Yr holl luniau drwy garedigrwydd y cyfrannwr.
Dychmygwch yr olygfa; nos Wener y 3ydd o Fawrth, a phobl ar draws Cymru wedi ymgasglu o gwmpas sgrîn i wylio un o'n nosweithiau mwyaf eiconig. Eiconig am amrywiol resymau, dd'udwn ni.
Daw wyth cân i'r brig o blith dros gant.
O blith yr wyth cân eleni, daeth Huw Owen ag un, a ddaeth yn ail, yn groes i ddyhead sawl un ohonom.
Sawl un yn gweiddi 'Huw Cyw!' ar y teledu.
Sawl un o'r gweddill ohonom ni'n cymryd sylw o'r teledu a fyntau ar gefn ei feic yn sôn gymaint y mae o wrth ei fodd yn seiclo.
Felly dyna ni; Huw wedi sicrhau pleidlais y plant a phleidlais y seiclwyr, ac hefyd wedi sicrhau ei le ar frig fy wishlist o bobl i sgwrsio â nhw ar gyfer y blog.
Diben y gyfres hon o gofnodion ydy sgwrsio â seiclwyr 'cudd' Cymru - pobl sy'n adnabyddus am wahanol resymau ond sydd hefyd yn ymddiddori ym myd y beic.
Yn hyn o beth, mae digon o sgôp am gyfweliad swmpus a diddorol, ac yn achos Huw, mae hynny'n sicr yn wir.
Dychmygwch yr olygfa; fi wrth fy nesg yn Y Bala'n edrych drwy'r ffenest a meddwl ei bod hi'n rhy oer i seiclo. Fyntau'n edrych drwy'r ffenest yn eiddgar i fynd ar ei feic, yn barod wedi paratoi i fynd.
Nai'm ei gadw fo'n rhy hir, meddyliaf.
Bum munud ar hugain yn ddiweddarach, dwi'n rhoi'r ffôn i lawr, a'i ryddhau o i fynd ar ei feic.
Ac awydd o'r newydd ynof innau, yn dilyn ein sgwrs, i fynd ar fy meic yn amlach.
Dim ond diolch sydd gen i i Huw am ei amser ac am sgwrs y gwnes i ei mwynhau'n fawr - a dim ond gobeithio 'mod i wedi llwyddo i grisialu llif y sgwrs a brwdfrydedd Huw, er mwyn i chithau gael yr un mwynhad.
GaO: I ddechrau, cyflwyna dy hun i'r darllenwyr mewn ychydig frawddegau.
HO: F'enw i 'di Huw Owen, dwi'n byw yn Llanberis, a dwi'n gwario'n amsar yn cerddad y ci, reidio beics, b'yta a cwcio pizzas, yn drydanwr ar yr ochr, a hefyd yn gyflwynydd freelance.
Bydd lot fawr iawn o bobl yn dy 'nabod di o ran dy rôl efo Cyw; fuost ti yno am ryw wyth mlynedd sy'n genhedlaeth sylweddol o blant a rhieni... wyt ti'n edrych yn ôl ar y cyfnod efo atgofion melys?
Nes i ddechra' yn 2015, ac o'n i byth yn meddwl swn i'n para... o'n i'n meddwl fysa tair mlynadd yn ddigon ond wyth mlynadd wedyn o'n i'n dal yna. O'dd o'n wyth mlynadd class; 'di ca'l g'neud gymaint o betha', profiada' bythgofiadwy. Dwi'm ond 'di gorffan ers chwe mis ac ers hynna' dwi 'di ca'l symud i fyny r'wsut; y cam nesa' o cyflwyno plant ydi symud 'mlaen i stwff mwy teenager-y a wedyn petha' mwy oedolaidd. Ers gada'l Cyw dwi 'di ca'l cwpl o jobs cyflwyno; Cic Byw efo Heledd Anna a Lloyd [Lewis], un gyfres outdoors sy'n amlwg yn siwtio fi i'r dim... Cyw sy' 'di setio fi fyny a gobeithio fydda'i'n gallu gyrru 'mlaen.
Difyr bo' ti'n d'eud bod symud 'mlaen o Cyw yn 'gam i fyny' - ydi cyflwyno plant yn haws? Neu ydy o jyst yn wahanol?
Ti'n gor'od 'trin o fath'a dau beth hollol wahanol. Pan ti'n cyflwyno petha' plant, ti'n gorfod atgoffa dy hun o pwy 'di 'cynulleidfa chdi. O'n i'n dueddol o drïo peidio bod yn rhy patronizing ond yn amlwg ti'n gor'od g'neud popeth yn uffernol o glir a bron mor syml ma'n rhy syml, ond i blant 'dio ddim. Dwi'n meddwl ella bod o'n haws wedyn symud i fyny achos ti'm yn gor'o meddwl am yr ochr yna a ti'n gallu bod yn chdi dy hun 'chydig bach mwy.
