Yn araf bach a bob yn dipyn, mi'r ydym ni wedi bod yn croesi 10 dringfa orau Cymru oddi ar y rhestr y gwnes i'i guradu ar gyfer BBC Cymru Fyw dros flwyddyn yn ôl bellach, gan fynd ar daith i bob un yn unigol.
Dyma ddolenni i'r gweddill pe hoffech bori drwyddynt maes o law:
Dringfeydd Gorau Cymru
Tro 'ma, y ddringfa sydd at agosaf at adre i mi sy'n cael y sylw, sef Bwlch y Groes. Mae posib ei dringo o dri chyfeiriad - o gyrion Llanuwchllyn, o lannau Llyn Efyrnwy, neu o gyfeiriad Llanymawddwy.

edrych yn ôl wrth nesáu at y copa o gyfeiriad Llanuwchllyn
Y ddringfa o Lanuwchllyn yw fy hoff dringfa yn y byd; mi'r ydw i wedi'i dringo dros 100 o weithiau yn ôl Strava. Does dim curo arni. Dydy'r dringo 'go iawn', fel petai, ddim yn cychwyn tan ryw hanner ffordd i fyny wrth drofa Blaencwm; ryw ddwy filltir a hanner o ddringo caled, serth. Gweler y segment Strava yma: https://www.strava.com/segments/2606686?oq=llanwchl.

nesáu at y copa o gyfeiriad y Fyrnwy
Mae'r ddringfa o lannau'r Fyrnwy werth ei gwneud hefyd, gan ddilyn ystum yr afon Eunant. Her wahanol i'r un a roddir gan y ddringfa o Lanuwchllyn; mae 'na rannau serthach - ac arwyneb y ffordd yn wael iawn mewn mannau - ac mae'n ymuno â'r brif ddringfa o Lanymawddwy ar gyfer yr ambell 100m olaf. Gweler y segment Strava fan hyn: https://www.strava.com/segments/1377061?filter=overall.
Ond y ddringfa o gyfeiriad Llanymawddwy sy'n cymryd y sylw, am mai dyma'r un fwyaf enwog, neu ddrwgenwog, os liciwch chi.
Dyma'r ystadegau brawychus.
Pellter: 2.63km (1.63 milltir)
Graddiant cyfartalog: 13.5%
Uchafswm graddiant: 20.1%
KOM: Ed Laverack 11:14 (cyfaill y blog)
QOM: Illi Gardner 13:08 (hefyd yn gyfaill y blog)
Aelodau Clwb Strava Y Ddwy Olwyn: Rhwng 16 munud a 43 munud.
Er mwyn cyrraedd troed y ddringfa, rhaid troi oddi ar yr A470 i bentref Dinas Mawddwy. Oddi yma, mae tipyn o waith cyn cyrraedd y gwaelod, a'r gwaith hwnnw'n cynnig cyfle i gynhesu'r coesau, wrth i'r ffordd fynd i fyny, yna i lawr, ac yn y blaen.
Yn y pen draw, rydym yn cyrraedd pentref bychan Llanymawddwy, sydd ag ambell res o dai. Mae gan y tŷ olaf enw addas iawn; 'Tŷ Olaf'.
Y tŷ olaf cyn beth?
Wrth i bresenoldeb y ddringfa ddynesu, mae rhywbeth yn taro dyn yn sinistr am yr enw.
Ta waeth, y gwir ydy fod ambell i gartref arall rhwng 'Tŷ Olaf' a gwaelod y ddringfa, felly dim ond rhywbeth i'n dychryn oedd hwnnw.
Mae ambell i gornel arall cyn cyrraedd y gwaelod, ac fe ddaw'r ddringfa i'r golwg wrth edrych i'r dde. Pe baech angen diffiniad o'r gair 'nadreddu', wel, dyma fo. Mae'r ffordd yn nadreddu tua'r entrychion, cyn diflannu o'r golwg dros frig y bryn.

