Mae Gorffennaf wedi cyrraedd – yr haul yn tywynnu a trystiwch fi, mae hi’n chwilboeth yn y gogledd y dyddiau yma.
Mae’r mis yma’n golygu nifer o bethau ym myd chwaraeon; ond nid Wimbledon na Chwpan y Byd sydd dan sylw, o na.
Y Tour de France, wrth gwrs! Ras seiclo fwya’r byd yn dychwelyd i hoelio’n sylw – ac oes, mae llawer IAWN i’w drafod. Felly, daliwch sownd, sît belts ymlaen – fel ddywed y deheuol, co ni off.
Y Cymalau Pwysig
Pan ryddhawyd y cwrs llynnedd, roedd yn rhaid i bawb edrych ddwywaith. Mae’n HOLLOL wahanol i rasys blaenorol; ymgais arall i arafu goruchafiaeth Chris Froome a Team Sky.
Wedi dwy gymal lle disgwylir i’r gwibwyr cyflymaf serennu, mae cymal 3 yn cynnig cyfle am newid anferthol i’r dosbarthiad cyffredinol. Bydd y RTEC (ras timau yn erbyn y cloc) yn sicr yn rhoi rhywun newydd yn y crys melyn; arweinydd Team Sky neu BMC mwy na thebyg.
Am weddill yr wythnos gyntaf, mae mwy o gymalau gwibio gan gynnwys un all ffafrio arbennigwyr y clasuron megis Julian Alaphilippe, Alejandro Valverde a Peter Sagan.
Yna, gall y cyffro gymryd troad am y gorau mewn cymal grynfeini all effeithio’n fawr ar y DC; perygl o ddamweiniau mawr fydd yn ychwanegu sbeis at y ras yn bendant.
I fewn i’r ail wythnos mae’n dechrau poethi; wedi’r diwrnod gorffwys yn Annecy bydd cymal 10 a 11 yn cynnwys pedair dringfa heriol yr un; cyn y gymal fynyddig i Alpe d’Huez.
Cymysgedd sydd i’r dair gymal nesaf; un gymal wibio a dwy gymal i arweinwyr y DC.
Wrth i’r ras fyned y Pyreneau yn yr wythnos olau, cychwyna gyda dwy gymal gyferbyniol; y gyntaf yn 218km a’r llall ddim ond 65km ond y ddwy yn fwystfilod fydd wir yn ysgwyd y DC.
Ar ol un gymal wibio yn Pau, bydd y gymal fynyddig olaf yn cynnwys mawrion yr Aubisque, Aspin a’r Tourmalet cyn REC i sicrhau bududgoliaeth yr arweinydd yn hytrach na newid y dosbarthiad fwy na thebyg.
Y gymal olaf eiconig lawr y Champs-Elysees sy’n gorffen y ras eto eleni gan goroni’r buddugwyr mewn dathliad.
Y Crys Gwyn
Mae 29 o reidwyr yn deilwng i grys gwyn reidiwr ifanc gorau’r Tour de France.
Ar ol goruchafiaeth y brodyr Yates yn y dosbarthiad yma yn y gorffennol, mae gan Team Sky gyfle da i ennill y crys gwyn eleni yn Egan Bernal a Gianni Moscon.
Mae Pierre Latour, Stefan Keung a Marc Soler hefyd yn deilwng iawn i’r crys gwyn; a bydd yn ddiddorol gweld pwy fydd yn serennu.
Darogan:
1. Egan Bernal (Team Sky) 2. Marc Soler (Movistar) 3. Pierre Latour (AG2R La Mondiale)
Y Crys Gwyrdd
I’r gwibwyr y mae’r dosbarthiad frwdfrydig yma ac eleni eto bydd nifer o reidwyr (rhestr lawn ar y gofnod flaenorol) yn paffio am y fraint ac anrhydedd yma.
Cyn cael ei ddiarddel o’r ras ar gymal 4 y llynnedd, Peter Sagan oedd yn goruchafu yn y gwyrdd ond gall hyn newid yn syfrdanol eleni.
Mae nifer o reidwyr fel Dylan Groenewegen, Fernando Gaviria ac Alexander Kristoff yn debygol o fygwth y dosbarthiad yma.
Darogan:
1. Peter Sagan (Bora-Hansgrohe) 2. Dylan Groenewegen (LottoNL-Jumbo) 3. Fernando Gaviria (QuickStep-Floors)
Y Crys Polca
Yn boblogaidd â’r Ffrancwyr mae Warren Barguil; sydd am geisio adennill y crys polca yn lliwiau Fortuneo Samsic eleni wedi buddugoliaeth â Sunweb llynnedd.
