top of page
Writer's pictureGruffudd ab Owain

Pigion Mercher: 6ed o Fawrth

Yn y gofnod wythnosol yma, byddaf yn trin a thrafod digwyddiadau'r wythnos o'r byd seiclo fel eich bod chi 'up to date' gyda'r holl newyddion.


Rasio: Adolwg

Omloop Het Nieuwsblad (Dynion)

Zdenek Stybar ddaeth i'r brig yn ras gyntaf y clasuron, gan agor cyfrif Deceuninck-QuickStep. Roedd yn rhan o'r dihangiad gwreiddiol o 17, a llwyddodd i aros gyda'r grwp o 6 ddaeth i flaen y ras tua'r diwedd. Ond buddugoliaeth unigol oedd hwn i Stybar, wedi gwrth-ymosodiad crefftus a llwyddiannus o fewn y deg cilomedr olaf. Daeth gweddill y grwp hwnnw dros y llinell derfyn naw eiliad yn ol; Greg van Avermaet yn ail a Tim Wellens yn drydydd/


Omloop Het Nieuwsblad (Merched)

Y stori fawr, ddadleuol o'r ras hon oedd iddi orfod gael ei stopio oherwydd y byddai'r reidwyr yn dal 'fyny gyda ras y dynion. Roedd gan Nicole Hanselmann (Bigla) fantais iach dros y peloton gan orfodwyd iddi stopio. Gwib glwstwr oedd hi yn y diwedd, gyda Chantaal Blaak yn agor cyfrif Boels-Dolmans am dymor y clasuron. Gorffennodd Marta Bastianelli (Virtu) yn ail a Jip van den Bos (hefyd o Boels-Dolmans) yn drydydd. Daeth perfformiad siomedig gan dim Trek Segafredo, na lwyddodd i gael un reidiwr yn yr ugain uchaf.


Kuurne-Brussels-Kuurne (Dynion)

Buddugoliaeth arall i dim Deceuninck QuickStep ddaeth ar ail ddiwrnod yr Openingsweekend yng ngwlad Belg, gyda Bob Jungels yn rasio i'r fuddugoliaeth mewn steil. Ymosododd yntau o grwp gyfyngedig (oedd yn cynnwys Naesen, Langeveld, Cort a Ballerini) er mwyn croesi'r llinell yn gyntaf. Pe bai'r peloton wedi gweithio'n fwy effeithlon, mae'n debyg iawn y byddai gwib glwstwr wedi eu ffafrio. Daeth llawennydd a llwyddiant i'r Cymro Owain Doull yn ogystal. Wedi ei berfformiad cryf yn Omloop er lles eraill, ymosododd o'r peloton i orffen yn ail o flaen mawrion y clasuron, megis Niki Terpstra orffennodd yn drydydd.


Omloop van Het Hageland (Merched)

Seliodd Marta Bastianelli (Virtu) benwythnos agoriadol gwych gyda buddugoliaeth yn Omloop van het Hageland. Gorffennodd hi'n ail y dydd blaenorol yn Het Nieuwsblad. Gwib glwstwr unwaith eto, gyda Lotta Lepisto'n gorffen yn ail i dim Trek Segafredo.


Taith UAE (Dynion)

Roedd cryn dipyn o rasio draw yn UAE dros wyth cymal cyffrous tu hwnt. Primoz Roglic ennillodd y dosbarthiad cyffredinol wedi perfformiad cryf ar draws y ras.

Cymal 1 (RECT): 1. Jumbo Visma, 2. Sunweb, 3. Bahrain-Merida

Cymal 2: 1. Fernando Gaviria, 2. Elia Viviani, 3. Caleb Ewan

Cymal 3: 1. Alejandro Valverde, 2. Primoz Roglic, 3. David Gaudu

Cymal 4: 1. Caleb Ewan, 2. Matteo Moschetti, 3. Primoz Roglic


Cymal 5: 1. Elia Viviani, 2. Fernando Gaviria, 3. Marcel Kittel

Cymal 6: 1. Primoz Roglic, 2. Tom Dumoulin, 3. David Gaudu

Cymal 7: 1. Sam Bennett, 2. Fernando Gaviria, 3. Caleb Ewan


Gweddill y rasio


3 allan o 3 i Deceuninck QuickStep yng nghlasuron Gwlad Belg wedi i Florian Senechal gipio'i fuddugoliaeth broffesiynol gyntaf yn GP Le Samyn.

