r ddau wedi profi eu gallu yn erbyn y cloc, rhinwedd sy'n allweddol i lwyddiant wrth ymosod ar eich pen eich hun.
Tywydd
Y rhagolygon yn rhagweld diwrnod sych a braf.
DARLLEDIAD
Wedi pryder yn gynharach yn yr wythnos na fyddai'r rasys yn cael eu darlledu yn y DG oherwydd prisiau a chymhlethdodau pecyn hawliau Flanders Classics, daeth y newyddion ardderchog ddydd Mercher fod Eurosport/GCN wedi llwyddo i hawlio'r gallu i'w darlledu. Braf gweld eu bod nhw'n ymrwymo i ddangos y rasys.
OHN ME Sadwrn 27/2
Ar lein: Eurosport Player / GCN+ rhwng 13:00 a 15:25
OHN WE Sadwrn 27/2
Ar lein: Eurosport Player / GCN+ rhwng 15:40 a 16:40
KBK Sul 28/2
Teledu: Eurosport 1 rhwng 13:30 a 15:30
Ar-lein: Eurosport Player / GCN+ rhwng 13:30 a 15:30
FFEFRYNNAU (ME)
Noder fod y rhan fwyaf o dimau'n dewis yr un carfan i'r ddwy ras - ond..
* = Omloop Het Nieuwsblad yn unig
** = Kuurne Brussels Kuurne yn unig
Y timau a'u henwau mawr
Trek: Stuyven, Pedersen, Theuns
Quickstep: Alaphilippe*, Asgreen, Ballerini*, Declercq*, Lampaert, Senechal*, Stybar, Hodeg**
Lotto: Gilbert*, Wellens*, Degenkolb**
AG2R: van Avermaet, Naesen
Bahrain: Teuns, Colbrelli
Bora: Politt
Cofidis: Laporte
EF: Keukeleire, Hofland, Langeveld, Valgren**
Groupama FDJ: Kung, Stewart*, Demare**
Ineos: Doull, Moscon, Narvaez, Pidcock
Israel: Vanmarcke*, van Asbroeck, Hofstetter**
DSM: Benoot, Kragh Andersen
Qhubeka-Assos: Wisniowski
UAE: Kristoff, Trentin
Alpecin-Fenix: Dillier, Philipsen, van der Poel**
B&B Hotels KTM: Debusschere, Coquard
Arkea Samsic: Russo*
Total Direct Energie: Terpstra, Boasson Hagen
Ail-adrodd yr hyn ddigwyddodd llynnedd?
Yn Omloop llynnedd, hidliwyd grwp blaen i lawr i 2 ar y ddau ddringfa olaf, y Muur a'r Bosberg. Jasper Stuyven (Trek-Segafredo) wibiodd o flaen Yves Lampaert (Deceuninck-Quickstep) i'r fuddugoliaeth bryd hynny, ac mae'r ddau'n dychwelyd eleni.
Y tu ol iddyn nhw yn ymlid yn unigol oedd Soren Kragh Andersen a Matteo Trentin o flaen y prif grwp oedd yn cynnwys nifer o'r rhai sy'n dychwelyd eleni (gweler rhestr reidwyr uchod).
O ran Kuurne-Bruxelles-Kuurne, bydd Deceuninck-Quickstep yn sicr yn awyddus i ailadrodd eu llwyddiant yn y ddwy flynedd ddiwethaf. Maent wedi dewis tim sy'n cynnwys y deiliad Kasper Asgreen a nifer o arbenigwyr clasuron o'r fath, ond hefyd opsiwn i'r wib yn Alvaro Hodeg.
Ras gyntaf AG2R Citroen fel tim clasuron
Yn enwedig yn Omloop ddydd Sadwrn, bydd AG2R Citroen heb os yn awyddus i gael cychwyn cryf wedi iddynt adeiladu carfan gref o gwmpas y clasuron coblog. Y pencampwr Olympaidd, Greg van Avermaet, yr ennillydd yn 2016 a 2017 ac Oliver Naesen fydd yn ymgymryd a'r her.
Reidwyr sy'n ffafrio'r bryniau'n fwy i lwyddo?
