A chymaint o opsiynau gwahanol i’w cael a’r ystod prisiau’n hollol anghredadwy, mae bron yn amhosib gwybod beth sy’n ddel dda a pha un i’w ddewis.
Yn y gofnod yma,, dwi’n archwilio’r gwahaniaeth rhwng crys seiclo £22 a chrys seiclo £90, a beth sy’n ffitio rhwng y ddau?
DIM NAWDD NA THALIAD YNGHYLCH Y GOFNOD YMA. RWYF WEDI TALU AM BOB UN O’R CRYSAU ISOD.
Y crysau sy’n cael eu profi
I ychwanegu elfen arall i’r gofnod, dydw i ddim am ddweud wrthoch chi pa grys yw’r drytaf na’r rhataf tan ddiwedd y gofnod.
Toriad a siap
Un o’r prif ffactorau sy’n gwahaniaethu rhwng crys t arferol a chrys seiclo, ac wrth gymharu crysau seiclo gyda’u gilydd yw’r toriad a’r siap.
Fel arfer, mae gan grys seiclo gefn hirach a blaen byrach, gwddf uchel a llewys wedi’u haddasu i fod yn berffaith wrth ymestyn am y cyrn/bariau.
Fel rheol, mae’r gwahaniaeth rhwng hyd y blaen a‘r cefn yn fwy wrth i bris y crys gynyddu sy’n golygu’i bod yn haws ymestyn am y cyrn a bod y crys, ar ddiwedd y dydd, yn fwy cyfforddus.
Wrth i brisiau’r crysau gynyddu, yn ogystal, mae’n glynu’n nes at y croen, sy’n cael ei ddisgrifio fel toriad rasio, neu ‘race cut’. Ar grysau rhatach, mae’r toriad yn fwy rhydd.
Mantais amlwg arall i’r toriad tyn yw’r fantais aerodynamig - mae’n teimlo ac yn edrych yn llawer mwy proffesiynol a chyflym.
Ond os nad ydy hynny’n eich poeni ac mae seiclo mwy hamddennol sy’n taro’ch tant, bydd y crysau mwy rhydd yn well i chi.
Peth arall sy’n gwneud crys tyn yn dyn yw’r elastig o amgylch y llewys a’ch canol. Eto, wrth i grysau gynyddu mewn pris mae’r elastig yn tueddu i fod o safon uwch.
Ffabrig
Mae’r ffabrig ar grys drytach yn well am reoli tymheredd eich corff, gan gludo’r chwys yn gyflym er mwyn iddo anweddu. Nid yw crysau t, neu grysau seiclo syml iawn, yn gwneud hyn - maent yn cadw’r chwys yn agos at eich croen.
Pocedi
Fel arfer, ceir tri phoced cefn i grys seiclo, gyda‘r rhan fwyaf erbyn hyn yn cynnwys poced a sip. Disgwylir hyn ar y rhan fwyaf o grysau erbyn hyn.
Sip
I helpu gyda rheoleiddio tymheredd y corff, bydd sip hyd llawn yn sicr yn fanteisiol. Eto, dylech ddisgwyl hyn ar bob crys uwch na ryw £30.
Felly, pa un yw’r drytaf?
Pob un mewn maint ’Small’.
Crys A: PBK Montagna £35
Ddim yn cael ei werthu mwyach, ond mae’r crys yma o safon uchel o ystyried y pris. Tri phoced, y ffit heb fod yn rhy dyn, sip hyd llawn... beth arall sydd ei angen?!
Crys B: VeloChampion Sportivo £22
Crys nad ydw i’n ei wisgo ryw lawer... sip chwarter yn ei adael i lawr, ond dwi’n siwr bod y toriad mwy rhydd a cyfforddus yn sicr at ddant nifer.
Crys C: Sportful BodyFit Pro 2.0 X £90*
*Prynwyd ar ostyngiad i £60
Hwn yw fy ffefryn! Pocedi hawdd i’w cyrraedd, dyluniad unigryw a thrawiadol, y toriad yn edrych ac yn teimlo’n broffesiynol (cliw yn yr enw!). Y crys perffaith!
Crys Ch: dhb Aeron £55
Bydd rhaid i mi gyfaddef fod safon y crys yma’n gymharadwy iawn i grys A gan PBK, ac mi fuaswn i’n dweud mai’r PBK yw fy ffefryn o’r ddau er y gwahaniaeth pris o £20. Hyn yn bennaf oherwydd y toriad sydd ychydig yn rhyfedd... tyn mewn mannau a ddim mewn eraill.
Dangos bod safon crys ddim o reidrwydd yn cynyddu gyda’r pris bob amser!
Gobeithio ichi fwynhau’r gofnod ac ichi ddysgu ohono - byddwn i bob amser yn awgrymu trio’r crys ymlaen cyn ei brynu os yw hynny’n bosib. Mae Evans Cycles yng Nghaerdydd yn ganmoliadwy iawn!
Eisiau darllen mwy? Chwiliwch y wefan am fwy o gynnwys tebyg.
Comments