top of page
Writer's pictureGruffudd ab Owain

Popeth sydd i'w wybod am dymor seiclo pro 2021

Fe ddaeth yr amser i edrych ymlaen at dymor arall o seiclo proffesiynol. Wedi saib hirach na'r arfer wedi i rasys mis Ionawr bron i gyd gael eu canslo, bydd hi'n braf gallu gwylio'r peloton yn gwibio heibio unwaith yn rhagor ymhen ychydig wythnosau.


A chyn un troead o bedal neu gylchdro olwyn, rydym eisoes yn gwybod y bydd hwn yn dymor na welwyd ei math o'r blaen. Dyma dymor sydd wedi'i chreithio gan bandemig yn barod, gyda rasys ar draws y tymor wedi'i canslo.


Ai dyma fydd y tymor seiclo wedi'i ddylanwadu gan frechlyn? A fydd ras am frechlyn yn ogystal a ras am y llinell derfyn? Yn y tymor byr, a fydd amrywiolynnau gwahanol ar draws y byd yn rhwygo rasys i ddarnau?


Rydym ni eisoes yn ymwybodol fod tim UAE Emirates wedi brechu eu reidwyr nhw, a hynny fwy na thebyg oherwydd eu bod nhw wedi'i noddi a'i cefnogi gan wladwriaeth yr Emeradau Arabaidd.


Ond am y tro, cawn obeithio am dymor na fydd yn cael ei heintio'n ormodol gan bandemig ac y bydd y seiclo mor gyffrous ag yr oedd yn haf a hydref 2020.

 

Dyddiadau pwysig

ME = Men's Elite // WE = Women's Elite


27/02 Omloop Het Nieuwsblad (ME)

06/03 Strade Bianche (ME + WE)

07/03-14/03 Paris-Nice (ME)

10/03-16/03 Tirreno-Adriatico (ME)

14/03 Ronde van Drenthe (WE)

20/03 Milano Sanremo (ME)

28/03 Gent Wevelgem (ME + WE)

04/04 Ronde van Vlaanderen (ME + WE)

11/04 Paris-Roubaix (ME + WE)

18/04 Amstel Gold (ME + WE)

21/04 La Fleche Wallonne (ME + WE)

25/04 Liege-Bastogne-Liege (ME + WE)

08/05-30/05 Giro d'Italia (ME)

30/05-06/06 Criterium du Dauphine (ME)

06/06-13/06 Tour de Suisse (ME)

07/06-12/06 Women's Tour (WE)

26/06-18/07 Tour de France (ME)

18/07 La Course (WE)

31/07 San Sebastian Klasikoa (ME)

14/08-05/09 Vuelta a Espana (ME)

03/09-05/09 Challenge La Vuelta (WE)

09/10 Il Lombardia (ME)

 

Fel sydd eisoes wedi cael ei grybwyll ar y blog, gan fwyaf yn y gofnod yma gydag Ana (https://www.yddwyolwyn.cymru/post-ey1ei/beth-yw-dyfodol-peloton-y-menywod-bilingual), mae'n teimlo fel pe bai ochr menywod y gamp yn cymryd dau gam ymlaen ac un cam yn ol.


Mae tymor 2021 yn brawf o hynny yn barod. Ardderchog yw gweld noddwyr newydd yn dangos diddordeb yn y gamp, megis SD-Worx (Boels-Dolmans gynt), timau newydd fel Jumbo-Visma a diddordeb o'r newydd ar yr ochr ddarlledu. Fodd bynnag, mae ras y Giro Rosa wedi'i israddio wedi methiannau gan y trefnwyr i gyrraedd y lefel ddisgwyliedig, ac yn 2020 gwelwyd noddwyr newydd ar dimau ddim yn gwneud un taliad.

Ale-BTC Ljubljana

Wedi cymryd camau go fawr ymlaen yn 2020, bydd Mavi Garcia yn awyddus i barhau i lwyddo mewn rasys eleni yng nghrys pencampwraig Sbaen. Marta Bastianelli fydd yn dychwelyd i lifrai arferol Ale-BTC Ljubljana wedi iddi fethu ag ail greu llwyddiannau 2019 y llynnedd. Dylid cadw llygad hefyd ar Marlen Reusser yn y rasys yn erbyn y cloc, ac mae Laura Tomasi yn reidwraig ifanc all gymryd cam ymlaen yn ei gyrfa eleni.