Mae rhai o'r reidwyr sy'n dueddol o ffafrio'r bryniau (Ardennes etc) yn hytrach na chlasuron gwlad Belg ymysg y ffefrynnau ar gyfer Omloop. Yn eu plith, mae pencampwr y byd Julian Alaphilippe, sydd eisoes wedi ennill La Fleche Wallonne, Strade Bianche a Milano-Sanremo. Mae'n ymddangos ei fod wedi bod yn canolbwyntio ar ddringo'n y mynyddoedd (gweler Ventoux yn Tour de la Provence), felly diddorol yw gweld ei enw ar rhestr ddechrau Omloop. Reidiwr cyflawn ac amryddawn, sy'n hoff o ddifyrru. Un arall yw Tim Wellens, sy'n arbenigo yn rasys cymalau'r adeg yma o'r flwyddyn (Besseges eleni a Andalucia'n y gorffennol), ond falle ddim yn cael ei adnabod fel rhywun sy'n ffefryn ar gyfer y math yma o ras, yn debyg i Dylan Teuns o Bahrain-Victorious.
Y reidwyr ifanc i serennu?
Mae 'na lu o reidwyr ifanc all serennu. Yr un a'r proffil uchaf, heb os, yw reidiwr ifanc Ineos, Tom Pidcock, argyhoeddodd yn y rasys seiclo traws yn erbyn Mathieu van der Poel a Wout van Aert eleni. Mae disgwyliadau uchel am ei allu yma yn sgil hynny; y rhinweddau o ymdrechion caled, byr ac hefyd ymdrechion tebyg i rai yn erbyn y cloc. Yn Omloop, bydd Groupama-FDJ yn rhoi hyder yn Jake Stewart, Sais ifanc arall brofodd ei allu ar ddringfeydd byr yn Etoile de Besseges. O ran Lotto-Soudal, mae ganddyn nhw ddau rediwr ifanc sydd wedi'i profi'r hyn gallen nhw neud yn y rasys dan 23 - Brent van Moer a Florian Vermeersch. Cadwch lygad ar Jonas Rutsch o dim EF Nippo hefyd. Ac un sydd a gobeithion am Fflandrys a Roubaix yn y dyfodol yw reidiwr ifanc Trek-Segafredo, Charlie Quarterman, yn ei flwyddyn gyntaf fel rasiwr proffesiynol.
Y gwibwyr i gyrraedd y brig ddydd Sul?
O edrych ar y rhestr ddechrau i KBK ddydd Sul, mae'n ymddangos fel fod nifer o'r timau yn ymroi tuag at wib glwstwr ar ddiwedd y cymal. Gwibwyr fel Arnaud Demare, sydd eto i danio o ddifrif yn 2021; Hodeg, Colbrelli, Degenkolb, Hofland, Hofstetter, Kristoff, Philipsen a Boasson Hagen.
MvdP i gynnal record 100%?
Iawn, dim ond un diwrnod o rasio mae Mathieu van der Poel wedi'i wneud - hynny ar cymal cyntaf taith yr Emeradau Arabaidd Unedig ddydd Sul, ac yntau'n curo David Dekker i'r fuddugoliaeth. Hedfanodd o adref wedyn yn sgil achosion Covid-19 o fewn y garfan, ond tybed a fydd jetlag yn amharu ar ei obeithion o ennill KBK ddydd Sul?
Beth am y Cymry?
Braf yw gweld enwau Cymry Cymraeg ar y rhestr ddechrau i'r ddwy ras. Stevie Williams o Geredigion yn rhan o Bahrain-Victorious, ac Owain Doull o Gaerdydd yn nhim Ineos. Gorffennodd Doull yn ail yn Kuurne-Brussels-Kuurne yn 2018 tu ol i Bob Jungels - a gallwn obeithio bod y gallu ynddo i fynd gam ymhellach. Siomedig yw absenoldeb Luke Rowe wrth iddo barhau i ymadfer wedi dos go wael o Covid-19 cyn y Nadolig.
FFEFRYNNAU (WE)
Y timau a'u henwau mawr
Movistar: van Vleuten, Norsgaard
Liv: Kopecky
Ale: Bastianelli, Garcia
Canyon SRAM: Barnes, Niewiadoma
FDJ: Ludwig, Chapman
BikeExchange: Roy, Spratt, Brown
DSM: Mackaij, Lippert, Wiebes
SD Worx: D'Hoore, Majerus, Vollering, Pieters, van der Breggen, van den Broek-Blaak
Trek: Deignan, Longo Borghini, van Dijk
Ceratizit-WNT: Banks
Ras gyntaf van Vleuten yn lifrai Movistar
Deiliad coron Omloop Het Nieuwsblad yw Annemiek van Vleuten. Ennillodd hi llynnedd ar ddechrau rhediad o bum buddugoliaeth o'r bron. Eleni, mae hi wedi symud i dim Movistar wedi bod yn Mitchelton-Scott (Bike-Exchange erbyn hyn) ers 2016. Gan wybod pa mor gryf ydyw hi, yn enwedig yn gynnar yn y tymor, synnwn i ddim pe bai hynny'n amharu dim arni. Fodd bynnag, mae hi'n nesau at hydref ei gyrfa bellach a hithau'n 38 oed.
