Os ydych chi unrhyw beth tebyg i fi, mae wedi bod yn bleser gweld y torfeydd arbennig yn llenwi’n sgriniau ar gymalau agoriadol y Tour de France eleni yn Nenmarc.
Drwy’r glaw ofnadwy ar y cymal cyntaf yn erbyn y cloc yn y brifddinas, ac wedyn yn codi pethau i lefel uwch ar yr gymal dau a thri.
Bob tro y byddai Magnus Cort ennill un neu ddau o bwyntiau i’r dosbarthiad mynyddoedd, byddai'r dorf yn mynd yn wyllt ac yntau’n sicr yn sawru pob eiliad o fod ymysg ei gyd-wladwyr brwdfrydig. Dywedodd ei gyd-reidiwr EF, y Cymro Owain Doull, fod ei glustiau’n dal i frifo oriau wedi’r cymal wedi’r holl sŵn.
Pobl Denmarc ym mhobman ar route y Tour ar gymal 2
Ond o le mae’r brwdfrydedd yma wedi dod? Beth sydd wedi gwneud Denmarc yn genedl seiclo?
Mae seiclo yn Nenmarc wedi’i wreiddio yn y diwylliant ar lawr gwlad. Mae’r llywodraeth yn annog seiclo ar gyfer pob diben; teithio teuluol, cario nwyddau, cymudo a phleser. Yn y dinasoedd, mae’r isadeiledd yn ei le fel ei bod yn haws mynd o fan i fan ar feic na mewn car.
Dyma ychydig ystadegau gan y llywodraeth:
Mae 9 ym mhob 10 o bobl Denmarc yn berchen ar feic.
Mae pobl Denmarc yn seiclo milltir y dydd ar gyfartaledd
Mae seiclo yn cyfri am chwarter holl deithio Denmarc am deithiau llai na phum milltir
Daeth beics i Ddenmarc am y tro cyntaf ym 1880, ac fel mewn nifer o leoliadau ledled y byd, daethant yn symbol o ryddid a chyfartalwch.
Ond yn wahanol i wledydd eraill, mi lwyddon nhw i barhau defnydd uchel y beic pan ddaeth ceir yn boblogaidd ar ddiwedd y 50au. Safodd pobl Denmarc yn gryf yn erbyn ehangu isadeiledd ceir ac adeiladu traffyrdd newydd, llydan, gyda phrotestiadau i wneud Copenhagen yn ddi-gar.
Dydy hi ddim yn anarferol gweld plant ar gefn beics eu rhieni o gwmpas y lle gan ei fod yn fodd trafnidiaeth blaenllaw. Erbyn iddyn nhw gyrraedd yr ysgol wedyn, maent yn barod i ddefnyddio’u beic eu hunain ac mae’r trosglwyddiad o un i’r llall yn naturiol.
Erbyn hyn, mae cynllunwyr trefol yn y wlad yn prysur cynllunio cycling super highways fydd yn adeiladu ar y dyhead i wneud seiclo o fan i fan yn haws na gyrru’r car o fan i fan, gan greu llwybrau seiclo llydan, ond yn fwy pwysig na hynny, i ffwrdd o geir a cherddwyr.
Does dim amau chwaith, yn fy marn i, fod ‘na gysylltiad rhwng y lefel uchel o seiclo a welir yn Nenmarc a’u record ddihafal - ochr yn ochr a’u cymdogion Sgandinafaidd - ymysg y gwledydd ‘hapusaf’ yn y byd.
Mae llysgenhadaeth seiclo’r wlad yn dweud:
fod pobl sy’n cymudo i’r gwaith ar feic yn Copenhagen yn gofyn am 1.1 miliwn yn llai o ddiwrnodau sal na rhai sy’n cymudo yn y car
fod seiclwyr Denmarc yn lleihau allyriadau carbon o 20,000 tunnell y flwyddyn ar gyfartaledd
fod pob cilomedr o seiclo yn gyfystyr ag ennillion o 1 ewro o ran buddion iechyd
Seiclwyr o bob lliw a llun yn Copenhagen
Gyda defnydd uwch o feics, daw mwy o reolau.
Mae gan bob beic yn Nenmarc rif cofrestru penodol, fel sydd ar geir yn y wlad yma, ac wedi bod ers 1942. Ceir ‘VIN’ wedi’i roi ar y beic gan y gwneuthurwr, ac mae’n anghyfreithlon peidio â gwneud hynny.
