Un o'r pethau gwychaf am seiclo wrth gwrs yw ei bod hi'n gamp yn yr awyr agored, a chefnogwyr ar hyd y ffordd sydd heb dalu ceiniog am docyn o fath yn y byd.
A daw cyfle hefyd i seiclwyr ddilyn ôl troed y raswyr ac ymgymryd â'r un heriau â nhw, ddilyn yr un llwybrau â nhw. Alla'i gofio rhywun yn dweud wrtha'i - faint o bobl sy'n mynd i gael y cyfle i chwarae yn Wembley? - pan oeddwn i'n iâu.
Dwi wastad ofn cyhoeddi pethau fel hyn rhag i mi swnio'n hunan-bwysig, ond eto dwi'n gwybod fod llawer ohonoch chi'r darllenwyr yn mwynhau cofnodion mwy personol.
Felly dyma i chi gipolwg o 'nhaith bersonol i ar ffyrdd y Tour de France.
Cyn troi at y mannau sy'n gyfarwydd i mi fydd yn ymddangos ar y Tour eleni, dyma fynd yn ôl mewn amser rywfaint i ddechrau i'ch cyfeirio chi at ddau gofnod blog dwi wedi eu hysgrifennu yn y gorffennol. Mae'r ddau yma ymysg y rhai yr ydw i fwyaf balch ohonyn nhw - mae 'na hoel gwaith caled arnyn nhw, ar y beic ac wrth ysgrifennu! Ynddyn nhw dwi'n dilyn ôl troed cymal nodedig - un o bob rhediad o'r ras - gan fyfyrio ar ambell beth wrth fynd hefyd. Hynny yn y gobaith y bydd o'n ddarllen difyr, yn enwedig am eich bod chi yn hwyl y Tour ar hyn o bryd!
2021
Col de la Colombière, via Col de Romme
Mae’n drydydd o Orffennaf, 2021, a chymal 8 y Tour de France sy’n cael ei gynnal yn gynharach na’r arfer oherwydd y Gemau Olympaidd. Meddyliwch yn ôl flwyddyn - wel, llai na blwyddyn, mewn gwirionedd, i ras 2020. Un o’r rhediadau hwyraf erioed o’r ras, a’r rhan fwyaf yn cael ei chynnal ym mis Medi. Ar y 25ain, hoeliwyd sylw’r byd ar ŵr ifanc o Slofenia, Tadej Pogačar, gynhyrchodd berfformiad arallfydol - gair doji yn y byd seiclo - i gipio’r crys melyn o afael ei gyd-wladwr, Primož Roglič. Yn naturiol felly, Pogačar yw’r ffefryn mawr i ennill y ras am yr eilwaith o’r bron.
Ar ddechrau’r cymal, mae Pogačar yn eistedd yn y pumed safle ar y dosbarthiad cyffredinol. Rhwng ennill y cymal yn erbyn y cloc, cipio eiliadau gwerthfawr ar gymalau bryniog megis i Mur de Bretagne, ac ennill eiliadau bonws fan hyn a fan draw, mae ganddo fantais gadarn dros ei brif gystadleuwyr. Dydy’r hierarchaeth yn eu plith nhw heb sefydlu chwaith, ac mae’r gŵr o Slofenia’n ymddangos ben ac ysgwyddau uwch eu pennau yn barod.
Mae cymal 8 yn gymal rhwng Oyonnax a Grand Bornand, sy’n ddigon pell yn y car i’r rhai ohonom sy’n adnabod traffyrdd a llwybrau tarw y rhanbarth. Er, ‘dim ond’ 150km ydy’r cymal, sy’n gymharol fyr o safonau’r Grand Tours. Yn nhroedfryniau dechrau’r dydd, mae naratif y dydd yn dechrau sefydlu, a daw i’r amlwg mai stori aml-haenog â nifer o edau yn gwau drwyddi fydd hon. Rasys o fewn y ras.
Drwy’r glaw yn gynnar yn y cymal wrth i dempo ffrwydrol gael ei osod, mae Geraint Thomas a Primož Roglič, dau o’r prif ffefrynnau i ennill yn Paris, yn colli gafael ar y ras am y crys melyn a’u gobeithion yn dirwyn i ben.
