top of page
Writer's pictureGruffudd ab Owain

Be' gewch chi am eich pres? • Cario'ch hanfodion


Mae 'na amryw o bethau sy'n hanfodol i'w cario pan ar y beic, ac mae 'na amryw o ffyrdd i'w cario nhw. Bwriad y cofnod hwn fydd cymharu'r opsiynau sydd ar gael o ran pris, o ran cynhwysedd ac o ran ymarferoldeb.


Cofnodion blaenorol yn y gyfres


I'w rhoi nhw ar brawf, dyma'r hanfodion y bydda'i'n eu ffitio yn y datrysiadau storio posib:

Felly, dyma ni'r 'hanfodion' honedig (dwi'n bownd o fod wedi anghofio rhywbeth amlwg iawn...). Ffôn symudol, inner tube, tyre levers, multi tool, pwmp, côt law a Clif bar.


Mae'r ffenomenon o feicbacio (bikepacking) wedi tyfu'n hynod boblogaidd yn y blynyddoedd diwethaf, er fod beic efo basgedi neu'n ddiweddarach paniers wedi bod yn amlwg ers degawdau os nad canrifoedd. Nid y farchnad o fagiau ar gyfer hynny fydd dan sylw heddiw - bagiau ffrâm ac ati - ond yn sicr os y byddai'n mentro i'r byd hwnnw ryw ben mi fydd 'na gofnod dilynol!


Noder hefyd y bydd cyfeiriadau at gynnyrch a brandiau penodol yn y cofnod hwn ond nad oes unrhyw nawdd na thaliad nag unrhyw gyswllt â'r brandiau hynny; dim ond y pethau dwi wedi'u defnyddio ac yr ydw i'n eu hargymell.


Heb oedi ymhellach felly, dyma'r datrysiadau storio ar gyfer seiclo o ddydd i ddydd.


Pocedi cefn

Gadewch i ni ddechrau efo'r un amlwg, sef y pocedi cefn. Os oes gennych chi grys seiclo penodol, mi fydd 'na dri phoced fel arfer ar y tu cefn ac o bosib un arall efo sip. O ran cynhwysedd, dwi wedi llwyddo i ffitio popeth yn y pocedi cefn; y gôt yn y boced ganol, y ffôn a'r Clif bar yn y boced dde, a gweddill y tiwbs a'r twls yn y boced chwith.

O ran y manteision, mae'r hanfodion yn hawdd eu cyrraedd wrth fynd pan fo angen boed hynny ar gyfer cyflenwi egni efo snac neu gymryd y ffôn allan i gymryd llun. Does 'na chwaith ddim angen prynu dim byd newydd, yn amlwg, os oes gennych chi grysau o'r fath yn barod. Os ddim, ewch i ddarllen y gofnod flaenorol am grysau seiclo.


Ond mae 'na anfanteision amlwg hefyd. I ddechrau, mi fydd o'n newid ffit y crys, yn ei wneud o'n anghytbwys; y ffrynt yn rhy dynn a'r cefn yn hongian i lawr i gyfeiriad eich pen-ôl. Yn ogystal, mae'r pethau ynddyn nhw'n cael eu hamlygu i'r elfennau ac mi all hynny eu niweidio (dwi'n meddwl fod 'na multi-tool wedi neidio allan pan o'n i ar y Shelff rywbryd hefyd). Does dim byd yn waeth chwaith na sŵn pethau rhydd yn janglo o gwmpas. Ond y peth mwyaf oll yw ei fod o'n anghyffyrddus ac yn aneffeithlon; mae'n well o ran y rhain i gario'ch stwff ar y beic, yn enwedig wrth ddringo er enghraifft.


Felly'r datrysiad o ran y pocedi cefn yw i'w defnyddio ar gyfer rhai pethau; dwi'n eu defnyddio ar gyfer côt (neu arm warmers yn y misoedd brafiach), ffôn a'r Clif bar.