Yn ras y merched, daeth Jip van den Bos i'r brig i sicrhau ail fuddugoliaeth o dri i dim Boels-Dolmans.


Alexis Vuillermoz oedd yn fuddugol yn Royal Bernard Drome Classic, gyda Valentin Madouas yn ail a Warren Barguil yn drydydd.


Mae rhediad ryfeddol Astana yn y rasys cymal yn parhau, wrth i Merhawi Kudus gipio'r dosbarthiad cyffredinol yn nhaith Rwanda.


Draw yn Ffrainc yng nghlasur Ardeche Rhone Crussol, Lilian Calmejane (Direct Energie) esgynodd i'r brig i guro Madouas a Christian Odd Eiking.


Fflach newyddion

Mae dau achos o ddrygio wedi dod i sylw'r byd seiclo dros yr wythnos diwethaf; gyda dau reidiwr Awstriaidd, Georg Preidler a Stefan Denifl, yn cyfaddef i drallwyso gwaed.

Mae Preidler bellach wedi gadael ei dim, Groupama-FDJ, tra bo Denifl heb dim ers iddo adael CCC ym mis Rhagfyr.


Roedd cyfweliad Denifl yn rhan o ymchwiliad i mewn i'r doctor Mark Schmidt arweiniodd at bump arestiad ym Mhencampwriaethau Sgio Nordig wythnos diwethaf.


Dyma gwmwl du dros seiclo unwaith yn rhagor, gyda nifer o reidwyr megis Marcel Kittel a Thibaut Pinot wedi lleisio'u pryderon dros ddyfodol y gamp.


Yr wythnos i ddod

Strade Bianche (Dynion) - Dydd Sadwrn, 9fed o Fawrth

Dyma ras sydd wedi datblygu i fod yn un o fy hoff rai dros y blynyddoedd diwethaf, diolch i'w graean a'i heriau eiconig.


Dros un ar ddeg o sectorau graean, mae treuan o'r 184km yn ffyrdd gwynion, gyda rhai rhannau gyn hired a deuddeg cilomedr.


Mae'n ras sy'n addas i ystod eang iawn o reidwyr, rhai fel Vincenzo Nibali fydd yn hoff o'r graddiannau amrywiol, tra bydd y ddringfa olaf yn ffafrio puncheurs fel Alejandro Valverde.


Bydd rhagolwg pellach ar gael ar ffurf ffeithlun ar Trydar.


Ennillwyr diweddar: Tiesj Benoot (2018), Michal Kwiatkowski (2017), Fabian Cancellara (2016), Zdenek Stybar (2015).


Strade Bianche (Merched) - Dydd Sadwrn, 9fed o Fawrth

Mae ras y merched yn fyrrach ar 136km, gydag 8 sector graean yn ffurfio 23% o'r ras. Mae Mitchelton-Scott a Boels-Dolmans eisoes wedi cyhoeddi timau cryf ar gyfer y ras.


Ennillwyr diweddar: Anna van der Breggen (2018), Elisa Longo Borghini (2017), Lizzie Deignan (2016), Megan Guarnier (2015).


Paris-Nice - 10fed tan y 17eg o Fawrth

Mae'r ras eleni eto'n llawn o reidwyr gorau'r byd fydd yn brwydro am y dosbarthiad cyffredinol.

Bydd Romain Bardet, Domenico Pozzovivo, Simon Yates, Nairo Quintana, Marc Soler, Rigoberto Uran ac Ilnur Zakarin yno i frwydro am y crys melyn.


Ennillwyr diweddar: Marc Soler (2018), Sergio Henao (2017), Geraint Thomas (2016), Richie Porte (2015).


Gobeithio y gallwch chi ymuno a'r drafodaeth ar Twitter yn y cyfamser!


Cofiwch ddilyn y blog ar Medium.com, a lawrlwythwch yr ap i gael y diweddaraf yn syth i'ch ffon.

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page