Pwt am fynd i wylio dwy o rasys mwya’r calendr yn ystod yr wythnos ddiwethaf, a chyfle i sôn am bodlediad newydd cyffrous iawn am seiclo yng Nghymru, ‘Pen y Pass’, y bues i’n ddigon ffodus o fod yn westai arno’r wythnos hon.
Nice, Sanremo, Pen y Pass
Mi gewch chi rai pobl sy’n dweud nad oes ’na’r fath beth â gwreiddioldeb.
Dwi ’di bod yn pori dipyn drwy gyfrol swmpus, ‘seminal’ John Davies, Hanes Cymru, dros y misoedd diwethaf, ac mae holl benodau’r llyfr hwnnw wedi’u henwi â thri enw lle sydd â rhyw gysylltiad â chynnwys y bennod.
Felly, pan o’n i’n meddwl am roi hwn at ei gilydd, a sylwi ar drindod daclus, mi ddygais i’r syniad.
Dyna dri lle sy’n gysylltiedig ag ambell weithgaredd yn ymwneud â seiclo ddaeth i’m rhan yn ystod wythnos goblyn o brysur o ddydd Sul diwethaf hyd heddiw.
Dwi’n ysgrifennu hwn ar y trên yn ôl i Menton ar ôl cwta 20 awr o grwydro Milan (mwy am hynny yn y man) efo Mam. Saib hyfryd iawn ar ôl yr ail arholiad ganol tymor o dri fore ddoe a swp o asesiadau eraill dros y bythefnos ddiwethaf, cyn rhoi pen i lawr am ychydig eto hyd benwythnos y Pasg.
Ond dwi am fynd â chi’n ôl wythnos yn gyntaf, ac i Nice Sul diwethaf, y 10fed o Fawrth.
Ches i fawr o gyfle i ddilyn ras Paris-Nice yn ystod yr wythnos, ond mi ges i fachu ar y cyfle i weld y reidwyr yn dod heibio ar y cymal olaf yn Nice. (O ran cyd-destun, dwi’n astudio yn Menton ar hyn o bryd, sydd hanner awr ar y trên o Nice)
A’u gweld nhw nid unwaith, nid dwywaith, ond deirgwaith.
Wrth lwc, roedd y cymal yn cychwyn ac yn gorffen ar y Promenade des Anglais, y pen arall i stryd yr orsaf drenau (Avenue Jean Médecin), ac wedyn yn rhan ola’r ras mi’r oedden nhw hefyd yn dod heibio ar gylchdaith fechan.
Felly mi lwyddais i i ddal y cychwyn ar y Prom, cyn mynd am ginio ac orig o waith. Cymryd tram i’r hen borthladd wedyn, dafliad carreg o’r gylchdaith o’n i’n sôn amdani i’w gweld nhw’n fanno, ac yna mynd i’w gweld yn yr hen borthladd o fewn 2km i’r diwedd.
Dyma ddechrau’r ras:
Dyma Roglič yn yr hen borthladd, lai na 2km o’r diwedd:
Mi wnes i gofio mynd â fy maner draig goch efo fi, oedd yn handi iawn wrth geisio dod o hyd i fi’n hun ar y teledu! Digwydd bod, mi wnaeth y beic modur â’r camera fy nal i bob un o’r dair gwaith. Falle y bydd angen i chi edrych yn fanwl ambell dro!:
Ar ôl hynny i gyd, mi ddois i o hyd i rywle i wylio gêm Cymru a Ffrainc. Wnawn ni ddim manylu.
Ac wedyn ddoe, ddydd Sadwrn y 16eg, mi’r oedd Milano-Sanremo yn gorffen yn Sanremo. Pan o’n i’n dewis lleoliad prifysgol, mi’r oedd gallu mynd i Sanremo ar y trên o fewn cwta awr o’r fflat yn cynnwys newid yn Ventimiglia yn apelio’n fawr.
Mae Milano-Sanremo yn un o’r rasys undydd mwyaf ar y calendr, ac mae’r cyffro’n aml yn codi yn y cilometrau olaf un ar ôl cyrraedd Sanremo.
Mi ddois i allan o’r orsaf drenau, a beth oedd o ’mlaen i ond y flamme rouge yn dynodi 1km i fynd. Lle delfrydol i’w gweld nhw’n gwibio heibio, yn dal i fod yn agos at yr orsaf er mwyn cychwyn am Milan yn go brydlon wedyn.
