top of page
Writer's pictureGruffudd ab Owain

Benben: 4 Meddalwedd Cynllunio Reid

Mae meddalwedd cynllunio reid seiclo (route planners) yn dod yn rhan mwy a mwy pwysig i seiclwyr y byd erbyn hyn.


I mi, mae angen i feddalwedd cynllunio reid fod yn hawdd, cyflym, defnyddiol, yn cynnwys rhagolwg o'r proffil ac yn rhoi cyfarwyddiadau wrth fynd ar fy nyfais GPS Wahoo.


Ac wedi i mi ddefnyddio'r pedwar meddalwedd cynllunio reid dros y misoedd a'r blynyddoedd diwethaf, ro'n i'n meddwl y byddai'n syniad da eu rhoi benben ar gyfer cofnod o'r blog.


Gwyliwch y gofod ar Twitter yn ystod y dyddiau nesaf pan fydd crynodeb munud o'r gofnod yma ar gael ar ffurf fideo.


*Nid oes unrhyw hysbyseb yn rhan o'r gofnod yma. Does dim 'affiliate links', a dydy'r un o'r pedwar cwmni wedi gofyn i mi na fy nhalu i gynnwys eu meddalwedd yn y gofnod.

** Sgor allan o 10.


Strava

Mae bron pob seiclwr yn defnyddio Strava i uwchlwytho'i reid ac edrych ar y data a'r amseroedd ac ati wedi cwblhau reid. Ond faint ohonoch oedd yn gwybod bod gan y cwmni poblogaidd gynlluniwr reid o fewn eu gwefan.


+ Hawdd a chyflym i'w ddefnyddio

- Llwytho'n awtomatig i'ch dyfais GPS, ond dim yn cynnig cyfarwyddiadau

x Uchafbwyntiau wedi'u cyfrannu gan ddefnyddwyr eraill

+ Rhagolwg o broffil, amser ac ati

+ Yr holl fyd am ddim er mwyn cynllunio reid

- Cyfrifiadur yn unig, heblaw am gynlluniwr truenus o syml ar yr ap


Sgor: 8.7


Komoot

Meddalwedd sy'n cynyddu mewn poblogrwydd ar hyn o bryd, a hynny am resymau cyfiawn iawn, er bod dod i arfer a defnyddio'r meddalwedd yn cymryd ychydig funudau.


+ Hawdd a chyflym ar y cyfan i'w ddefnyddio

+ Llwytho'n awtomatig i'ch dyfais GPS, a chyfarwyddiadau cywir a chyfleus ar ddyfais GPS

+ Uchafbwyntiau wedi'u cyfrannu gan ddefnyddwyr eraill

+ Rhagolwg o broffil, amser ac ati

- Un rhanbarth sydd ar gael am ddim. Bydd angen prynu rhanbarthau wedi hynny (e.e. Ceredigion yn £2.99 a Gogledd Cymru yn £7.99)

+ Gallu cynllunio ar gyfrifiadur, tabled a ffon


Sgor: 9.4


Plot-a-route

Meddalwedd eithaf cynhwysfawr, ond un sydd efallai ddim yn cynnwys nodweddion cystal a'r cynllunwyr eraill.


- Ar y cyfan yn weddol hawdd ond gallu bod yn rhwystredig

- Llwytho a chyfarwyddiadau i rai dyfeisiau - dim mor hawdd cysylltu i gymharu a'r meddalwedd eraill

- Rhai reids i'w darganfod gan ddefnyddwyr eraill

- Rhagolwg o broffil ond dim amser

+ Y byd ar gael am ddim

- Cyfrifiadur yn unig


Sgor: 8.2


RideWithGPS

Yn bennaf wedi ei greu er mwyn recordio reid, ond yn fy marn i, y cynlluniwr taith yw uchafbwynt y meddalwedd yma.


+ Yr hawsaf a'r cyflymaf ar y rhestr

+ Llwytho'n awtomatig i'ch dyfais GPS ond cyfarwyddiadau ychydig yn od weithiau (e.e. anfon drwy lay-bys)

x Dim uchafbwyntiau wedi'u cyfrannu gan ddefnyddwyr eraill

- Rhagolwg o broffil, ond angen tanysgrifiad taledig am rai rhagolygon eraill

+ Y byd i gyd am ddim

- Cyfrifiadur yn unig


Sgor: 9.1


 

Casgliad


Wedi profi'r apiau/meddalwedd i gyd, roedd dau yn sefyll allan yn amlwg, gyda Plot-a-Route a Strava wedi'u gollwng o'r dihangiad.


Mi lwyddon nhw i gyrraedd y grwp blaen gyda'u cynllunio hawdd a syml ar y cyfan a'r ffaith eu bod 100% am ddim, ond fe gollon nhw'r olwyn pan yn dod i uchafbwyntiau defnyddwyr eraill, rhagolygon manwl a'r gallu i gynllunio ar fwy nag un platfform.


Ymosodiad RideWithGPS ollyngodd Plot a Route a Strava gyda hwythau'n cynnig mwy o nodweddion/nodweddion gwell na'r ddau yna a nhw oedd yr hawsaf a'r cyflymaf ar y dydd.


Ond llwyddodd Komoot i gadw gyda hwy, a'r ymosodiad tyngedfennol yn dod gilomedr o ddiwedd y ras. Yr hyn bwerodd Komoot i'r fuddugoliaeth oedd y gallu i gynllunio ar ffon, tabled neu gyfrifiadur; uchafbwyntiau gan filoedd o ddefnyddwyr eraill a chyfarwyddiadau cywir a chyfleus ar ddyfais GPS. Fodd bynnag, cyfyngodd RideWithGPS eu colledion gan eu bod nhw 100% am ddim, yn wahanol i Komoot.


Pa un sydd orau i chi?


Byddwn i felly'n argymell Komoot i bawb i'w ddefnyddio o ddydd i ddydd, ond i rai ohonoch fydd angen cynllunio reid dramor neu mewn ardal newydd, byddwn i'n gwyro tuag at RideWithGPS er y bydd angen gwneud ymchwil ar wahan i uchafbwyntiau i'w cynnwys yn eich taith.

Recent Posts

See All

Comentários


bottom of page