Dyma dd'wedais i yng nghofnod rhagolwg y Tour wythnos diwethaf:
"Bydd y person sy’n sefyll ar frig y podiwm wedi’i ennill yn y mynyddoedd ac wedi’i gyfnerthu yn y REC ac ar y disgyniadau lu all brofi’n bwysig."
Heddiw 'ma, 'dw i am ganolbwyntio ar ran fechan o'r datganiad hwn, sef 'ennill yn y mynyddoedd', drwy gymryd golwg dros hanes a phwysigrwydd dringfeydd y Tour eleni.
Penwythnos nesaf, y 3ydd a'r 4ydd o Orffennaf, y bydd y reidwyr yn taclo'r Alpau, ac erbyn cymal 15 wythnos yn ddiweddarach byddent wedi cyrraedd y Pyrenees. Rhwng hynny, mae'r Mont Ventoux ac ambell un arall lle bydd angen bod yn wyliadwrus.
Yn debyg iawn i'r cwrs yn ei gyfanrwydd, mae 'na gymysgedd iach o'r hen ffefrynnau, y clasuron cyfoes ac ambell un sy'n newydd i'r ras.
Gadewch i ni ddringo!
Cymal 8 - Oyonnax i Le Grand Bornand
Col de la Colombiere via Col de Romme
Mae'r Colombiere yn hen gyfarwydd i'r Tour de France ac yntau wedi bod yn rhan o'r route ers 1960. Mae tair ffordd i gyrraedd y copa; y ffordd leiaf serth o Le Grand Bornand, y brif ffordd o Cluses neu'r drydedd ffordd gyda detour i'r Col de Romme. Ceir graddiannau serth a chilometrau cyfan yn agos at 10% ar y daith i'r Romme, cyn disgyn at y brif ffordd a chwblhau bron 8km pellach i frig y Colombiere. Aiff yn serthach ac yn serthach tua'r copa, felly mae'n bosibl y bydd hwn yn fan ymosod i un o'r ffefrynnau. Hedfan lawr y goriwaered wnaent i Le Grand Bornand i orffen y cymal. Y tro diwethaf y gwnaethon nhw'r route hwn, Julian Alaphilippe oedd yn fuddugol o'r dihangiad yn 2018.
Cymal 9 - Cluses i Tignes
Cormet de Roselend via Col du Pre
Mae'r Cormet de Roselend wedi chwarae rhan yn y Tour de France 12 o weithiau, ac wedi'i dynnu allan oherwydd tywydd garw ddwywaith pellach. Mae'n cysylltu'r dyffrynnoedd Beaufortain a'r Tarentaise; pentref Beaufort ar un ochr a Bourg Saint Maurice ar yr ochr arall. Cyn 2018, bu'r Tour yn anfon y reidwyr i fyny'r ffordd fawr i'r copa; bryd hynny, ymddangosodd y Col du Pre am y tro cyntaf ar y cymal o Albertville i La Rosiere, gyda Geraint yn fuddugol i hawlio'r crys melyn. Os cewch chi gyfle i seiclo'n yr ardal ryw dro, mae mentro'r ffordd galetaf - ond fwyaf prydferth a diddorol - dros y Col du Pre ar y ffordd i'r Cormet (gair lleol am Col), yn hollol wych. Trueni'i fod yn rhy bell o ddiwedd y cymal i gael unrhyw effaith dramatig.
Montee de Tignes
Dim ond unwaith mae'r ddringfa i Tignes wedi'i chynnwys yn y Tour a hynny yn 2007. Michael Rasmussen oedd gyntaf i'r copa bryd hynny. Dechrau yng nghyrchfan Bourg Saint Maurice, sydd ar waelod sawl dringfa enwog gan gynnwys y Col de l'Iseran, cyn dringo a chroesi croesffordd lle mae dringfa arall yn mynd i'r Col du Petit Saint Bernard ar y ffin gyda'r Eidal. Mae'r ddringfa ar ei serthaf yn yr hanner olaf wedi Lac de Chevril.
