top of page
Writer's pictureGruffudd ab Owain

Popeth i oroesi'r Gaeaf am £100?! | Sialens Gyllideb Ionawr 2019

Dyma ddechrau cyfres fisol newydd ar y blog, lle 'dwi'n gosod her gyllideb ("Budget Challenge") i mi fy hun.


Mae'r bennod gyntaf yn sicr yn mynd i fod yn her a hanner - siaced, thyrmals, 'bib tights', 'overshoes', sanau cynnes a nwyddau eraill ar gyfer y Gaeaf - am £100.


Mae'r syniad yn debyg i'r un tu ôl i 'Priodas Pum Mil' ar S4C, ond gallech fod yn sicr na fyddaf i'n derbyn unrhyw beth am ddim ar gyfer y gyfres yma!


Yn amlwg, nid yw'r gost o £100 yn cynnwys beic, helmed nac esgidiau.


Byddaf hefyd yn ychwanegu dewisiadau "Am Ychydig Mwy" ac "Am Ychydig Llai" fel y gallech fuddsoddi mwy mewn rhai ardaloedd a llai mewn ardaloedd eraill neu efallai fod eich cyllideb yn caniatau ychydig mwy neu llai na £100 o wariant.


Ond heb fwy o ffwdan, ffwrdd a ni.


*Prisiau’n gywir 23 Ionawr, 2019*


Haen waelod (cyfieithiad sâl o "Base Layer")

DYNION | BTwin 500 Long Sleeve Baselayer £12.99

Mae craidd (core) cynnes yn allweddol i'ch cadw'n gynnes drwy'r corff - yn benodol yn y pegynnau, sef y dwylo a'r traed.


https://www.decathlon.co.uk/500-long-sleeve-cycling-base-layer-orange-id_8369618.html


Am Ychydig Yn Llai -


Am Ychydig Yn Fwy -


MENYWOD | BTwin 500 Women's LS Base Layer £12.99

Fersiwn i fenywod o'r haen waelod dynion sydd yn gwerthu am yr un pris gwych. B'Twin yn serennu eto.


https://www.decathlon.co.uk/Buy/women%27s+cycling+base+layer


Ychydig yn llai:


Ychydig yn fwy:

Siaced / "Jersey"

DYNION | dhb Blok Long Sleeve Jersey £30

Dwi'n defnyddio siaced dhb Blok brynais rhyw ddwy flynedd yn ol pan fo'r tymheredd yn agos at y rhewbwynt (gyda haen waelod merino), felly rwy'n eithaf siwr fod hwn yn ddewis da.


https://www.wiggle.co.uk/dhb-blok-long-sleeve-jersey-fade/


Am Ychydig Yn Llai -


Am Ychydig Yn Fwy -


MENYWOD | dhb Blok Long Sleeve Jersey £30

Yr un model o'r un brand a'r un dynion - mae hwn yn opsiwn da am bris da unwaith eto. Opsiynau'r menywod yw 'Forest', 'Strike', 'Tropical' a 'Floral'.


https://www.wiggle.co.uk/dhb-blok-womens-long-sleeve-jersey-forest/


Am Ychydig Yn Llai -


Am Ychydig Yn Fwy -


"Bib Tights"

DYNION | Caratti Sport Thermal Bib Tights £21.99

Mae'r rhan fwyaf o bib tights yn ddrud, ond mae Rutland Cycling yn cynnig prisiau ardderchog am rai 'Caratti'.


https://www.rutlandcycling.com/clothing/legwear/caratti-sport-thermal-bib-tights-black_466339


Am Ychydig Yn Llai -


Am Ychydig Yn Fwy -


MENYWOD | FWE Coldharbour Thermal Bib Tights £18

Gostyngiad enfawr ar wefan Evans Cycles ar bib tights eu brand mewnol, FWE. Cliciwch yma


Am Ychydig Yn Llai -

"dhb Equinox Thermal Leg Warmers" £16.50 (neillryw)


Am Ychydig Yn Fwy -


"Overshoes"

NEILLRYW | SealSkinz Lightweight Overshoes £15

Mae overshoes yn eitemau neillryw ac yn hanfodol i gadw'ch traed yn sych a chynnes. Bydd ymchwil yn dangos fod barn/profiadau pobl wahanol yn wahanol, felly dylech sicrhau'ch bod yn dewis yr un cywir. Bydd hashnodau/cyfrifau Trydar fel #UKCycleChat o fudd yn sicr.


Am Ychydig Yn Llai -


Am Ychydig Yn Fwy -


Menyg

Neillryw | PBK Poligo £8.99

https://www.probikekit.co.uk/sports-clothing/pbk-poligo-winter-gloves/11585474.html


Neillryw | dhb Deep Winter FLT £30

https://www.wiggle.co.uk/dhb-deep-winter-flt-glove/


Menywod | SealSkinz All Weather £28-35

https://www.wiggle.co.uk/sealskinz-womens-all-weather-cycle-gloves-2/


Manion Eraill

Dynion | Sanau - dhb Aeron Merino £6-£9

https://www.wiggle.co.uk/dhb-aeron-light-weight-merino-sock/


Menywod | Sanau - dhb Aeron Merino £6.50

https://www.wiggle.co.uk/dhb-aeron-womens-merino-sock/


Neillryw | BTwin 100 Neck Warmer £2.99

https://www.decathlon.co.uk/100-winter-cycling-neck-warmer-id_8155055.html

 

Felly, mae'r sialens ar ben - ac mi aeth hi'n dipyn mwy llwyddiannus na'r disgwyl! Dyma i le aeth yr arian:


Dynion

£12.99 - Haen Waelod

£30.00 - Siaced

£21.99 - Bib Tights

£15.00 - Overshoes

£ 8.99 - Menyg

£ 8.99 - Manion Eraill

£97.96


Menywod

£12.99 - Haen Waelod

£30.00 - Siaced

£18.99 - Bib Tights

£15.00 - Overshoes

£ 8.99 - Menyg

£ 9.49 - Manion Eraill

£95.46


Mae wedi bod yn bleser a llawer o hwyl i greu'r gofnod yma. Os oes unrhyw syniadau am sialens cyllideb Chwefror, cysylltwch a mi ar Trydar neu drwy ebostio yddwyolwyn@gmail.com.


Ond, yn y cyfamser, gobeithio ichi fwynhau/dysgu o'r gofnod ac y bydd o fudd i chi oll yn y dyfodol.

Recent Posts

See All

Comentários


bottom of page