Canyon-SRAM

Un o'r reidwyr newydd ar roster Canyon-SRAM eleni yw Chloe Dygert. Cafodd ddamwain go gas ym mhencampwriaethau'r byd Imola, ac yn sgil hynny bydd yn sicr o fod eisiau cael tymor da i ddileu unrhyw fwganod. Bydd Kasia Niewiadoma yn gobeithio am dymor mwy llwyddiannus na llynnedd, tra dylem gadw llygad ar y chwiorydd Barnes ac hefyd ar ddatblygiad Ella Harris a Mikayla Harvey.


FDJ Nouvelle Aquitaine Futuroscope

Dwy o reidwyr fydd yn siwr o herio yn y clasuron yn lifrai FDJ fydd Emilia Fahlin a Cecile Uttrup Ludwig. Y naill yn gobeithio cryfhau wedi dau achlysur yn y pump uchaf llynnedd, tra'r llall yn awyddus i ychwanegu mwy o fuddugoliaethau at ei rhestr wedi cipio Giro dell'Emilia yn 2020.


Liv Racing

Bydd gobeithion Liv Racing mewn llawer o rasys ar ysgwyddau'r gwibwraig 25 oed, Lotte Kopecky. Gorffennodd ar y podiwm mewn nifer o rasys llynnedd gan gynnwys Gent-Wevelgem a de Ronde van Vlaanderen. Ni fydd yn gwisgo lifrai gwych y tim eleni gan ei bod yn anrhydeddu crys pencampwraig Gwlad Belg.


Movistar

Y trosglwyddiad gyrrhaeddodd y pennawdau llynnedd oedd Annemiek van Vleuten yn ymuno gyda Movistar wedi pedair mlynedd gyda Mitchelton-Scott. Llwyddodd i berfformio'n gryf tu hwnt yn y crys enfys llynnedd gan gasglu pentwr swmpus o fuddugoliaethau - ac eleni bydd yn gwisgo crys pencampwraig Ewrop. Y cwestiwn yw a fydd amgylchedd Movistar, fydd yn newydd iddi, yn cael effaith ar ei pherfformiadau?


SD Worx

Er newid noddwr ac enw, mae ysbryd Boels-Dolmans yn parhau i 2021. Mae rhai o'u hoelion wyth yn aros ymlaen eleni, megis pencampwraig y byd Anna van der Breggen, Jolien d'Hoore, Chantaal van den Broek-Blaak, Christine Majerus ac Amy Pieters. Fodd bynnag, dwy y maent wedi'i harwyddo o'r newydd sy'n tynnu fy sylw i - y profiadol Ashleigh Moolman sy'n dal i allu ennill rasys mawr, a'r ifanc Demi Vollering ddaeth i'r amlwg yn 2020 gyda Parkhotel Valkenburg. Byddwn i'n tybio bod ganddi fwy o ryddid yn Parkhotel Valkenburg na fydd ganddi mewn carfan llawn o enwau mawr yn SD Worx. A fydd hi'n gallu parhau i gymryd camau ymlaen yn ei gyrfa er gwaethaf hynny?


BikeExchange

Heb Annemiek van Vleuten i feddiannu'r pennawdau, pwy fydd yn serennu dros Bike Exchange eleni (Mitchelton-Scott gynt)? Dangosodd Grace Brown ei gallu llynnedd wedi ail yn Liege-Bastogne-Liege, tra bydd carfan lawn o reidwyr profiadol fel Amanda Spratt yn siwr o ddod a llwyddiant. Un enw sydd angen ei grybwyll yw Teniel Campbell, reidwraig 23 oed o Trinidad & Tobago, sy'n gwneud camau yn ei gyrfa ac hefyd i godi ymwybyddiaeth am amrywiaeth yn y peloton.


