top of page
Writer's pictureGruffudd ab Owain

Cenhedloedd Seiclo: Slofenia

“We are a nation of peasants. We’ve always been ruled by somebody.”


Dyna eiriau Gorazd Štangelj, y cyn-seiclwr proffesiynol o Slofenia sydd bellach yn gweithio â charfan Bahrain-Victorious pan yn trafod ei famwlad. Yn wir, mae’r genedl ei hun yn ieuengach na rhai o’i sêr presennol sy’n chwyldroi’r peloton. Daeth yn wlad sofran annibynnol ym 1991; y cyntaf i dorri’n rhydd o Iwgoslafia wedi bron i hanner canrif, hynny wedi iddo fod yn rhan o dir nifer o ymerodraethau yn eu hanes. Ganwyd Primož Roglič ym 1989 - reidiwr sydd bellach wedi tyfu’n un o reidwyr mwyaf llwyddiannus a chymeriadau mwyaf difyr y peloton.

Mae’n wlad fach, yn genedl fychan, yn debyg o ran ei rhinweddau i Gymru, mewn gwirionedd. Yn 7,827 milltir sgwar o ran arwynebedd, mae fymryn yn llai na Chymru a’i 8,032 milltir sgwar, tra bo’i phoblogaeth yn 2 filiwn, o’i gymharu â’n 3 miliwn ni. Ac fel yr ydym ni Gymru’n ei ganfod yn reit aml, mae’n fyd bach. Dim ond 10 o seiclwyr proffesiynol o Slofenia sydd yn y World Tour; 7 yn peloton y dynion a 3 yn peloton y menywod. Ond maen nhw i gyd, bron, yn enwau adnabyddus.


Cofnodion blaenorol yn y gyfres:

Y rheswm dros ddewis Slofenia ar gyfer cenedl seiclo’r tymor hwn yw ei llwyddiant ar draws y flwyddyn - dyma’i blwyddyn fwyaf lwyddiannus hyd yn hyn, a’u reidwyr wedi ennill 70 o rasys rhyngddynt. Mae hynny’n eu rhoi nhw’n 7fed ar restr detholion ProCyclingStats, o flaen gwledydd fel Colombia - un arall o’r cenhedloedd sydd wedi chwyldroi’r gamp yn ddiweddar. Ond daeth eu buddugoliaethau nhw gan 23 o reidwyr. Mae gan y cenhedloedd yn uwch na nhw ar y rhestr - Prydain, Sbaen, yr Eidal, Ffrainc, Gwlad Belg a’r Iseldiroedd - ddegau ar ddegau o reidwyr yn y peloton. Cnewyllyn bychan iawn yn y peloton mawr yw Slofeniaid, ond eto maen nhw’n sicr yn ‘gor-gyflawni’. Yn wir, Slofenia yw’r genedl leiaf o ran poblogaeth i fod yn gymwys i gael carfan lawn o wyth reidiwr ym mhencampwriaethau’r byd.

Mae’r ddringfa i’r brig wedi bod yn un ddigon graddol - ond does dim amau mai cyfodiad reidwyr fel Roglič a Tadej Pogačar sydd wedi rhoi Slofenia ar y map yn y byd seiclo. Sôn am fap, mae Slofenia yn sicr yn groestorfan (intersection). Boed hynny rhwng diwylliannau ac ieithoedd Almaenig, Slafig a Romáwns neu rhwng ffin yr Eidal ac Awstria, lle saif Alpau Julijske (gyfieithir i Julian Alps). Ceir yr arwyneb creigiog gysylltir â’r Dolomiti, yn ogystal â’r dolydd o flodau gwyllt sy’n atgoffa rhywun o Awstria neu’r Swistir.

Peth difyr y dois i ar ei draws wrth ymchwilio at y cofnod hwn oedd y Bike Green Slovenia, lansiwyd yn ddiweddar. Cenedl o fôr a mynydd - ac mae’r route yn pontio rhwng yr Alpau yn y gogledd a Môr Adria yn y de ar hyd ochr orllewinol y wlad. Mae’n route 180 milltir dros 6 diwrnod o darmac a graean, gan stopio ar y daith mewn dinasoedd, trefi a phentrefi gwyrdd tystiedig yn unig - y cyntaf o’i fath yn y byd. Mae’n annog rhannu Slofenia â’r byd ar ddwy olwyn mewn modd sy’n parhau i barchu’r tir ac yn hybu bioamrywiaeth a phwysigrwydd bro. Ecodwristiaeth ar ei orau sy’n dangos esiampl i bawb ledled y byd.

