Dwi'n ymwybodol fod yr wythnos ddiwetha' 'ma wedi bod yn heriol i nifer fawr iawn o bobl - boed hynny oherwydd tywydd garw, diffyg routine neu realiaeth Covid-19 yn taro eto.
Felly dyma ymgais i fod yn fwy positif yn y gofnod heddiw, a goleuo'r hyn y gallwn ni edrych ymlaen ato.
Y gwanwyn!
Dwi'n yngan y geiriau 'dyma fy adeg gorau o'r flwyddyn' yn gyson ar draws y flwyddyn. Yn yr haf, rhwng y Nadolig a'r flwyddyn newydd...
Ond byddwn i'n dweud fod cyfnod pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn uchel iawn ar y rhestr o adegau'r flwyddyn. Mae'n dechrau yn beth sy'n teimlo fel dyfnderoedd y gaeaf, a dros gyfnod o ryw saith/wyth wythnos rydym ni'r ochr arall ac yn y gwanwyn.
Mae'r gwanwyn yn amser da o'r flwyddyn i seiclwyr am nifer o resymau:
Dim overshoes
Dyma gyfle i gytogi'r amser hirfaith mae'n gymryd i gael allan o'r drws ffrynt yn y gaeaf - dim gorfod straffaglu i dynnu'r overshoes dros yr esgidiau. A gobeithio na fydd angen eu priodweddau cadw'n gynnes a chadw'n sych yn ystod y misoedd nesaf.
Dim teits
Yn ogystal a'r overshoes, mae gwisgo siorts yn hytrach na teits / leg warmers yn cael gwared ar deimlad trwm sy'n gallu bod yn gysylltiedig a reidio yn y gaeaf. Does dim posib teimlo'n anorchfygol a chyflym mewn teits ac overshoes, felly unwaith y bydd modd eu hanghofio am y tro, bydd siorts ac esgidiau gwyn yn hwb seicolegol a chorfforol enfawr.
Allan o'r drws mewn hanner yr amser
Wedi cyffwrdd ar hyn - mae'n anochel bod yr angen am lai o ddillad yn cyflymu'r broses o fynd allan drwy'r drws. Yn y gaeaf, cael allan drwy'r drws yw'r cam anoddaf - ac mewn cymhariaeth mae'n teimlo fel hedfan drwy'r drws yn y gwanwyn.
Pellteroedd hirach
Does dim posib teimlo'r cymhelliant i wneud reid pellter hir yn oerfel, gwynt a glaw y gwanwyn. Ar hyn o bryd, mae reid o gwpl o oriau cyn amser paned neu amser cinio yn ddigon - ond mae gobaith y bydd yr oriau a'r cilomedrau'n cynyddu.
Cam ceiliog
Yn yr un modd, bydd y cam ceiliog yn fanteisiol i seiclwyr - y dydd yn ymestyn ac felly modd i seiclo'n gynt yn y bore ac yn hwyrach yn y prynhawn.
Dringo
Yn gyffredinol, rydym ni fel seiclwyr yn osgoi'r mynyddoedd a'r bryniau a'r dringfeydd hirion yn y gaeaf. Iawn, byddwn ni'n hen ddigon cynnes tra'n dringo, ond nesa' peth i floc o rew ar y goriwaered. Felly mae'n routes ni'n dueddol o fod yn fwy gwastad - ond yn y gwanwyn bydd modd i ni gael mwy o amrywiaeth a dychwelyd i'r uchelfannau.
Llai o Zwift!
Er mor wych mae Zwift wedi bod yn ystod gaeaf a phandemig, bydd hi'n braf gallu mentro tu allan yn hytrach na phenderfynu defnyddio'r meddalwedd rhithwir. Ond na phoener - bydd y reids nos Fercher yn parhau yn wythnosol tan na fydd eu hangen mwyaf - a thu hwnt i hynny 'falle hyd yn oed.
Rasys mwy
Dyma un o brif gyfnodau'r calendr seiclo proffesiynol - clasuron y gwanwyn.
Byddwn ni'n cychwyn gyda'r Openingsweekend benwythnos nesaf (!), gydag Omloop Het Nieuwsblad i'r ddau peloton ddydd Sadwrn a Kuurne-Bruxelles-Kuurne i'r dynion yn unig ddydd Sul.