Team DSM

Tim sydd wedi sefydlu yn y peloton ers blynyddoedd bellach, ond dan enw, noddwr a cit newydd eleni. Does dim dwywaith bod digon o dalent yn eu carfan, yn enwedig ymysg yr ifainc. Gallwn ddisgwyl gweld mwy o Lorena Wiebes a Liane Lippert yn y gwibiau eleni, yn ogystal a Floortje Mackaij yn y clasuron. Bydd reidwyr profiadol megis Coryn Rivera a Leah Kirchmann yn sicr o fod o fudd iddynt.


Trek-Segafredo

Ysbryd y tim yn Trek-Segafredo ddaeth i'r amlwg llynnedd, wrth i Lizzie Deignan ac Elisa Longo Borghini gyfuno ar ambell i achlysur i gipio buddugoliaethau. Ymhlith eraill all serennu iddynt mae Ellen van Dijk a Lucinda Brand yn y clasuron, Audrey Cordon Ragot, Amalie Dideriksen a'r wibwraig ifanc Letizia Paternoster. Gobeithio y cawn weld Elynor Backstedt, a aned ym Mhontypridd, yn cael cyfle i ddangos ei gallu ar lefel ryngwladol yn lifrai'r tim eleni.


Jumbo-Visma

Peth gwych yw cael tim newydd yn peloton y menywod, a braf yw gweld timau a noddwyr o peloton y dynion yn cydnabod yr angen am fuddsoddiad yn yr ochr yma o'r gamp. Ei reidwraig mwyaf, heb os, yw'r amryddawn Marianne Vos sy'n parhau i fod a'r gallu i ennill rasys niferus, tra dylid cadw llygad ar y wibwraig ifanc Jip van den Bos yn ogystal.

 

Mae'n bryd i ni droi'n sylw at peloton y dynion, ac mae nifer o newidiadau a throsglwyddiadau yn sicr o greu naratif diddorol iawn eleni.

AG2R Citroen

Yn 2021, mae'n amlwg fod AG2R Citroen yn arallgyfeirio o fod yn dim sy'n anelu at y crys melyn i un sy'n targedu'r clasuron. Yr enw mawr, dybiwn i, sydd wedi ymuno a nhw yw Greg van Avermaet o dim CCC ynghyd a'i domestique ffyddlon Michael Schar. I atgyfnerthu hynny, maent wedi hawlio llofnod Bob Jungels o Deceuninck Quickstep ac yntau eto i ennill un o'r clasuron mwyaf, a chofier bod gan Oliver Naesen dalent ac yntau'n un o hoelion wyth y tim erbyn hyn. A fydden nhw'n gallu cyflawni'r disgwyliadau uchel?


Astana-PremierTech

Tim gydag ystod eang o amcanion gwahanol yn 2021. Mae Jakob Fuglsang wedi datgan ei fod o'n targedu'r Gemau Olympaidd, ac felly'n anghofio am ei obeithion prin fel reidiwr tair wythnos. Wedi cipio Il Lombardia llynnedd a Liege flwyddyn gynt, tybed os y bydd yn awyddus i ychwanegu un arall o'r pum ras maen i'w palmares. O ran gobeithion Grand Tour Astana, maent wedi cyhoeddi y bydd Aleksandr Vlasov, y Rwsiad ifanc, yn cystadlu am y maglia rosa yn y Giro. Diddorol fydd gweld pa rol fydd y Colombiad ifanc Harold Tejada yn ei gael ac yntau'n sicr yn ddigon abl i gystadlu am rasys wythnos o leiaf.


Bahrain Victorious

Mae peth ansicrwydd ynghylch ystyr 'Victorious' yn addasiad enw'r tim oedd gynt yn Bahrain-McLaren, ond yn ol y son, enw un o geffylau'r wladwriaeth Bahraini ydyw. Mikel Landa a Pello Bilbao sydd wedi dweud eu bod nhw am geisio bod yn 'victorious' yn y Giro a'r Tour, tra bo gobaith o'r newydd iddynt yn y dosbarthiad cyffredinol wedi iddynt arwyddo Jack Haig. Unwaith eto eleni, bydd Wout Poels, Matej Mohoric a Dylan Teuns yn anelu am rasys bryniog, boed yn undydd neu'n rasys cymalau.


