Mae'r clasuron wedi cychwyn dros y penwythnos, ac mae'n argoeli i fod yn dymor cyffrous bois bach.
Yr wythnos mewn 10 cofnod
1. Yr ifanc yn drech na phawb arall? Dim cweit, medd Adam Yates, gan guro Tadej Pogacar yn ddigon cyfforddus i fuddugoliaeth yn y dosbarthiad cyffredinol yn nhaith yr Emeradau Arabaidd Unedig. Cipiodd grys yr arweinydd ar cymal 3 i Jebel Hafeet, dros funud o flaen Pogacar. Ar cymal 5, llwyddodd y Slofeniad i ddringo i ris ucha'r podiwm gan guro Alexey Lutsenko o drwch blewyn.
2. Ond wedi dau achos posibl o'r coronavirus, y ddau ohonynt yn staff Eidaleg, fe ganslwyd dau cymal olaf y ras, gydag Yates yn gyfforddus gipio'r fuddugoliaeth ac atal tim UAE rhag ennill eu ras gartref. Bu gorfod profi pob person oedd yn bresennol, ac mae rhai'n dal i fod mewn cwarantin.
3. Annemiek van Vleuten yn dangos pam mai hi yw brenhines y byd ar hyn o bryd, gydag ymosodiad cryf iawn a lansiwyd ar yr eiconig Muur van Geraardsbergen i gipio teitl Omloop Het Nieuwsblad 2020, a hynny mewn steil ddigon tebyg i'w buddugoliaeth yn swydd Efrog i ennill crys yr enfys. Curodd hi Marta Bastianelli a Floortje Mackaij i risiau gweddill y podiwm.
4. Yn barod i gamu i'r lefel uchaf o reidwyr clasuron y byd mae Jasper Stuyven, wnaeth brofi hynny gyda buddugoliaeth gryf iawn yn Omloop y dynion. Ymosododd mewn grwp o ddau, ac er ei arwain i'r llinell, roedd gormod o bwer yn ei goesau i reidiwr Deceuninck-Quickstep, Yves Lampaert. Edrych ymlaen i weld beth arall sydd ganddo ar ein cyfer.
5. Ddydd Sul, Omloop van het Hageland oedd yn hawlio sylw peloton y menywod. Er gwaethaf ymdrechion dihangiadau hwyr, fe ddaeth y wib anochel ar ddiwedd y ras. Marta Bastianelli oedd y ffefryn mawr o flaen llaw, ond fe'i curwyd i'r ail safle am yr ail dro mewn deuddydd, y tro hwn gan wibwraig sy'n datblygu'n gyflym sef Lorena Wiebes.
6. O ran y dynion ddydd Sul, cryfder anorchfygol Deceuninck-Quickstep ddaeth i'r amlwg unwaith yn rhagor, a hynny gyda chyfres o ymosodiadau, ac un Kasper Asgreen oedd yr un wnaeth lwyddo. Fe lwyddodd yr 'injan' o reidiwr i gael gwared ar ei gyd-ymosodwyr a chyrraedd y llinell derfyn cyn y peloton y tu ol iddo o drwch blewyn. Perfformiad cadarn ganddo, a chawn weld os y bydd o yn un o'r rhai i'w gwylio pan y daw hi at y rasys mwy yn hwyrach ymlaen.
7. Ond, yn anffodus, nid Asgreen oedd yr unig un i gyrraedd y pennawdau. Fe ddiarddeliwyd Gianni Moscon (Ineos) am daflu beic reidiwr arall mewn rhwystredigaeth wedi damwain. Geiriau Y Dihangiad sy'n gwneud cyfiawnder, 'ffwl dwl'. Nid y tro cyntaf iddo gael DQ mewn ras, mae'n rhaid ei bod hi'n bryd iddo gael gwaharddiad am gamymddwyn ailadroddus.
8. Rhestr ddechrau digon cryf a gafwyd yn Royal Bernard Drome Classic yn Ffrainc ddydd Sul, gyda'r Awstraliad Simon Clarke yn dod i'r brig o grwp o dri gan guro Warren Barguil a Vincenzo Nibali i safleoedd is y podiwm.
9. Er perfformiadau digon boddhaol gan Owain Doull a Luke Rowe dros y penwythnos yng Ngwlad Belg, Elinor Barker oedd y Gymraes i'w gwylio a hynny wrth iddi gipio teitl pencampwraig y byd yn y ras bwyntiau ym Mhencampwriaethau Trac y byd ar ddydd Gwyl Dewi. Y cyntaf - a'r unig un hyd yma - o fedalau aur i Brydain hyd yma, sydd efallai'n achos pryder iddynt gyda Tokyo ar y gorwel.
10. Yn enwedig gyda reidwyr a staff mewn cwarantin yn yr Emeradau Arabaidd Unedig, roedd pryderon os y byddai modd cynnal rhai o rasys yr Eidal, Strade Bianche, Tirreno Adriatico a Milan San Remo. Diolch byth, fe ddaeth cadarnhad gan y trefnwyr RCS Sport y byddai'r rasys hyn yn cael eu cynnal. Ydi o'n benderfyniad doeth - yn enwedig o gofio bod gogledd yr Eidal yn ardal a nifer uchel o achosion coronavirus a bod ambell un (Mathieu van der Poel a Cecile Uttrup Ludwig i enwi ond dau) wedi tynnu allan o'r OpeningsWeekend gyda'r ffliw?
Yr wythnos i ddod
Mawrth, 3ydd o Fawrth: Le Samyn (ME a WE)
Sadwrn, 7fed o Fawrth: Strade Bianche (ME a WE)
Sul, 8fed o Fawrth: Cymal 1 Paris-Nice (ME)
Un peth i'w ddarllen
Un peth i'w wylio
Cadw'n ffit mewn cwarantin - Nathan Haas
Clwb Strava
Comments