Yn amlwg ma' pawb yn symud ymlaen ar wahanol adegau yn eu bywydau ond be' 'naeth dy ysgogi di i symud ymlaen o Cyw?
Nes i yn ystod y cyfnod clo cynta', o'n i 'di bod yn Nghaerdydd am bum mlynadd erbyn hynna', symud 'nôl adra am gyfnod hir... o'n i 'rioed 'di seiclo tan hynna', nes i ddod adra a neb yn ca'l 'neud ryw lawer o'mbyd a nes i a 'mrawd brynu beics a petha' a dechra' seiclo rownd ffor'ma.
Pan dda'th y cyfnod clo i ben ac es i'n ôl i Gaerdydd, o'n i'n 'ffeindio fo'n frustrating bod yn styc yn tŷ, isio mynd allan i 'neud petha', isio bod yn y mynyddoedd. Adeg yna nes i sylwi gymaint o'n i wrth fy modd yn bod yn y mynyddoedd... mynd fyny Moel Eilio neu'r Wyddfa a'r holl fynyddoedd sydd o gwmpas ffor'ma. Do'n i'm yn ca'l hynna yng Nghaerdydd, so yn 'diwadd o'n i'n meddwl - dwi 'di g'neud wyth mlynadd o hyn 'wan... ma hynna'n hen ddigon. Dwi'n meddwl bo' fi'n haeddu ca'l symud adra 'wan.
Hefyd a'th 'yn fam yn sâl, a dwi'n meddwl o'dd hwnna'n eye-opener mawr, jyst i fath'a 'neud be tisho ia? Ma' bywyd rhy fyr i fod yn 'neud 'wbath ti'm isio. O'dd o'n benderfyniad tyff, ond na, adra... 'nathy ni gal ci bach hefyd, ac o'n i'n meddwl ma' adra dwisho bod efo 'rhen Moi ac yn y mynyddoedd.
A symud i fyd hollol wahanol yn bod yn drydanwr wedyn.
Ma'n rhyfadd... newydd ddechra' dwi. Yn amlwg, am bo' fi di gada'l job solat yn gweithio 9 i 5 contract, ma'n tough move... o'dda ti'n gofyn be' o'dd anodda' cyflwyno plant 'ta oedolion, efo cyflwyno plant o'n i ar gontract, ddim yn gor'od poeni lle ma'r job nesa'n mynd i ddod, o'n i jyst yna yn staff i Boom Plant. 'Sa fo di bod yn big move symud syth o hynna' i fod yn gyflwynydd freelance, lle ti'm yn gw'bod o lle ma'r job nesa'n dod.
Cwmni [trydanol] Dad 'dio, jyst fi a Dad a 'mrawd sy'na, a 'nath bob dim leinio fyny 'chos odd ei brentis o'n gada'l, o'dd o angen prentis newydd ac o'n i'n gada'l [Cyw], 'nath petha' weithio'n grêt. Dwi'n gweithio Llun i Gwenar efo Dad a 'mrawd, ond unrhyw adeg dwi'n ca'l jobsys cyflwyno - hyd'noed os 'dio'n wythnos neu bythefnos o waith, ma' Dad yn eitha' laid-back efo fi ac 'edrai jyst gofyn am bythefnos off i fynd i ffilmio hwn-a-hwn.
Dwi 'di ca'l y best of both worlds 'wan, ma' genai job solat fath'a trydanwr, wedyn os dwi'sho mynd off i 'neud 'wbath arall, ma' Dad yn hapus gada'l fi.
Rhyfadd 'chos, dwi'n faint 27 'wan, ac yn amlwg 'tha prentis dwi'n gor'od mynd i coleg unwaith yr wsnos a dwi'n teimlo'n hen yna ia? Dwi'n gw'bod dwi ddim a ma' genai wynab 'tha babi ond dwi'n teimlo'n hen yn eu canol nhw gyd.
'Nawn ni symud ymlaen at Cân i Gymru; dwi'n meddwl bo' lot o bobl 'di cael eu cyffwrdd gan y gân nes 'di sgwennu (Cân i Mam)... pan oeddet ti'n 'sgwennu oedd o jyst yn rhywbeth personol, neu oedd creu rhywbeth fyse'n berthnasol i lot o bobl yn rhan o'r syniad hefyd?