Dynodir y dechrau gan ambell shed ar ochr chwith y ffordd, a'r cwbl wedi tywyllu dan gysgod y coed gan ychwanegu at y tensiwn!
Mae'r Aran Fawddwy (gweler yn y llun uchod) yn ymrithio hefyd, yn ein atgoffa mai pontio o Fawddwy i Benllyn - a'r Aran Benllyn i'w gweld o'r brig - yw diben y ffordd.
Cyn dechrau, gwnewch yn siŵr o ddiosg unrhyw haenau di-angen o ddillad - mae'n mynd i fod yn gynnes. Mae'r ddringfa â'r haul arni'n dragywydd.
Reit, y ddringfa ei hun.
Gellir rhannu'r ddringfa yn dair rhan.
Mae'r rhan gyntaf, a'r ddringfa'n ei chyfanrwydd drwy hynny, yn cychwyn gyda choblyn o fachdro tua'r dde.

Buan iawn ydym ni'n dod allan o'r rhan wedi'i chysgodi, a'r cyfan yn agor allan. Dyma lecyn sydd reit yn llygad yr haul ac un sydd wedi'i gysgodi rhag y gwynt, gan arwain at dymereddau chwilboeth wrth ddringo.
Ar ôl y gornel gyntaf, mae pethau'n gostegu rhyw fymryn, cyn mynd yn raddol yn fwy serth wrth agosáu at y grid gwartheg. Dyma'r rhan gyntaf, fymryn yn hirach na'r ddwy ran arall, ond fymryn o dan y graddiant cyfartalog gan amlaf hefyd.
Felly yr ail ran.

Dyma laddfa.
Ysgwydd yn ysgwydd â'r barier metal, gweddïwch na welwch chi unrhyw gar nag unrhyw beth felly. Mae angen pob centimedr o led y tarmac arnoch i geisio lleddfu rhywfaint ar y graddiant.
Dyma'r heriau:
Peidio gorfod stopio neu wthio'r beic.
Os yn llwyddo i wneud hynny, yna cadw'r olwyn flaen ar y tarmac.
Gan amlaf, mae hyn yn golygu 'mod i yn edrych fel Mark Cavendish yn gwibio - ond mod i ryw ddeg gwaith arafach. Yn cadw 'nwylo ar y drops a'm pwysau'n isel, a throi'r pedalau'n ara' deg ofnadwy.
Nid bob tro ydw i'n llwyddo i wneud y cyfan heb orfod stopio - fel mae'r llun yma'n ei brofi!
Wedi'r cyfan, yn ôl Simon Warren, un o wybodusion dringo pennaf Prydain, "this is the most continuously steep stretch of tarmac in Britain."
Lladdfa yn wir.
Mae'r graddiant gan amlaf lawer uwch na'r cyfartalog - yn hofran yn gyson o gwmpas yr 17-18%.
Ych a fi.

Os ydych chi wedi'i gwneud hi cyn belled â hyn, llongyfarchiadau.
Mae'r drydedd rhan yn dod wrth droi'r gornel i'r chwith, gan basio'r gyffordd sy'n mynd i lawr am Lyn Efyrnwy.
Dybiwn i fod hwn yn reit agos i'r graddiant cyfartalog o 13.5% ar gyfartaledd; mae'n dechrau'n serth heb roi llawer o sbel i gael eich gwynt, cyn ryw ostegu rhywfaint wrth ddynesu at y copa.
Tipyn o ddringfa, ac mae'r teimlad o gyflawniad ar y top yn ddiguro.
Melysach byth, i mi beth bynnag, ydy gwybod fod y 10 milltir olaf yn ôl adre' fwy neu lai ar i lawr yr holl ffordd.
Yn wir, dw i wedi sôn o'r blaen, mae'n well gen i ddod adre' o dde Meirionnydd dros y Bwlch - dringo am gwta 2 filltir a disgyniad o 10 milltir - yn lle dod ar y 494 o Ddolgellau sy'n tua 15 milltir ar tua 2 neu 3% sydd yn slog go iawn ac yn waeth os rywbeth.
Mae 'na botensial am routes gwerth chweil yn cynnwys Bwlch y Groes. Dyma ddetholiad.
Pob hwyl ar y dringo!
Mae'n werth hefyd ymchwilio i'r Cambrian Coast Sportive, sydd â dau route yn cynnwys y Bwlch - yr un hir a'r Big Dog. https://www.welshcyclingevents.co.uk/index.asp
Comments