Mi wnaeth cyfweliad emosiynol gyda Mark Cavendish fy atgoffa o gofnod 'hoff bump' mae Dilwyn Owen wedi'i ysgrifennu i mi ers sbel, ac roeddwn i'n credu mai dyma'r amser perffaith i mi ei gyhoeddi.
Roedd yn son mai Gent-Wevelgem heddiw o bosib oedd ras olaf ei yrfa, gyrfa mor llwyddiannus sydd wedi arwain iddo gael ei ystyried fel y gwibiwr gorau erioed.
Er mwyn clodfori'i yrfa gwych, dyma hoff bump o fuddugoliaethau'r gwr o Ynys Manaw, gyda diolch o galon unwaith eto i Dilwyn am ei gyfraniad gwerthfawr.
Ers 2008 mae Mark Cavendish wedi bod yn enw cyfarwydd yn y Tour. Dyma 5 cymal yn y Tour dwi’n cofio gwilio sy’n cyfleu ei ddawn a’i emosiwn.
Cymal 5 2008 oedd y cymal cyntaf iddo ennill. Rydym wedi arfer gweld Cavendish yn cuddio tu ôl i’w drên bach. Ond yn 2008, nid y trên bach sy’n tynnu’r sylw ond ei gryfder a’i allu i gynnal y wib am gyfnod hirach na phawb arall.
Erbyn 2011 roedd pawb yn gwybod am ei dalent. Roedd ganddo drên bach wedi ei adeiladu ar ei gyfer ac roedd ei lygaid ar fynd heibio pymtheg buddugoliaeth Freddy Maertens oedd wedi rheoli’r gwibwyr yn y Tour ar ddiwedd y 70au a dechrau’r 80au. Cymal 5 oedd buddugoliaeth 16 i Cavendish. Amseru gwych yn ei gael i’r llinell o flaen gwibwyr cryf clasuron y gwanwyn.
Roedd pawb bellach yn ei wylio ond aeth pethau o chwith yng nghymal 10 yn 2011. Roedd Mark Renshaw, ei bysgodyn peilot, yn fodlon gwneud unrhyw beth i sicrhau bod Cavendish yn ennill. Hwn oedd y cymal lle aeth Renshaw a’i ben iddi.
Ymunodd Cavendish a Sky yn 2012. Roedd gobeithion Sky ar ennill y crys melyn ac nid y crys gwyrdd. Nid oedd y tîm wedi ei adeiladu o’i gwmpas fel yn ei dimau eraill yn y gorffennol. Bu hon yn gylchdaith heriol iddo ond cafod y wobr o gael y crys melyn yn ei arwain allan i fuddugoliaeth ar y Champs Elysees. Fo oedd y cyntaf i ennill ar y Champs yn gwisgo crys enfys pencampwr y byd.
O’r diwedd, daeth y cyfle iddo wisgo’r crys melyn ar gymal 1 2016. Ar ôl wyth mlynedd o gystadlu, hon oedd y tro cyntaf iddo ennill gwib ar y diwrnod cyntaf. Mae ei hyder yn amlwg wrth iddo edrych yn ôl ddwywaith cyn cysgodi ar olwyn Sagan! A gawn ni weld yr hyder yma byth eto?
Commentaires