Dechrau poethi - er nid o ran y tywydd - wna pethau wrth gyrraedd dringfa gategori 1 i Mont Saxonnex ar y ffordd i dref Cluses, ac mae’r dihangiad yn fawr a serennog. Mae’n ddiwrnod sy’n eu siwtio nhw, ac mae’n bur debyg mai dringwr cryf o’u plith fydd yn dathlu yn Le Grand Bornand ar ddiwedd y dydd.
A minnau’n ddigon ffodus o fod wedi bod yn yr ardal hon lawer gwaith erbyn hyn, mae’r Col de la Colombière yn gyfarwydd i mi. Dyma’r ‘dringfa Tour de France’ agosaf at lyn Annecy - neu’r ochr ddeheuol beth bynnag - ac felly mae wedi bod yn uchafbwynt i ambell drip.
Ond ro’n i wastad wedi bod eisiau dringo’r Colombière yr ‘ochr anodd’; yr ochr fyddai’n dod fel denoumenent ar gymal o’r Tour.
Ac felly dyna wnes i eleni, er mwyn ail-greu rhan olaf ymosodiad anferthol Tadej Pogacar ar gymal 8 y Tour llynnedd.
2022
Wrth ddeffro ar ddiwrnod olaf fy ngwyliau yn y Pyrénées yn wythnos olaf mis Gorffennaf, dwi’n gweld golygfa gyfarwydd. Niwl. Brouillard. Mae wedi bod yn batrwm yr wythnos hon, ond yn ffodus, bu i mi allu ddringo drwyddo ac uwchben ar ddau ddiwrnod o’r trip, a hynny i’r Col du Tourmalet ac i Luz Ardiden. Mae’n sicr yn hinsawdd wahanol yng nghrombil y mynyddoedd i’r hyn yr ydw i wedi arfer ag o ar wyliau, yn yr Alpau hyd yn oed.
Y gobaith yw medru esgyn uwch y niwl eto heddiw, ac y bydd modd gweld rhywbeth o gopa’r Hautacam. Yng ngeiriau Mr Picton; cadwch yn y ffydd, cadwch yn y ffydd.
Mae’r ardal hon o’r Pyrénées, elwir yn Mecca i seiclwyr (sy’n eironig gan nad ydy o ddim nepell o Lourdes), yn seiliedig ar geunant y Gorge de Luz. Ar y pen deheuol, mae tref Luz Saint Sauveur - troed y Tourmalet a Luz Ardiden - lle dwi’n aros, ac ar y pen arall mae tref Argelès Gazost - troed y Col du Soulor a’r Aubisque, a’r Hautacam. Felly mae dechrau’r siwrne yn mynd a mi ar y ffordd - yr unig un sy’n cysylltu’r ddwy dref - sy’n gul a gweddol brysur ond ar y cyfan ar y goriwaered, ac ar ei ddiwedd, yn troi i’r dde gan ddilyn yr arwydd am Hautacam.
Mae’r peloton wedi dringo’r Col d’Aubisque ac yna wedi disgyniad byr yn gorfod dringo rhyw fymryn eto i gopa’r Col du Soulor, cyn troi i’r chwith am Ferrières a throed dringfa ola’r dydd, y Col de Spandelles.
Dyma’r diwrnod olaf yn y mynyddoedd, a Jonas Vingegaard sydd yn y crys melyn. Mae Pogačar yn gwybod fod rhaid iddo ymosod o bell heddiw er mwyn ennill y ras.
Mae’r ddrama’n dechrau ar y Spandelles. Pogačar yn ymosod, Vingegaard yn ymateb. Cadoediad. Pogačar yn ymosod eto. Vingegaard yn ymateb. Yng nghanol hyn i gyd, mae’r Cymro Geraint Thomas wedi cael digon ar gael ei ollwng, ac wedi iddo ddal y ddau ar frig y dosbarthiad cyffredinol, yn penderfynu - ‘blow this’ - ac ymosod drosto’i hun. Mae’n cael rhywfaint o fwlch. Ond mae Pogačar yn ymosod eto; yn ffrwydrol y tro hwn. Ond mae fel pe bai glud rhwng ei olwyn gefn ac olwyn flaen Vingegaard. Dydy o methu cael gwared ar y gŵr o Ddenmarc. Wrth groesi copa’r Spandelles, does dim gwahaniaeth rhyngddynt.
