top of page
Writer's pictureGruffudd ab Owain

Beth sydd i ddod yn y Tour wedi’r Alpau?

Dyma bump o’r prif bwyntiau i ystyried wrth ragolygu gweddill y Tour de France wedi tri chymal brwdfrydig yn yr Alpau.

Geraint neu Froome?

Dyma gwestiwn mwya’r Tour de France eleni.

Mae Geraint Thomas, y Cymro, yn y crys melyn wedi dwy fuddugoliaeth o’r bron ar cymal 11 ac 12 – y ddau’n gorffen ar gopa dringfa.

Ganddo dros funud a hanner o wacter rhyngddo a Chris Froome, sydd yn yr ail safle ar y DC, a bron i ddwy funud o fantais dros Tom Dumoulin yn y trydydd safle.

Mae’n amlwg i mi beth bynnag mai Geraint yw’r cryfaf o’r ddau arweinydd yn nhim Sky wedi’w berfformiadau’n yr Alpau a choesau Froome yn edrych yn sigledig wedi’w gampau’n y Giro d’Italia.

Ond mynnai Thomas taw Froome yw rhif un Sky. Credaf y dylai’r tim roi popeth tu ol i Geraint gan gadw Froome ym mhump ucha’r DC er mwyn dyblu’w siawns o ennill y ras.

Serch hyn, fy marn (a wyrai tu ag at ochr G) yn unig yw’r uchod ac mae’n bur debyg i’w penderfyniad fod yn dra wahanol..

Y Pyreneau

Mae’r Pyreneau yn mynd i herio pob reidiwr i’w heithaf heb os nac oni bai ac un cymal yn sefyll allan.

Cymal 17. Mae’n 65km o hyd – un o’r byrraf erioed – a threfnir system gridio fel bod y reidwyr sydd yn yr 20 safle uchaf (DC) yn cychwyn cyn y gweddill.

Rhaid ffactorio hyn i fewn; bydd yn sicr yn ffafrio timau cryf fel Sky.

Ar y funud, mae ganddynt dri reidiwr yn y 20 uchaf (Froome, Geraint, Bernal); yn hafal gyda Movistar (Landa, Quintana, Valverde).

Y fantais i Sky yma yw bod Bernal yn gadfridog penigamp (profwyd hynny ar Alpe d’Huez) tra thri arweinydd sydd i dim Movistar.

Mae cefnogaeth hefyd i Romain Bardet yn Pierre Latour; a Jakob Fuglsang yn Tanel Kangert ond bydd nifer o’r ffefrynnau’n gorfod gweithio’u hunain.

Mae Tom Dumoulin yn un, gydag eraill megis Rafal Majka, Dan Martin, Ilnur Zakarin a Bob Jungels heb eu cadfridogion – a fyddent yn cyd-weithio fel uned?

Yn y cymalau cyn hynny, rhaid I Adam Yates esgyn o 21ain i 20fed i ail-sefydlu’w hun fel un o’r ffefrynnau.

Cymal 1

Dioddefodd Chris Froome ddamwain ar y cymal cyntaf sy’n parhau i fygwth ei gyfleon o ennill y Tour de France am y pumed tro.

Llwyddodd Geraint Thomas i osgoi hyn sydd wedi bod o fudd wrth iddo gynnal ei fantais ar frig dosbarthiad y ffefrynnau.

Pwy arall?

Cred nifer yw bod LottoNL Jumbo yn edrych yn gryf gyda dau o’I reidwyr yn y deg uchaf; Primoz Roglic a Steven Kruijswijk.

Yn y drydedd wythnos bydd rhai’n debyg o daro’u forte – Landa, Quintana a Froome a Dumoulin sy’n gyson yn dda yn ystod y ras hon.

Heb anghofio Bardet sy’n parhau I edrych yn gryf ond profodd Geraint yn y Dauphine ei fod yn gryfach na’r Ffrancwr yn y mynyddoedd.

Effaith y Giro d’Italia

A fydd effaith y Giro yn cicio mewn yng nghoesau Froome a Dumoulin?

Hefyd – ennillodd Simon Yates nifer o gymalau a chadw’r crys pinc am ddyddiau ond craciodd yn yr wythnos olaf. All Geraint ddioddef o hyn hefyd?

Bydd popeth yn cael ei ddatgelu’n yr wythnos sydd yn weddill – cofiwch am raglen fyw a rhaglen uchafbwyntiau S4C, podlediad Y Dihangiad a chofnodion dyddiol y blog.

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page