Pan nes i 'sgwennu'r gân 'na'n wreiddiol, o'n i'm 'di planio dangos o i neb 'mond teulu rili. Os ti'n gwrando ar eiria'r gân 'na, ma' pobl yn medru uniaethu efo fo, ond pan o'n i'n sgwennu, jyst sgwennu fo i Mam o'n i. Nes i ddangos o iddi hi, dangos o i 'mrawd, dangos o i Dad, ac a'th hi ddim pellach rili.
Wedyn, o'dd Mam 'tha - ma'i'n gân dda, 'haid ti 'neud wbeth efo'i - ond dim dyna o'dd 'pwynt o i fi. Wedyn nes i weld bod dyddiad cau Cân i Gymru'n dod, ac o'n i'n meddwl y byswn i'n rhoi r'wbath i fewn 'chos dwi 'di sgwennu lot o gerddoriaeth ond dwi byth yn rhyddhau lot ohonyn nhw. Nes i feddwl bod hi'n gân dda, ac ella bod o'n meddwl wbath i fwy o bobl na jyst i fi, nes i feddwl, 'nai drio hon, a fel'na a'th hi.
Ie, ma' Cân i Gymru 'di rhoi platfform i'r gân wedyn achos ma'i yn teilyngu ca'l pobl yn gwrando arni. Ddois di o 'na efo £2,000 sy'n swm bach neis... welish i rywun ar Twitter yn awgrymu y dylset ti brynu beic... ydw i'n cael gofyn...?!
Dwi'm yn gw'bod be 'nai efo fo ond fydd 'na ryw bike-related item yn infolfd dwi'n meddwl!
Gwych! Ti 'di bod yn perfformio'n unigol ac yn rhan o fandiau o'r blaen... mae cerddoriaeth yn amlwg yn rhywbeth pwysig i ti.
Yndi ers bo fi'n ifanc, fath'a ma' lot yn 'neud nes i ddechra'n chwara' piano a chwara' corn. Nes i fynd i brifysgol a cornet oedd 'yn offeryn i am flwyddyn cyn i fi dynnu allan. Fues i mewn brass bands 'lly efo Band Deiniolen a Band Llanrug, a wedyn o'n i efo band roc o'r enw Mosco ond 'nath hwnna'm para'n hir iawn.
Yn ddiweddar ma' miwsig jyst 'di cymryd drosodd eto. 'Nath un o'r hogia' ofyn i fi ail-ymuno efo Band Llanrug, ac o'n i'n meddwl pam ddim? Wedyn na'th Bryn [Hughes Williams] a'r band dd'eud bo' nhw angan aelod arall yn Ffatri Jam a nes i jympio ar y cyfle yna, wedyn dda'th Cân i Gymru so ma' fatha' full circle. O'n i wastad yn 'neud miwsig fan hyn, nes i symud o'ma i Gaerdydd a 'nath o gymryd back foot 'chydig bach, 'ŵan dwi 'di dod nôl adra i Llanbêr a ma bopeth di cicio off eto.
Ti'n teimlo linc cry' efo lle ti'n dod a'r holl bethe' sy'n dod efo fo 'lly?
Yndw, dwi'n sylwi pan dwi'n sgwennu unrhyw fath o lyrics, ma'n anodd peidio 'sgwennu 'wbath am yr ardal, am ryw fynydd neu ddyffryn. Dwi byth yn rili sgwennu am Fae Caerdydd neu Newport neu r'w falu cachu fel'na. Ma 'na r'wbath am adra 'di tanio r'wbath.
Ma hyne'n ein harwain ni'n eitha taclus at y seiclo; o'ddet ti'n d'eud mai yn y cyfnod clo 'nôl adre' nes di ddechre', be' sy 'di g'neud i ti fod isio cario 'mlaen? Be' 'di'r apêl?
Dwi wastad 'di bod yn un sy'n pigo 'wbath fyny a dwi byth yn g'neud dim byd half-hearted. Dwi 'di 'neud o sawl gwaith dros y blynyddoedd, cychwyn ryw hobi a dropio fo ar ôl ryw fis. Ond efo seiclo, dwi'm yn gwybod pam... ti'n gwybod weithia' ti'n ffeindio r'wbath a ma' jyst yn sticio?
Nes i ddechra' seiclo a 'nath o jyst tyfu, 'nath o gyrra'dd point lle o'n i'n seiclo dri diwrnod yr wythnos ac os o'n i ddim o'n i'n teimlo bach yn shit. Ma jyst yn escape, a weithia' ti jyst angen y dwy awr dair 'na ar ben dy hun i ga'l brêc o bob dim.