Ar y disgyniad, mae’r ddau ar ruthr. Vingegaard yn rhyw lithro fymryn ar y graean. Y galon yn colli curiad neu ddau. Y ddau’n ôl efo’i gilydd, a rownd y gornel… Pogačar yn gwthio’n rhy galed ar y gornel, ac mae o ar lawr. Ein calonnau yn ein gyddfau. Ond cadoediad rhyngddynt sy’n dilyn. Y ddau’n ysgwyd llaw, ac ewyllys da rhyngddynt. Ai dyma’r foment sy’n ennill y Tour i Vingegaard?
Wrth gyrraedd troed yr Hautacam, a dechrau ar y ddringfa 13.6km ar gyfartaledd o 8%, mae cyd-reidiwr Vingegaard, Wout van Aert, yn y dihangiad blaen ddwy funud a hanner o flaen grŵp y crys melyn. Mae dau domestique gan Vingegaard o’i flaen i’w gynorthwyo ar lethrau isa’r ddringfa, ac i’w warchod rhag ymosodiadau gan Pogačar sy’n dynn ar ei olwyn.
Ac at eleni...
2023
Cymal 6
Col du Tourmalet
Dad a fi ar dop y Tourmalet, 2022.
Yn 2022 y gwnes i fentro i'r Col du Tourmalet - dyna'r tro cyntaf i mi fod yn y Pyrénées. Roedd hi fymryn o sioc i'r system, â dweud y gwir, o'i gymharu â llefydd eraill y buon ni ar wyliau yn y gorffennol. Deffro bob bore yn y gobaith o haul braf ac awyr las, glir, ond nid felly bu hi. Niwl mynydd go iawn, er ei bod hi wythnos olaf Gorffennaf. Mae'r Tourmalet yn enwog am fod yn hir, ac mi'r oedd hi'n dipyn o her, rhaid cyfaddef. Ond alla'i ddim cyfleu mewn geiriau, dwi'm yn credu, y wefr a gefais wrth ddringo drwy'r cymylau ac uwch eu pennau, a'r copaon uchel i'w gweld yn glir. Dyna fynd â'r profiad o gyrraedd copa, y teimlad o gyflawniad ac o gyrrhaeddiad, i'r lefel nesaf. Di-guro.
I'r cyfeiriad gwrthwyneb aeth y Tour eleni; mae consensws nad oes un ochr yn anoddach na'r llall. Ceir cerflyn i Laurent Fignon, ac mae ffordd gefn i'r copa o gyfeiriad Barrèges a Luz Saint Sauveur wedi'i enwi ar ei ôl hefyd. Dyma'r ddringfa sydd wedi'i chynnwys fwyaf aml yn y Tour, a cheir stori gofiadwy sydd werth ymchwilio 'mhellach iddi o pan aeth y reidwyr dros y Tourmalet am y tro cyntaf ym 1910 - y tro cyntaf i fwlch o'r fath gael ei gynnwys ar y Tour - a'r seiclwyr yn gweiddi « vous êtes des assassins ».
Cymal 15
Col de la Forclaz de Montmin
Sara, fy chwaer, a fi ar dop y Forclaz, 2022.
Dyma fy hoff le yn y byd! O fod yn ddigon ffodus o fynd i ardal Annecy ar wyliau sawl tro bellach, mae'r Col de la Forclaz wedi tyfu'n dipyn o ffefryn. Pan oeddwn i'n iâu, hon oedd y ddringfa o'n i'n ei 'hofni' fwyaf, am ei bod hi mor heriol. Mae'n dal i fod yn heriol hyd heddiw a rhannau ofnadwy o serth ohoni - yn fwy cyson wrth ddringo o gyfeiriad Montmin, tra bo llwybr y Tour eleni o Talloires yn golygu fod y serthaf o'r dringo i'w gael yn y 3km olaf. Mae'r olygfa yn ddi-guro; byddwn i wirioneddol yn gallu eistedd yn y caffi sydd ar y top yn edrych ar y cychod ar y llun, pobl yn nofio a phadl-fyrddio, ac wrth gwrs, y rhai dewr sy'n cymryd parapente i lawr.