Bora Hansgrohe

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae Bora-Hansgrohe wedi bod yn brysur yn cryfhau eu carfan ar gyfer rasys cymalau. Wilco Kelderman, sydd newydd ymuno o Sunweb (DSM bellach), fydd yn arwain y gad iddynt yn y Tour gyda chefnogaeth Lennard Kamna, tra bydd Felix Grossschartner yn anelu tuag at La Vuelta ac Emanuel Buchmann yn targedu'r Giro. Tybed beth a ddaw gan Peter Sagan eleni wedi iddo golli allan ar y maillot vert llynnedd; a bydd yn gorfod cydweithio gyda Nils Pollitt yn y clasuron, ac yntau newydd ymuno o dim Israel.


Cofidis

Parhau i frwydro am eu buddugoliaeth gyntaf yn y Tour de France ers blynyddoedd maith fydd Cofidis eleni, gyda reidwyr megis Jesus Herrada, Nicolas Edet, Christophe Laporte ac Elia Viviani yn cario gobeithion y tim ar eu hysgwyddau. Bydd hi'n ddiddorol gweld pa lwybr y bydd un o aelodau mwyaf difyr y peloton, Guillaume Martin (sydd wedi ysgrifennu llyfrau am athroniaeth), yn ei gymryd eleni wedi perfformiadau cadarnhaol iawn yn 2020.


Deceuninck-Quickstep

Erbyn hyn, nid yn unig tim i'r clasuron yw Deceuninck-Quickstep, ond tim all herio mewn Grand Tours. Profwyd hyn gan Joao Almeida yn y Giro llynnedd, ac yn ol y son bydd yn targedu'r Vuelta eleni. Rydym oll yn aros yn eiddgar am ddychweliad Remco Evenepoel i'r peloton wedi damwain gas yn Giro di Lombardia, ond yn ol y tim bydd yn holliach ac yn barod i dargedu'r maglia rosa yn yr Eidal. Rhaid cofio bod ganddynt ystod eang iawn o opsiynau ar gyfer y clasuron hefyd; pencampwr y byd Julian Alaphilippe, Kasper Asgreen, Remi Cavagna, Tim Declerq, Dries Devenyns, Florian Senechal a Zdenek Stybar i enwi ond rhai. Edrych ymlaen hefyd i wylio datblygiad yr Eidalwr 21 oed, Andrea Bagioli. O ran eu gwibwyr, yn ogystal a seren 2020 Sam Bennett, bydd Alvaro Hodeg a Mark Cavendish yn gwisgo'i lifrai yn 2021. Parhewn i obeithio am wellhad buan a llawn Fabio Jakobsen sy'n parhau i wella wedi damwain erchyll yng Ngwlad Pwyl.


EF - Nippo

Er yn gartref i arbenigwyr yn y clasuron megis Alberto Bettiol, Jens Keukeleire a Michael Valgren (wedi trosglwyddo o NTT, Qhubeka Assos erbyn hyn), tim sy'n llawn o enwau ar gyfer y Grand Tours a'r dosbarthiad cyffredinol yw EF-Nippo yn 2021. Er iddynt golli Dani Martinez i Ineos, maent yn dal i hawlio llofnodion Sergio Higuita, Hugh Carthy a Rigoberto Uran fydd yn rhoi ystod eang o opsiynau iddynt. Does dim son am bwy fydd yn arwain yn y Giro na'r Tour, ond mae'n debyg bydd Uran yn targedu'r Vuelta.


Groupama FDJ

Wedi siomedigaethau lu yn y gorffennol, mae Thibaut Pinot wedi dod i'r casgliad fod gormod o bwysau ar ei ysgwyddau yn y Tour de France, ac eleni ar gwrs sy'n gweddu iddo'n well bydd yn mynd am y Giro. Lle mae hynny'n gadael tim Ffrengig yn y ras i gael Ffrancwr ar ris ucha'r podiwm am y tro cyntaf ers degawdau? Dybiwn i bod eu gobeithio nhw bellach ar David Gaudu, sy'n 24 oed, orffennodd yn 8fed ar y DC yn La Vuelta llynnedd. Edrych ymlaen i wylio'i ddatblygiad o. Arnaud Demare oedd reidiwr y flwyddyn yn ol nifer yn 2020, a bydd yn gobeithio atgyfnerthu hynny y flwyddyn yma yn y gwibiau clwstwr. Bydd yn sicr yn obeithiol o gael cyfle i rasio' am y gwyrdd yn y Tour eleni yng nghrys pencampwr Ffrainc.


