I feddwl pa mor obsesd o'n i ar un pwynt am gadw 'meic yn lân...
(Roedd hynny mewn oes, rhaid cyfaddef, pan oedd gen i fwy o amser ar fy nwylo; mwy nag un swydd ran amser, diddordebau i'w cynnal a phedair lefel-A)
...mae'n rhyfeddol nad ydw i erioed wedi ysgrifennu cofnod o'r Ddwy Olwyn am olchi beic.
Ydy o'n bwnc diflas, fel y dasg ei hun?
Mae o'n un o'r pethau procrastinate-io yna; yn lle acshyli golchi'r beic, buaswn i'n gwylio fideos am sut i olchi'r beic. Fel bod yn fwy cynhyrchiol; gwylio fideos am sut i fod yn fwy cynhyrchiol yn lle acshyli gwneud unrhyw dasg.
Mae'n sicr yn dasg sydd weithiau jyst yn un peth ecstra ddiwedd reid pan fo'r tegell neu'r gawod gynnes yn llawer mwy apelgar.
Un bonws am sgwennu'r cofnod yma; mi wnaeth o'n fforshio fi i olchi 'meic er mwyn cael llun i'w ddefnyddio!
Ond ta waeth am hynny. Fel arfer wrth gymharu, dw i'n canolbwyntio'r gymhariaeth ar gost, ond y tro 'ma mae 'na fwy o sgôp am fwy o gymharu - ie o ran cost, ond hefyd o ran amser, beth i'w ddefnyddio ac ati.
Cofnodion Cymharu Eraill:
Felly, dyma obeithio rhoi gwibdaith i chi drwy fyd cadw'ch beic yn lân.
Beth i'w ddefnyddio
Mae'n rhaid dal y beic yn ei le rywsud on'd does. Bellach, dwi jyst yn gwyro'n erbyn wal. Mae posib troi'r beic ben i waered (bydd rhai yn achwyn bod yn hyn niweidiol am ba bynnag reswm), neu mi ydw i hefyd yn berchen ar stand pwrpasol. Ffaff sydd ddim bob amser yn angenrheidiol, â bod yn gwbl onest â chwi.
O ran glanweithydd (degreaser - diseimiwr oedd y gair trwsgwl yn y geiriadur), mae hwn yn gallu bod yn destun cryn drafodaeth.
Hynny yw, p'un ai i brynu glanweithydd sy'n benodol ar gyfer beic, neu ddefnyddio hylif golchi llestri.
Mae sawl un wedi defnyddio Fairy liquid ar eu beics ers blynyddoedd lawer ac heb unrhyw niwed o gwbl i'r beic. Bu rhai'n achwyn fod crynodiad yr halen yn niweidiol o ran cyrydu rhannau o'r beic, ond daeth yr Institute of Corrosion i'r casgliad fod yr halen yn yr hylif golchi llestri yn anghyrydol (non-corrosive).
Dw i wedi defnyddio Fairy liquid lawer gwaith, ond bellach yn defnyddio hylif pinc pwrpasol gan Muc-Off (wedi defnyddio rhai tebyg gan frandiau eraill; dibynnu beth sydd yn y siop).
Mae rhai'n defnyddio pressure washer, mae rhai hyd yn oed yn defnyddio baby wipes. Bydd nifer yn achwyn pa mor niweidiol ydyn nhw, ond duwcs. Fyddai neb yn eu defnyddio nhw pe baen nhw mor niweidiol â hynny.
Mae bwced o ddŵr a sebon fel arfer yn galw am sbynj, unrhyw sbynj - fel arfer un i'r ffrâm ac un i'r tsaen a'r cassette ac yn y blaen.
Mae posib hefyd defnyddio brwshus - mae un o'r dulliau isod yn defnyddio brwsh paent arferol - a dwi yn defnyddio rhai Muc Off; yn enwedig yr un mwyaf (ar gyfer y ffram) a'r un lleiaf (ar gyfer y cassette).
Felly o ran y gost, mae'n bosib gwario £45 ar y bwndel yma o MucOff sy'n cynnwys yr holl bethau dw i wedi eu crybwyll uchod (a mwy) https://muc-off.com/collections/bicycle-bundles-kits/products/8-in-1-bicycle-cleaning-kit.
Pan fo mwy o amser ar eich dwylo
Does dim pwynt i mi chwydu cynnwys y fideos yma allan mewn sgwennu mewn gwirionedd, felly dyma atodi'r fideos, ac mi wnai gynnig peth sylwadau.
Ges i gryn lwyddiant yn defnyddio'r dull canlynol:
Pan fo llai o amser ar eich dwylo
Dyma un fersiwn o 'Lazy guide to washing your bike':
Mae hwn yn debyg iawn i sut dwi'n gwneud pethau pan dw i ar hast neu'n teimlo'n ddiog. Ond dwi ddim hyd yn oed yn trafferthu tynnu'r olwynion, na llenwi bwced efo dŵr a sebon.
Ar ôl rins go dda efo can dyfrio, bydda'i'n defnyddio'r spray pwrpasol a'i roi o dros bob rhan o'r beic (yn llythrennol).
Tra bo hwnnw'n gwneud ei waith ar y ffrâm bydda'i'n rhoi go ar y tshaen a gweddill y bits felly, fel arfer efo'r brwsh bach Muc Off (er, mae ailymweld â'r fideos yma wedi fy atgoffa o ffyrdd gwell o'i wneud o).
Wedyn efo brwsh fawr mynd dros y ffrâm a'r olwynion nes bod rheiny'n lân. Rins arall, a dyna ni.
Weithiau mi fydda'i'n estyn hen (hen) grys T (Dwi'n ffrind i Mr Urdd!) i roi weipad fach arall.
Fel arall, dyna ni.
Dw i wastad yn mynd ar drywydd effeithlonrwydd - gwerth da am fy amser. Felly am 'mod i'n gallu cael y beic yn lân i raddau helaeth efo'r dull yma, a dydy o ddim yn cymryd llawer o amser - dwi'm hyd yn oed yn gorfod mynd i'r tŷ i nôl dim byd - mi wnai sticio ato fo dwi'n meddwl.
Ond gobeithio'ch bod chithau wedi cael ambell syniad da, fel ydw i wedi, wrth gymryd golwg ar y ddau fideo.
A gobeithio'ch bod chi heb ddiflasu'n llwyr!
Comments