Yn yr ail yn y gyfres sy’n dod o hyd i uchafbwyntiau rhai o seiclwyr Cymru, Ifan Gwilym sy’n ein tywys i’w hoff bump lleoliad seiclo.
Reid: Caerdydd i Fedlinog
Pam: "mae lleoliad Caerdydd i’r de o’r cymoedd yn neud hi’n ddinas grêt ar gyfer cyraedd dringfeydd heriol o fewn dim amser. Hwn yw fy hoff daith (75km), sy’n cynnwys dringo Rhiwbeina, Bwlch Carnygelli, a Bedlinog, wedyn Mynydd Caerffili ar y ffordd nôl adre. Yr “uchafbwynt” yw’r ddringfa tua 1km trwy tref Bedlinog sydd bron i 11% ar gyfartaledd, ond i ddilyn mae dros 1km arall yn codi’n fwy graddol ar y tîr comin uwch y dref sydd yn teimlo fel artaith wedi’r dechrau serth trwy’r dre! Y peth gorau am y daith yma yw bod posib addasu i neud hi’n fyrach - gan droi nôl yn Nelson (50km), tref Caerffili (30km) neu Fynydd Caerffili (20km) yn dibynu ar faint o amser sydd gyda chi."
Reid: Hill-Repeats Cyncoed
Pam: "er mor hawdd yw cyraedd cefn gwlad o ganol trefi Cymru, ma na sawl ddringfa ar raddfa llai o fewn lleoliad trefol - boed hyna yn Constitution Hill yn Abertawe, Lôn Cariadon ym Mangor, neu Cefn Llan yn Aberystwyth. Yng Nghaerdydd, ma Cyncoed yn cynig tipyn o opsiynne ar gyfer cyfres o ddringfeydd byr - yr anodda yw gwynebu 8% Hollybush Road wedi troad tyn oddi ar y mini roundabout, ond mae’n bosib cyfuno mewn unrhyw drefn. Ma hwn yn reid byr ond effeithiol os yn reidio ar dempo uchel - perffaith ar gyfer gwasgu reid o tua awr fewn cyn gwaith!"
Digwyddiad: Dragon Ride
Pam: "nes i’r Dragon Ride nôl yn 2015, ac er bod hi ddim yn sportive gyda ffyrdd ar gau, hwn odd y digwyddiad gorau fi di neud yng Nghymru. Yn dechrau ym Mharc Margam, rodd y route (gwrth-glocwedd ar y pryd) yn cynnwys dringfeydd megis Bwlch y Clawdd, Rhigos, Devil’s Elbow a Mynydd Du (ma’r route newydd yn mynd gyda’r cloc). Rodd y dwrnod yn cynnig lot o ran y golygfeydd a’r dringfeydd, yn enwedig wrth gymharu gyda’r Velothon odd mond yn cynnig dau ddringfa a chyfnodau hir yn seiclo ar hyd ffyrdd heb olygfeydd."
Dringfa: The Road to Hell
Pam: "fi wedi dringo lan i Lyn Brenig o Ddinbych dwywaith, y tro cynta fel rhan o Gran Fondo Conwy. Yr ail dro, nes i ddilyn route y Road to Hell, sydd wedi’i gynnwys yn ‘100 climbs’ gwreiddiol Simon Warren. Rodd yr ail ffordd tipyn anoddach wrth ddilyn y B4501 yr holl ffordd, a gorfod delio da’r darn caled ar ôl pasio Capel Peniel. Naill ffordd, ma rhan ola’r ddringfa cyn cyraedd Llyn Brenig yn teimlo’n anghysbell, a gyda’r blinder yn bwrw, ma na naws arall-fydol wrth orffen yr 11km hir."
Cyrchfan: Saint-Jean-de-Maurienne
Pam: yn ystod y lockdown yma, fi (fel pawb arall) wedi bod yn edrych mlan am adeg lle fyddwn ni yn gallu teithio eto heb gyfyngiadau, ac felly rodd rhaid i fi gynnwys lleoliad pellach yn y rhestr yma! Ma na dipyn o lefydd ar y to-do list, ond un lle fydden i yn mynd nôl iddo yw dyffryn y Maurienne yn Alpau Ffrainc. Ma na sawl ddringfa eiconig o fewn tafliad carreg, gan gynnwys y Col de la Madeleine, Col du Glandon, Col du Chaussy (a’r Lacets de Montvernier), Col du Galibier o ochr y Télégraphe, a’r ddringfa lan at La Toussuire. Maes chwarae anhygoel ar gyfer seiclwyr!
Diolch o galon i Ifan am gyfrannu i'r gyfres newydd hon, a bod y cyntaf ohonoch chi i drafod eich uchafbwyntiau Cymreig. Pwy fydd nesaf tybed?
Os hoffech chi gyfrannu, tarwch DM i mi ar Twitter @cycling_dragon neu ebostiwch yddwyolwyn@gmail.com.
Comments