top of page
Writer's pictureGruffudd ab Owain

Ifan Roberts yn egluro Pillar


Côd arbennig i gael mis ychwanegol am ddim ar ddiwedd y cofnod

Yn gyntaf, cyflwynwch eich hun i’r darllenwyr.


Ifan Roberts ydw i, rwyf yn wyddonwr chwaraeon, hyfforddwr beicio ac yn mwynhau unrhywbeth i’w wneud hefo chwaraeon endurance. Rwyf yn gweithio fel rheolwr cynnyrch chwaraeon i gwmni o'r enw Pillar ap. Yn ogystal rwyf hefyd yn hyfforddi gyda Loughborough Performance Coaching lle rwyf yn hyfforddi rhai o feicwyr ifanc disglair Prydain.



Pe bai estron yn glanio ar y ddaear, sut fyddech chi’n disgrifio Pillar wrtho?


Hyfforddwr beico digidol yw Pillar sydd yn galluogi chi gyrraedd eich nodau ar eich telerau chi. Yn defnyddio technoleg artificial intelligence ac yn dilyn y gwyddoniaeth mwyaf blaengar, mae Pillar yn cesio eich helpu i gymryd camau integredig ar draws gwahanol ffactorau eich ffitrwydd ac iechyd mewn ffordd sy’n optimaidd chi a’ch bywyd. Mae’r amser o gynlluniau hyfforddi beicio generig a static ar ben. Mae Pillar yn dod a hyfforddiant beicio personol a deinameg i chi am bris y gall pawb ei fforddio.

Felly sut mae'n gweithio?

Mae Pillar yn rhoi argymhellion hyfforddi i chi sydd wedi'u personoli i'ch lefel ffitrwydd, eich nod, a faint o amser sydd gennych i hyfforddi. Mae'n gwerthuso eich cynnydd, ac yn rhoi awgrymiadau i chi ar gyfer pob sesiwn hyfforddi, sydd yn gyffredinol tuag at eich nod.


Mae'n ddeinamig o amgylch eich bywyd: os bydd eich argaeledd yn newid, mae gennych chi reid gymdeithasol, ac ati, bydd Pillar yn diweddaru'ch hyfforddiant, mewn amser real, i wneud yn siŵr eich bod yn gwneud y defnydd gorau o'ch amser hyfforddi.


Mae’n monitro eich lefelau blinder er mwyn gwneud yn siwr nad ydych yn gorlwytho eich hun, sy'n arwain at anaf a diffyg cynnydd.


Mae’n ddeinamig o amgylch eich corff, wrth i chi ddod yn fwy ffit. Mae Pillar yn gwerthuso eich gweithgaredd a’ch datblygiadau ffitrwydd bob wythnos. Mae’n defyddio hyn i gynyddu eich hyfforddiant a datblygiadau.


Mae Pillar yn gwerthuso eich holl hyfforddiant beicio. Felly mae ganddo ddarlun cyflawn o'r hyn rydych chi'n ei wneud, pa mor flinedig ydych chi ac ati. Mae'n gwneud hyn fel y gall wneud argymhellion sy'n addas i chi bob dydd.



O gofio mai algorithmau sy’n gyrru’r ap, sut mae’r brand yn dymuno creu cysylltiadau personol â’r defnyddwyr?


Er mai algorithmau sy’n gyrru’r ap rydym eisiau gwneud yr ap mor bersonol i'r defnyddiwr sydd yn teimlo ac yn cynnig gwasanaeth hyfforddwr dynol. Yn ein rhyddhad diweddaraf gallwch nawr ddewis o amrywiaeth o bersonoliaethau hyfforddwyr fel "Strict Stan" neu "Friendly Fun Felicity," i ddod o hyd i'r arddull hyfforddi sydd fwyaf addas i chi. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth “Call a coach” ble gall y defnyddiwr bwcio sesiwn un i un efo hyfforddwr dynol sydd yn gweithio i'r tîm. Rydym yn gweithio yn galed i geisio gwneud yn siwr fod ein cynnyrch yn rhoi gwasanaeth hynod bersonol i bob unigolyn gan ystyried eich personoliaeth chi.




Hyfforddwyr go iawn sydd wedi dylunio’r cynlluniau hyn; ydy’r defnyddwyr yn gallu ymddiried yn arbenigedd yr hyfforddwyr?


