Dwi’n un sy’n caru bargeinion. Ond i mi, rhaid cael gwerth am arian i gyd-fynd. Os oes gennych gyllideb (budget) dynn, dyma bump o feiciau sydd ar fy rhestr fer i ac yn gwerthu am lai nac £800.
Dylech nodi fod mwy na hyn ar gael, ond o’m ymchwil i, dyma’r rhai sy’n sefyll allan.
Beth i’w ddisgwyl
Groupset: Yn y categori arian yma, Shimano Tiagra ar gyfartaledd yw’r gorau gallech chi ei gael; ond mae tri o’r canlynol yn cynnig Shimano 105, sy’n well eto.
Olwynion: Bydd nifer o feiciau’n cynnwys olwynion o’u cwmniau eu hunain, ond, er yn brin, mae olwynion Mavic Aksium ar gael.
Ffram: Anaml iawn bydd ffram garbon i’r beiciau ar y prisiau yma, a does dim un ohonynt ar y rhestr yma yn cynnig hynny.
Pwysau: Bydd beiciau ysgafnach yn gyflymach pan fo’r ffordd yn gwyro ar i fyny, ond ar gyfartaledd mae beiciau o fewn y pris yma rhwng 8-10kg.
B-Twin Triban 540
Groupset: Shimano 105
Olwynion: Mavic Aksium
Ffram: Aliminiwm
Pwysau: 9.4kg
PRIS: £679
Canyon Endurace AL 6.0
Groupset: Shimano Tiagra
Olwynion: Mavic Aksium
Ffram: Aliminiwm
Pwysau: 8.6kg
PRIS: £799
B-Twin Ultra 900 AF
Groupset: Shimano 105
Olwynion: Mavic Aksium
Ffram: Alwminiwm
Pwysau: 8.9kg
PRIS: £799
Pinnacle Laterite 3
Groupset: Shimano 105
Olwynion: Dim gwybodaeth
Ffram: Alwminiwm
Pwysau: 9.8kg
PRIS: £700
Merlin Axe7 Disc
Groupset: Shimano Tiagra
Olwynion: Mavic CXP
Ffram: Alwminiwm
Pwysau: 10.8kg
PRIS: £649.99 (fersiwn 2017)
Felly’n amlwg mae’r dewis i chi yn sgil yr hyn yr ydych ar ei ol.
I gael popeth mewn un am bris anhygoel, yn bendant dylech ddewis y B-Twin Ultra 900 AF. Mae 500g yn ysgafnach na’i gyd-fodel B-Twin Triban 540, ond fel arall yn cynnig spec uchel Shimano 105 a Mavic Aksium.
Yn dilyn ar y pwnc o bwysau, yr ysgafnaf ar y rhestr yw’r Canyon Endurace Al 6.0, sy’n pwyso 8.6kg – ysgafn iawn am y pris. Bydd hyn yn arwain at gyflymder cyfartalog uwch pan fo’r ffordd yn gwyro ar i fyny, ond 10 ger a Shimano Tiagra’n anffodus ddim yn cynnig perfformiad cweit cystal na’r 105.
Yn gyfuniad o bopeth am bris rhesymol o £700 mae’r Pinnacle Laterite 3. Ddim mor ysgafn na’r B-Twin Triban, hynny o bosib oherwydd y diffyg Mavic Aksium fel olwynion. Ond, cynnigai Shimano 105 a hynny i’w ganmol am y pris.
Yn fwy o feic i’r gaeaf efallai mae’r Merlin Axe 7. Y pwysau o 10.8kg yn drymach o lawer na’r beiciau eraill ond cynnigir breciau disg ar gyfer diogelwch gwych. Dim 105 nac Aksium, ond bydd rhai’n cymryd y cyfle i gael y breciau yma.
Ond i mi, fy hoff feic ar y rhestr yw’r B-Twin Triban 540. Am bris anhygoel, cynnigai Shimano 105 a Mavic Aksium i gynnig perfformiad gwych, ac yn ysgafnach na’r mwyafrif o feiciau am y pris. I nifer, hwn fydd y beic i’w ddewis o’r rhestr fer a’n bendant dylech ystyried hon fel beic i seiclwr o unrhyw allu.
Comments