Col du Marais
Pentref Serraval ar y ffordd i fyny i'r Col du Marais.
Byddwn i'n maddau i chi pe na baech chi wedi dod ar draws y Marais wrth edrych ar broffil y cymal, am ei bod hi'n cymryd llygad craff i sylwi arno. Nid yw'r trefnwyr wedi penderfynu categoreiddio'r ddringfa, er ei bod hi'n ddringfa gategori 3 ar Strava. Y rheswm am hynny, mae'n debyg, yw'r ffaith fod mwy neu lai cilomedr ar y goriwaered yng nghanol y ddringfa, sydd ond yn 8km. Mae'n cael ei gwerthu fel dringfa sy'n berffaith ar gyfer seiclwyr sy'n newydd i'r Alpau, ac mae hynny'n sicr o fod yn wir.
Col de la Croix Fry
Pentref Manigod ar y ffordd i fyny'r Croix Fry.
Mae peth amser wedi mynd heibio ers i mi ddringo'r Croix Fry. Y tro diwethaf i mi wneud hynny oedd pan oeddwn i'n dilyn cwrs cymal o'r Critérium du Dauphiné yn 2020. Roedden nhw'n dilyn llwybr fwy neu lai'n union yr un fath ag y mae'r Tour eleni, ond fod y Dauphiné wedi bod yn gas ac wedi cynnwys dringfa ddiarffordd y Col de Plan Bois fel rhan o'r arlwy yn ogystal. Mae'r Croix Fry yn sicr yn gam i fyny yng ngyrfa rywun wrth ddechrau dringo yn yr Alpau, ac mae'r Tour wedi'i dynodi fel dringfa gategori un. Ryw 7% yw'r cyfartaledd graddiant ac mae'n sicr yn taro tant â mi. Wrth ddringo'i llethrau, mae golygfeydd gwych i'w cael a phrofiad go iawn o seiclo'n yr Alpau am fod bachdroeon di-ri a marcwyr cilomedrau'n cyfri lawr y pellter i'r copa. Ond efallai nad ydy hi cweit yn cynnig yr un wefr wrth gyrraedd y copa am nad oes cystal golygfeydd â hynny - rhaid dringo ymhellach i ganfod rheiny.
Col des Aravis
Llun ohona i yn 2023 a llun go wael o'r copa yn edrych tua Mont Blanc.
I ganfod y golygfeydd gwell, rhaid mynd i lawr y goriwaered ychydig o dop y Croix Fry a chyrraedd croesffordd sy'n cwrdd â'r ffordd i'r Col des Aravis - y ddringfa honno'n ei chyfanrwydd yn pasio drwy gyrchfan sgïo La Clusaz. O fod yn cyrraedd ryw hanner ffordd i fyny, does dim gymaint â hynny o waith dringo'n weddill, ond dyma i chi eto ddringfa sy'n cynnig gwefr seiclo'n yr Alpau. Y clychau rownd gyddfau'r gwartheg yn tanio'r dychymyg i feddwl eich bod chithau ar y Tour de France a chefnogwyr swnllyd naill ochr i'r ffordd. Ac mi alla'i gofio dringo hon am y tro cyntaf ac aros yn eiddgar am ryw olygfa i ddynodi'r copa - mae 'na ryw bwynt lle mae'r ffordd yn gwastatu rhywfaint ac mae'r cyfan yn dod i'r golwg. Mae'n llecyn poblogaidd a digonedd o lefydd bwyta i'w cael, ac mae rhai hyd yn oed yn priodi yma.
I'r rhai sy'n fwy hardcore na fi, mae 'na lwybr graean yn mynd o'r copa i gopa'r Col de l'Arpettaz - la Route de la Soif yw enw hwn. Er y golygfeydd anhygoel, roedd y llwybr bron yn drech na mi. Un o'r dyddiau hynny yng ngyrfa seiclo rhywun lle mae'r awydd yn dod i roi'r ffidil yn y to!
Boed y Tour yn gyfle i chi fynd am road trip rownd Ffrainc o gyfforddusrwydd y soffa, neu'n gyfle i fynd am road trip go iawn a dilyn ôl troed y ras, mae rhywbeth arbennig am ba mor bersonol y gall y ras hon fod.
Comments