Ineos Grenadiers

Mae'n ymddangos fel bod yr Ineos Grenadiers wedi gwaethygu eu cur pen dewisiadau drwy arwyddo mwy, ie mwy, o arbenigwyr dosbarthiad cyffredinol/Grand Tours. Daeth Dani Martinez o EF, Adam Yates o Mitchelton-Scott a Richie Porte o Trek Segafredo. Mae ganddynt bedwarawd sydd eisoes yn ennillwyr Grand Tours yn Richard Carapaz, Geraint Thomas, Tao Geoghegan Hart ac Egan Bernal, yn ogystal a tho ifanc cryf sydd a'r potensial i ennill yn Ivan Sosa, Pavel Sivakov ac Eddie Dunbar. A beth am Filippo Ganna, serennodd yn y Giro? Fel pe na bai hynny'n ddigon, maent wedi arwyddo'r domestique Laurens de Plus o Jumbo-Visma. Aeth super-team, yn super-duper-team. Yn ogystal i hynny, mae'r reidiwr ifanc sydd wedi serennu yn y byd seiclo traws dros yr Hydref/Gaeaf Tom Pidcock yn obaith o'r newydd ar gyfer y clasuron coblog.


Intermarche-Wanty Gobert

Tim sy'n weddol newydd i'r lefel WorldTour, mae dau o drosglwyddiadau newydd yn sicr o gryfhau eu gobeithion am y flwyddyn sydd i ddod, yn Jan Hirt o CCC a Louis Meintjes o NTT. Chwilio am gymalau yn y Tour fydden nhw fwy na thebyg.


Israel-StartUp Nation

Wedi buddsoddiad swmpus yn y tim, maent wedi tueddu i arwyddo reidwyr profiadol. Neb llai na Chris Froome, wrth gwrs. Mae o'n targedu'r Tour de France ysgwydd yn ysgwydd a Dan Martin, yn ol y son. Bydd pedwarawd profiadol Sep Vanmarcke, Mike Woods, Alessandro de Marchi a Patrick Bevin - oll yn newydd i'r garfan - yn sicr o dargedu'r clasuron. Prin yw reidwyr ifainc yn eu tim, ond byddwn i'n cadw llygad ar Carl Frederik Hagen ddaeth i'r amlwg yn Vuelta 2019 ar gyfer ras ddosbarthiad cyffredinol.


Lotto Soudal

Dim newid yma o ran amcanion y flwyddyn, y clasuron a'r gwibiau. Phillippe Gilbert, wrth gwrs, fydd yn arwain eu carfan yn y clasuron tra bydd y 'roced boced' Caleb Ewan yn anelu am y gwibiau clwstwr eto. Yn ogystal a hynny, fodd bynnag, bydd Tim Wellens yn sicr o anelu am rasys wythnos yn gynnar yn y tymor, a chadwer lygad ar Harm Vanhoucke, dringwr addawol sy'n datblygu ar hyn o bryd.


Movistar

Ceisio anghofio hunllef 2019, ddogfennwyd gan Netflix, tra'n edrych i'r dyfodol fydd Movistar yn 2021. Maent wedi arwyddo Miguel Angel Lopez o Astana, fydd yn targedu'r Tour gydag Enric Mas a'n targedu'r Vuelta gydag Alejandro Valverde. Y Sbaenwr sydd hyd yma wedi methu cyrraedd y disgwyliadau oedd ohono ambell flwyddyn yn ol, Marc Soler, fydd yn arwain y gad iddynt yn y Giro yn ol Marca. Gallent ddibynnu ar eu dringwr Awstriaidd newydd, Gregor Muhlberger (Bora gynt), fel opsiwn arall ar gyfer DC.


BikeExchange

Bydd Simon Yates ddim yn rhannu'r sylw gyda'i frawd o fewn yr un tim eleni am y tro cyntaf, ac yn ol cyclingnews.com mae'n anelu tuag at reidio dwbl Giro-Tour. Wrth gwrs, mae Esteban Chaves yn opsiwn arall dibynadwy iddynt, tra bydd Michael Matthews yn ail-ymuno a hwy eleni i dargedu'r bryniau.


