Dyma'r olygfa o Uwchmynydd, yn edrych tuag at Ynys Enlli.
Yn fan hyn y cawsom ni gyfle i ddal ein gwynt ar daith feics gyntaf Y Ddwy Olwyn yn y cnawd, a hynny ar ddydd Llun yr Eisteddfod.
Cynhaliwyd y daith 35 milltir dan arweiniad Dafydd o Glwb Beicio Egni Eryri, a diolch iddo am ein harwain ni, yn griw o ddeg i gychwyn ac yna criw o wyth, hyd lonydd hyfryd Llŷn.
Dyma lun ohonom!
Diolch o galon iddyn nhw i gyd am orig bleserus a difyr iawn yn eich cwmni.
Cynhaliwyd y daith ar ôl y sgwrs a gafon ni yng nghwmni Nia Peris, Lusa Glyn a Steff Rees lle cawsom ni gyfle i drafod hyd a lled apêl seiclo yng Nghymru a thu hwnt. Diolch i'r tri ohonyn nhw am eu sylwadau gwerthfawr a'u cyfraniad i sgwrs lwyddiannus iawn, ac wrth gwrs i'r gynulleidfa deilwng a ddaeth!
Dyma ambell lun.
Darllennais i ddetholiad o fy narn 'Dringo Dibwynt Stiniog', aeth ymlaen i ennill cystadleuaeth Tlws yr Ifanc, ac mi ges i'r fraint o gael fy anrhydeddu mewn seremoni yn y Babell Lên brynhawn Gwener.
Mae'r gwaith i'w gael yn y Cyfansoddiadau ynghyd â'r feirniadaeth.
Dydw i ddim eisiau traethu amdanaf fi'n hun ddim mwy ond roeddwn i'n meddwl y byddai'n werth rhannu'r gerdd gyfarch gan Iestyn Tyne â chi, am ei bod hi mor arbennig.
Diolch i bawb a wnaeth yr wythnos hon yn arbennig iawn!
コメント