top of page
Writer's pictureGruffudd ab Owain

Mwy o Hanfodion yr Hydref

Yn dilyn cofnod yr wythnos diwethaf, lle gwnes i amlinellu deg o hanfodion seiclo’n yr hydref (cliciwch yma i’w ddarllen), cefais ymateb gan rai a thrafodaeth ag eraill am yr hyn yr oeddwn i wedi ei anghofio. Ymddengys bod yr hyn yr oeddwn i wedi ei alltudio yn weddol amlwg, ac yn hollol angenrheidiol.


Felly, heb oedi ymhellach - dyma bum peth arall sy’n hanfodol wrth seiclo’n yr Hydref.


Mudguards

Mae’n rhaid i mi gyfaddef, wnaeth mudguards ddim croesi fy meddwl o gwbl pan yn ystyried hanfodion yr Hydref yr wythnos diwethaf. Mae’n rhaid ei fod o’n rhywbeth i wneud efo’r ffaith ‘mod i angen sortio rhai ar f’un i. Beth bynnag, dyma Rhys yn dweud ar Twitter: “Nes di anghofio’r peth pwysicaf… mudguards! Angenrheidiol os wyt ti’n reidio efo pobl eraill.” Gwir pob gair, ac mae ‘na nifer o opsiynau - rhain y gwnaeth Guto eu hargymell (a dwi ‘di gweld nifer o bobl eraill yn gwneud hefyd) neu mae modd hyd yn oed cael beth elwir yn ‘ass saver’ am brisiau rhad hefyd.


Base layer

Alla’i ddim credu chwaith ‘mod i wedi anghofio am un o’r pethau ddylai fod yn agos iawn at frig y rhestr o hanfodion sef base layer gynnes. Enid Roberts wnaeth f’atgoffa i ar y reid Zwift nos Fercher, ac roedd hi’n nodi hefyd fod cael un defnydd merino yn bwysig. Byddwn i’n bendant yn cytuno; maen nhw’n dweud fod craidd cynnes yn allweddol i gadw’ch holl gorff yn gynnes ac mae’r defnydd yma (neu un cyfwerth fegan) yn sicr yn plesio. Dwi ‘di cael yr un base layer ers blynyddoedd, ac mae’n dal i ‘nghadw i’n gynnes.


Lonydd sych

Iwan wnaeth godi’r pwynt da yma ar y reid Zwift nos Fercher, a dwi’n sicr yn cytuno fod lonydd sych yn beth eithaf allweddol wrth seiclo’n yr Hydref, ond yn enwedig yn y Gaeaf. Er, bûm i’n edrych ‘nôl ar fy Strava o flynyddoedd blaenorol bore ‘ma, a ddwy flynedd yn ôl, roedd y ffyrdd yn rhy rhewllyd i barhau mor fuan ag ail wythnos Tachwedd. Mae lonydd rhewllyd yn no-go yn fy marn i; does dim pwynt peryglu misoedd o seiclo maes o law er budd un reid Gaeafol efo ffyrdd rhewllyd. Efallai’n fwy perthnasol i’r Hydref ydy adlewyrchiad yr haul o’r ffyrdd gwlyb, sy’n gallu bod yn dipyn o boendod. Felly, yn bendant, mae lonydd sych yn ddelfrydol er falle’n brin.


Ap tywydd

Un peth mae nifer o seiclwyr proffesiynol yn nodi yn eu hunangofiannau ac yn y blaen yw gymaint o apiau tywydd sydd ganddyn nhw. Maen nhw’n edrych ar a chymharu pob un cyn penderfynu os ac i le i fynd. Er falle nad ydw i’n eu dilyn nhw mor agos â hynny, bydda i wastad yn edrych ar y Met Office a BBC Weather cyn mynd allan. Er enghraifft, bore ‘ma (Sadwrn), mae’r darlun cyffredinol yn debyg; sych ond gwyntog bore ‘ma cyn troi’n lawog iawn erbyn amser cinio. Ceir mwy o fanylion gan y Met Office na gan y BBC o ran hyrddiadau gwynt ac ati hefyd, felly mae hi’n bendant yn werth croes-gyfeirio.


Tyrbo

Dewis dadleuol, dwi’n gwybod… ond weithiau, dydy’r tywydd ddim yn caniatàu seiclo tu allan. Ac yn ddiweddar, mae poblogrwydd y tyrbos a’r meddalwedd amrywiol i’w ddefnyddio ag o wedi troi peth fu unwaith yn arteithiol o ddiflas yn brofiad rhyngweithiol a dynamig i’w fwynhau. Mae’r nosweithiau wedi mynd yn dywyll eto, a does fawr o obaith i mi fachu awren ar lonydd coediog, cysgodol yn yr hwyr mwyach; felly mae’r tyrbo’n prysur ddod yr unig opsiwn ar gyfer ganol wythnos. Mae’r reids nos Fercher yn ôl hefyd; dau wedi’i gwneud â chriwiau da, cymdeithasol i bob un. A gyda llaw, os oes unrhyw un angen/eisiau tyrbo sy’n gallu cysylltu efo Zwift, mae gen i un yn mynd yn sbâr felly cysylltwch efo fi.


Dyna ni, pymtheg o hanfodion i’r Hydref dros gyfnod o ddau gofnod, gan obeithio na fydd angen trydydd!

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page