Wythnos brysur iawn ym myd y beic, felly dyma grynodeb o'r hyn fy'n digwydd 'ar yr hewl'.
Fflach newyddion
Bu gorfod i bencampwriaethau penwynt cenedlaethol yr Iseldiroedd (Dutch National Headwind Championships) gael ei ganslo oherwydd.... gwynt.
Mae Alexander Vinokourov wedi galw am ymchwiliad i'r adroddiad gafodd ei ddatgelu ynglyn a chysylltiad rhwng Jakob Fuglsang a Dr Michele Ferrari, gan gwestiynu sut y cafodd 'gwybodaeth anghywir ac annibynnadwy' ei gyhoeddi gan y wasg. Daw hyn wedi i CADF y bydden nhw ddim yn gweithredu ar yr honiadau.
Mae Llywodraeth Prydain wedi cyfaddef eu bod ymhell o gyrraedd disgwyliadau a thargedau i seiclwyr a'n rhedeg allan o amser i atgyweirio'r sefyllfa.
Bydd pob plentyn yn Lloegr yn cael cyrsiau diogelwch seiclo ond mae ymgyrchwyr yn dadlau bod angen i strydoedd y wlad fod yn saffach er mwyn cyfiawnhau'r buddsoddiad.
Fe gyhuddwyd Ford o awgrymu mai bai seiclwyr yw damweiniau gyda cheir wrth iddyn nhw lansio 'siaced emoji' ar gyfer 'diogelwch seiclwyr'.
Cyhoeddwyd y bydd Gravel Fondo Cymru yn cael ei chynnal am y tro cyntaf eleni, a hynny ar y 13eg o Fedi. Dyma'r ras gyntaf o'i math ym Mhrydain, gydag opsiwn o ddau gwrs graean - Gran Fondo 130km neu Medio Fondo 90km - gan gychwyn yn nhref Llanymddyfri.
Tadej Pogacar yn fuddugol yn Valencia
Daeth dau fuddugoliaeth cymal yr un i Tadej Pogacar a Dylan Groenewegen yn y Volta a la Comunitat Valenciana, ac yn sgil hynny, y naill yn ennill y DC a'r llall yn cipio'r dosbarthiad pwyntiau.
Cymal 1: Dylan Groenewegen (Jumbo-Visma)
Cymal 2: Tadej Pogacar (UAE)
Cymal 3: Dylan Groenewegen (Jumbo-Visma)
Cymal 4: Tadej Pogacar (UAE)
Cymal 5: Fabio Jakobsen (Deceuninck-Quickstep)
DC Terfynol:
1. Tadej Pogacar (UAE)
2. Jack Haig (Mitchelton-Scott)
3. Tao Geoghegan Hart (Ineos)
Roedd ras undydd y Vuelta CV Feminas yn cael ei chynnal yn ogystal. Marta Bastianelli oedd yn fuddugol yn y wib i'r llinell derfyn, gyda ffrind y blog Agnieta Francke yn gorffen yn wythfed.
Benoit Cosnefroy yn cipio Etoile de Besseges
Mae hi eisoes wedi bod yn dymor llewyrchus i reidiwr ifanc AG2R La Mondiale, Benoit Cosnefroy, wrth iddo ychwanegu DC Etoile de Besseges at fuddugoliaeth yn GP La Marseillaise i'w restr o lwyddiannau 2020.
Ffrancwr ifanc arall, Alexys Brunel (Groupama FDJ) fu'n rheoli am y tridiau cyntaf wedi iddo gipio cymal 1, gyda Magnus Cort a Dries de Bondt yn hawlio cymal 2 a 3.
Ben O'Connor (NTT) ennillodd ddiweddglo copa cymal 4, gyda Cosnefroy yn gwneud digon i hawlio crys yr arweinydd. Roedd buddugoliaeth yn REC cymal 5 yn ddigon i Alberto Bettiol (EF) orffen yn ail ar y dosbarthiad cyffredinol.
Awstraliaid yn rheoli'r Herald Sun Tour
Daeth dau fuddugoliaeth cymal i Jai Hindley wrth iddo gipio'r DC yn yr Herald Sun Tour ben arall y byd. Bu'n arwain y ras o gymal 2 mynyddig hyd y diwedd, gyda buddugoliaethau cymal yn dod i Alberto Dainese a Kayden Groves (2).
Gibbons yn disodli Impey yn Ne Affrica
Ni lwyddodd Daryl Impey i adennill crys pencampwr De Affrica, gyda Ryan Gibbons (NTT) yn ei guro i'r llinell derfyn. Impey, fodd bynnag, fydd yn gwisgo crys pencampwr REC y wlad eleni wedi iddo ennill y ras honno ddydd Gwener. Ashleigh Moolman (CCC-Liv) gipiodd y ddau grys cyfatebol i'r menywod gyda buddugoliaethau ddigon rhwydd.
Phil Bauhaus yn fuddugol yn Saudi Arabia
Bu'n berfformiad cryf gan Phil Bauhaus (Bahrain-McLaren) yn y dwyrain canol wrth iddo gipio dwy fuddugoliaeth cymal. Ras i'r gwibwyr oedd hi, gyda Rui Costa, Niccolo Bonifazio a Nacer Bouhanni yn ennill y tri arall.
DC Terfynol:
1. Phil Bauhaus (Bahrain-McLaren)
2. Nacer Bouhanni (Arkea Samsic)
3. Rui Costa (UAE)
Yr wythnos i ddod
Tour Colombia 2.1: Enwau mawrion y gamp yn heidio i dde America ar gyfer un o rasys gorau'r flwyddyn, gyda chefnogwyr yn byrlymu ym mhobman. Gyda Richard Carapaz yn gwneud ei debut i Ineos ochr-yn-ochr ag Egan Bernal, yn ogystal a Julian Alaphilippe a phencampwyr y wlad, Dani Martinez a Sergio Higuita (y ddau o EF), mae'n argoeli i fod yn ras gyffrous iawn.
11-16 Chwefror - ni fydd unrhyw un o sianeli Prydain yn dangos darllediadau byw nag uchafbwyntiau o'r ras (bw!) a'r unig ffordd i'w wylio fydd defnyddio VPN (sydd ddim yn ddelfrydol iawn).
Tour de la Provence: Nairo Quintana, Warren Barguil, Wilco Kelderman, Pavel Sivakov, Thibaut Pinot, David Gaudu a Gorka Izagirre ymysg yr enwau mawr yn Provence, gyda chymal diweddglo copa i Mont Ventoux brynhawn Sadwrn - perffaith i lenwi'r bwlch sy'n cael ei adael gan y Chwe Gwlad dros y penwythnos. Bydd Owain Doull yno hefyd i Ineos i gynrychioli Cymru.
13-16 Chwefror - darllediadau byw ac uchafbwyntiau ar Eurosport ac ar sianel YouTube GCN Racing o bob cymal o'r ras. Edrych 'mlaen.
Clwb Strava
3/2 - 9/2
Unrhyw un arall yn rhoi'r bai ar Ciara wythnos yma?!
Pellter (km)
1. John Chick 240
2. Kevin Evans 225
3. Aled Elwyn 207
Reid hiraf (km)
1. Andrew Parry 161
2. Tommie Collins 118
=. Nia Peris 118
Dringo (m)
1. John Chick 3,170
2. Rhys Iorwerth 3,064
3. Kevin Evans 2,468
Comments