 

Sach gefn

Mae'r opsiwn nesaf yma'n gallu hollti barn. Yn amlwg, mae'n llawer mwy cyfforddus i beidio â chario sach gefn drom sydd am bendilio ar eich cefn wrth ddringo, a'r pethau ynddo'n janglo fel yn y pocedi cefn. Ac er fod tywydd newidiol yn gallu golygu fod angen gwahanol ddillad - enghraifft bennaf o hyn i mi i ddiwrnod yn Sbaen yn y Pasg pan oedd hi'n 4 gradd ar y dechrau, a 24 gradd erbyn amser cinio - does bosib fod angen sach gefn drwy'r amser. Ond wedi dweud hynny, dwi'n cofio gweld fideo rywbryd (hwn falle) oedd yn dangos mai sach gefn ydy'r ffordd fwyaf aerodynamig i gario'ch stwff ar y ffordd i'r gwaith, a does dim amau ei fod o'n opsiwn dilys iawn i unrhyw un sy'n cymudo i'r gwaith ar feic. Mae 'na rai sefyllfaoedd eraill lle byddai'r sach gefn yn opsiwn dilys, gan fod y rhai safonol a drytach (gan Osprey er enghraifft) yn cynnwys pethau fel lle i roi helmed. Ond o ran seiclo o ddydd i ddydd, dwi'n dod 'nôl at y pwynt ei bod hi'n llawer mwy cyfforddus ac effeithlon i gario'ch stwff ar y beic ei hun yn lle arnoch chi'ch hun.

 

Potyn cawell botel bottle cage storage

Mae'r opsiwn nesa' 'ma yn un diddorol. Mae'n debyg fod dyfodiad potiau cawell botel pwrpasol wedi tyfu o'r hyn bu nifer o seiclwyr - proffesiynol ac amateur - yn ei wneud, sef torri hen botell ddwr yn hanner a storio'u hanfodion yn hwnnw yn yr ail gawell botel. Ond, bu i gwmniau poteli fel Elite (llun dde) a chwmniau eraill fel Muc-Off (llun chwith) fachu ar y syniad ac erbyn hyn maen nhw'n ddatrysiadau storio derbyniol am brisiau rhesymol iawn.

Ar yr olwg gyntaf wrth bori drwy'r opsiynau ar y we, byddech chi'n meddwl fod y cynhwysedd yn dda, ond y gwir yw fod hyn yn dwyllodrus. Hynny oherwydd fod y siap yn cyfyngu rhywfaint, be' bynnag fo'r cyfaint honedig; h.y. dydy hi ddim yn bosib ffitio nifer fawr o bethau ynddo oherwydd yr agoriad siap cylch. Ond, mi lwyddais i i ffitio tiwb, levers, pwmp a multi-tool yn y potyn heb fawr o drafferth. Gan mai opsiwn 'fit and forget' ydy hwn - llenwch o unwaith a bydd dim rhaid poeni amdano wedyn - mae'n addas iawn ar gyfer storio hanfodion o'r math yma.


Y prif rwystr, fodd bynnag, yw ei fod yn cymryd un o'ch cawelli potel. Felly, ar reid hirach lle bo angen dwy botel, nid yw hwn yn opsiwn. Ond weddill yr amser, mae'n opsiwn taclus, di-drafferth a rhad sy'n sicr yn gwneud y job.


Dolenni i'r rhai sydd wedi'u cynnwys:

 

Bag cyrn handlebar bag

Mi ddois i ar draws un o'r rhain am y tro cyntaf ryw dair blynedd yn ôl pan y bu fy nghefnder hyn yn aros draw i seiclo yma yn y Gogledd, ac ar y pryd mi'r oedd o'n gweithio i Rapha felly roedd o'n profi cynnyrch fel hwn yng nglaw Cymreig mis Ionawr. Mi aethon nhw allan o ffashiwn i ryw raddau am sbel wedyn ond mi ddaethon nhw'n amlycach eto yn unol â'r cynnydd aruthrol ym mhoblogrwydd beicbacio a seiclo graean, ac maen nhw i'w gweld ar feics ffordd hefyd.