'Sa chdi 'di deu'tha fi dair blynadd 'nôl bo' fi'n mynd i 'ista ar gefn beic am gan milltir, swn i 'di edrych arna chdi a 'deud - paid â bod yn wirion, ma hynna'n ridiculous. Ond ŵan, weithia' a'i allan wîcend a g'neud can milltir by mistêc, mynd allan am 50, a jyst d'eud, 'na ni 50 arall.
Dwi'm yn 'weld o fath'a exercise, gwaith calad. Ma'n escape a dwi'n meddwl ma' dyna pam ma' 'di sticio, a dwi'm yn gweld 'ŵan seiclo ddim yn bod yn rhan o 'mywyd i.
Es i i Tenerife tua mis Hydref a hwnna' o'dd yr wsnos gora' o seiclo dwi 'rioed 'di ga'l. Fyny Mount Teide... ffantastic... bron on a par efo Pas Llanbêr.
Ti 'di sôn hefyd am y beicio mynydd a'r beicio ffordd, ydi'r ddau'n apelio'n yr un ffordd neu oes 'na apêl gwahanol?
Beicio ffordd, t'od... fanna ma 'nghalon i, ar y lôn dwi wrth 'y modd rili. Ond dwi ond 'di dechra' ar y mountain bike ers ryw bedwar-bum mis... mai'n Gaea' a ti'n gwisgo dillad lôn... ti'n gallu gwisgo'n gynnas ond to an extent ia, ma dal yn lycra tenna'. Nes i feddwl prynu mountain bike a gwisgo lêars a lêars a lêars, a ma' 'di bod yn class... ti'n mynd i lefydd ar y mountain bike 'sa ti methu efo road bike. Dwi bron yn eu gweld nhw fath'a dau hobi gwahanol.
Dwi 'di bod fyny'r Wyddfa ddwywaith, deirgwaith ella ers i fi ga'l o, dim bo' ti'n gallu seiclo'r holl ffordd ti'n gor'od cario'r basdad thing rhan fwya'r ffor' ond ma 'na lwyth o lefydd neis i fynd... fyny Bwlch Ma'sgwm, drw' Chwaral Dinorwig, ti'n medru gweld llefydd 'sa ti byth yn medru gweld ar road bike.
Ond wedi d'eud hynna, pan ti ar y road bike ti'n gallu mynd mor bell â 'tisho. Ma'n nhw jyst yn disciplines gwahanol... dwi'n joio'r mountain bike on dwi'n roadie through and through.
Taset ti'n gor'od dewis dy hoff le i fynd ar feic, lle fyse fo?
Swn i'n mynd nôl i Tenerife unrhyw ddiwrnod. Pan nes i Mount Teide, nes i ada'l drws y gwesty a wedyn am ddwyawr a hannar cyfa' ti jyst yn mynd fyny allt. Ddim yn jocian, o'n i'n sbïo ar y Garmin a nath o ddim dropio o dan 6% o gwbl... a'th o lawr i tua 2% am tua 200 metres yn y canol, ond fel arall, 6, 7, 8 , 9, 10 % yr holl ffordd... a bach mwy weithia'.
Ma'n swnio'n hellish 'ndi, ond nes i ddim stopio gwenu'r holl ffordd. Nes i hyd 'noed ga'l glaw... o'dd o jyst yn ôsym, y views a'r ffyrdd... dyna 'di'r gwahania'th pan ti'n mynd ffwr', ma'r tarmac mor dda.
Dwi'n siŵr 'swn i'n mynd i rywle arall fath'a'r Alps, ond am bo' fi wedi profi Mount Teide, ar y funud fanna' ydi number one.
Pan nes i ddod 'nôl o Tenerife, o'dd seiclo fyny Pas Llanberis... o'dd hwnna wastad yn teimlo fath'a.. ych dwy filltir fyny Pas wan. Ond ŵan bo fi di seiclo ugain milltir fyny allt, am gwd deufis ar ôl dod nôl o'dd seiclo lonydd ffor'ma'n teimlo fath'a walk in the park.
I gloi 'te, be 'sgen ti fath'a gobeithion ar gyfer y dyfodol o ran seiclo ac yn fwy cyffredinol?
O ran bywyd, gobeithio cario 'mlaen fel'ma, gobeithio ca'l mwy o jobsys cyflwyno. Y freuddwyd 'sa tie-o seiclo fewn i hynna'... ca'l ryw gyfres deledu neu 'wbath o gwmpas seiclo, neu jyst part bach yn mynd i 'wbath yn y Tour. Sa'n neis dod â byd cyflwyno a byd seiclo at ei gilydd... 'sa fo'n cŵl gallu 'neud 'wbath fel'na.
•
Comments