Mi fues i’n eistedd ar y stryd tu allan i gaffi yn gwylio Cymru yn erbyn yr Eidal – wnawn ni ddim manylu fan hyn chwaith – a chael lle da i'w gwylio nhw'n mynd heibio.
Dyma rai lluniau:
Ro'n i wedi anghofio fy maner y tro'ma felly anoddach o lawer dod o hyd i mi! Ond dwi'n fan hyn mewn crys glas golau ar y chwith!:
Ac yn hytrach na mynd yn ôl i Menton, nes i benderfynu gwneud y mwyaf o gyfle i deithio'r Eidal, a mynd i Milan. Yr un peth â'r seiclwyr - ond yn y cyfeiriad arall, ac ar drên.
Mlaen â ni at y trydydd lleoliad. Pam Pen y Pass felly, dywedwch? A minnau â’m traed yn rhydd ar gyfandir Ewrop?
Dyma’r enw ar bodlediad seiclo newydd sydd wedi glanio yn ystod yr wythnos neu ddwy ddiwethaf.
Dan Williams sy’n gyfrifol am y fenter yma – a dwi mor falch ei fod o wedi mentro. Mae’n hwyr glas bod podlediad am seiclo ar lawr gwlad yn y Gymraeg i ychwanegu at gyfraniad amhrisiadwy’r Dihangiad sy’n trafod seiclo proffesiynol ers bron i saith mlynedd.
Mae Dan yn byw yng Nghaerdydd, ond yn wreiddiol o Groeslon yn Arfon. Efallai y byddwch chi’n gyfarwydd ag o o’i fand presennol HUDO; roedd o hefyd yn aelod o’r grŵp Y Promatics yn y gorffennol.
Mae ei frwdfrydedd am seiclo yn amlwg, ac mi’r oedd y saith munud o gyflwyniad gawsom ni yn y bennod gyntaf yn ddigon i gynnau cryn gyffro am y fenter.
Mi’r oedd hi’n bleser mawr gen i felly gael fy ngwahodd fel un o’r gwesteion cyntaf ar y bennod lawn gyntaf ryddhawyd ddydd Iau.
Mi’r o’n i wrth fy modd yn malu awyr efo Dan am bob dim ’dan haul – mewn cyd-destun seiclo gan fwyaf, ond ges i sôn am y blog ac hefyd bywyd yn fwy cyffredinol, gan gynnwys bod yn y band Mynadd. (maddeuwch i mi am hunan-hysbysebu, ond pe hoffech chi wrando ar ein caneuon cliciwch fan hyn orcd.co/llwybrau neu fan hyn orcd.co/dylanwad)
Mi wibiodd yr amser heibio’n sydyn iawn, a minnau’n malu awyr a thraethu a phaldaruo fel arfer, ond mae Dan wedi gwneud joben dda iawn yn cytogi rhywfaint ar hynny!
Felly ewch da chi i wrando ar y bennod honno o’r podlediad sydd hefyd yn cynnwys sgwrs â Rhys o glwb Ajax Caerdydd. Mae o ar gael i’w wrando ar wefan Y Pod drwy glicio yma neu mae o ar gael i’w chwarae isod:
Ac un peth olaf!
Dwi wedi bwcio sesiwn ym mhabell y cymdeithasau eto eleni ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd. Rhowch farc ar y calendr – ar y pnawn dydd Iau am 2 o’r gloch y prynhawn. Manylion i ddilyn!
Felly dyna i chi ddiweddariad bach o fyd Y Ddwy Olwyn! Dyma tŵ-dŵ bach i chi:
- Mynd i wrando ar bodlediad Pen y Pass
- Nodi dydd Iau’r Eisteddfod am 2 ar y calendr
Ac os hoffech chi ddarllen mwy, dyma rai o’r pethau eraill y bum yn eu hysgrifennu yn ddiweddar:
- ‘Lle mae mwyniant y byd yn disgleirio’ ar wefan Chwys (cangen chwaraeon o Golwg)
- ‘Seiclwr Cymru ar ben y byd... yn barod’ hefyd ar wefan Chwys
- ‘2024: Year of the Bike on the Côte d’Azur’ i bapur myfyrwyr Menton Times (Saesneg)
- Darn am effaith cyfieithu llenyddiaeth ar ieithoedd lleiafrifol i’r un cyhoeddiad yn y Ffrangeg (dylai bod modd defnyddio’r botwm cyfieithu yn eich porwr)
Tan y tro nesa', ciao ciao.
Comments