Yn ôl at y reidwyr, enwyd Pogačar yn reidiwr y flwyddyn eleni a’r llynedd gan nifer wedi’i fuddugoliaethau’n y Tour yn ogystal â Liège a Lombardia a llu o rasys wythnos. Seren newydd y byd seiclo sy’n sicr o feddiannu am flynyddoedd i ddod. Ei fygythiad mwyaf - am yr ychydig flynyddoedd nesaf o leiaf - fydd ei gyfaill Roglič; yntau wedi sicrhau buddugoliaethau cofiadwy yn Itzulia, y Gemau Olympaidd a’r Vuelta. Slofeniad arall amlygodd ei hun eleni oedd Matej Mohorič, reidiwr bywiog a brwdfrydig enillodd ddau gymal o’r Tour. Nid ifanc mohonyn nhw i gyd chwaith; Eugenia Bujak a Urša Pintar yn brofiadol yn peloton menywod, tra bo injan tractor Jan Tratnik yn gyfarwydd i ni gyd. Heb anghofio’r gwibiwr galluog Luka Mezgec na’r domestique ffyddlon Domen Novak.


Fel y gwnes i grybwyll yn gynharach, mae’n fyd bach. Mae dyweddi Pogačar, Urška Žigart, yn prysur wneud enw i hi’i hun yn peloton y menywod gyda chymal yn Valencia ei buddugoliaeth broffesiynol gyntaf. Tad Jan Polanc, Slofeniad profiadol arall sydd â dwy fuddugoliaeth cymal yn y Giro ar ei palmarès, sy’n gyfrifol am hyfforddi Pogačar ymhlith eraill.


Deg o seiclwyr, cnewyllyn bychan, ond yn cyflawni gymaint mwy na byddai rhywun yn ei ddisgwyl gan genedl fychan a grŵp bychan. Pam hynny, a pham rŵan?


Un rheswm ydy’r lleoliad sydd ganddyn nhw; y mynyddoedd sydd ganddyn nhw i hyfforddi. Mae ambell un o’r dringfeydd yn esgyn i dros 2,000 o fetrau uwchlaw lefel y môr, a hynny’n aml iawn ar raddiannau serth. Felly does dim syndod pam fod Pog a Rog yn ymddangos yn gartrefol ar y graddiannau heriol ac yn yr uchelfannau pan fo’r aer yn deneuach. Mae’n gymaradwy iawn i’r uchder a’r graddiant sy’n chwarae rhan mor allweddol yn y Grand Tours lle maen nhw’n serennu. Yn ogystal, tyb nifer yw fod ymroddiad ac ymdrech yn rhan o hunaniaeth Slofeniaid, yn rhannol oherwydd eu hanes o frwydro am ryddid.


Ond mae’r rheiny wedi bod yno erioed. Pam mai ond yn y ddau ddegawd diwethaf y mae seiclwyr o Slofenia’n gwneud enwau iddyn nhw’u hunain yn y peloton? Awgrymir gan ambell un fod y sefyllfa wleidyddol wedi bod yn allweddol. Cyn eu hannibyniaeth ym 1991, roedd yn rhaid talu blaendal cyn gadael Iwgoslafia. Does dim angen arbenigwr i weld fod hynny’n rhwystr amlwg i ddatblygiad seiclwyr y genedl; yng ngweddill Ewrop mae’r rasys mawr. Yr un rhai sy’n awgrymu fod ymdeimlad Ewropëaidd wedi cyfrannu, a hwythau wedi ymuno â’r UE yn 2004. Bydd hynny hefyd wedi hwyluso’r broses o gystadlu yn sicr.


Wrth edrych tua’r dyfodol, mae llwyddiant yn magu llwyddiant. Er, fel soniwyd eisoes, ei bod hi wedi bod yn ddringfa raddol i’r brig i Slofenia dros yr ugain mlynedd diwethaf, does dim byd yn mynd i ysbrydoli cenedl yn fwy na brwydr rhwng dau Slofeniad am dlws mwya’r gamp, y Tour de France. Synnwn i ddim o gwbl pe na bai’r deg cynrychiolydd yn cynyddu dros y blynyddoedd nesaf tra bo Pogačar yn teyrnasu’r gamp (heb geisio temptio ffawd); ac os ydyn nhw’n adeiladu ar y sylfaeni adawyd gan y to presennol, maent yn sicr o lwyddo.


Cenedl fechan sy’n serennu ar lefel uwch na sy’n ddisgwyliedig ohonynt. Cenedl fechan sy’n arwain y gad mewn nifer o feysydd. Cenedl fechan sy’n esiampl i genhedloedd bychain eraill ei dilyn.








Recent Posts

See All

Comments


bottom of page