Yn ogystal â dilyn y wyddoniaeth ddiweddaraf rydym yn ffodus i gael arbenigwyr o'r radd flaenaf fel ein hymgynghorwyr. Rydym wedi datblygu set o algorithmau pwerus gydai rai o arweinwyr y byd yn y maes hyfforddi, gwyddoniaeth chwareaon, a maetheg. Mae holl aelodau ein panel ymgynghorol yn arweinwyr eithriadol yn eu priod feysydd ac maent yn gweithio ar flaen y gadl. Mae'r rhain yn cynnwys James Morton, David Bailey, Rachel Neylan, ac ychydig o rai eraill y gallwch edrych arnynt yma (https://www.pillar-app.com/team). Mae James yn Athro Metabolaeth Ymarfer Corff ac yn arbenigwr ym maes metaboledd ymarfer corff a maeth chwaraeon. Arweiniodd y strategaeth faeth ar gyfer buddugoliaethau lluosog Team Sky yn Tour de France o 2015 i 2018. Mae David yn dod â gwybodaeth a phrofiad helaeth o'r lefel uchaf o feicio a thriathlon gyda mwy na 15 mlynedd o waith i gefnogi beicwyr Taith y Byd ac athletwyr Olympaidd, mae ar hyn o bryd yn ymgynghorydd perfformiad gyda Israel - Premier Tech. Mae Rachel yn feiciwr ffordd proffesiynol ar hyn o bryd yn cystadlu ar gylchdaith rasio Taith Byd y Merched i dim Confidis. Rydym yn ffodus i gael y cynghorwyr hyn gan eu bod yn sicrhau bod ein halgorithmau'n gweithio mewn ffordd ddibynadwy sy'n gweithio'n wirioneddol i chi, yn seiliedig ar yr arferion gwyddoniaeth a hyfforddi diweddaraf.


Mae ‘na elfen gref o fod yn hyblyg, ac addasu i ofynion y defnyddwyr o ran nifer yr oriau a’r math o gynllun neu nod. Esboniwch ychydig am hynny.


I gyrraedd brig eich perfomriad, dylai'r hyfforddiant yr ydych yn ei wneud newid yn unol â'ch nodau, galluoedd y corff (ffitrwydd), blinder ac unrhyw newidiadau bywyd a'r hyn yr ydych yn teimlo fel ei wneud (yn dibynnu ar eich ymagwedd at eich hyfforddiant). Yn wahanol i feicwyr proffesiynol sydd ag amser hyfforddi anghyfyngedig rydym yn gwerthfawrogi bod angen hyblygrwydd ar y boblogaeth feicio gyffredinol o ran eu hyfforddiant. Rydem wedi adeiladu nodweddion sydd yn galluogi hyfforddiant hynod o bersonol a deinamig i chi. Mae Pillar yn ceiso optimeiddio y cynydd mwyaf ar gyfer eich fitrwydd or amser sydd gennych i hyfforddi. Ar ei lefel symlaf mae Pillar yn gweithredu drwy ddilyn y prif gamau isod er mwyn gwneud eich hyfforddiant yn bersonol a denamig.


1. Deall y math o newidiadau ffisiolegol y mae angen i'r athletwr eu gwneud i gyrraedd ei targed broffil ffitrwydd. Y ddau beth y mae angen i ni eu deall yma felly yw:


a. Ble mae eu lefel ffitrwydd cyffredinol nawr a beth yw ei cryfderau a gwendidau cymharol o fewn hynny.


b. Beth yw gofynion ffisiolegol y prif nod? (Mae gan Pillar math eang o nodau yn estyn rhestr hir o ddigwyddiadau Sportif i becynnau hyfforddi i wella ffordd o fyw)


2. Beth yw y cyfle sydd gennych i hyffordd? Faint o wythnosau sydd yna tan eu targed? Faint o amser hyfforddi sydd gennych pob wythnos, dosbarthiad yr amser hwnnw drwy'r wythnos. Mae hyn yn pennu maint y newid rydym yn ceisio ei wneud, a sut rydym yn trefnu i’r hyfforddiant gael ei wneud.