Cymal 11 - Sorgues i Malaucene
Mont Ventoux o ddau gyfeiriad
Does dim angen cyflwyniad i Mont Ventoux. Mae'r Geant de Provence yn un o'r dringfeydd enwocaf yn y Tour de France; yn gartref i'r triasedi a'r gorfoledd. Am y tro cyntaf erioed, fodd bynnag, bydd y peloton yn taclo'r ddringfa o ddau gyfeiriad mewn un diwrnod. Y ddringfa o Sault sy'n dod gyntaf gan ymddangos am y tro cyntaf ers 1974.
Mae'r ochr o Sault yn cychwyn ar 700m uwchlaw lefel y mor a'n ddringfa 27km; ochr Bedoin yn dechrau ar 283m a'n ddringfa 22km. Hynny'n golygu wrth gwrs fod yr ochr o Sault yn dringo llai o fetrau mewn mwy o gilometrau na'r ochr o Bedoin gan ei wneud yn dipyn llai serth.
Cyfartaledd o 5% o Sault; ond mae'n is na hynny tan Chalet Reynard a'n dipyn uwch na hynny oddi yno i'r copa gan gynnig platfform i ymosod cyn y goriwaered cyntaf i Malaucene. Cyfartaledd o 8.8% o Bedoin; yn uwch na hynny hyd at Chalet Reynard o'r bachdro yn St Esteve a'n gostegu rywfaint wrth i'r ffordd agor tu hwnt i'r goedwig drwchus; a thrwy hynny'n rhoi arddwysedd uchel o'r haul a gwyntoedd Provence wrth basio cofeb Tom Simpson.
Yr ochr o Bedoin sy'n cael ei ffafrio gan Christian Prudhomme gan mai dyma'r ochr 'chwedlonol' yn ei eiriau fo.
Tra dwi'n cofio, llyfr 'Ventoux' gan Jeremy Whittle yw llyfr y mis. Pe hoffech chi gyfrannu'ch sylwadau am y gyfrol ar gyfer cofnod o'r blog ddiwedd mis Gorffennaf, cliciwch Sign Up ar dop neu gwaelod y dudalen hon.
Cymal 14 - Carcassonne i Quillan
Col de Saint Louis
Dim yn un o'r cymalau mynyddig, ond yn fy marn i, mi all y ddringfa gategori 2 i Col de Saint Louis fod yn gyfle i ambell un o'r ffefrynnau ddwyn ambell eiliad fonws sydd ar gael ar y top. Mae'r graddiannau serthaf rhwng milltir a dwy filltir fyny'r ddringfa. Un arall sy'n ymddangos am y tro cyntaf, ac mae wedi'i leoli ar y ffin rhwng Aude a Pyrenees Orientales yn y Massif de Corbieres.
Cymal 15 - Ceret i Andorra La Vella
Port d'Envalira
Y pwynt uchaf ar y Tour eleni, felly bydd y cyntaf i'r copa'n hawlio Prix Henri Desgrange (sylfaennydd y Tour). Bwlch tarmac uchaf y Pyrenees sy'n cysylltu cyrchfan sgio El Pas de la Casa gyda gweddill Andorra. Cyswllt pwysig a phrysur rhwng Ffrainc a Sbaen, felly ni chaiff ei hargymell i seiclwyr arferol er ei fod yn ddringfa boblogaidd yn y Tour a'r Vuelta.
Collada de Beixalis
Dringfa ddefnyddir yn y Vuelta, ras lle mae'r trefnwyr bob amser ar gyrch dringfeydd sy'n wallgof o serth. Dechrau yn nhref Encamp, nifer o fachdroeon serth iawn. 2km canol yn 11% gydag ambell ramp hyd yn oed yn serthach na hynny. Dringfa gategori un gydag eiliadau bonws ar y copa cyn goriwaered i'r llinell derfyn yn y brifddinas, a chyfle olaf i'r reidwyr greu argraff yn yr ail wythnos.
Cymal 16 - El Pas de la Casa i Saint Gaudins
Col de Portet d'Aspet
Y bwlch enwocaf a'r mwyaf nodedig yn y Couserans sy'n cysylltu'r Ariege a'r Haute Garonne. Mae'r reidwyr yn taclo'r hawsaf o bellffordd, gyda chynifer o gydrannau ar 2 a 3% a sydd 'na ar 10 ac 11%. Wedi hynny, byddent yn hedfan lawr y goriwaered yn wyliadwrus tuag Aspet, a phasio cofeb i Fabio Castarelli fu farw yn y fan a'r lle ar y Tour ym 1995 wedi cyffyrddiad olwynion roddodd nifer ar lawr.
