Wythnos diwethaf, cyhoeddwyd y gyntaf o fy nghofnodion yn clodfori cenhedloedd y byd seiclo gyda Gwlad y Basg, a hynny oherwydd fod ras Itzulia ar ei anterth bryd hynny.
Dyna i chi beth oedd ras - y ras wythnos orau o'r tymor hyd yma, heb os. Arddangosiad dactegol argyhoeddiadol iawn gan Jumbo Visma wrth i Primoz Roglic gipio'r dosbarthiad cyffredinol, wedi'i blethu gyda chyfuniad o'r ifanc a'r profiadol a rasio ymosodol ac athreuliol.
Ennillydd y cymal olaf oedd David Gaudu, gyd-weithiodd yn wych gyda Primoz Roglic (a Hugh Carthy am sbel hefyd) cyn camu i'r fuddugoliaeth. Yn ei gyfweliad wedi'r cymal, dywedodd mai Gwlad y Basg oedd fersiwn Sbaen o Lydaw.
Rheswm perffaith i felly blymio i ddysgu mwy am gysylltiad Llydaw gyda seiclo proffesiynol.
Ond mae mwy na hynny. Disgynodd eitem newyddion gadarnhaol a hanesyddol o dan y radar ddydd Gwener wrth i Senedd Ffrainc basio bil i warchod ieithoedd rhanbarthol gan ymestyn a chyfoethogi'r addysg mewn ysgolion.
Bum hefyd yn darllen Slaying The Badger gan Richard Moore dros y Pasg sy'n cloriannu Tour de France 1986 sy'n enwog am y naratif rhwng yr ennillydd Greg Le Mond a'r sawl yn yr ail safle sef Bernard Hinault, oedd ar yr un tim yn La Vie Claire.
Cyfrol wych iawn yr ydw i'n ei argymell yn fawr.
Felly, dyma benderfynu mai dyma'r amser perffaith i ysgrifennu cofnod am Lydaw a'i chysylltiadau cryf a seiclo.
Bernard Hinault yw'r Ffrancwr olaf i ennill y Tour de France, a hynny ym 1985, bron i 36 o flynyddoedd yn ol.
Daw Hinault o Yffiniac ar arfordir gogleddol Llydaw ac fe'i ystyrir fel y seiclwr mwyaf o Lydaw fu yn y peloton erioed. Yn gymeriad lliwgar, mae'n un o'r unig 4 i ennill y Tour 5 o weithiau (ochr yn ochr ag Eddy Merckx, Jacques Anquetil a Miguel Indurain).
Yn ogystal a hynny, llwyddodd i gipio teitl y Giro deirgwaith, y Vuelta ddwywaith a phump monument yn ystod ei yrfa, tra'n ennill 41 o gymalau mewn Grand Tours.
Ond cofier hefyd am un arall o enwogion seiclo Llydaw, sef Louison Bobet, ennillodd y Tour de France deirgwaith yn olynol rhwng 1953 a 1955. Un o St Meen le Grand i'r dwyrain o Rennes oedd Bobet.
Bu yntau'n llwyddiannus ar draws y calendr seiclo, gan gipio 4 monument, 12 cymal Grand Tour a phencampwriaeth byd yn ystod gyrfa lewyrchus.
Beth sydd wedi chwarae rhan yn llwyddiant y rhain a mwy, fwy na thebyg, yw tirwedd bryniog Llydaw sydd wedi tynnu dwr i ddannedd trefnwyr a chynllunwyr rasys dros y blynyddoedd.
Aeth y Tour de France i Lydaw, ar ei ffurf fodern, am y tro cyntaf ym 1905 yn Rennes. Fodd bynnag, cynhaliwyd cymalau yn Nantes yn 1903 ac 1904 ac er iddo fod yn y Pays de la Loire erbyn heddiw, roedd unwaith yn brifddinas ar Lydaw ac ystyrir hyd heddiw iddo gael enaid Lydaweg wirioneddol.
Mae'r Mur de Bretagne yn chwarae rhan yn y cymalau TdF sydd wedi bod yn Llydaw ers hynny, a cynhelir y Grand Depart yno eleni, rhywbeth y gallwn ni edrych ymlaen ato.
Ond nid yn unig yn y Tour de France mae Llydaw'n cael ei arddangos. Mae ganddo'i rasys undydd ei hun sy'n enwog yn eu hunain.
Mae'r GP Plouay yn enghraifft amlwg - ras i fenywod sydd heb ei hennill hyd yn hyn gan unrhyw Ffrances, heb son am Lydawes. Enw cyfarwydd sydd wedi ennill y mwyaf o weithiau yma, sef Lizzie Deignan o Swydd Efrog sydd wedi ennill deirgwaith.
Erbyn hyn, gelwir y ras cyfatebol i ddynion yn Bretagne Classic Ouest France. Yn y ddwy ras, mae dringfeydd Cote de Lezot a'r Cote de TyMarrec yn chwarae rhan allwedol ac fe'u hennillir fel arfer gan arbenigwyr y clasuron neu ddringwyr gyda gwib dda yn eu arsenal.
Ond o bosib, y ras sydd wedi dennu calonnau fwyaf ar draws y byd seiclo yw Tro Bro Leon (gallwn ni weld y cysylltiad amlwg yma rhwng y Lydaweg a'r Gymraeg - tro bro yn gyfystyr yn Gymraeg).
Fe'i hystyrir yn debyg i Paris-Roubaix sy'n cael ei alw'n Uffern y Gogledd o bryd i'w gilydd, ac wedi hynny mae Tro Bro Leon yn cael ei alw weithiau'n Uffern y Gorllewin.
Hynny oherwydd natur yr heolydd. Mae canran go sylweddol o'r ras yn heolydd llwch, graean a chrynfeini - ribinou yn Llydaweg.
Bydd Tro Bro Leon eleni'n cael ei chynnal ar ddydd Sul, yr 16eg o fis Mai a bydd darllediad ar Eurosport/GCN.
Mi wnawn ni gloi cofnod heddiw fel y gwnaethon ni ei dechrau, drwy grybwyll David Gaudu.
Yn y wasg Ffrangeg, mae murmuron mai dyma yw blwyddyn David Gaudu. Mae'n seiclo i dim Groupama-FDJ, dan reolaeth Llydawwr arall yn Marc Madiot. Mae'r Grand Depart yn Llydaw, ac mae'r amser sydd wedi pasio ers yr hen atgofion melys o Hinault yn parhau i boenydio'r Ffrancwyr.
Gaudu, felly, i wireddu gobeithion cenedl fach Lydaw a chenedl fwy Ffrainc yn y Tour eleni?
Cawn weld.
Gobeithio ichi fwynhau'r ail gofnod o'r cenhedloedd seiclo'r wythnos hon wrth i ni ymlwybro drwy gysylltiadau Llydaw gyda seiclo. Oherwydd saith wythnos brysur sydd gen i o'm blaen gydag asesiadau, bydd darpariaeth Y Ddwy Olwyn o gofnodion ar nos Sul yn parhau, ond mae'n annhebygol y bydd unrhywbeth ganol wythnos. Ond na phoener; mae digon o gynnwys cyffrous ar y gorwel a chatalog eang o gofnodion sydd eisoes wedi'u cyhoeddi ar gael i bori drwyddyn nhw.
Comments