Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r heriau mae rhai seiclwyr yn barod i ymgymryd â hwy wedi tyfu a thyfu hyd eithafion pell, a phoblogrwydd elfennau cyffelyb o’r gamp megis ultra endurance ar gynydd yn ogystal.
Ar Y Ddwy Olwyn, rydym wedi clywed am ddringwyr uchder Everest - boed yn dorri’r record neu’i wneud deirgwaith mewn un go - yn ogystal ag ambell i gofnod am apêl ultra endurance. Y gamp o wneud pellteroedd anferth, ddydd ar ôl dydd, cysgu ar ochr y ffordd a bwyta’r un bwydydd drwy’r amser. Mae’n debyg bod hyn yn apelio at rai!
Un o’r rasys ultra mwyaf eu bri yw’r Ras Ban Geltaidd, sydd â route sy’n amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Llynedd, bu’r reidwyr yn taclo route drwy Gernyw a Chymru, ac mi glywson ni gan Vera Ngosi-Sambrook am ei phrofiad hi.
Eleni, bu i’r ras ddechrau yn sir Benfro, cyn hwylio draw i’r Iwerddon, dilyn llwybr ar hyd arfordir y gorllewin a hwylio’n ôl i Gymru er mwyn gorffen yn Llandudno.
Un o’r rheiny wnaeth lwyddo i orffen y daith a goresgyn yr her oedd Geraint Jones, a dyma i chi adroddiad ganddo o’i brofiad.
I ddechrau, cyflwynwch eich hun i’r darllennwyr.
Fy enw yw Geraint Jones, rwyf yn byw gyda fy ngwraig Awen yn Dinas, Caernarfon, ond yn enedigol o Penygroes. Rwyf yn 54 mlwydd oed. Roeddwn yn arfer chwarae drymiau i Maraca, Chwyldro a’r Anhrefn yn yr 80au. Ond nawr yn y byd beicio… yn mwynhau adeiladu beics fy hun, fel yr un a ddefnyddiais i wneud Ras Ultra y Pan Celtic eleni. Rwyf yn aelod o Glwb Beicio Egni.
Beth ydy o am ultra-endurance sy’n apelio atoch chi?
Yr her o fedru gwthio’r corff i’r eithaf, y buzz yr adrenalin a’r gallu i fedru eistedd ar feic a gwneud yr holl filltiroedd. Nôl yn 2018 roeddwn angen gwneud rhywbeth hollol wahanol i ddathlu’n hanner cant, felly penderfynais wneud Land’s End i John O’Groats. Hwn oedd un o’r pethau gorau wnes erioed, a buaswn yn cynghori pawb sydd yn hoff o feicio i rhoi tro arni un waith mewn bywyd, rhywbeth nai byth anghofio tra byddaf byw.
Beth am y Pan Celtic yn fwy penodol, pam oedd hwnnw’n apelio?
Yn fwyaf oherwydd ei fod ar stepan drws a cael reidio un o’r rasus ultra anodda, hefyd roedd y [ffaith fod y cyfanswm] dringo dwywaith a mwy maint Everest yn apelio. A cael reidio ar lonydd De Iwerddon sef y Wild Atlantic Way.
Roedd y route yn un oedd yn bennaf yn dilyn arfordir gorllewin Iwerddon, beth oedd yr uchafbwyntiau? Lle oedd y llefydd wnaeth i chi fynd ‘waw’?!
Uchafbwynt y daith i mi oedd cael dringo drost Healy Pass a cael reidio ar lonydd gorau ralio Iwerddon, fel Connor Pass, Molls Gap, oherwydd fy mod wedi bod yn y byd ralio flynyddoedd yn ôl. Roedd rhan fwyaf o’r daith yn WAW… ond y lle sydd yn sefyll yn y cof yw y Ring of Kerry, Penrhyn Dingle gyda’r haul yn machlud. Ond un o’r llefydd sydd di sgario’r cof a nai byth ei anghofio fel hunlle a ‘di blino cyn ei chyraedd oedd dringo fyny Priest Leap, drost 3 milltir o hyd a gradd o 8.2% i 17.2%. Hon i mi oedd y ddringfa anodda fues erioed arni. Fel wal enfawr o’ch blaen, ac i’w gwneud yn anoddach roedd hi’n llithrig hefo baw gwartheg. Rywbeth debyg oedd dringfa ar Ynys Achill; hunllef arall!
