top of page
Writer's pictureGruffudd ab Owain

Hoff Bump Le Tour de France: Dilwyn Owen

Updated: Jul 12, 2020

Hoff Bump o fath gwahanol yr wythnos hon, wrth i'r siwper-ffan Dilwyn Owen ddisgrifio'r wefr a gai wrth wylio'r pum cymal yma o orffennol y Tour de France. Mwynhewch, a diolch am gyfrannu.


"Dwi wedi dewis pum cymal o’r Tour dwi’n cofio eu gwylio ar y teledu ac sydd dal yn fy

nghyffroi wrth i mi eu hail wylio. Er bod yr enillydd yn bwysig ym mhob un o’r cymalau

yma, mae pob un gyda storiâu eraill yn digwydd yn y cefndir sy’n rhoi lliw ychwanegol i’r

cymal."


Cymal 18 1986.

"Cychwynnodd fy niddordeb i o wylio’r Tour yn 1986. Hon oedd y flwyddyn gyntaf i’r ras

cael ei darlledu ar Channel 4. Yn ffodus i mi, digwyddodd un o ddelweddau eiconig y ras ar

ddringfa eiconig yr Alpe de Huez. LeMond a Hinault yn gorffen llaw yn llaw ar ôl diwrnod

tactegol diddorol."


Cymal 21 1989.

"Mae fy atgof nesaf unwaith eto yn cynnwys LeMond. Roedd pethau wedi bod y agos iawn

drwy gydol y ras rhwng LeMond a Laurent Fignon. Daeth popeth i lawr i’r ras yn erbyn y

cloc ym Mharis. Ar ôl tair wythnos o rasio, enillodd yr Americanwr o wyth eiliad."


Cymal 15 2003.

"Pen-blwydd 100 oed y ras. Roedd Ulrich, Mayo ac Armstrong wedi bod yn agos iawn ers

cychwyn y ras. Ond ar y ffordd i gopa Luz Ardiden ymosododd Armstrong ond fe gydiodd

cyrn ei feic yng nghap neu fag gwyliwr ifanc. Disgynnodd Armstrong a Mayo. Arhosodd

Ulrich am y ddau. Er gwaethaf disgyn aeth Armstrong ymlaen i ennill y cymal a’i bumed

Tour."


Cymal 3 2009.

"Roedd croeswyntoedd wedi eu darogan a pan ddaethant aeth HTC ati i greu llanast. Daeth

holl dîm HTC i’r blaen gan sicrhau eu bod yn gwarchod Cavendish. Roedd Armstrong yn y

grŵp blaen a’i gyd gapten Contador mewn grŵp oedd 41 eiliad ar ei ôl. Cymal cynnar oedd

yn llawn cyffro."


Cymal 3 2010.

"Roedd Geraint Thomas yn reidio i Sky am y tro cyntaf yn y Tour ac yn gwisgo crys gwyn

bencampwr Prydain. Ond erbyn diwedd y cymal roedd yn gwisgo crys gwyn arweinydd

ifanc y Tour. Roedd y cymal yma yn un fflat ond yn mynd dros grynfeini gogledd Ffrainc.


"Chwalwyd y ras gan Cancellara a oedd yn gwarchod Andy Schlek. Cafodd Thomas i mewn

i’r grŵp blaen a daeth yn ail i Hushovd ac ennill digon o amser i wisgo’r crys gwyn. Difyr

nodi mae Hushovd ddaeth yn ail i Cavendish yng nghymal 3 yn 2010."

 

Diolch o galon i Dilwyn (@DOHwb) am gyfrannu i gofnod yr wythnos hon, a cofiwch - os hoffech chi fod y nesaf, anfonwch DM ar Twitter i @cycling_dragon neu beth am e-bostio yddwyolwyn@gmail.com.

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page