Yr wythnos hon, Robyn Davies - fu'n rhan o dim sylwebu Seiclo S4C yn y Tour de France y llynnedd - sy'n ein tywys ni i'w bump hoff leoliad seiclo, yn ne Cymru ac yn ne Ffrainc. Mwynhewch - a diolch o galon am gyfrannu.
"Mae’r profiad o ddewis pump taith feicio wedi bod yn hynod o anodd ond hefyd yn brofiad pleserus wrth ystyried cymaint o deithiau gwefreiddiol sydd i ddewis ohonynt. Mae Cymru yn wlad ddelfrydol i fyw ynddi, golygfeydd godidog, dringfeydd heriol ac heolydd anghysbell gwefreiddiol."
"Yn gyntaf dw i wedi penderfynnu cynnwys dwy daith roddodd gymaint o bleser i mi yn ystod fy mhlentyndod ac a osododd sylfaenau beicio cadarn imi a sicrhau y byddai seiclo yn fy ngwaed hyd byth."
Cwm Ystwyth
"Mae’r heol o Bont ar Fynach i Rayadr yn torri yn syth ar draws mynyddoedd y Cambrian. Mae’n teithio drwy goedwigoedd hynafol, ardal lle gellir gweld olion mwynglofeydd tin ac ardal fynyddig, cyn troelli lawr wrth ochr llynoedd Cwm Elan i orffen yn Rhayadr. Cafodd y ffordd yma ei disgrifio gan sefydliad yr AA fel un o’r deg ffordd orau i yrru arni yn y byd! Mae hyd yn oed yn well ar gefn beic. Cefais fy mlas cyntaf o’r ffordd hon fel bachgen tair ar ddeg oed ar daith gyda chlwb beicio Llanidloes, y Llani Wheelers. Er i mi gael trafferth gyda gers fy meic hanner ffordd drwy’r daith, ces fy swyno gymaint nes i mi ddychwelyd dro ar ôl tro."
Dylife
"Dyma daith o Lanidloes i Fachynlleth ar un o’r ffyrdd uchaf yng Nghymru. Pan yn ifanc, byddwn yn dechrau o Lanidloes ac ym ymlwybro i fyny drwy Goedwigoedd Hafren i gyrraedd Penfforddlas (Staylittle i rai ohonoch) cyn troi i fyny eto am Ddylife. Rydych yn cyrraedd y pwynt uchaf, 512 metr uwchlaw’r môr, dafliad carreg o’r gofeb i Wynford Vaughan Thomas. Does dim syndod fod hwn yn hoff fan ganddo o weld yr olygfa wefreiddiol o edrych allan dros Eryri. Mae deg heol gyhoeddus yn codi I uchder o dros 500m yng Nghymru a dyma un ohonynt. Mae’r darn olaf o Ddylife ar raddfa o dros 15% ond yn llawer haws na’r dringfa hir i fyny nôl o’r ochr arall."
"Dwi nawr yn byw yn Myddfai yng ngogledd Sir Gaerfyrddin ac mae hon eto yn ardal sy’n cynnig gwledd o deithiau beicio godidog a chyfle i mi gynnig i’m tri mab brofiadau tebyg i’r rhai ges i pan yn ifanc."
Yr Epynt
Edrych dros y Bannau o'r Epynt.
"Dyma daith, tua tair milltir o stepen fy nrws, na sydd wedi cael y sylw mae’n haeddu, efallai am ei bod yn eithaf anghysbell. O bentref Myddfai, tua tair milltir o Lanymddyfri, gellir dilyn heol fynyddig drosodd I Drecastell, lle cewch grib Llyn y Fan ar y dde a Llyn Wysg ar y chwith, ymlaen i Lywel a thros yr Epynt i Dirabad. Unwaith eich bod wedi dringo i’r pwynt uchaf mae’r golygfeydd o Fannau Brycheiniog cystal os nad yn well nag o unman arall. Gellwch weld yr holl ffordd o’r Preseli i’r Gelli Gandryll. Mae manteision mawr eraill, sef, dim traffig a tharmac sydd mor llyfn â phen ôl babi!. Er bod y Weinyddiaeth Amddiffyn yn gyfrifol am ansawdd y ffordd gallaf eich sicrhau nad ydych yn debygol o gael eich saethu! Os byddech yn dymuno profiad llawnach o’r Epynt, mae’n bosibl mynd ymlaen o Dirabad i Langammarch a throsodd i Gapel Uchaf a Chapel Isaf cyn dychwelyd drwy Cradoc (ger Aberhonddu) i Drecastell."
Llyn Brianne
Llyn Brianne
"Dyma fy hoff daith ar hyn o bryd. Dyma heol sy’n mynd o Lanymddyfri drwy Rhandirmwyn, o amgylch Llyn Brianne ac yna nail ai i Dregaron neu i Abergwesyn. Ar ôl gadael Rhadirmwyn nid oes metr o darmac gwastad . Dyma heol sydd yn droellog, yn llyfn, yn fynyddig, bob amser yn edrych yn wahanol a phob amser yn heriol. Mae’r heol sy’n troelli o gwmpas yr argae nes iddi gyrraedd capel diarffordd Soar y Mynydd yn un o’r ffyrdd gorau, as nad y gorau i feicio yn y byd, yn fy marn i. Ychydig flynyddoedd yn ôl cawsom y pleser o gael Jean Marie Leblanc, trefnydd y Tour de France ar y pryd, i’n hannerch yng nghinio ein clwb seiclo yn Llanymddyfri. Y diwrnod wedyn, aethom ag e o gwmpas y llyn, mewn car yn anffodus!. Dywedodd nad oedd e erioed wedi gweld y fath heol a byddai unrhyw “Grand Tour” yn falch o fedru cynnwys cymal o’r fath."
"Rwyf wedi penderfynnu cynnwys un taith dramor, gan obeithio daw diwedd ar y gwaharddiad teithio ac y gallwn eto ymestyn ein gorwelion beicio."
Col de la Croix de Fer
"Yn fy arddegau cefais y cyfle i fynd draw i Ffrainc i gystadlu ond doedd dim byd wedi fy mharatoi am fy Alp cyntaf, y Croix de Fer. Nid hwn yw’r un uchaf, yr un enwocaf na’r un mwyaf serth, ond mae’r ffaith mai hwn oedd yr un cyntaf i mi wedi achosi iddo aros yn fy nghalon. Cefais y cyfle yn 2016 i fynd â’r meibion allan yno, a dyna oedd eu Alp cyntaf nhw hefyd. Mae ganddo bopeth buasech yn ddymuno ei gael ym mynyddoedd uchel Ewrop. Mae’n dechrau mewn pentref bach hardd o’r enw Le Plan ac yn dringo ar hyd wal argae, cyn dechrau’r daith i fyny drwy goedwigoedd bytholwyrdd. Mae’n torri allan o’r goedwig i olygfa o fynyddoedd dan eira a llynoedd gwyrddlas, cyn dringo ymhellach i fyny dros ddwy fil o fetrau. Yn ffodus mae’r caffi ar y col yn coginio’r omlet gorau y gallwch ei ddychmygu. Mae’r gwibiad nol lawr hyn yn oed yn well. Gobeithio wir y bydd cyfle i ail fyw gwefr y daith eto cyn bo hir."
Diolch o galon i Robyn am gyfrannu i gofnod yr wythnos hon, a cofiwch - os hoffech chi fod y nesaf, anfonwch DM ar Twitter i @cycling_dragon neu beth am e-bostio yddwyolwyn@gmail.com.
Comments