Er mai ar gyfer cario camera y gwnes i brynu hwn, mae'n cario tipyn go lew o bethau, yn groes i'r hyn o'n i wedi'i ddisgwyl. Mi wneith o gario ffôn, Clif bar, levers, pwmp a multi-tool; neu gôt law a ffôn/Clif bar fel y gwelwch yn y lluniau isod. Mae'n hynod gyfleus, yn enwedig os nad oes gennych chi beth i ddal cyfrifiadur GPS fel sydd gen i yn llun 2 gan fod modd cael mynediad at ffôn neu snac wrth fynd.

I mi, mae'n dwt ac yn daclus ac yn ymarferol dros ben, ond mae'n siwr na fydd yr aesthetig yn plesio pawb; byddai snobs beic ffordd falle'n honni nad ydyn nhw'n perthyn arnyn nhw!


Maen nhw hefyd yn gost-effeithiol, yn enwedig os nad ydych chi angen rhwybeth a chynhwysedd uchel iawn ar gyfer beicbacio neu debyg. Wedi dweud hynny, does 'na ddim llu o opsiynau i siwtio pawb, ac mi ges i'n un i'r holl ffordd o America gan mai hwn oedd yr un iawn i mi. £33 gostiodd o i gyd, gan gynnwys cost cludiant, ac mi gyrrhaeddodd o'n gynt na fyddai rhai o'r wlad yma wedi gwneud. Mae o'n cysylltu i'r beic efo tri strap - dau i'r cyrn ac un i'r ffram - felly mae o'n hen ddigon diogel. Mi wnes i'i ddefnyddio mewn cawodydd trymion ddydd Llun ac mi'r oedd ei gynnwys yn sych. A gwnewch yn siwr eich bod chi'n tanysgrifo i'w cylchlythyr ebost i gael 15% o ostyngiad.


Felly mae'n ddewis addas i bawb, yn enwedig ar reids hirach.


Dolen i'r bag wedi'i gynnwys

 

Cyfrwy-fag saddle bag

Yr olaf, ac nid y lleiaf, ar y rhestr heddiw yw'r cyfrwy-fag; cyfieithiad braidd yn wanllyd am saddlebag. Dyma'r opsiwn mwyaf poblogaidd dybiwn i, ac yn fy marn i, dyma'r opsiwn gorau. Ceir yma gydbwysedd perffaith rhwng yr elfen fit and forget sy'n golygu bod yr hanfodion bob amser gennych pan fo'u hangen, y cynhwysedd all fod yn fwy na digon ac hefyd ei ymarferoldeb.

Fel y gwelwch o'r ddau lun uchod, mae'r cyfrwy-fagiau yn dod ym mhob lliw a llun. Mi wnes i dipyn o ymchwil ar gyfer f'un i sef yr un Castelli a hwnnw'n ddigon i gario levers, tiwb, pwmp, multi-tool a snac argyfwng tra ddim yn edrych yn fler na'n tanseilio edrychiad y beic. (Yndw, dwi'n un o'r rheiny sy'n ymwybodol o aesthetig). Dydy hwn ddim ymysg y lleiaf y gallwch chi ei gael, na'r rhataf o ran hynny chwaith, ac mae'r un sydd gen fy rhieni yn y llun arall (un Topeak) yn dipyn mwy ac felly'n galluogi cario'r got hefyd. Ffactor arall i'w ystyried yw'r modd y mae'n cysylltu a'r beic; er enghraifft, mae rhai Topeak fel arfer yn cynnwys gosodiad penodol cynwysiedig sy'n hwyliso'r broses o'i gymryd i ffwrdd ac yn ol ymlaen. Mae eraill, fel f'un Castelli i, yn cysylltu efo strapiau i'r cyfrwy ac hefyd i'r cyfrwy-bostyn (seatpost).


Opsiwn i bawb, a byddwn i'n bendant yn dweud ei bod hi'n werth siopa o gwmpas i weld pa un sydd orau i chi o ran eich gofynion.

 

Felly dyna ni; diwedd y wibdaith drwy opsiynau cario hanfodion gan obeithio ichi gael rhyw fudd neu fwynhad ohono. Cadwch lygad allan am y cofnod nesaf yn y gyfres 'Be gewch chi am eich pres?' ym misoedd y Gwanwyn.


Hwyl am y tro.

Recent Posts

See All

Kommentare


bottom of page