3. Yr amgylchedd a'r offer sydd ganddynt i'w hyfforddi.


4. Eu gallu presennol i hyfforddi - pa mor flinedig ydyn nhw, faint o straen hyfforddi y gallwn ei ddarparu yn seiliedig ar eu gallu personol i oddef straen hyfforddi, a straen eraill yn eu bywyd (swydd, goyfnion teleuol ac ymarfer corff arall y maent yn ei wneud ac ati)


5. Pa fathau o strategaethau sy'n tueddu i weithio. Pa fath o hyfforddiant, ymarfer corff maen nhw'n ei hoffi, casáu, neu rhywle yn y canol.


Nid yn unig mae Pillar yn dillyn yr ffactorau uchod er mwyn galluogi yr elfenau personol a hyblig ond fel hyfforddwr yn eich poced, mae Pillar ar gael 24 awr or dydd, 7 diwrnod or wythnos. Os oes digiwddiad yn codi ac eich bod angen symud, newid amser hyfforddiant, methu ymarfer, bydd Pillar yn ail-optimeiddio y maint o hyfforddiant, y math o hyfforddiant, ac anhawster yr hyfforddiant y mae'n ei ofyn i chi, yn unol â'r newidiadau hyn yn eich corff a'ch bywyd o ddydd i ddydd.



Beth mae’r cwsmeriaid yn ei gael am eu harian? Oes fersiwn am ddim o’r ap?


Mae yna fersiwn premiwm ac fersiwn am ddim o’r app. Ein nod yw galluogi fod bob person yn cael y cyfle i wella a tracio ei ffitrwydd a iechyd. Felly yn wahanol i nifer o hyfforddwyr dynol ble mae y gost yn amrywio o £100-£250 y mis, mae Pillar yn cynnig y gwasanaeth yma am £5.99 y mis. Er nad oes cyswllt dynol mae Pillar wedi cael ei adeiladu gan rhai o arweinwyr mwyaf blaenllaw y byd yn ei maes.


Y prif wahaniaeth rhwng Pillar premiwm ar fersiwm am ddim yw mae cynllun ac argymhellion statig sydd ar gael yn y fersiwm am ddim. Tra bod y ferswim premiwm yn cynnig cynllun ac argymhellion ddeinameg a personaol I chi.



Beth ydy’r weledigaeth efo Pillar? Pwy allith o helpu, a pha gynlluniau sydd i’r dyfodol?


Yn y pen draw, mae gofalu am ein iechyd corfforol a meddyliol trwy ymarfer corff yn arwain at fywyd hapusach, iachach a mwy boddhaol i unigolion a chymdeithas yn gyffredinol. Ein nod hirdymor yw ein bod yn gallu helpu pawb gyda’u taith iechyd a ffitrwydd. Rydym esiau pawb gyrraedd eu gorau (Be at your best) beth bynag yw eu nod, boed hynny'n ymwneud â pherfformiad beicio, colli pwysau, neu wella ffordd o fyw. H​​yd yn hyn, rydym wedi canolbwyntio ar adeiladu argymhelliad hyfforddi cryf i feico. Yn y dyfodol agos, rydym yn bwriadu gwella ein hargymhellion parodrwydd ymarfer i gynnwys ffactorau lles eraill fel HRV, cwsg, ac ati. Yn ogystal, rydym eisiau decharau rhoi argymhellion i chwaraeon eraill megis triathlon, rhedeg, nofio, ac ymarfer cyhyrol. Rydym wedi dechrau adeiladu algorithmau sydd yn gweithredu ar elfenau eraill or perfformiad megis maeth, seicoleg, a iechyd cyffredinol a byddwn yn anelu iw gynnwys yn yr ap erbyn diwedd y flwyddyn hon.

Felly, beth am fynd ymlaen i roi cynnig ar Pillar? Rydyn ni'n cynnig mynediad am ddim am ddau fis i fersiwn premiwm or ap I ddarllenwyr Y Ddwy Olwyn. Defnyddiwch y linc yma https://pillarapp.page.link/yddwyolwyn new mewn gynfodi y cod YDDWYOLWYN I dderbyn dau fis am ddim. Cysylltwch â ni (ifan@pillar-app.com) os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech drafod mwy am yr ap!



Recent Posts

See All

Comentarios


bottom of page