Wythnos diwethaf mi wnes i benderfynu bod rhifynnau o Bwletin Byd y Beic yn cymryd gormod o amser i’w hysgrifennu, yn enwedig o gofio mod i’n ôl yn yr ysgol bellach.
Y rheswm syml dros hynny yw, wrth gwrs, bod cymaint i’w drafod.
Felly dyma benderfynu y byddai’n parhau i drin a thrafod y byd seiclo proffesiynol oherwydd fy mrwdfrydedd a diddordeb tuag ato a’r mwynhad ydw i’n ei gael o’i wylio ac ysgrifennu amdano, ond mewn arddull ychydig yn wahanol.
Mae hi wedi bod yn wythnos lawn dop o rasio unwaith yn rhagor rhwng Paris-Nice, Tirreno Adriatico a Healthy Ageing Tour.
Cyn trafod ymhellach, dyma gyfle i ddal i fyny gyda’r canlyniadau drwy gyfrwng y fidios canlyniadau dyddiol dwi’n cynhyrchu ar Twitter, gyda diolch o galon i Candelas a recordiau I Ka Ching am gael defnyddio’u cerddoriaeth.
Tirreno Adriatico
Paris-Nice
Healthy Ageing Tour
Drama, drama, a mwy o ddrama.
Beth sydd tu ôl i’r hyn sy’n cael ei alw’n ‘oes aur’ mewn seiclo?
Ydy’r pandemig wedi chwarae rhan?
Mae ‘na bosiblrwydd. Yr hyn welson ni wedi’r pandemig oedd ambell i ffactor. Yn gyntaf, roedd y rhan fwyaf o’r seiclwyr proffesiynol wedi bod dan glo llym lle roedd cyfyngiadau ar yr hyn yr oedden nhw’n gallu ei wneud. Roedd nifer yn troi at Zwift, ond roedd y bwlch adawyd gan rasio yn un mawr. O’r herwydd, mi ddaethon nhw allan o’r clo mawr ddiwedd y llynnedd yn fwy diolchgar a gwerthfawrogol o’u bywoliaeth.
Yn ail, roedd y pandemig yn creu ansicrwydd o ran cytundebau ar gyfer y flwyddyn hon. Enghraifft bennaf o’r emosiynau ddaeth gyda hynny oedd Alex Dowsett yn ennill cymal o’r Giro. Yn dilyn o’r pwynt blaenorol, daethon nhw’n fwy gwerthfawrogol o’u bywoliaeth ac os rhywbeth yn fwy penderfynol o barhau ag o.
Yn drydydd, rydym ni ‘gyd yn cofio pa mor gywasgedig oedd y tymor diwygiedig ddiwedd y llynnedd - gymaint o rasys yn cael eu ffitio i fewn i gyfnod weddol fyr o amser. Yn sgil hynny, roedd llai o rasys, yn enwedig i’r menywod, i ddangos eu doniau ac ennill rasys er mwyn cadarnhau sicrwydd i’r dyfodol.
Mi grewyd awyrgylch llawer mwy cystadleuol o fewn y pelotons oherwydd y ffactorau hyn (a mwy mae’n siwr).
Mae cymaint yn fwy o reidwyr ar y lefel uchaf ar hyn o bryd, fel sydd eisoes wedi cael ei arddangos yn y clasuron fel yn Omloop er enghraifft.
Ac mae’r reidwyr mwyaf yn ennill ac yn perfformio’n gryf yn gyson. Y ‘triawd’ neu’r ‘drindod’ yn Mathieu van der Poel, Wout van Aert a Julian Alaphilippe yn ennill cymal yr un yn nhridiau cyntaf Tirreno, wedyn MvdP a WvA yn ennill bobo un arall yn hwyrach ymlaen.
Wedyn ennillydd y cymal arall oedd Tadej Pogacar, deiliad y Tour de France. Y big-hitters i gyd yn rasio yn erbyn ei gilydd; roedd hi’n bleser gwylio.
Cymaint o gwestiynau a phwyntiau trafod wedi dod yn fwy cyfredol hefyd. Am ba hyd y gallen nhw gynnal y safon yma - yng nghyd-destun y tymor ac yng nghyd-destun eu gyrfaoedd?
Faint yn fwy y gallen nhw’i wneud? Mae Wout van Aert yn parhau i serennu a rhyfeddu ar bob tirwedd; yn un o’r gwibwyr cyflymaf, yn un o’r puncheurs/reidwyr clasuron gorau a’n ddringwr cryf hefyd. Mae meddwl am faint y gall y Belgiad gyflawni - a’r amrywiaeth hefyd - yn boncyrs.
Mae wedi dweud wrth gylchgrawn ProCycling ddiwedd y llynnedd mae’i freuddwyd yw i gael palmares amrywiol a chyflawn, gan dargedu gwella ei REC, ennill medal Olympaidd, ennill y crys gwyrdd ac ennill clasuron gwlad Belg.
