Roedd Le Tour de France eleni yn sicr un yn cofiadwy am nifer o resymau, gan gynnig adloniant yr oedd y byd i gyd yn ei haeddu mewn blwyddyn na welwyd ei math o'r blaen.
Cafodd y darlledwr Iseldireg, NOS, fewnwelediad ddigynsail i swigen TdF tim Jumbo-Visma a thrwy hynny yn cynnig rhaglen ddogfen ddiddorol tu hwnt ddarlledwyd dros y Nadolig. Ei enw oedd Code Geel - Code Yellow yn Saesneg.
Roedd ar YouTube gydag isdeitlau Saesneg rhydlyd tan heddiw ond erbyn hyn mae'r darlledwr wedi hawlio tor-hawlfraint. Gellir ei wylio ar eu gwefan nhw yma (mae'n bosib cael hanfod hyd yn oed os nad oes gennych ronyn o Iseldireg, fel fi).
Wedi blynyddoedd o Sky/Ineos yn meddiannu'r Tour de France gan ennill gyda Wiggins, Froome, Geraint ac Egan Bernal, roedd Jumbo eleni ar gyrch i ddod a hynny i ben.
Eu harweinydd oedd Primož Roglič, y Slofeniad, ac yn ei gefnogi roedd rhai o reidwyr cryfaf y byd megis Tom Dumoulin a Wout van Aert, yn ogystal a'r domestiques pwerus Sepp Kuss, Tony Martin, Robert Gesink, George Bennett ac Arnund Grondahl Jansen.
Wedi perfformiadau meddiannol yn y rasys oedd yn arwain at y Tour, megis y Criterium du Dauphiné a'r Tour de l'Ain, roedd hunan-hyder o fewn y tîm yn amlwg iawn a daw hyn yn glir yn y rhaglen ddogfen.
Un o'r pethau amlycaf yn y rhaglen yw dylanwad Tom Dumoulin, a hynny'n naturiol ddigon wrth ystyried ei brofiad. Mae'n ddigon bodlon hefyd i roi'i farn gerbron y garfan a'r staff.
Yn y dyddiau cyntaf, roedd yr Iseldirwr yn grediniol bod y tîm yn 'reidio fel pe bai ganddyn nhw'r crys melyn yn barod' a bod 'gormod o hyder’ yn 'beryglus'.
Mae Dumoulin yn dod ar draws yn berson agored iawn, sy'n hollol wahanol i Roglič sy'n dawel ac yn reit fewnblyg. Mae’r Slofeniad yn cael ei guddio cryn dipyn yn hanner cyntaf y rhaglen, gyda’r golau ar Dumoulin.
Yn yr wythnos gyntaf, mae'n amlwg mewn poen ac yn anhapus am ei safle ar y beic, a cheir golygfa syfrdanol braidd ohono'n emosiynol iawn a ddengys bod yr athletwyr yma’n ddynol.
Yn ôl rhai, mae’n dod ar draws fel person cwynfanllyd a negyddol, sy’n annisgwyl o ystyried bod hwn yn rhaglen Iseldireg yn goleuo’u gobaith gorau ers sbel o ennill y Tour.
Canmol, fodd bynnag, wnai o Wout van Aert. Caiff hwnnw ei ogoneddu yn y rhaglen, ac mae’i gryfder oedd mor ddylanwadol yn y Tour yn amlwg.
Er iddo ennill pâr o gymalau gwibio, mae’n ymddangos yn ddiymhongar iawn ac yn barod i aberthu’i obeithion personol dros ei arweinwyr.
Cymer damwain Tom Dumoulin fel enghraifft. Ar cymal lle roedd gan WvA obaith gwirioneddol o ennill, y fo arafodd i’w dynnu yn ôl i flaen y peloton.
Roedd cryfder ac amryddoniau WvA yn glir i’r gwylwyr ar y pryd ar y cymalau mynyddig cyntaf (i Orcieres-Merlette, er enghraifft), a cheir atgoffiad o’i nerth yn y rhaglen gyda geiriau’r staff yn y ceir ‘Wout, calm down’.
Rhyfedd, fodd bynnag, yw’r ffaith eu bod wedi hepgor dylanwad aruthrol Sepp Kuss o’r rhaglen ac yntau wedi bod yn amhrisiadwy i’r tîm. Ond eto, pan ystyriwn mai rhaglen Iseldireg yw hon, mae domestique o wlad Belg yn debygol iawn o gael mwy o sylw nac Americanwr.
Peth arall amlwg a ddaw o’r rhaglen yw’r tîm y tu ôl i’r reidwyr. Ar un llaw, mae’u harbenigedd a’u profiad yn glir wrth iddyn nhw baratoi popeth i’r milimedr cywir a rhagweld yr angen i baratoi am groeswyntoedd oedd yn hanfodol ar y pryd.
Ond wrth edrych yn ôl wedi’r cymal 20 enwog hwnnw, mae’n amlwg bod camgymeriadau tactegol wedi bod. Roeddent yn edifaru gadael i Pogacar gael deugain eiliad ar ei fuddugoliaeth ar y Peyresourde, a Roglic yn cwyno iddynt ‘dynnu’ ei gyd-wladwr i’r cilomedr olaf.
Caiff cymal 20, un sy’n hanesyddol yn ôl nifer, sylw mawr a hynny’n gyfiawn wrth gwrs. Diddorol iawn yw gweld y fath naratif mewn chwaraeon o safbwynt yr un sy’n ddioddefwr ar y diwrnod tyngedfennol, lle fel arfer bydden ni’n gweld stori’r underdog.
Anghrediniaeth yw’r unig air y gellir ei ddefnyddio i ddisgrifio’r ymdeimlad gorchfygol yn wynebau ac yn iaith y garfan.
Dilynwn Roglič yn y car gyda’r directeurs sportives a’u rhegfeydd rheolaidd wrth i’r cloc ddod i lawr i ddim a Pogacar yn y melyn.
‘Dit kan toch niet’ - all hyn ddim bod.
‘Hoe hard kan die jongen rijden?’ - pa mor gyflym all hwn fynd?
Dydy Roglič na Dumoulin na’r tîm ddim yn gallu credu’r hyn sydd wedi digwydd. ‘Weithiau dwi’n ennill, weithiau dwi’n colli’ oedd ymateb Roglič wedi’r cymal, cyn i ni’i weld o’n cracio o’r diwedd cyn cynhadledd y wasg.
Doedd dim posib iddyn nhw fynd dim cynt, medd y ddau. Gofynna Roglic, ‘os oedd o mor gryf â hyn, pam aros tan cymal 20? Gyda’r fath gryfder, byddai wedi gallu ennill pob cymal ar un goes’.
Wrth gwrs, mae’r papurau newydd a safleoedd newyddion wedi neidio ar yr awgrym cryf hwn o ddrwgweithredu.
Dewisodd Matt Dickinson o’r Times y pennawd canlynol: New footage of Tour de France shows that cycling’s old scars still exist.
Dwi am fynd a dweud fod Mr Dickinson yn gor-ddweud ychydig yma. Mae hanes y gamp yn arwain rhywun, o’i genhedlaeth o yn enwedig, i edrych ar berfformiad syfrdanol gyda llygaid amheus.
Ysgrifennodd Jeremy Whittle yn syth wedi’r cymal fod ganddo amheuon am berfformiad Pogacar, ac mae’n hawdd gweld pam.
Awgrym sydd yn y rhaglen, ac awgrym yn unig. Ond dydi o ddim yn llenwi dyn â hyder am y gamp, nac ‘di.
Comments