Wythnos hynod brysur yn y byd seiclo, ac mae'r clasuron ar y gorwel. Cyfnod cyffrous yn y tymor.
Yr wythnos mewn 10 cofnod
1. Bu bron i'r beiciau modur amharu ar berfformiad syfrdanol Jakob Fuglsang a Mikel Landa ar cymal 1 o'r Vuelta a Andalucia (Ruta del Sol). Ymosododd y ddau - oedd yn gwneud eu debuts o'r tymor ar y dydd - ar y ddringfa olaf i'r Puerto de las Palomas, a chynnal eu mantais hyd y diwedd. Fuglsang gipiodd y fuddugoliaeth yn y pen draw.
2. Rhoddwyd buddugoliaeth ar blat i Fuglsang ar cymal 3 yn Andalucia, wrth i Dylan Teuns a Jack Haig, y ddau geffyl blaen ar y pryd, wneud cawlach o'r gornel olaf.
3. Ond daeth buddugoliaethau haeddiannol i'r par yn y ddau cymal olaf, Jack Haig yn ennill ar cymal 4 a Dylan Teuns yn fuddugoliaethus yn REC cymal 5.
4. Fuglsang lwyddodd i sicrhau'r dosbarthiad cyffredinol yn y pen draw, a hynny am yr ail flwyddyn yn olynol.
5. Remco Evenepoel yn dangos ei gryfder anorchfygol yn y Volta ao Algarve, gan gipio buddugoliaeth ar cymal 2 o'r ras o grwp dethol, ar ei daith i ennill y dosbarthiad cyffredinol. Mae cryfder a thalent y reidiwr ifanc yma yn hollol nyts, i'w rhoi hi'n blaen. Dwi, fel y rhan fwyaf o gefnogwyr y gamp, yn bendant yn edrych ymlaen i ddilyn ei yrfa.
6. A bod yn hollol onest, roedd yn rhaid i ni gael tystiolaeth i awgrymu nad yw Evenepoel yn ryw anghenfil dduwiol, ond yn hytrach yn ddynol fel gweddill ei gystadleuwyr. Fe'i curwyd gan Miguel Angel Lopez i'r copa ar cymal 4, ond llwyddodd i ddal gafael ar grys yr arweinydd o drwch blewyn.
7. Ond perfformiad anhygoel arall a gafwyd gan y Belgiad ugain mlwydd oed ar y REC ar y cymal olaf i sicrhau'r fuddugoliaeth yn y dosbarthiad cyffredinol. Dwi'n synhwyro nad dyma'r tro olaf i ni ei weld yn dathlu ar gopa podiwm. Y reidiwr ieuengaf i ennill y Volta ao Algarve.
8. Nairo Quintana yn parhau dechrau cryf iawn i'r tymor dan adain ei dim newydd, Arkea-Samsic, drwy ddringo i ris ucha'r podiwm yn y dosbarthiad cyffredinol yn y Tour du Var et des Alpes Maritimes. Llond ceg. Romain Bardet a Richie Porte yn cwblhau'r podiwm.
9. Dyfodol darlledu'r gamp mewn dwylo diogel byddwn i'n dweud drwy gwmniau dan berchnogaeth Discovery, sef Eurosport a Play Sports Network (sy'n cynnwys GCN). Ac o'r diwedd, cam ymlaen i ddarlledu seiclo menywod wrth i'r cwmni sicrhau hawliau i ddangos Liege-Bastogne-Liege a La Fleche Wallonne.
10. Y Cymro a chapten tim Ineos, Luke Rowe, yn ymrwymo i'r garfan am bedair mlynedd pellach.
Yr wythnos i ddod
Taith yr Emeradau Arabaidd Unedig sy'n hawlio'r sylw yr wythnos hon, gyda reidwyr megis Tadej Pogacar ac Alejandro Valverde yn awyddus i wneud eu marc. Bydd cyfrif Y Dihangiad, fel bob amser, yn cynnig y diweddaraf drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ddydd Sadwrn, byddaf yn cyhoeddi cofnod yn edrych ymlaen at dymor y clasuron (mwy na thebyg yn ffocysu ar reidwyr i'w gwylio), oherwydd fod Omloop Het Nieuwsblad yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn hefyd i nodi dechrau'r clasuron. Methu aros. Edefyn rhagolwg ar y cyfrif Twitter.
Dau beth i'w ddarllen
Un peth i'w wylio
Un peth i wrando arno
Mae'r Dihangiad yn ol! Edrych ymlaen at dymor arall o'ch sylwebaeth a'ch gwybodaeth.
Clwb Strava
17/2 - 23/2
Pellter (km)
1. Kevin Evans 236
2. Tommie Collins 234
3. Geraint Merckx 208
Reid hiraf (km)
1. Nia Peris 168
2. Geraint Merckx 113
3. Huw Jones 101
Dringo (m)
1. John Chick 2,718
2. Gary Owen 2,636
3. Tommie Collins 2,626
Comments