Wythnos yn ol roedden ni’n dal i drafod yr anhygoel Mathieu van der Poel, wnaeth ddangos bryd hynny ei fod o’n un allai ennill pob ras undydd ar y Ddaear, pe bai’n trio.
Mae o mor ymlaciedig am ei allu. Ddwywaith yn barod y tymor hwn ydyn ni wedi’i weld yn ymosod o ddegau o gilomedrau o’r diwedd - unwaith yn Kuurne, a’r llall yn Tirreno oherwydd ‘ei fod o’n oer’. Dyma’r rasio ymosodol, athreuliol mae’r cefnogwyr seiclo traddodiadol wedi bod yn crefu amdano ers blynyddoedd.
Julian Alaphilippe, un o reidwyr mwyaf adloniannol y peloton sy’n difyrru’r cefnogwyr ar unrhyw gyfle, yn parhau i fod yn un o’r reidwyr mwyaf cyflawn yn y peloton ac mi rydym ni’n gobeithio na fydd ei arddull yn pylu dim am flynyddoedd i ddod.
Mae eu personoliaethau nhw'n cyfrannu cymaint at yr adloniant; y dathliadau yn sgil eu buddugoliaethau yr wythnos yma wedi bod yn werth eu gweld - a buan dwi'n gobeithio gallu prynu prints a'u fframio ar y wal.
Gan droi at Paris-Nice, dyna i chi reidiwr arall sydd ar y safon uchaf un; y Slofeniad Primoz Roglic. Deja vu oedd hi iddo’n anffodus gan golli’r ras ar yr unfed awr ar ddeg wedi dwy ddamwain a phroblem fecanyddol - ond eto rhaid clodfori’r modd y gwnaeth o ennill tri chymal o’r ras, eto ar dirwedd amrywiol.
Flawed brilliance oedd disgrifiad CyclingTips o Roglic. Mae’n bencampwr o’r radd flaenaf - yn parhau i reidio er gwaethaf cig moch ar ei ben-ol ac ysgwydd wedi’i ddatgymalu i anrhydeddu’r crys melyn. Gallwn ni ond gobeithio y bydd o’n bownsio’n ol o’r siomedigaeth yma cyn gryfed a chyn gynted ag y gwnaeth o wedi’r Tour.
Mae’n siwr wrth edrych ar hanes seiclo bod y pedwar, falle pump, reidiwr yma’n reidwyr unwaith mewn cenhedlaeth - i gyd yn cyrraedd y lefel uchaf ar unwaith.
Pan fydd cefnogwyr seiclo yn edrych ar yr oes hon mewn seiclo - yn syth wedi’r pandemig - bydd hi ddim, fel yn y gorffennol, yn oes un reidiwr fel ‘oes Armstrong’, ‘oes Froome’, ‘oes Merckx’, ‘oes Indurain’ oherwydd fod cymaint o reidwyr sydd ar lefel mor uchel.
Un peth sy’n sicr, mae’n fraint cael gwylio a blogio am seiclo pro ar hyn o bryd.
Mae hefyd yn oes aur i peloton y menywod, nid yn unig oherwydd y reidwyr, ond oherwydd y darlledu, a’r buddsoddi sy’n tyfu ar hyn o bryd. Ond eto, does dim posib trafod yr ochr yma o’r gamp mewn cymaint o fanylder oherwydd y rheswm syml nad oes cymaint o rasys.
Mae’n argoeli i fod yn benwythnos ardderchog o rasio unwaith yn rhagor. Her y timau a’r reidwyr eraill fydd dod o hyd i ffordd i atal y drindod rhag cymryd pob un o’r safleoedd ar y podiwm yn Milano-Sanremo; monument cynta’r tymor.
Ras sy’n ffafrio’r gwibwyr yn draddodiadol, ond mae’n rhaid i gyfeiriad y gwynt fod yn ffafriol ar ddringfa olaf y Poggio os ydynt am lwyddo. Dydy hynny heb ddigwydd cymaint yn ddiweddar, gydag ymosodiadau’n llwyddiannus i fuddugoliaethau van Aert, Nibali et al.
Wedyn ddydd Sul, mae Trofeo Alfredo Binda. Pe bai rhywun yn cynllunio cyfres cyfatebol o’r monuments i’r menywod, mae’n siwr mai’r Trofeo Binda fyddai un o’r rasys cyntaf i gael eu cynnwys. Ras fydd yn sicr yn werth ei gwylio.
I Gatalunya bydd y dynion yn mynd am ras wythnos yn cychwyn ddydd Llun, lle mae disgwyl i reidwyr fel Almeida, Hindley, Champoussin, Quintana, Kruijswijk, Kuss, Carthy, Hirschi, Tejada a Mas fod ymysg y ffefrynnau ar y rhestr ddechrau.
Bydd y ddau peloton yn wynebu clasur Belgaidd Brugge-De Panne ganol wythnos gyda’r dynion ddydd Mercher a’r menywod ddydd Iau.
Digonedd i edrych ymlaen ato felly, ac mae’n bur debygol y bydd digonedd i’w drafod ar yr un pryd wythnos nesaf.
Hwyl am y tro.
Comments