Ar y pwynt hwnnw llynnedd, roedd yn rhaid canslo'r gweddill yn sgil y pandemig. Gobeithio'n fawr na fydd angen gwneud hynny.
Os y bydd popeth yn mynd yn ei flaen fel y disgwyl, bydd Le Samyn ar yr 2il o Fawrth ac un o fy hoff rasys o'r flwyddyn - Strade Bianche - yn dilyn ar y dydd Sadwrn canlynol, y 6ed.
Yn ogystal a hynny ym mis Mawrth, bydd Milano-Sanremo, Brugge-De Panne, E3, Gent-Wevelgem a Dwars door Vlaanderen - hynny oll cyn y mawrion fel de Ronde van Vlaanderen, Paris-Roubaix, Amstel, Fleche Wallonne, Liege-Bastogne-Liege sydd i ddod ym mis Ebrill.
Heb anghofio rhai o rasys wythnos mwya'r byd sydd hefyd yn digwydd ym mis Mawrth - Paris-Nice yn cychwyn ar y seithfed o Fawrth a Tirreno-Adriatico yn cychwyn ar y degfed. Yn hwyrach ymlaen yn y mis, cawn hefyd fwynhau Volta Ciclista a Catalunya.
A thu hwnt i hynny mae toreth o rasys y gallwn ni edrych ymlaen atyn nhw, gan gynnwys Grand Tour cynta'r flwyddyn yn y Giro d'Italia mor fuan a'r wythfed o Fai.
Oherwydd yr ansicrwydd sy'n dal i fod o ran y sefyllfa, gallwn ddisgwyl y bydd reidwyr yn awchu am lwyddiant - rhag ofn. O'r herwydd, bydd y rasio'n fwy cyffrous ac ymosodol.
Gwelliannau o fewn y gamp
Dwi'n trafod yn aml iawn ar y blog yr angen sydd am welliannau o fewn y byd seiclo proffesiynol, a braf iawn yw gallu dweud bod camau, er rhai bach, i'r cyfeiriad cywir.
Ond rydym ni 'gyd yn croesi popeth na fydd y ras Paris-Roubaix cyntaf i fenywod yn cael ei chanslo am yr drydedd gwaith yn olynol.
Os y bydd hi'n mynd ei blaen, bydd darllediad o'r rhan helaeth o'r ras, sydd yn gaddo i wneud yr 11eg o Ebrill yn ddiwrnod a hanner.
Mae 'na fwy o dimau a mwy o rasys i'r menywod, yn ogystal a darllediadau gwell a mwy ohonyn nhw, sy'n beth positif y gallwn ni edrych ymlaen at ei fwynhau yn y dyfodol agos.
Codi'r cyfyngiadau
Hir yw pob ymaros, ond daw dydd cyn hir lle bydd peth ymlacio ar y cyfyngiadau llym sydd yn eu lle ar hyn o bryd.
Rydym ni eisoes yn cael seiclo gyda nifer gyfyngedig o aelwyd wahanol, ac mae'r ffaith fod ymarfer corff tu allan gydag eraill yn ymddangos i fod yn llai niweidiol o ran cyfraddau yn golygu y gallwn obeithio am reidio gyda mwy o bobl yn fuan.
Yn ogystal, bydd amser lle gallwn ni ailgychwyn stopio yn ystod neu ar ol reid mewn caffi a mwynhau'r elfen yna o seiclo unwaith eto.
Ac hefyd, gallwn ni fod yn obeithiol am allu ail-afael yn yr hyn mae nifer ohonom yn ei fwynhau fwyaf am seiclo, sef darganfod lleoliadau newydd ac ehangu'n gorwelion.
Felly hen ddigon o bethau i edrych ymlaen atyn nhw yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf.
Mae'n teimlo fel bod rhai o'r rhesymau'n bod ni'n seiclo wedi cael eu cyfyngu'n ddiweddar oherwydd y tywydd a'r pandemig, ond dwi wirioneddol yn ffyddiog y byddwn ni'n gallu ail-gydio ynddyn nhw'n fuan iawn.
Dwi am drio rhywbeth gwahanol wythnos yma - a'ch gadael chi gyda chân. Dwi'n meddwl fod y frawddeg yma yng nghytgan hon yn berthnasol i'r gofnod yma - 'er mor ddiarth yw'r dyfodol, dwi'n siwr na fydd rhaid galw'r ddoe yn ôl'. Mwynhewch.
Comments