Wel am wythnos wych mae’r seiclwr Cymraeg Geraint Thomas wedi ei gael wrth arwain Tim Sky i fuddugoliaeth yn ras enwog y Criterium du Dauphine.
A dweud y gwir, mae ei dim – dan arweiniad ei gyd-Gymro Sir David Brailsford – wedi cael wythnos a hanner gan arwain y dosbarthiad cyffredinol am y rhan helaeth o’r wythnos.
Crynodeb o’r cymalau
Prolog – dechrau anffodus i’r ras wrth i Geraint gael codwm gyflymder-uchel yn ystod y ras yn erbyn y cloc. Ond mi wnaeth yn wych i gyfyngu ei golledion amser ar y diwrnod gan orffen llai na hanner munud tu ol i’r enillydd. Yr ennillydd? Michal Kwiatkowski, hefyd o Sky, gan gipio’r crys melyn cyntaf o’r ras.
Cymal 1 – Daryl Impey o dde Affrica (Mitchelton-Scott) wibiodd i fuddugoliaeth gan guro’r ffrancwr Julian Alaphillipe a Pascal Ackermann o’r Almaen i’r linell derfyn. Kwiatkowski a Geraint yn gorffen yn ddiogel yn y peloton i sicrhau bod y crys melyn yn aros gyda’r tim.
Cymal 2 – Ar ol gorffen yn drydydd ar y gymal gyntaf, Pascal Ackermann arddangosodd ei dalent i orffen o flaen y ffefrynau ar ddiwedd cymal 2. Roedd eiliadau bonws yn hollbwysig i Daryl Impey ar ol ei fuddugoliaeth ar gymal 1, wrth i’r reidiwr gipio’r crys melyn o afael Kwiatkowski, gafodd godwm anffodus yn ystod y gymal.
Cymal 3 – Roedd grym anhygoel Sky ar ras yn erbyn y cloc i dimau cymal 3 yn ddigon i adennill y crys melyn. Gweithiodd y tim yn galed i sicrhau buddugoliaeth gyfforddus yn y ras – 37 eiliad o flaen BMC orffennodd yn ail. Hawliodd y tim y pedwar uchaf ar y dosbarthiad cyffredinol, Kwiatkowski’n y crys melyn gyda Gianni Moscon yn ail, Jonathan Castroviejo yn drydydd a Geraint yn bedwerydd.
Cymal 4 – Gorffennodd Geraint yn drydydd ar y gymal fynyddig gyntaf o’r ras. Julian Alaphillippe o dim Quickstep Floors orffennodd yn fuddugoliaethus; gyda’r Gwyddel o dim UAE, Dan Martin, yn gorffen yn ail. Gianni Moscon gymrodd drosodd y dosbarthiad cyffredinol a’r crys melyn yn ddiogel yng ngafael Sky unwaith yn rhagor. Geraint nawr yn drydydd yn y DC.
Cymal 5 – Prydain ac Iwerddon yn hawlio’r tri uchaf wedi cymal 5; Dan Martin yn fuddugol yn y pen draw. Gorffennodd Geraint yn ail bedair eiliad yn ddiweddarach gyda chwech eiliad bonws yn ddigon iddo ddod i frig y dosbarthiad cyffredinol. Adam Yates orffennodd yn drydydd bymtheg eiliad tu ol i Martin.
Cymal 6 – Gyda Geraint yn y melyn, roedd yn amser i Sky selio buddugoliaeth yn nosbarthiad cyffredinol y ras. Gorffennodd e’n gyntaf allan o grwp y ffefrynau wrth i Pello Bilbao o’r dihangiad gipio’r fuddugoliaeth. Mwy o eiliadau bonws am orffen yn ail i Geraint gyda’r Cymro bron i funud a hanner o flaen Yates oedd yn ail yn y DC ar y pryd.
Cymal 7 – Diwrnod cyffyrddus i’r Cymro Geraint Thomas wrth iddo sicrhau’r crys melyn er gorffen ddeunaw eiliad tu ol i Adam Yates, gipiodd fuddugoliaeth greulon oddi wrth Daniel Navarro oedd wedi bod yn y dihangiad drwy’r dydd. Trydydd i Romain Bardet sicrhaodd le ar bodiwm y dosbarthiad cyffredinol wedi i Dan Martin olli gafael ar y ffefrynau yn y cilometrau olaf.
Dosbarthiad Cyffredinol ar ddiwedd y ras
Geraint Thomas (Cymru / Sky)
Adam Yates (Lloegr / Mitchelton-Scott) +1 mun
Romain Bardet (Ffrainc / AG2R) +1′ 47″
Dan Martin (Iwerddon / UAE) +2′ 35′
Damiano Caruso (Eidal / BMC) +2′ 44″
Emmanuel Buchmann (Almaen / Bora Hansgrohe) +3′ 05″
Pierre Roger Latour (Ffrainc / AG2R) +4′ 05″
Pierre Rolland (Ffrainc / EF Drapac) +4′ 22″
Daniel Navarro (Sbaen / Cofidis) +4′ 31″
Ilnur Zakarin (Rwsia / Katusha) +4′ 45″
Beth am y Tour?
Gyda’r Tour de France ar y gorwel, bydd nifer o benderfyniadau pwysig i’r timau eu gwneud ynglyn a dewis yr wyth fydd yn cymryd rhan.
Mae’n debyg taw Sky sydd gan y benbleth fwyaf. A fydd Chris Froome yn y ras oherwydd yr achos salbutamol?
Mae pennaeth ASO – trefnwyr y Tour de France – Christian Prudhomme wedi dweud na all e atal Froome rhag cystadlu i geisio cipio’i bumed fuddugoliaeth yn y Tour.
Ond pwy fydd yna gydag e?
Wel, perfformiad Geraint yn ystod yr wythnos yn sicrhau ei le fel cyd-arweinydd ar gyfer y ras enfawr yn bendant.
Pwy arall wnaeth serennu i Sky yn y Dauphine? Gianni Moscon a Michal Kwiatkowski wedi gwisgo crys melyn y Dauphine yn ystod yr wythnos a bron yn siwr o’u lle yn yr wyth.
Ond y seren fwyaf fydd Egan Bernal, dim ond 21 mlwydd oed ac yn bendant yn cael ei ystyried yn un o reidwyr gorau’r flwyddyn hyd yma.
Wedi nifer o fuddugoliaethau, a fydd Brailsford yn dewis Bernal? Credaf fod y byd yn gobeithio am i hynny ddigwydd.
Dyna i chi bump; a nawr am y tri olaf. Tao Geoghegan Hart yn serennu fel domestique yn y Dauphine gyda Luke Rowe, y Cymro, yno hefyd. Heb anghofio Dylan van Baarle, sy’n cael tymor cryf.
Wrth gwrs, gall hefyd fod lle i Ian Stannard neu Wout Poels yn hytrach na Tao neu Luke er mi ddylai fod lle i’r Cymro oherwydd ei rol fel capten y tim.
Bydd yn ddiddorol gweld pwy fydd Brailsford a’r tim rheoli’n eu dewis, ond mae’n bendant yn mynd i fod yn ras a hanner.
—-
Diolch am ddarllen y gyntaf o gyfres y Golofn Gymraeg; wela i chi ddydd Sul nesaf.
Comments