Helo!
Gobeithio'ch bod chi'n cadw'n iawn.
Chwe mlynedd wedi sefydlu'r Ddwy Olwyn, dwi'n awyddus i esblygu'r ddarpariaeth a symud ymlaen. Yn hynny o beth, dyma lansio cangen newydd o'r wefan er mwyn gallu rhyddhau cynnwys llafar.
Ro'n i eisiau rhannu'r recordiad yma efo chi; recordiad o sgwrs banel gynhaliwyd ar ddydd Iau'r Steddfod ym Mhontypridd. Mi ges i gwmni Lusa Glyn, Steff Rees, a Daniel Williams i drafod pynciau fel seiclo yn Rhondda Cynon Taf, llwybrau a hygyrchedd, llwyddiant Emma Finucane a Josh Tarling, a'r rhwystrau sy'n wynebu pobl wrth ddechrau ymddiddori ym myd y beic.
Mae'r podlediad ar gael i wrando arno ar nifer helaeth o'r platfformau perthnasol (efallai y bydd yn cymryd ambell ddiwrnod i lwytho mewn rhai mannau); chwiliwch am 'Y Ddwy Olwyn'. Fel arall, gallwch wrando arno isod:
Diolch o galon i Aled Jones (Y Pod) am ei gymorth wrth ryddhau'r podlediad. I ddysgu mwy am ei waith, a'i ddiddordeb mewn llyfrau a seiclo, darllennwch yr erthygl ganlynol: https://www.yddwyolwyn.cymru/post-ey1ei/ar-feic-rhag-colli-r-plot-aled-jones-a-bethan-gwanas
Rhagor:
yddwyolwyn.cymru ac @yddwyolwyn ar y cyfryngau cymdeithasol, a chofiwch ymaelodi â'r clwb Strava!
Chwiliwch am bodlediad Pen y Pass; @podpenypass ar y cyfryngau cymdeithasol.
@ybachangraean ar y cyfryngau cymdeithasol.
Gweler ystod eang o bodlediadau Cymraeg ar wefan ypod.cymru.
Comments