Mae’r bwcis hefyd yn ffafrio Thomas de Ghendt a Mikel Landa, ynghyd â Rafal Majka, Nairo Quintana ac Adam Yates.
Darogan:
Warren Barguil (Fortuneo-Samsic)
Mikel Landa (Movistar)
Rafal Majka (Bora-Hansgrohe)
Y Crys Melyn
Mae nifer o reidwyr yn mynd i fygwth y crys melyn eleni a dyma grynodeb o’r 13 sy’n ffefrynnau.
Chris Froome
All unrhywun weld heibio Froome yn cipio’i bumed buddugoliaeth? Efallai gall y coblau a’r abiws Ffrengig effeithio arno; pwy a wyr?
Geraint Thomas
Yn hytrach na bod yn rif dau i Froome, eleni mae Sky wedi dewis y Cymro i fod yn gyd-arweinydd. Mae wedi dangos ei allu yn y Dauphine eleni ac ar gychwyn y Tour y llynnedd.
Nairo Quintana
Mae’r ffaith nad yw’n reidiwr REC cryf yn brifo Nairo Quintana ac yn effeithio ar ei allu i fygwth copa’r podiwm. Ond ar ddringfeydd, mae’n un o’r goreuon.
Romain Bardet
Yn destun cefnogaeth y Ffrancwyr a nifer o bobl eraill o gwmpas y byd, mae’n hen bryd i Bardet gymryd y cam nesaf a gwir fygwth y melyn wedi gorffen ar y podiwm yn y gorffennol.
Rigoberto Uran
Dydy Uran erioed wedi ennill ras gymal a hyn yn peri trafferth iddo’n ystod y Tour. Gorffennodd yn ail y llynnedd.
Richie Porte
Wedi perfformio’n wych mewn rasys wythnos, dyma’r tro cyntaf y gallem ddweud for Porte wir yn fygythiad i Froome.
Tom Dumoulin
Mae Dumoulin yn un hoffus ac yn destun brwdfrydedd i nifer o gefnogwyr seiclo. Ar ol llwyddo i gyrraedd podiwm yn y Vuelta a’r Giro, tybed all o ail-adrodd hyn yn y Tour?
Mikel Landa
Efallai fod tri arweinydd yn ormod i Movistar a’r elfen o ryddid (y rheswm pam adawodd Landa Sky) ar goll iddynt gystadlu am y melyn.
Luis Leon Sanchez
Dau arweinydd gan Astana; Sanchez yw’r un sydd wedi profi ei hun orau eleni a chyfle ganddo i ddangos ei ddoniau ar y lefel uchaf.
Jakob Fuglsang
Hefyd yn rhan o dim Astana; saethodd i’n sylw wedi perfformiad gwych yn y Dauphine llynnedd. Parhaodd i fod yn gryf mewn rasys wythnos – ai dyma’i gyfle gorau?
Vincenzo Nibali
Mae Nibali wedi dangos ei rym dros y blynyddoedd a dim ond un buddugoliaeth yn y Tour mae wedi llwyddo i gipio hyd yma; a hynny ar ol damwain i Froome yn 2014.
Dan Martin
Mae Dan Martin yn reidiwr talentog tu hwnt ond methai a throsi hynny’n fuddugoliaethau. Mae’n bosib y gall fygwth y tri uchaf eleni.
Primož Roglić
Wedi perfformiadau penigamp eleni mae’r cyn-neidiwr sgï yn bendant yn un i wylio am y DC eleni er nad yw wedi profi ei hun yn y Grand Tours eto.
Darogan
1. Chris Froome (Team Sky) 2. Richie Porte (BMC) 3. Romain Bardet (AG2R La Mondiale) 4. Tom Dumoulin (Sunweb) 5. Geraint Thomas (Sky)
(Uchod: rhestr reidwyr 2018 diolch i @velofacts ar Twitter. Uwcholeuwyd y rhai sy’n deilwng i grys gwyn y reidiwr ifanc gorau)
Mae’n bosib mai hwn yw’r set gryfaf o reidwyr yn y Tour ers talwm ac mae’n bosib iawn y bydd y 5 uchaf yn dra wahanol i’r hyn yr wyf wedi ei ddarogan.
Disgwyliaf ras gyffrous yn llawn brwdfrydedd gwych a byddaf yn crynhoi bob cymal ar y blog gan ddarogan yr ennillydd yn ogystal.
Yn y man, os nad ydych wedi dilyn y cyfrif Twitter (@cycling_dragon) neu fy un personol (@ab_owain), byddaf hefyd yn rhoi fy marn ar y platfform yna hefyd.
Diolch yn fawr am ddarllen a mwynhewch y Tour!
Comments