DSM

Yn ol pob son, dydi'r awyrgylch o fewn y tim yma ddim wedi bod yn un iach yn ddiweddar, sydd wedi arwain at nifer fawr yn ymadael a'r garfan eleni. Wedi perfformiad cadarnhaol ddigon annisgwyl yn y Giro llynnedd, bydd Jai Hindley yn ceisio datblygu ar hynny, tra bydd eu harwyddiad diweddar, Romain Bardet, yn atgyfnerthu'u gobeithion Grand Tour.


Jumbo-Visma

Beth sydd i'w ddweud am y super-team yma? Ymddengys bod Primoz Roglic wedi ymateb yn dda i'r golled yn y Tour ar yr unfed awr ar ddeg i ennill La Vuelta, ac felly gobeithiwn y bydd yn gallu cystadlu ar y lefel uchaf eto eleni. Bydd eu carfan cyn gryfed eleni, os nad cryfach wedi iddynt arwyddo Sam Oomen. Edrychwn ymlaen i weld beth fydd Tom Dumoulin, Steven Kruijswijk a Tobias Foss yn ei wneud o ran Grand Tours eleni, tra bydd Wout van Aert yn benderfynol o adeiladu ar ei berfformiadau yn y clasuron, a thalu'r pwyth yn ol i'w arch-elyn Mathieu van der Poel i fuddugoliaeth yn Fflandrys.


Qhubeka-Assos

Yn ogystal a rhai o'u perfformwyr gorau yn 2020, megis Giacomo Nizzolo yn y wib, bydd ganddynt ystod o obeithion o'r newydd eleni wedi i Fabio Aru, Sergio Henao a Simon Clarke ymuno a nhw. Gobeithio wir y gwnawn ni weld Aru yn ol i'w gryfder blaenorol wedi brwydro gyda chyflwr nad oedd yn ymwybodol ohono am ambell flwyddyn bellach.


Trek-Segafredo

Mae gan Trek-Segafredo ystod o enwau sy'n gallu cyrraedd amcanion amrywiol yn 2021. Yn y clasuron coblog gallwn ddisgwyl perfformiadau cadarnhaol gan Jasper Stuyven, Mads Pedersen ac Edward Theuns, tra bydd Vincenzo Nibali yn cystadlu yn y Giro a'r Tour ynghyd a Bauke Mollema. Mae'n ymddangos y bydd Giulio Ciccone yn cael cyfle i arwain mewn Grand Tour yn y Vuelta. Edrych ymlaen.


UAE Team Emirates

Y tim hwn fydd yn hawlio'r anrhydedd o amddiffyn y maillot jaune yn y Tour eleni os y bydd Tadej Pogacar yn dymuno cystadlu fel deiliad y teitl. Mae un arall o ser 2020, Marc Hirschi, wedi ymuno gyda'r tim ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod a diddorol iawn fydd gweld pa lwybr y bydd o yn penderfynu ei gymryd eleni. O ran rasys wythnos a chymalau mae ganddynt opsiynau megis David de la Cruz, Rafal Majka, Diego Ulissi a Davide Formolo, tra bydd Fernando Gaviria (sy'n gwella o ddau ddos o Covid-19), Max Richeze, Alexander Kristoff a Matteo Trentin yn targedu gwibiau clwstwr.


Alpecin-Fenix

Tim i'r clasuron y bydd rhain yn parhau i fod yn 2021, nid yn unig gydag ennillydd Ronde van Vlaanderen Mathieu van der Poel ond hefyd gyda Silvain Dillier sydd wedi ymuno o AG2R.


Arkea Samsic

Gweithio tu ol i Nairo Quintana fydd Arkea-Samsic eto eleni wedi iddo ddatblygu ar berfformiadau o flynyddoedd blaenorol yn ei dymor cyntaf gyda nhw llynnedd. Bydd ganddo gefnogaeth gadarn domestiques fel Diego Rosa a Warren Barguil.

 

Digon i edrych ymlaen ato felly yn 2021. Gobeithio y cawn ni fwynhau'r arlwy gyda'n gilydd.

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page