Cryfder SD-Worx
Un o'r timau hynny sy'n gallu rhoi carfan o chwe reidiwr a phob un ohonynt yn ddigon abl i ennill y ras. Anna van der Breggen, pencampwraig y byd, fydd yn gobeithio dechrau 2021 cyn gryfed a gorffennodd hi 2020. Demi Vollering, reidwraig ifanc sy'n newydd i'r tim, fydd yn cael profiad mewn tim fel hyn am y tro cyntaf wedi rhyddid unigol yn Parkhotel Valkenburg. Jolien d'Hoore a Christine Majerus fydd yn anodd i'w curo mewn gwib. Chantal van den Broek-Blaak, fydd yn gobeithio adeiladu ar fuddugoliaeth yn De Ronde van Vlaanderen yn yr hydref. Ac yn olaf, Amy Pieters, fydd yn awyddus i drosi podiwm a phump uchaf yn y blynyddoedd diwethaf yn fuddugoliaethau nodedig. Falle bod peth pwysau ar y tim, oherwydd eu cryfder, i ennill, a bod gormod o reidwyr yn anelu tuag at yr un targed. Cawn weld sut bydd y dynameg yn gweithio.
Ysbryd Trek yn darparu buddugoliaeth?
Mae reidwyr Trek-Segafredo yn canmol yr ysbryd o fewn y garfan yn aml, ac yn credu'n gryf fod hynny'n rhan allweddol o'u llwyddiant. Bu llwyddiant cyson iddynt yn 2020, yn bennaf drwy Lizzie Deignan yn ennill yn La Course, Liege a GP Plouay. Cofier hefyd fod Elisa Longo Borghini ac Ellen van Dijk yn rhan bwysig o'i llwyddiant, a hwythau'n sicr yn abl i ennill drostyn nhw'u hunain hefyd.
Canyon-SRAM yn dal i chwilio am fuddugoliaeth
Roedd hi'n flwyddyn wael i Canyon-SRAM yn 2020; yn methu a chasglu un buddugoliaeth, er mai nhw sydd gan y lifrai gorau yn fy marn i. Kasia Niewiadoma yw'u gobaith gorau nhw, ond eto dydy hi heb wireddu'r disgwyliadau yn y blynyddoedd diwethaf chwaith.
Reidwyr ifainc i argyhoeddi?
Mae na do ifanc addawol iawn yn rhan o restr ddechrau Omloop eleni. Emma Cecile Norsgaard, 21, pencampwraig Denmarc, sydd wedi bygwth y deg uchaf mewn ambell i glasur a dod yn 3ydd yn Omloop van het Hageland llynnedd. Lorena Wiebes, 21, sydd eisoes wedi casglu 23 o fuddugoliaethau gyda'i gallu gwibio. Mae hi wedi dweud ei bod yn targedu bod yr ennillydd cyntaf yn Paris-Roubaix, a byddai buddugoliaeth ddydd Sadwrn yn sicr o'i rhoi ar y trywydd cywir. A cadwch lygad allan am Juliette Labous yn FDJ, fydd yn awyddus i ddatblygu ar 8fed yn Liege.
Jumbo-Visma yn ymddangos am y tro cyntaf
Mae bob amser yn braf gweld noddwyr a buddsoddwyr newydd yn peloton y menywod, a chawn edrych ymlaen i weld Jumbo-Visma am y tro cyntaf yn Omloop y penwythnos hwn. Dim enwau'n sefyll allan yn y garfan maen nhw wedi'i ddewis, felly edrychwn ymlaen i weld pwy fydd yn profi eu gwerth.
DAROGAN
Omloop Het Nieuwsblad ME Rhagfynegiad: Mads Pedersen
Un i'w wylio: Lukasz Wisniowski
Omloop Het Nieuwsblad WE
Rhagfynegiad: Anna van der Breggen
Un i'w gwylio: Emma Cecile Norsgaard
Kuurne-Brussels-Kuurne ME
Rhagfynegiad: Arnaud Demare
Un i'w wylio: Moreno Hofland
Comments