Gellir derbyn dirwy am beidio â defnyddio golau ar y beic mewn oriau penodol o’r dydd, peidio â chael cloch sy’n gweithio, yn ogystal â nifer o bethau mwy amlwg fel seiclo drwy olau coch neu seiclo dan ddylanwad alcohol.
Symudwn ymlaen at ochr broffesiynol y gamp. Pan ddaeth Bjarne Riis y Daniad cyntaf i ennill y Tour de France ym 1996, mae seiclo wedi cynyddu hyd yn oed yn fwy, a’r nifer o seiclwyr o Ddenmarc yn y peloton wedi cynyddu’n sylweddol.
Yn 2022, mae 24 o reidwyr o Ddenmarc ar y World Tour, y lefel uchaf. Yn y Tour de France eleni, gyda’r hwb ychwanegol o ddechrau’n eu mamwlad, mae 10 o reidwyr o Ddenmarc yn cystadlu, a dim ond tair cenedl sydd â mwy o reidwyr yn y ras eleni.
Yn gyffredinol, mae’r rhan fwyaf o’r reidwyr hyn yn rhai sy’n hoff o’r bryniau ac yn meddu ar rinweddau ymosodol, ffrwydrol.
Yn eu plith, mae cyn-bencampwr y byd Mads Pedersen gystadlodd yn agos at y brig yn y wib ar gymal 2, ac hefyd Magnus Cort sydd bellach yn y crys polca dot. Un arall yw Kasper Asgreen, reidiwr hynod o bwerus sy’n fwyaf adnabyddus am ennill De Ronde van Vlaanderen.
Kasper Asgreen yn ennill De Ronde van Vlaanderen yng nghrys pencampwr Denmarc
Hefyd ymysg y Daniaid mae’r tywysydd gwib gorau yn y byd, Michael Mørkøv, wnaeth arwain Cavendish at ddod yn hafal â’r record gymalau llynedd, ac sydd eisoes wedi rhoi Fabio Jakobsen ar drywydd buddugoliaeth yn y Tour eleni.
Mae’n ddiddorol nodi hefyd fod dringwyr yn serennu o Ddenmarc. Er nid yn ddringwr pur, mae Jakob Fuglsang wedi cystadlu’n uchel ar ddosbarthiad cyffredinol y Tour ac wedi ennill y Critérium du Dauphiné yn y gorffennol.
Ond mae Jonas Vingegaard, sy’n hannu o ranbarth gogleddol y wlad, yn ddringwr pur - o bosib yn fwy o ‘ddringwr pur’ na nifer fawr o’r ffefrynnau eraill, gan gynnwys ei gyd-reidiwr Jumbo, Primož Roglič.
Ar ochr menywod y gamp, mae cynrychiolaeth o Ddenmarc yn dueddol o fod dipyn yn llai nag ochr y dynion. Dim ond pump o reidwyr o Ddenmarc sy’n rhan o World Tour y menywod, er fod rhaid cydnabod fod World Tour y menywod gryn dipyn yn llai o ran nifer na’r gylchdaith gyfystyr i’r dynion.
Eto, mae’r dair yma yn cyd-fynd â’r patrwm o reidwyr ymosodol sy’n hoff o’r bryniau sy’n dod o’r wlad. Mae Amalie Dideriksen yn sicr yn un o’r rhain, a hithau wedi ennill pencampwriaeth y byd ‘nôl yn 2017.
Er ond yn 22 oed, mae Emma Norsgaard ymysg gwibwyr a puncheurs gorau’r peloton a hithau’n sicr wedi dangos ei gallu yn ddiweddar, gan gyrraedd y podiwm mewn llu o rasys undydd gan gynnwys ennill Le Samyn.
Un arall yw Cecilie Uttrup Ludwig, un o gymeriadau mwyaf hoffus y gamp a hithau’n enwog am ei chyfweliadau hynod fywiog. Ddim yn ffôl ar ddwy olwyn chwaith, yn gyson yn cystadlu ar y lefel uchaf un gan gyrraedd y podiwm mewn nifer o rasys undydd bryniog, ac yn sicr yn un i’w gwylio’n y Tour de France Femmes.
Cecilie Uttrup Ludwig, pencampwraig Denmarc
Mae Denmarc yn sicr yn ychwanegiad teilwng i’r gyfres o genhedloedd seiclo; yn dangos y ffordd i genhedloedd o bob math yn y peloton, fel cefnogwyr ac ar lawr gwlad.
Comments