Ychydig dros wythnos yn ol, cynhaliwyd pencampwriaeth e-rasio Prydain am y tro cyntaf gan Seiclo Prydain mewn partneriaeth gyda Zwift.
Dwi'n bersonol yn un sydd wedi mwynhau rasio ar Zwift yn y gorffennol pan yn defnyddio'r meddalwedd, a bellach yn mwynhau gwylio profiadau eraill sy'n llwyddo ar YouTube.
Un ohonyn nhw ydy Ed Laverack o Lanelli.
Mae Ed yn ei dymor cyntaf ar y ffordd gyda SwiftCarbon ProCycling wedi cyfnod llwyddiannus gyda JLT-Condor, ond yn rasio ar Zwift gyda thim Wahoo p/b CyclingHub.
Yn ennillydd pencampwriaeth 'hill climb' Cymru yn 2018, rwyf yn falch ac yn hynod ddiolchgar fod Ed wedi cytuno i rannu ei brofiadau ar y blog, drwy'n sgwrs ar Twitter DM yn Saesneg.
Cyfieithiadau yw'r dyfyniadau. Am fersiwn Saesneg (yn cynnwys y cyfweliad gwreiddiol), cliciwch yma.
Beth yw e-rasio?
Mae Zwift yn feddalwedd seiclo rhithwir, lle mae seiclwyr o bob lefel gallu yn reidio mewn byd rithwir yn eu cartrefi.
Mae'n feddalwedd sy'n gweithio gyda'ch turbo trainer - ac os yw hwnnw'n un clyfar, bydd gwrthiant y trainer yn addasu i'r graddiant ar Zwift.
Bydd reidwyr yn cymryd rhan mewn rasys ar Zwift yn ol eu lefel gallu (sy'n cael ei ddyfarnu drwy'ch FTP - pwer cynnaliadwy).
Y ras
Am fwy o wybodaeth, dyma fideo yn esbonio'r rasys gan y dyn ei hun.
Wedi misoedd o rowndiau rhagbrofol, daeth deg o e-reidwyr gorau'r wlad i gystadlu ddydd Iau diwethaf yn y ffeinal.
Rhannwyd y bencampwriaeth yn dair ras debyg i rasys trac - ras 'elimination', ras sgratsh a ras bwyntiau - gyda phwyntiau ar gael tuag at y dosbarthiad terfynol.
Cameron Jeffers, hefyd o dim Wahoo p/b CyclingHub oedd yn fuddugol, o flaen James Phillips a Tom Moses.
Fel y sonais yn gynharach, mae Ed wedi rasio ar y ffordd yn hynod lwyddiannus yn y gorffennol, ond sut mae tactegau'r cymharu?
"Mae'r tactegau'n debyg iawn - ond mae rasio ffordd yn cael ei effeithio gan ffactorau fel y gwynt, felly mae tactegau timau'n wahanol mewn rhai ffyrdd.
"Mae cau 'lawr dihangiad ar Zwift mor syml a reidio mor galed a phosibl, a gwneud i bawb arall ddioddef gymaint a chi."
Roedd gwaith Ed yn hollol hanfodol a gwerthfawr i'r buddugwr - YouTuber arall - Jeffers.
Canslodd ymosodiadau a dihangiadau di-ri gan dim cryf Madison-Genesis oedd yn cynnwys Cymro arall yn Jon Mould, ennillodd fedal arian yng Ngemau'r Gymanwlad 2018.
"Roedd gwneud penderfyniad cyflym yn allweddol. Byddwn i'n gadael dim mwy na 7-8 eiliad o fwlch i ddihangiad.
"Gan ein bod ni'n yr un ystafell (yn wahanol i'r rowndiau rhagbrofol), roedd hi'n amlwg na fyddai reidwyr yn ceisio cau'r bwlch neu ddilyn ymosodiadau.
"Roedd hanner y ras o dim Madison, a Cam a fi, gan adael pedwar reidiwr oedd ddim yn fodlon cau'r bwlch.
"Felly rhaid oedd gwneud penderfyniad cyflym - gweithio'n galed heb ymosod fy hunan. Ceisio llusgo'r grwp i gau'r bwlch."
Fel sonais yn gynharach, mae Ed yn rasio gyda thim SwiftCarbon ar hyn o bryd ac yn hyfforddi ar gyfer y Tour de Yorkshire.
Ai adnodd hyfforddiant yw rasio Zwift neu gamp ar wahan i ffocysu arno?
"Dwi'n ei weld o fel y ddau. Mae'n adnodd hyfforddiant yn y ffordd mae'n cyfuno'n dda gyda'm cynllun hyfforddiant ar y ffordd.
"Ond ar adegau mae angen ei gadw ar wahan. Mae'r 'tymor rasio Zwift', sef cyfnod o'r gaeaf, yn gallu gwneud i reidwyr wthio'u hunain yn rhy galed.
"'Dwi wedi clywed am reidwyr yn rasio 3-4 gwaith yr wythnos ar Zwift ac yn chwythu 'fyny erbyn mis Ionawr."
Beth am ei baratoadau at Swydd Efrog?
"Wel, dwi wedi gorfod nyrsio annwyd dros yr wythnos ddiwethaf, ond gobeithio y byddaf yn holliach a chryf o gymhelliad ar gyfer wythnos nesaf."
Ai e-rasio yw'r dyfodol i seiclo proffesiynol?
Dwi o'r farn bod angen cadw rasio Zwift ar wahan - a pharhau i'w dyfu fel camp ar wahan i seiclo proffesiynol ar y ffordd.
Mae'n gamp wych a chyffrous sy'n parhau i ddatblygu, a dylai'r rhai sy'n ei erbyn gydnabod hynny.
"Yn bersonol dwi'n credu ei fod yn mynd i dyfu'n beth enfawr, a dylai wneud hynny. Mae'n cael pobl i seiclo, gwneud ymarfer corff a chreu cymuned sy'n dod a'r reidwyr proffesiynol yn agos at seiclwyr.
"Unwaith y bydd pobl yn cydnabod yr elfennau cadarnhaol mi fydd yn serennu ochr-yn-ochr a disgyblaethau eraill ein camp grymus."
Comments