top of page
Writer's pictureGruffudd ab Owain

Hoff Bump: Gruffudd Emrys ab Owain

Updated: Jan 13, 2021

Croeso i gyfres hollol newydd ar y blog, lle dwi’n gobeithio cael gymaint a phosib o bobl i rannu eu hoff bump reid/caffi/dringfa, yn y gobaith y gallwn ni ddod o hyd i uchafbwyntiau dros y rhan fwyaf o Gymru.


Fi sydd am gychwyn, ac os oes unrhyw un arall eisiau ymuno, anfonwch DM ar Twitter neu ebost yddwyolwyn@gmail.com.


Route 12: Bwlch y Groes a Bwlch Hirnant

Pam dewis hwn?: Dyma daith sydd a phopeth. Dwy ddringfa heriol, glocwedd neu gwrthglocwedd, rhannau gwastad ar hyd y ddau lyn, Tegid a’r Fyrnwy, golygfeydd gwych a chaffi da wrth yr argae hefyd. Dim rhy hir ond yn dal i gynnig digon o her.


Stwlan

Pam dewis hwn?: Dringfa hollol unigryw. Serth ar ddechrau’r ddringfa cyn symud ymlaen i gyfres o fachdroeon a diweddglo serth i’r argae mawreddog a golygfeydd o’r ardal leol a thu hwnt. Caeedig i geir felly profiad hudolus.


Migneint, Conwy Falls, Nebo, Maerdy

Pam dewis hwn:: Reid hyfryd dros y Migneint gyda'r gorau o dde Eryri ar waelod yr Arenig, tua'r Migneint ac yna i lawr i Gwm Penmachno er mwyn haeddu'r caffi yn Conwy Falls. Ymlaen i Nebo, i lawr i Bentrefoelas cyn cyrraedd Cerrigydrudion. Ymlaen eto i'r Maerdy dros y top i Landderfel ac yn ol ar ffordd y Berwyn adref.


Cambrian Coast Sportive

Pam dewis hwn?: Wrth i mi ddatblygu fel seiclwr, dwi'n gallu symud ymlaen i'r pellter nesaf. Cychwynais yn y 'Fun Route' yn 30 milltir, wedyn symud ymlaen i'r 'Standard Route' sy'n cynnwys dringfa serth i Lynnoedd Cregennen. Os yw'n mynd ymlaen ym mis Medi, dwi'n gobeithio gwneud y 'Long Route' sy'n 140km, a mynd i'r bwystfil 'Big Dog' wedi hynny.


Oernant a Rhuthun

Pam dewis hwn?: Dyma'r gorau o'r ffyrdd i'r Gogledd Ddwyrain o adref, gan fynd i fyny Bwlch yr Oernant a disgyn drwy Graigfechan a Phentrecelyn cyn cyrraedd Rhuthun lle mae modd cael sgwrs efo aelodau'r teulu. Yn dod adref drwy Clawddnewydd, Betws GG, Maerdy, Bethel a Llandderfel.

 

Pwy sydd nesaf? Cawn weld cyn hir!

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page