Rhowch flas i ni o’r hyn mae’n ei gymryd i wneud her o’r fath - yr holl baratoi, y nutrition, y beic, y gwaith caled.
Mae’r beic iawn yn hynod o bwysig. Cymerodd wythnosau lawer o waith ymchwil cyn dewis y beic iawn i wneud yr heriau yma. Fysa beic rasio lon da i ddim, oherwydd fod sefyllfa geometry y beic yn rhy ymosodol a buan iawn fysa’r corff yn sgrechian mewn poen, felly cael beic sydd reit uchel ar y blaen, gyda aero-bars i ymlacior breichiau a’r dwylo.
Mae‘n anhygoel sud mae’r corff yn gallu dioddef, a dyna pam mae mor bwysig bod gennyt feddylfryd cryf i gwffio drwy’r boen yna.
Drwy wneud Ras y Pan Celtic roeddwn yn dallt mwy sud oedd fy nghorff i yn gweithio a sud yr oeddwn i yn medru ei reoli. Erbyn hanner ffordd roedd pethau’n mynd yn haws, roeddwn yn gwybod pa bryd i orffwys ac am ba hyd. I fi roedd cwsg o ddwy awr a hanner y noson yn ddigon ac yna power naps unwaith ddwy waith yn ystod y dydd, er engraifft y diwrnod olaf on un i ddal y gwch o Ddulyn i Gaergybi roedd gennyf 240 milltir o ‘mlaen. Cychwyn 5.00 y bore a cyrraedd Dulyn am 4.30 bore wedyn a mond wedi stopio mewn dwy garej, un siop chips a power napio! Mae hyn yn gweithio’n wahanol i pawb, ond i mi pan oedd y llygid yn dechrau mynd yn drwm, adeg hynnu roeddwn yn gwynod ei bod yn amser stopio a cysgu am 10 munud ar ochor y ffordd! Rhoi larwm ymlaen (pwysig), deffro ac awê eto. Erbyn y 40 milltir olaf roedd hyn yn digwydd bob hanner awr. Roedd yna un adeg cyn cyraedd Dulyn lle roeddwn yn trio cwffio’r cwsg (hyn ddim yn syniad da i’w neud). Roedd y blinder mor ddrwg dechreuais weld pethau (hallucinatio)! Gweld cysgodion yn symud, golau fy meic yn dawnsio fel canhwyllau o ‘mlaen ar y ffordd. Ar un adeg roedd un coeden ar ochor y ffordd yn debyg i arth anferth yn edrych arnaf ac yn cerdded tuag ataf! Teimlais erioed dim byd fel hyn o’r blaen. Call fasa stopio cyn i ddamwain fawr ddigwydd. Y tro hwn, cysgu am 20 munud yna cyrraedd Dulyn mewn un darn diolch byth!!
Mae nutrition yn hynod bwysig. Anodd mewn rasus ultra cael gafael ar fwyd call, roedd gweld garej ar ochor y lôn yn codi calon. Clec i ddwy botel ddŵr…Sdwffio fy hun gyda digon o carbs oedd fy nghyfrinach i. Wedi laru ar bagèts, pastis a crisps bellach!! Roedd stocio fyny mewn siop neu garej yn un or pethau pwysicaf i neud. Roeddwn yn byw ar fara, llefrith a bariau snickers a’r tri hyn oedd yn gweithio i mi. Roedd y tywydd mor boeth, roeddwn yn bwyta snickers fel gel- hyfryd!!
Oedd ‘na adegau lle’r oeddech chi’n ystyried rhoi’r ffidil yn y to?
