Mae gen i weledigaeth i greu blog Y Ddwy Olwyn yn ryw fath o feibl i seiclwyr Cymru a thu hwnt gyda chasgliad di-guro o’r teithiau, caffis, dringfeydd, siopau beics ayyb gorau sydd i’w cael yn ein cenedl fach ni.
Dyma’r gofnod gyntaf i mi’i ryddhau o dan yr hashnod #ArDyFeic gan obeithio y bydd hwn yn esblygu’n rywbeth mwy rhyw ddydd!
Y daith wedi'i chynllunio ar Komoot? Do.
Y noson gynt: amser cychwyn cynlluniedig? 8yb
Y bore: amser cychwyn cynlluniedig? 9yb
Cychwyn y reid? 10yb
'Den ni'n cychwyn y dydd ar hyd Llyn Tegid gyda'r tymheredd yn eithaf ffres, ond dwi'n hyderus fod crys a fest am fod yn ddigon.
Ymlaen a ni tuag at Lanuwchllyn, lle 'rydym yn troi ar gyfer dringfa gynta'r dydd. Bwlch y Groes yw hwn, ac er fod y graddiant cyfartalog yn 4.5% am yr 8km, mae rhannau llawer serthach na hyn yn rhan o'r arlwy.
Cyrraedd copa palmantog uchaf Gogledd Cymru lai nag awr i mewn i'r reid cyn disgyn i lawr y ffordd serth ond trawiadol i Lanymawddwy, ac yna ymlaen i Ddinas Mawddwy.
Yma, rydym yn cymryd saib cyn troi i'r dde oddi ar yr A470 ar ffordd gul - ac yn anochel un yn llawn ffesantod twp ar yr adeg yma o'r flwyddyn - i Aberangell lle 'rydym yn troi i'r dde i gychwyn y prif ddringfa gyntaf o dri.
Dyma ddringfa Coed Dyfi — ‘The Other Dyfi Forest’ yn llyfr Simon Warren ‘Cycling Climbs of Wales’ —sy'n ddringfa 3km o hyd heriol ac yn gyfiawn yn derbyn sgor her o 9/10 yn y llyfr.
Graddiant cyfforddus sy'n ein harwain at yr arwydd 20% cyntaf, dyraniad milain sy'n lefelu ychydig tua chanol y ddringfa. Oddi yma, mae'n ffordd hyfryd gyda tharmac llyfn a choedwigoedd gwefreiddiol bob ochr.
Wedi pasio'r arwydd 20% olaf mae'n boenus o serth i'r copa ar ychydig llai na 350m o uchder, sydd hefyd wedi'i hamgylchynnu gan dirlun bryniog a choediog.
Rwy'n disgyn i lawr yr ochr arall i Aberllefenni, gan deimlo'n fentrus ac yn awyddus i ddringo 'nol i fyny i'r copa o'r cyfeiriad arall.
Mae Warren yn rhoi sgor her o 7/10 i'r ddringfa hon ('Dyfi Forest') sy'n 5km o hyd, ond yma mae cymysgedd o ddyraniadau 17% a 20% a rhai yn y ffigyrau sengl isel.
Wedi disgyn yn ol i Aberllefenni mae'n ffordd gyflym i Gorris cyn dringo'n gymharol serth i Gorris Uchaf ar y ffordd gefn lle 'rydym yn ymuno a'r ffordd fawr ar gyfer prif ddringfa ola'r dydd. Caiff Bwlch Tal y Llyn ei gynnwys yn y llyfr hefyd ac mae'n derbyn sgor her o 6/10.
Fodd bynnag, mae'r dringo anfaddeugar o 4- neu 5% yn teimlo'n dipyn anoddach gyda'r blinder cronedig yn y coesau. ‘Slog’ fyddai’r term addas yma.
Ein gwobr yw cyrraedd y Cross Foxes lle cawn ginio o'r fwydlen brechdanau gyda'r rygbi ar y teledu cyn cwblhau'r 28km adref.
Dyma reid oedd yn sicr yn brawf i'm gwytnwch a'm gallu dringo, ond reid oedd yn hynod o ddymunol gyda'r tywydd yn braf yn ogystal.
Yr Ystadegau!
96 cilomedr
1,700 medr o ddringo
20 km yr awr ar gyfartaledd
8 o gridiau gwartheg wedi eu croesi
3 dringfa o lyfr 'Cycling Climbs of Wales' wedi eu concro
Y Dringfeydd
Bwlch y Groes o Lanuwchllyn
Coed Dyfi o Aberangell
Coed Dyfi o Aberllefenni
Bwlch Tal y Llyn
Strava
Komoot
Comments