Mwy o'ch cyfraniadau chi ar gyfer y gyfres, 'Stepen Drws', sydd yma yn y gofnod yma - y tro hwn yn edrych ar y caffis seiclo gorau yng Ngogledd Cymru.
Riverside Cafe & Tea Room, Malltraeth
Dyma gaffi croesawgar yng nghanol Sir Fon sy'n cynnig cacennau o'r radd flaenaf ac yn sicr yn croesawu diwylliant seiclo.
Caffi Capel Gwynant, Beddgelert
Mae hwn unwaith eto'n gaffi sy'n apelio at seiclwyr - y gyntaf yn y gyfres yma sydd wedi'i throsi o fod yn gapel.
Hebog, Beddgelert
Mae'n amlwg fod caffi'r Hebog ym Meddgelert yn dathlu diwylliant seiclo gyda dewis eang o fwydydd sy'n addas i bawb.
Becws Islyn, Aberdaron
Bwydydd cartref at ddant pawb ar gael ym Mecws Islyn, gyda chacennau, tartenni, brechdannau a llawer mwy i'w mwynhau.
Caffi Maes, Caernarfon
Dewis eang o fwydydd unwaith yn rhagor gyda bwydlen sy'n amrywiol, gan gynnwys byrbrydau allweddol neu brydau mwy.
One Planet Adventure, Canolfan BM Llandegla
Nid caffi seiclo ffordd o reidrwydd, ond mae'r caffi yng Nghanolfan Beicio Mynydd Llandegla ymysg y goreuon - bwyd o'r gril neu fwydydd oer. Rhywbeth i bawb.
Rhug, Corwen
Ar stad Rhug mae bwyty sy'n ennill gwobrau lu, yn ogystal a'r adeilad allanol sydd bellach yn cynnig byrgyrs, cacennau a diodydd poeth ar alw.
Artisan's, Llyn Efyrnwy
Yn ogystal a chynnig gwasanaeth llogi beiciau, mae caffi Artisan's yn Llanwddyn, Llyn Efyrnwy, yn y lleoliad perffaith am baned a chacen, neu rywbeth mwy.
-
Diolch am ddarllen y gofnod a chofiwch rannu'ch hoff gaffis chi yn y sylwadau isod neu ar Trydar. Edrych ymlaen at gaffis y de!
Comments