Mae'r datblygiad mewn seiclo tu fewn wedi bod yn aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig mewn meddalwedd hyfforddiant.
Ond heb y 'trainer' cywir, dydy hyn ddim yn bosib, ac os nad ydych wedi dewis yr un cywir i chi eto, cofiwch ddarllen y cofnod diwethaf - bit.ly/dewistrainer .
Byddaf yn nodi'r opsiynau hyn mewn trefn pris isaf - uchaf, ac yna'n nodi ffyrdd i recordio pellter, amser ayyb ar ddiwedd y gofnod.
Termau
Rhithwir - virtual
Ysgogiad - motivation
Sesiynau - workouts / sessions
Ystadegau - pwer, curiad calon, cyflymdra pedlo ayyb
Fideos GCN £Am Ddim
Mae GCN (Global Cycling Network) yn sianel YouTube sydd wedi denu dros i filiwn o danysgrifwyr a hynny drwy lansio fideos gwych yn ddyddiol yn cynnig tips a'r diweddaraf o'r byd seiclo.
Mae eu casgliad o fideos hyfforddiant yn eang tu hwnt ac rwyf wedi defnyddio llawer iawn ohonynt ers cael fy trainer dros flwyddyn yn ol.
Yn anffodus, mae hysbysebion yng nghanol y sesiynau ond gellir lawrlwytho'r fideos drwy glicio'r linc yma.
Manteision
- Sesiynau ymarfer proffesiynol - Amrywiaeth eang o sesiynau i'w cwblhau - Y cyflwynwyr yn cynnig ysgogiad
Anfanteision - Dim yn recordio pellter (ond gweler sut i wneud hynny ddiwedd cofnod) - Angen lawrlwytho i osgoi hysbysebion
FulGaz £70/bl neu £7.50/mis
Fel y gweler uchod, mae'r ap yma'n dangos fideo o daith wirioneddol a ffilmwyd a rhannwyd gan ddefnyddiwr. Mae modd dilyn y fideos hyn a bydd cyflymder y fideo'n addasu i'ch cyflymdra chi.
Manteision - Cyflawni sesiynau o gwmpas y byd - Ffordd realistig o gadw'r ffitrwydd yn uchel
- Llawer rhatach na Zwift er gwaethaf syniad tebyg
Anfanteision
- Dim sesiynau strwythredig
- Dim mor soffistigedig ag eraill
TrainerRoad
£76/bl neu £9/mis
Mae TrainerRoad yn taclo elfen mwy arbennigol gan anelu i wella perfformiad mewn modd proffesiynol. Defnyddia ystadegau a sgrin llawn data (fel y gweler uchod) ac mae'n un o'r rhai mwyaf poblogaidd.
Manteision - Gwella perfformiad mewn modd proffesiynol - Perffaith ar gyfer y rhai sydd gyda diddordeb mewn ystadegau
Anfanteision
- Ddim yn cynnig reidio rhithwir fel Zwift neu Fulgaz
Sufferfest
£76/bl neu £10/mis
Nid yw Sufferfest yn dangos fideos rhithwir fel Zwift (h.y. addasu i'ch cyflymder) ond yn hytrach yn defnyddio gweledigaeth TrainerRoad gan gynnwys fideos o seiclwyr proffesiynol fel ysgogiad.
Manteision
- Defnyddio sefyllfaoedd gwir
- Taclo elfen perfformiad yn well na Zwift
Anfanteision
- Ddim yn rhithwir (fel petai)
- Ddim y gwerth gorau am arian
Zwift £138/bl neu £11.50/mis
Mae Zwift yn ddewis poblogaidd iawn a hynny am resymau amlwg iawn. Cyfuna'r holl elfennau allweddol uchod; cyflwyniad rhithwir a rhyngweithiol, sesiynau strwythredig, rasio yn erbyn eraill, cystadlu yn ogystal a rhedeg os oes gennych treadmill.
Manteision
- Brig y farchnad felly'n cynnig perfformiad gwych
- Cyfle i wella perfformiad mewn ffordd hwylus
Anfanteision
- Drud iawn
- Dim cynnig o daliad blynyddol
BONWS: VirtuGo
£Am Ddim (ar hyn o bryd)
Ac yntau mewn proses Beta ar hyn o bryd, mae modd i chi ddefnyddio VirtuGo yn rhad ac am ddim. Ei weledigaeth yw cyfuno Zwift a TrainerRoad, ac mae'r dyfodol yn edrych yn addawol iawn.
Bachwch ar y cyfle hwn gan glicio yma.
Recordio pellter ynghyd a fideo ar-lein
GYDA CYFRIFIADUR BEICIO - Cysylltwch eich synhwyryddion i'ch cyfrifiadur beicio os yw'n gyfaddas.
GYDAG AP STRAVA - Cysylltwch eich synhwyryddion i fodd recordio ap Strava.
Mae'r wobr gwerth gorau'n mynd i fideos GCN a recordio pellter ac ati gan ddefnyddio ap Strava neu gyfrifiadur beicio.
Serch hynny, credaf ei bod werth i chi gael cipolwg ar VirtuGo tra bo am ddim.
Fy ngobaith am y misoedd nesaf yw cyflwyno fideos (fel rhai GCN) o sesiynau - heb hysbysebion - ar y blog i ddatblygu'ch perfformiad ymhellach.
Commentaires