Ar un adeg roedd y ras yn mynd rhwng Westport a Inishcrone! I mi, hwn oedd y diwrnod anodda yn feddyliol ac yn emosiynol tu hwnt (the lowest point fel mae nw’n ddweud) lle roeddwn yn beicio am 130 o filltiroedd yn ganol nunlla heb weld yr un enaid byw, dim hyd yn oed siop i gael bwyd a dŵr. Hwn oedd yr unig adeg lle oedd un cell fach yn y pen yn dweud ‘stopia, a dos adref’. Bron â rhedeg allan o fwyd a dŵr. Blinder, tirwedd boring- dim byd ond anialdir a defaid. Yr adeg yma oedd y gwana fuodd y pen. Meddwl am yr amser y collais fy mam, taid a nain a cholli fy ffrind ysgol. Meddwl am yr hen ddyddiau a bob dim negyddol yn mynd drwy’r pen. Dagrau’n rhedeg lawr fy ngwyneb. Adeg hyn, ffonio Awen y wraig oedd yr unig beth oedd ar fy meddwl. Roedd ei geiriau positif, clywed am yr holl gefnogaeth oedd gennai adref a clywed Awen yn dweud dro ar ôl tro “mi alli di neud hyn, da ni i gyd y tu ôl i ti ac yn ‘browd’ ohonat” yn ddigon o hwb i wthio fi’n mlaen. A do, mi wnes i o!!
Sut deimlad oedd croesi’r llinell derfyn yn Llandudno?
Ar ôl cylchu Pen y Gogarth a cymeryd y troiad olaf a gweld llinell derfyn a’r holl bobol o fy mlaen, wel does dim geiriau mond emosiwn a dagrau a gweld Awen y wraig yn disgwyl amdanaf, hwnw oedd y teimlad gorau yn y byd i gyd o reidio i’w breichiau.
Y daith ar ben. Ddois i mewn yn 37[ain] allan o 150 o reidiwyr y route hir, 1,623 milltir [mewn] 8 diwrnod, 5 awr a 33 munud. 65,850 troedfeddi o ddringo.
Pa tips sydd gennych chi ar gyfer pobl fyddai’n dymuno dechrau gwneud digwyddiadau endurance ac ultra-endurance fel hyn?
Mae reidio ultra-endurance yn hollol wahanol math o feicio. Yn gyntaf… rhaid i chi fod yn hapus gyda cwmni eich hun, gall fod yn amser unig iawn ar brydie. Yn ail… cael bike fit proffesiynol a dod i arfer gyda aero bars. Yn drydydd… treinio y corff i fedru reidio am filltiroedd hir bob dydd.
I mi roedd bywyd cymdeithasol ar stop, pwysig hefyd cael cymar sydd yn gefn mawr i chi ac yn deallt yr hun da chi’n anelu ato.
Dechreuais i 6 mis cyn y ras; tri mis cyntaf… codi’r milltiroedd yn ara deg i daro can milltir, dim gor wthio eich hun, cadw’r cyfartaledd milltiroedd o gwmpas 13 i 14 milltir yr awr. Ar hyn yr oeddwn i’n treinio drwy’r adeg a hyd yn oed yn y ras. Gwneud gwaith core i gryfhau y bol a‘r cefn a tipyn o yoga tair i bedair gwaith yr wythnos. Tri mis olaf, gwneud training plan, cefais i un drwy Zwift, hyn yn cynnwys gwaith intervals caled tair gwaith yr wythnos, ac yna rhwng 4 a 8 awr o reidio ar gyfartaledd o 13 i 14 milltir yr awr ar y penwythnos. Pwysig treinio wythnosau olaf gyda’r bagiau a’r kit i gyd ar y beic, ac efallai noson ddwy allan yn cysgu. Wythnos olaf… amser i ffwrdd oddi ar y beic er mwyn i’r cyhyrau gael seibiant ac i’r corff a’r meddwl fod yn fresh cyn y ras.
***
Diolch yn fawr i Geraint am ei barodrwydd i ateb fy nghwestiynau ar gyfer cofnod yr wythnos hon ac am ddefnyddio'i luniau. Diolch hefyd i Nia Peris am fy rhoi ar y trywydd cywir ar gyfer y ddau gofnod diwethaf!
Hwyl am y tro.
Comments