Cymal 17 - Muret i Col du Portet
Col de Peyresourde
Y ddringfa gyntaf i gael ei chynnwys yn y Tour de France ym 1910. Rhan o'r 'Circle of Death' sy'n cysylltu hon gyda'r Col du Tourmalet, Col d'Aspin a'r Col d'Aubisque, enwogion a heriau mwyaf y mynyddoedd hyn. Llynnedd oedd yr hanner canfed tro i'r ras ddringo drosti. Dringfa ystyrir yn groes i nodweddion arferol esgynfeydd y Pyrenees; graddiant mwy cyson drwyddi draw yn hytrach nag un newidiol gyda chydrannau serth.
Col d'Azet
Yn wahanol i'r Pyrenees, mae'r Col d'Azet yn nodweddiadol iawn o ddringfeydd y Pyrenees. Rampiau o gilometr ar 11% a dim ond gostegu mymryn, cyn cyfle prin am ysbaid i baratoi'n gorfforol a meddyliol am un ymdrech olaf i'r copa ar 13%. 9fed tro iddo ymddangos yn y Tour; y tro diwethaf ar cymal 65km yn 2018.
Col du Portet
Gorffennodd y cymal byr, arloesol hwnnw ar y Col du Portet. Dyna oedd ei ymddangosiad cyntaf fel rhan o'r Tour de France. Mae'n dechrau'n serth a'n parhau'n serth gyda chyfartaledd o 8.7% am dros 16km. Prin iawn yw'r cyfleon am ysbaid; hanner cilomedr ar 4 neu 5% ddwywaith. Nairo Quintana yw'r unig un hyd yma i ennill diweddglo copa ar y Portet. Doedd o ddim yn gystadleuwyr mawr yn y dosbarthiad cyffredinol y flwyddyn honno; ond dybiwn i y bydd hwn eleni'n gyfle allweddol i'r ffefrynnau ennill y ras.
Cymal 18 - Pau i Luz Ardiden
Col du Tourmalet
Cymal sy'n cynnwys ffefrynnau'r Tour de France. Yn dechrau yn Pau, sydd wedi bod yn ddechrau neu ddiwedd i gymal 73 o weithiau. Yn ogystal, mae hoff ddringfa'r Tour sydd wedi bod yn y ras 88 o weithiau, yn dychwelyd eto. Dwy ochr sydd iddi; o Luz St Saveur neu fel eleni o Bagneres de Bigorre. Mae dadlau am ba ochr sydd anoddaf. Mae'r ddringfa gyson serth am 12km a'r graddiant ar ei uchaf cyn cyrchfan sgio La Mongie. Yno, mae 4km gyda chyfartaledd o 9.5%. David Gaudu sydd wedi gosod yr amser cyflymaf o 50:35 ar y Tourmalet o'r Bigorre, felly mi fydd o'n barod a'n gyfarwydd gyda'r her.
Luz Ardiden
Er bod Luz Ardiden hefyd yn dechrau yn Luz Saint Sauveur, mae ganddo ffordd bell iawn (mynydd i'w ddringo, os liciwch chi...) i ddal i fyny gyda Col du Tourmalet. Eleni bydd y nawfed gwaith i'r peloton daclo graddiannau i Luz Ardiden. Mae'n fwy newidiol o ran serthedd; rhannau yn rhoi cyfle am ysbaid rhwng y cilomedrau serthaf sy'n 8, 9 a 10% a'n gyfrifol am y cyfartaledd o 7.4%. Dyma'r cyfle olaf i un i unrhyw ddringwyr roi stamp go iawn ar y dosbarthiad cyffredinol.
Dyna ni, rydych chi wedi'ch tywys drwy ddringfeydd allweddol y Tour eleni, ac edrychwn ymlaen i wylio'r brwydrau arnynt dros y dair wythnos nesaf.
Mwynhewch y Tour, a chofiwch danysgrifio i'r cylchlythyr dyddiol yn crynhoi a'n dadansoddi'r diweddaraf.
Hwyl am y tro.
댓글