Helo!
Gobeithio'ch bod chi gyd yn cadw'n iawn.
Rhoi pin ar bapur (neu lythrennau ar sgrîn, â bod yn fanwl gywir) heno gan fod gen i gwpl o bethau yn ymwneud â seiclo i'w rhannu â chi.
Mae 'ngwyliau haf hir yn prysur ddirwyn i ben, ac ymhen yr wythnos, mi fydda'i wedi dychwelyd i Menton yn ne Ffrainc ar gychwyn fy ail flwyddyn o ddwy yn astudio yno.
Mae Medi yn fwy o Ionawr nag o Ionawr i fi... o ran ceisio rhoi trefn ar bethau o'r newydd a sefydlu arferion da ac yn y blaen. Yn hynny o beth, swn i'n licio gallu gaddo bod yn fwy triw i'r Ddwy Olwyn, a sgwennu'n amlach, ond beryg iawn na alla'i addo dim byd!
Ta waeth am hynny, yn hytrach nag edrych ymlaen, dwi am edrych yn ôl rhyw fymryn ar y cwta fis diwethaf, a 'mhrofiadau ar ddwy olwyn yn ystod y cyfnod hwnnw.
Glières

Mi aethon ni fel teulu ar ein pererindod blynyddol i'r Alpau ac ardal Llyn Annecy ddiwedd mis Gorffennaf, ac un o'r teithiau oedd wedi codi blys arna'i ers blynyddoedd oedd y daith i'r Col des Glières.
Nid o reidrwydd oherwydd pa mor heriol oedd hi, neu gystal oedd y golygfeydd, neu gynifer o weithiau y mae'r Tour de France wedi bod yno, ond yn hytrach gan fod 'na stori ynghlwm â'r lleoliad.
Roedd y Plateau des Glières yn llecyn pwysig i'r Gwrthsafiad Ffrengig (La Résistance) yn yr Ail Ryfel Byd. Roedd yn ganolfan i grŵp Maquis o ymladdwyr y Gwrthsafiad, dan arweiniad y Lieutenant Tom Morel; yn lle delfrydol oherwydd pa mor ynysig ydy o, heb fod yn rhy bell o lyn Annecy chwaith. Gollyngwyd arfau ar barasiwt yma gan Brydain deirgwaith, ac yna ym mis Mawrth 1944, roedd yn faes brwydr lle gwelodd y Gwrthsafiad golledion trymion yn wyneb lluoedd llawer mwy niferus Wehrmacht yr Almaen a milisia Vichy.
Codwyd cofeb genedlaethol o waith y cerflunydd Émile Gilioli yma ym 1973, yn symbol o aberth y Gwrthsafiad. Hyd heddiw, ystyrir yn symbol pellach o wladgarwch Ffrengig, ac o werthoedd undod a chyfiawnder arddelwyd gan y Gwrthsafiad.

Mae yno hefyd atgoffiad cyson o arwyddair y Gwrthsafiad, sef 'Vivre libre ou mourir' - byw'n rhydd neu farw; arwyddair sydd wedi'i ddefnyddio lawer tro yn hanes Ffrainc, megis gan y jacobins ym 1789, ac mae'n ymddangos yn y Pantheon yn Paris.
Mae'r gofeb honno werth ei gweld, a dwi'n hynod falch 'mod i wedi gwneud yr ymdrech i fynd i dalu gwrogaeth.
Roedd hi'n dipyn o orchwyl hefyd, a chryn dipyn o waith dringo, gyda chilometrau cyfan ar raddiant o 10 ac 11%. Am ei bod hi yng nghanol cyfnod o dywydd crasboeth hefyd, roedd gofyn codi cyn cŵn Caer i osgoi diodde'n ormodol.
Ac wrth lwc, mi wnaeth y beic ffordd oroesi'r tua 2km o raean sydd i'w gael ar y copa hefyd, yn cysylltu deupen y 'plateau'. Ro'n i'n ffyddiog y byddwn i'n iawn, gan fod peloton y Tour de France wedi pasio ar eu beics drudfawr yn 2018 ac yn 2020.
Bore gwerth chweil ar ddwy olwyn!

Pontypridd
Er na ches i gyfle i fentro ar ddwy olwyn yn ystod yr Eisteddfod ym Mhontypridd, mi ges i wythnos gofiadwy iawn rhwng popeth.
Un o'r uchafbwyntiau oedd cadeirio sesiwn Y Ddwy Olwyn unwaith eto eleni yn Cymdeithasau, a hynny ar y pnawn dydd Iau.

Mi gawson ni sesiwn ddifyr iawn - mi wnes i fwynhau'r awyrgylch a'r naws yn ofnadwy; sgwrs ddigon anffurfiol wnaeth gyffwrdd ar bynciau fel seiclo yn Rhondda Cynon Taf, llwybrau a hygyrchedd, llwyddiant Emma Finucane a Josh Tarling, a'r rhwystrau sy'n wynebu pobl wrth ddechrau ymddiddori ym myd y beic.
Diolch o galon i Lusa Glyn, Daniel Williams, a Steff Rees am gytuno i fod ar y panel a chyfrannu mor huawdl a chynhwysfawr. Roedd hi wir yn bleser sgwrsio efo chi.
Diolch hefyd i'r rhai ohonoch frwydrodd drwy'r glaw a'r baw i gyrraedd pellafion y maes a phabell y Cymdeithasau; gobeithio y gwnaethoch chi fwynhau a chael rhyw fudd o'r drafodaeth.
Gobeithio y bydd modd i chi ddal i fyny â'r sgwrs rywsut rywfodd... dwi'n prysur bendroni pa ffordd fyddai orau o wneud hynny!

Traws Eryri
Flwyddyn yn ôl, mi ges i fy nghwahodd i lansiad route Traws Eryri gan CyclingUK yng Nghonwy. Mae'r Traws Eryri yn route 'diarffordd' rhwng Machynlleth a Chonwy dros tua 200km.
Yn fanno, mi ddechreuais i gyd-weithio ag elusen Trash Free Trails, sydd fel arfer yn gweithio i gadw llwybrau'n ddi-sbwriel, ond hefyd yn arddel egwyddorion o adael hoel bositif, o fynd ar deithiau ystyrlon ac ati.
Yn unol â'r egwyddorion hynny, mi roddwyd ein bryd ar 'adael hoel bositif' ar y Traws Eryri drwy amlygu rhai o'r straeon Cymreig sydd ynghlwm â'r llwybr, a chodi ymwybyddiaeth o rai o'r heriau sy'n wynebu'r lleoliadau arno.
Felly, yn ystod yr wythnos diwethaf, mi wnes i ymgymryd â'r route ar feic graean fenthycwyd gan Orbea (beic neis iawn, os gai dd'eud, o'n i'n lwcus iawn), a mynd ati i greu cynnwys ar gyfer eu cyfryngau cymdeithasol ac ysgrifennu darn ar y diwedd.
Mi allwch chi ddarllen y darn dwyieithog yn fa'ma:
A dyma glip o rai o uchafbwyntiau'r cynnwys fideo ar Instagram:
Diolch i Trash Free Trails am roi cyfle i mi roi platfform i Gymru a'r Gymraeg yr wythnos yma; mor braf fyddai petai sefydliadau eraill mor fodlon gwneud!
A dyna ni flas i chi o be dwi 'di bod yn 'neud ym myd y beic yn ddiweddar!
Tan tro nesa', byddwch wych a chymerwch ofal.
Hwyl!
Commenti